Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Llenyddiaeth Plant"

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio
(Wedi gwacáu'r dudalen yn llwyr)
 
(Ni ddangosir y golygiad yn y canol gan ddefnyddiwr arall)
Llinell 1: Llinell 1:
__NOAUTOLINKS__
 
Term cyfarwydd ond amwys ei ystyr yw llenyddiaeth plant. Yn wahanol i lenyddiaeth menywod, dyweder, ni chaiff llenyddiaeth plant ei diffinio yn ôl y sawl a’i cynhyrchodd ond yn hytrach yn ôl oedran y sawl a’i darlleno. Ond fel yn achos llenyddiaeth menywod, mae bodolaeth y term yn rhoi’r camargraff bod llenyddiaeth plant yn gorff o waith ac iddo elfennau cyffredin sy’n nodweddu profiad pob plentyn fel ei gilydd. Ond nid oes dim yn gyffredin am brofiad plant, a hwythau’n ymgorffori’r un amrywiaethau ieithyddol, ethnig, diwylliannol a chymdeithasol ag a geir ym mhob cenhedlaeth fel ei gilydd. Ymhellach, mae’r term yn cwmpasu amrywiaeth eang o ran ffurf ac arddull – cwbl wahanol yw llyfrau llun a gair i’r plant lleiaf o gymharu â nofel i ddarllenydd deuddeg oed, heb sôn am ffuglen pobl ifainc. Mae ymdrin â llenyddiaeth plant, felly, yn peri inni wynebu a herio’r modd yr ydym yn synied am ‘lenyddiaeth’ a ‘phlant’ ac yn dadlennu gwedd bwysig ar y ffordd y mae’r cenedlaethau yn cyfathrebu â’i gilydd.
 
  
Yn y Gymraeg, nid aethpwyd ati yn fwriadol i lunio corff bwriadol o lenyddiaeth plant hyd y cyfnod modern. Er y ceid testunau llafar erioed, megis hwiangerddi, i ddiddanu plant, ni luniwyd testunau ysgrifenedig penodol i blant nes i ddatblygiadau addysg greu cynulleidfa lythrennog ar eu cyfer. Wedi i ysgolion cylchynol Griffith Jones a’r Ysgolion Sul gyflwyno plant i hanfodion darllen y Gymraeg o ganol y 18g. ymlaen, buan y sylweddolwyd bod angen mwy na’r Beibl a’r catecism i fodloni’r darllenwyr. Roedd llenyddiaeth plant yn nwylo crefydd o'r dechrau felly. Yr enwadau crefyddol oedd â’r cymhelliant i gyfathrebu’n uniongyrchol â’r ifainc, yn bennaf er mwyn gwreiddio ynddynt egwyddorion Cristnogol a moesol. Arwyddair Beiblaidd nifer o’r testunau cynnar hyn oedd ‘Hyfforddia blentyn ym mhen ei ffordd, a phan heneiddia nid ymedy â hi’ (Diarhebion 22:6). Cynhyrchwyd llyfrynnau a straeon moesol, casgliadau o emynau a chylchgronau enwadol ag amcan efengylol eglur. Fel y dywed R. Tudur Jones, ‘pan oedd y golygyddion yn paratoi’r cylchgronau, nid rhyw elfen ychwanegol (fel menyn ar fara) yw’r duwioldeb sydd mor drwchus ynddynt. Mae’n beth hanfodol. Dyma’r allwedd i’w syniadaeth a dyma gyfrinach eu hegni.’ Ond er mai ‘o groth Calfiniaeth’ y ganwyd y deunydd hwn, y mae hefyd yn adlewyrchu newidiadau cymdeithasol a syniadol yr oes, ac yng nghylchgronau canol y 19g. ceid arlliw o ramantiaeth, nonsens ac antur sy’n adlewyrchu’r newidiadau pellgyrhaeddol yn y modd yr oedd plant yn cael eu trin a’u trafod ar y pryd. Amlygwyd y newidiadau hynny’n eglur yn ''Cymru’r Plant'' o 1892 ymlaen, cylchgrawn anenwadol a sefydlwyd gan O. M. Edwards, ac a roddodd arwyddocâd newydd gwladgarol i’r ‘plentyn’. Dylanwadodd O. M. ar lu o awduron ifainc, gan gynnwys Winnie Parry, Moelona ac E. Tegla Davies, gan eu hannog i ymroi o ddifri i’r dasg o ysgrifennu i blant gyda’i gri, ‘Os ydyw Cymru i fyw, rhaid i rywrai ymdaflu i waith dros y plant. Nid ar faes y gad, ond mewn llenyddiaeth, y mae eisiau Llywelyn a Glyndŵr’.
 
