Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Études Celtiques"

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio
(Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda '__NOAUTOLINKS__ Mae hanes y cyfnodolyn Ffrengig hwn yn dechrau gyda’i ragflaenydd y ''Revue Celtique'', a sefydlwyd gan Henri Gaidoz ym Mharis yn 1870. ...')
 
(Ni ddangosir y 4 golygiad yn y canol gan 2 ddefnyddiwr arall)
Llinell 1: Llinell 1:
__NOAUTOLINKS__
+
{{DEFAULTSORT:Etudes Celtiques}} __NOAUTOLINKS__
 
Mae hanes y cyfnodolyn Ffrengig hwn yn dechrau gyda’i ragflaenydd y ''Revue Celtique'', a sefydlwyd gan Henri Gaidoz ym Mharis yn 1870. Cyhoeddwyd rhyw 50 cyfrol o dan olygyddiaeth Gaidoz, Henri d’Arbois de Jubainville a Joseph Loth erbyn 1934 pan fu farw Loth. Sefydlwyd y cyfnodolyn newydd ''Études Celtiques'' gan ysgrifennydd y cyfnodolyn cyntaf, sef Joseph Vendryès, yn dilyn marwolaeth Loth yn 1934. Cyhoeddwyd dau rifyn o tua dau gant tudalen yr un bob blwyddyn. Peidiodd ag ymdddangos yn 1941 yn dilyn marwolaeth yr ysgrifennydd Marie-Louise Sjoestedt-Jonval, ac ail-gychwynnodd yn 1948 gydag Édouard Bachellery yn ysgrifennydd, a Vendryès yn parhau fel cyfarwyddwr. Achlysurol yw’r cyhoeddiadau rhwng 1948 ac 1972. Wedi marwolaeth Vendryès yn Ionawr 1960 cafodd yr ysgrifennydd Bachellery gymorth pwyllgor i barhau (Paul-Marie Duval, Michel Lejene, Jean-Baptiste Colbert de Beaulieu, Jean Gagnepain), bob un yn cynrychioli disgyblaeth arbennig. Daeth archaeoleg ac epigraffeg Galaidd yn gynyddol bwysig. Yn 1978 daeth y cyfnodolyn o dan gyhoeddiadau’r CNRS (''Centre Nationale de Recherche Scientifique''), a ddaeth yn ''CNRS Éditions'' yn 1990. Ehangwyd y pwyllgor a gwnaethpwyd Pierre-Yves Lambert yn ysgrifennydd ieithyddiaeth a Venceslas Kruta yn ysgrifennydd archaeoleg. O hyn allan fe’i cyhoeddwyd yn flynyddol. Daeth Pierre-Yves Lambert yn llywydd yn 2008 gyda Jean-Jacques Charpy yn ysgrifennydd.  
 
Cyhoeddir erthyglau ar archaeoleg y byd Celtaidd, gan flaenoriaethu gwaith cymharol ac o’r tu allan i Ffrainc, pynciau yn ymwneud â Gâl a’r Celtiaid; ieithyddiaeth, yn enwedig ieithyddiaeth gymharol a hanesyddol yn y cyfnod canoloesol neu cynt; a llenyddiaeth, gan flaenoriaethu testunau canoloesol (Gwyddeleg, Cymraeg, Llydaweg). Mae traean o’r erthyglau yn Ffrangeg, a derbynnir rhai hefyd yn Saesneg, Almaeneg, Eidaleg a Sbaeneg. Mae chwarter y cyfnodolyn yn grynodebau o lyfrau. Ceir ynddo gyfraniadau gan Henri d’Arbois de Jubainville, Joseph Loth, Georges Dottin, Émile Ernault, Joseph Vendryèrs, Whitley Stokes, Kuno Meyer ac eraill. Mae bodolaeth ''Études Celtiques'' (fel y ''Zeitschrift für Celtische Philologie'') yn ein hatgoffa o wreiddiau Ewropeaidd Astudiaethau Celtaidd, ac  mae eu parhad yn fodd o ddod â sylw rhyngwladol i’r ddisgyblaeth, yn ogystal ag i ddiwylliannau lleiafrifol.
+
Cyhoeddir erthyglau ar archaeoleg y byd Celtaidd, gan flaenoriaethu gwaith cymharol ac o’r tu allan i Ffrainc, pynciau yn ymwneud â Gâl a’r Celtiaid; ieithyddiaeth, yn enwedig ieithyddiaeth gymharol a hanesyddol yn y cyfnod canoloesol neu cynt; a llenyddiaeth, gan flaenoriaethu testunau canoloesol (Gwyddeleg, Cymraeg, Llydaweg). Mae traean o’r erthyglau yn Ffrangeg, a derbynnir rhai hefyd yn Saesneg, Almaeneg, Eidaleg a Sbaeneg. Mae hyd at chwarter o'r cyfnodolyn yn grynodebau o lyfrau. Ceir ynddo gyfraniadau gan Henri d’Arbois de Jubainville, Joseph Loth, Georges Dottin, Émile Ernault, Joseph Vendryèrs, Whitley Stokes, Kuno Meyer ac eraill. Mae bodolaeth ''Études Celtiques'' (fel y ''Zeitschrift für Celtische Philologie'') yn ein hatgoffa o wreiddiau Ewropeaidd Astudiaethau Celtaidd, ac  mae eu parhad yn fodd o ddod â sylw rhyngwladol i’r ddisgyblaeth, yn ogystal ag i ddiwylliannau lleiafrifol.
  
