|
|
Llinell 1: |
Llinell 1: |
− | __NOAUTOLINKS__
| |
− | Bardd na chafodd addysg golegol ac sy’n canu am bobl ac am ddigwyddiadau yn ei filltir sgwâr ei hun yw bardd gwlad. Mae’n derm amwys ar y gorau, ond fe’i defnyddir yn bennaf i ddisgrifio bardd sy’n canu’n syml ac yn uniongyrchol am ddigwyddiadau fel genedigaethau, priodasau a marwolaethau yn ei fro ei hun, ac yn aml iawn fe gomisiynir y bardd gwlad lleol i lunio cerdd ar gyfer yr achlysuron hynny. Mesur canolog i’w arfogaeth yw’r englyn unodl union, ond nid yw pob bardd gwlad yn canu ar y mesurau caeth o reidrwydd – bydd ambell fardd gwlad yn canu cerddi rhydd, yn enwedig felly pan fo’r gerdd yn estynedig. Un traddodiad sy’n gysylltiedig â’r beirdd gwlad yw’r traddodiad o gofnodi troeon trwstan lleol ar gerdd; cyhoeddir y cerddi hyn ambell dro yn y papur bro lleol.
| |
| | | |
− | Fel rheol, er nad yn ddieithriad, nid yw’r bardd gwlad yn brifardd nac yn dyheu am y llawryf hwnnw, ond efallai ei fod wedi ennill ambell gadair mewn eisteddfod leol ac yn cefnogi’r eisteddfodau hynny drwy gystadlu ynddynt. Cyhoeddwyd nifer o gyfrolau o weithiau beirdd gwlad o bob cornel o Gymru, yn gyfrolau unigol gan y beirdd eu hunain ac yn flodeugerddi, cyfrolau lleol megis ''Blodeugerdd Penllyn'' (1983) ac, yn fwyaf diweddar, y gyfres ''Beirdd Bro’r Eisteddfod'' gan Gyhoeddiadau Barddas. Cyhoeddwyd hefyd ymdriniaethau beirniadol fel ''The Folk Poets'' (1978) yn y gyfres ''The Writers of Wales''.
| |
− |
| |
− | Gan mai term amwys yw bardd gwlad, nid gwaith hawdd bob tro yw didoli’r praidd. Cytunir yn gyffredinol y gellir galw beirdd fel Bois y Cilie, Beirdd y Mynydd Bach a theulu’r Tyrpeg, Capel Celyn, yn feirdd gwlad, ond cyfyd anhawster pan fo’r bardd yn meddu ar fri cenedlaethol ac yn cyflawni swyddogaeth y bardd gwlad ar yr un pryd. Enghraifft o’r ddeuoliaeth hon yw Gerallt Lloyd Owen, yn benodol yn ei ail gyfrol o gerddi, ''Cerddi’r Cywilydd'' (1972). Gwelir yn hanner cyntaf y gyfrol hon gerddi sy’n amlygu’r wedd genedlaethol ar ganu Gerallt; yn yr ail hanner ceir cerddi i bobl o ardal y Sarnau ger y Bala sy’n cynrychioli ei waith fel bardd gwlad. Ystyrir Dic Jones yn fardd gwlad gan Dafydd Johnston, ac eto roedd Dic yn un o brifeirdd mawr ail hanner yr ugeinfed ganrif, a’i waith yn cael ei ddarllen a’i werthfawrogi ar lefel genedlaethol.
| |
− |
| |
− | Bu cryn ddadlau hefyd ynghylch priodoldeb dynodi R. Williams Parry yn fardd gwlad. Ni ellir dadlau nad yw rhai o gerddi R. Williams Parry, yn enwedig felly ei englynion coffa enwog, yn dangos ei fod yn cyflawni swyddogaeth y bardd gwlad, ond fe ffieiddiai rhai beirniaid o glywed bod bardd o’i statws ef yn cael ei israddio drwy ei alw’n fardd gwlad: ‘[rh]yfeddol’, ym marn Thomas Parry, oedd y gellid ‘dweud peth fel hyn am ddau o’r beirdd mwyaf soffistigedig a ganodd yn Gymraeg erioed’ [sef Williams Parry a Waldo Williams]. Gwelir, felly, y gall bardd gwlad fod yn derm ac iddo gynodiadau anghysurus a sarhaus weithiau, ond gan mwyaf fe’i golygir yn ddiffuant ac yn ddiragfarn.
| |
− |
| |
− | '''Gruffudd Antur'''
| |
− |
| |
− | ==Llyfryddiaeth==
| |
− |
| |
− | Edwards, E. (gol.) (1983), ''Blodeugerdd Penllyn'' (Cyhoeddiadau Barddas).
| |
− |
| |
− | Johnston, D. (2006), ‘Dic Jones’, yn Rhys, R. (gol.), ''Y Patrwm Amryliw'', cyfrol 2 (Cyhoeddiadau Barddas), tt. 118–26.
| |
− |
| |
− | Llwyd, A. (1979), ‘Ymdrin â’r beirdd gwerinaidd’, ''Barddas'', 31, 4–5.
| |
− |
| |
− | Nicholas, W. Rh. (1978), ''The Folk Poets'' (Cardiff: University of Wales Press).
| |
− |
| |
− | Owen, G. Ll. (1990), ''Cerddi’r Cywilydd'', argraffiad newydd (Caernarfon: Gwasg Gwynedd).
| |
− | {{CC BY-SA}}
| |
− | [[Categori:Beirniadaeth a Theori]]
| |