 
Fyth ers dyddiau O.M. cysylltir llenyddiaeth plant â’r ymdrech i sefydlu ymdeimlad o hunaniaeth genedlaethol ond erbyn canol yr 20g., fe’i hystyrid fwyfwy fel arf i gaffael a chynnal iaith. Yn wyneb twf addysg Gymraeg, ceisiwyd dylanwadu ar iaith llenyddiaeth greadigol i blant gan ymgyrch ‘Cymraeg Byw’ i greu iaith safonol a fyddai’n cau’r bwlch rhwng y llafar a’r ysgrifenedig. Lleisiodd prif nofelydd plant y Gymraeg, T. Llew Jones, fodd bynnag, ei wrthwynebiad chwyrn i hynny, ‘Mae’n gas gen i ''Gymraeg Byw''. Mae’r enw ’i hun yn dân ar fy nghroen – waeth onid oes awgrym ynddo fod pob Cymraeg arall yn Gymraeg Farw?’. Yn ystod y 1970au rhoddwyd hwb newydd i gyhoeddi ar gyfer plant gyda chomisiynu cynlluniau darllen, sefydlu Canolfan Llenyddiaeth Plant Cymru yn Aberystwyth a lansio ymgyrchoedd cyhoeddi a marchnata newydd (e.e. Clwb Sbondonics). Gwelwyd cynnydd sylweddol yn nifer y llyfrau a gwella ar ansawdd y deunydd a gynhyrchid o ddechrau’r 1980au ymlaen. Bryd hynny, gwelwyd hefyd ddatblygu ffuglen ar gyfer pobl ifainc gyda dau o’r llyfrau mwyaf poblogaidd yn cael eu trosi’n gyfresi teledu (''Jabas'' gan Penri Jones (1986) a ''Tydi Bywyd yn Boen!'' Gwenno Hywyn (1987)).
 
 
Yn ogystal â chyhoeddi testunau gwreiddiol, bu cyfieithu yn hanfodol i dwf llenyddiaeth Gymraeg i blant o’r dechrau. Cyfieithiadau oedd rhai o’r testunau cynharaf Cymraeg i blant, megis ''Anrheg i Blentyn'' Thomas Jones, Dinbych (1816). Addasu ac efelychu oedd ystyr cyfieithu bryd hynny heb gydnabod, yn aml iawn, fodolaeth y ffynhonnell wreiddiol. Gydag ysgrifennu i ddarllenwyr ifainc yn ei fabandod, naturiol oedd i’r awduron Cymraeg ddilyn patrymau o’r Saesneg. Wrth i’r Gymraeg ddatblygu ei dull ei hun o annerch ei darllenwyr erbyn troad yr 20g., dibynnwyd llai ar gyfieithu ar gyfer cynhyrchu deunydd crai. Yn hytrach, cyfieithwyd er mwyn dod â goreuon llenyddiaeth Ewrop i’r Gymraeg – uchelgais ddyrchafol a adleisir yn ymdrech llenyddiaethau lleiafrifol eraill i gyfoethogi ac ehangu eu canon o destunau i blant drwy gyfieithu (megis yn Iwerddon a Gwlad y Basg). Bellach, mae tua 50% o lyfrau plant Cymraeg yn gyfieithiadau, ac mae’n bwnc sy’n aml yn hollti barn. Ar y naill law, mae angen marchnad lyfrau gyfredol ac apelgar, ond ar y llaw arall rhaid sicrhau diwydiant ysgrifennu gwreiddiol hyfyw. Dyma gyfieithu sydd, yng ngeiriau Michael Cronin, ‘yn elyn ac yn gyfaill’ i ieithoedd lleiafrifol.
 
 
I’r beirniad llên, gall llenyddiaeth plant a phobl ifainc fod yn destun sy’n mynd at hanfod ein perthynas â llenyddiaeth greadigol a’r modd y caiff ystyr ei greu, ei gynnal a’i herio. Gall hefyd gynnig llwybrau rhyngddisgyblaethol i fyd addysg, cymdeithaseg a seicoleg, i enwi ambell un. Mae tuedd wedi bod i anwybyddu’r deunydd am ei fod ‘ar gyfer plant’, fel pe bai hynny’n arwydd o’i israddoldeb. Ond gan ystyried y crëir darllenwyr ac ysgrifenwyr y dyfodol gan eu profiadau darllen yn blant, gellir dadlau bod y testunau hyn yn hanfodol i’n dealltwriaeth o lenyddiaeth Gymraeg yn ehangach.
 
 
'''Siwan M. Rosser'''
 
 
==Llyfryddiaeth==
 
 
Cronin, M. (2003), ''Translation and Globalization'' (London: Routledge).
 
 
Edwards, O. M. (1922), ''Er Mwyn Cymru'' (Wrecsam: Hughes a'i Fab).
 
 
Jones, M. a Jones, G. (goln) (1983), ''Dewiniaid Difyr: Llenorion Plant Cymru hyd tua 1950'' (Llandysul: Gwasg Gomer).
 
 
Jones, R. T. (1974), ‘Darganfod Plant Bach: Sylwadau ar lenyddiaeth plant yn Oes Victoria’ yn Caerwyn Williams, J. E. (gol.), ''Ysgrifau Beirniadol VIII'' (Dinbych: Gwasg Gee), tt. 160-204.
 
 
Jones, T. Ll. (1967), ‘Ydw! Rydw! Dydw!’, ''Y Cymro'', 19 Hydref, 11.
 
 
Rosser, S. M. (2016), ‘Llenyddiaeth plant a dychymyg y Gymraeg’, ''O’r Pedwar Gwynt'', 1, 9-10.
 
{{CC BY-SA}}
 
[[Categori:Beirniadaeth a Theori]]
 

Y diwygiad cyfredol, am 09:39, 4 Ebrill 2018