'''Heather Williams'''
 
'''Heather Williams'''
  
==Llyfryddiaeth==
 
==Llyfryddiaeth==
Lambert, P., Études Celtiques http://www.archeo.ens.fr/spip.php?rubrique82&lang=fr [Cyrchwyd: 13 Medi 2016]
+
Lambert, P., ''Études Celtiques'' http://www.archeo.ens.fr/spip.php?rubrique82&lang=fr [Cyrchwyd: 13 Medi 2016]
 +
{{CC BY-SA}}
 +
[[Categori:Beirniadaeth a Theori]]

Y diwygiad cyfredol, am 10:08, 16 Mehefin 2017

Mae hanes y cyfnodolyn Ffrengig hwn yn dechrau gyda’i ragflaenydd y Revue Celtique, a sefydlwyd gan Henri Gaidoz ym Mharis yn 1870. Cyhoeddwyd rhyw 50 cyfrol o dan olygyddiaeth Gaidoz, Henri d’Arbois de Jubainville a Joseph Loth erbyn 1934 pan fu farw Loth. Sefydlwyd y cyfnodolyn newydd Études Celtiques gan ysgrifennydd y cyfnodolyn cyntaf, sef Joseph Vendryès, yn dilyn marwolaeth Loth yn 1934. Cyhoeddwyd dau rifyn o tua dau gant tudalen yr un bob blwyddyn. Peidiodd ag ymdddangos yn 1941 yn dilyn marwolaeth yr ysgrifennydd Marie-Louise Sjoestedt-Jonval, ac ail-gychwynnodd yn 1948 gydag Édouard Bachellery yn ysgrifennydd, a Vendryès yn parhau fel cyfarwyddwr. Achlysurol yw’r cyhoeddiadau rhwng 1948 ac 1972. Wedi marwolaeth Vendryès yn Ionawr 1960 cafodd yr ysgrifennydd Bachellery gymorth pwyllgor i barhau (Paul-Marie Duval, Michel Lejene, Jean-Baptiste Colbert de Beaulieu, Jean Gagnepain), bob un yn cynrychioli disgyblaeth arbennig. Daeth archaeoleg ac epigraffeg Galaidd yn gynyddol bwysig. Yn 1978 daeth y cyfnodolyn o dan gyhoeddiadau’r CNRS (Centre Nationale de Recherche Scientifique), a ddaeth yn CNRS Éditions yn 1990. Ehangwyd y pwyllgor a gwnaethpwyd Pierre-Yves Lambert yn ysgrifennydd ieithyddiaeth a Venceslas Kruta yn ysgrifennydd archaeoleg. O hyn allan fe’i cyhoeddwyd yn flynyddol. Daeth Pierre-Yves Lambert yn llywydd yn 2008 gyda Jean-Jacques Charpy yn ysgrifennydd.

Cyhoeddir erthyglau ar archaeoleg y byd Celtaidd, gan flaenoriaethu gwaith cymharol ac o’r tu allan i Ffrainc, pynciau yn ymwneud â Gâl a’r Celtiaid; ieithyddiaeth, yn enwedig ieithyddiaeth gymharol a hanesyddol yn y cyfnod canoloesol neu cynt; a llenyddiaeth, gan flaenoriaethu testunau canoloesol (Gwyddeleg, Cymraeg, Llydaweg). Mae traean o’r erthyglau yn Ffrangeg, a derbynnir rhai hefyd yn Saesneg, Almaeneg, Eidaleg a Sbaeneg. Mae hyd at chwarter o'r cyfnodolyn yn grynodebau o lyfrau. Ceir ynddo gyfraniadau gan Henri d’Arbois de Jubainville, Joseph Loth, Georges Dottin, Émile Ernault, Joseph Vendryèrs, Whitley Stokes, Kuno Meyer ac eraill. Mae bodolaeth Études Celtiques (fel y Zeitschrift für Celtische Philologie) yn ein hatgoffa o wreiddiau Ewropeaidd Astudiaethau Celtaidd, ac mae eu parhad yn fodd o ddod â sylw rhyngwladol i’r ddisgyblaeth, yn ogystal ag i ddiwylliannau lleiafrifol.

Heather Williams

Llyfryddiaeth

Lambert, P., Études Celtiques http://www.archeo.ens.fr/spip.php?rubrique82&lang=fr [Cyrchwyd: 13 Medi 2016]

Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.