Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Almanac"
(Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Almanac Llyfryn yw almanac sy’n cynnwys gwybodaeth hanfodol ar gyfer y flwyddyn amaethyddol, megis calendrau a rhagolygon tywydd tymor hir. Yn gymysged...') |
|||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
− | |||
Llyfryn yw almanac sy’n cynnwys gwybodaeth hanfodol ar gyfer y flwyddyn amaethyddol, megis calendrau a rhagolygon tywydd tymor hir. Yn gymysgedd o wybodaeth galendr syml a syniadau llai gwyddonol, caiff cyhoeddiadau megis The Old Farmer’s Almanac eu prynu a’u defnyddio o hyd, yn arbennig yng Ngogledd America. Defnyddir y gair ‘almanac’ hefyd i gyfeirio at unrhyw gyhoeddiad sy’n cynnwys deunydd calendr, e.e. y Nautical Almanac sy’n cynnwys tablau yn disgrifio symudiadau’r planedau a’r llanw, neu at gyfeirlyfrau ar gyfer pynciau arbennig, e.e. yr Almanac of British Politics. | Llyfryn yw almanac sy’n cynnwys gwybodaeth hanfodol ar gyfer y flwyddyn amaethyddol, megis calendrau a rhagolygon tywydd tymor hir. Yn gymysgedd o wybodaeth galendr syml a syniadau llai gwyddonol, caiff cyhoeddiadau megis The Old Farmer’s Almanac eu prynu a’u defnyddio o hyd, yn arbennig yng Ngogledd America. Defnyddir y gair ‘almanac’ hefyd i gyfeirio at unrhyw gyhoeddiad sy’n cynnwys deunydd calendr, e.e. y Nautical Almanac sy’n cynnwys tablau yn disgrifio symudiadau’r planedau a’r llanw, neu at gyfeirlyfrau ar gyfer pynciau arbennig, e.e. yr Almanac of British Politics. |
Y diwygiad cyfredol, am 10:33, 10 Awst 2018
Llyfryn yw almanac sy’n cynnwys gwybodaeth hanfodol ar gyfer y flwyddyn amaethyddol, megis calendrau a rhagolygon tywydd tymor hir. Yn gymysgedd o wybodaeth galendr syml a syniadau llai gwyddonol, caiff cyhoeddiadau megis The Old Farmer’s Almanac eu prynu a’u defnyddio o hyd, yn arbennig yng Ngogledd America. Defnyddir y gair ‘almanac’ hefyd i gyfeirio at unrhyw gyhoeddiad sy’n cynnwys deunydd calendr, e.e. y Nautical Almanac sy’n cynnwys tablau yn disgrifio symudiadau’r planedau a’r llanw, neu at gyfeirlyfrau ar gyfer pynciau arbennig, e.e. yr Almanac of British Politics.
Yn wreiddiol, roedd y term ‘almanac’ yn cyfeirio at gyfres o dablau gwastadol a ddangosai symudiadau’r haul, y lleuad, a’r planedau, ac a gynhyrchwyd at ddefnydd astrolegyddion. Er bod iddynt wreiddiau llawer hŷn, ymddangosodd yr almanaciau cyntaf o dan yr enw hwnnw yn y 12g. yn Sbaen. Roedd almanaciau felly yn boblogaidd yn yr Oesoedd Canol, a chawsant eu copïo mewn llawysgrifau, ac mewn ffurfiau cludadwy megis yr almanaciau plygadwy a gynhwysai wybodaeth feddygol sylfaenol yn ogystal â’r deunydd calendr, ac a amcanwyd at ddefnydd meddygon.
Daeth yr almanac yn fwy poblogaidd fyth gyda dyfodiad y wasg gyhoeddi a thwf y diwydiant argraffu yn yr 16g. Cafodd yr almanac printiedig Saesneg cyntaf (The Kalender of Shepherds) ei gyhoeddi yn 1503. Cyfieithiad o destun Ffrangeg oedd hwn, yn cynnwys deunydd crefyddol megis disgrifiadau o arteithiau Purdan, y Dengair Deddf, Credo’r Apostolion, a’r Pader; ceid ynddo hefyd ddeunydd meddygol megis rhestrau o bethau sy’n llesol neu yn niweidiol i’r corff, cyngor ar gadw’n iach trwy’r flwyddyn, a diagramau yn dangos esgyrn a gwythi'r corff; cynhwysai'r calendr hefyd ddyddiadau gwyliau’r seintiau a’r gwyliau symudadwy, y prif ffeiriau, a thymhorau’r llysoedd. Daeth dimensiwn gwleidyddol i’r almanac yn ystod cyfnod Rhyfel Cartref Lloegr a’r cynnwrf gwleidyddol a gododd yn sgil hynny, gydag almanacwyr ar y ddwy ochr yn darogan buddugoliaeth ar gyfer un ai’r Brenin neu’r Senedd.
Daeth yr almanaciau Cymraeg cyntaf o’r wasg ar ddiwedd yr 17g. gyda chyhoeddiadau Thomas Jones (1648-1713), a adwaenid fel Thomas Jones yr Almanaciwr. Ymddangosodd ei almanaciau dan yr enw Newyddion oddiwrth y sêr rhwng 1681 a 1712. Cynhwysai’r llyfrynnau hyn y deunydd calendr arferol yn ogystal â chyfeiriadau darllen, cyngor amaethyddol ynghylch tasgau ar gyfer pob mis, rhagolygon tywydd, cyfeiriadau ynghylch gollwng gwaed, barddoniaeth, a hysbysebion ar gyfer llyfrau yr oedd Jones hefyd yn eu gwerthu. Fe'u cynhyrchwyd yn Llundain, lle bu Jones ei hun yn byw, a'u gwerthu ledled Cymru gan becmyn.
Bu cynhyrchu a gwerthu almanaciau’n weddol fuddiol ar gyfer argraffwyr, ac yn fuan roedd almanacwyr eraill wedi dechrau cystadlu gyda Jones. Dechreuodd almanaciau Siôn Robert Lewis (1731-1803) o Gaergybi ddod o’r wasg yn 1707, a rhai Siôn Rhydderch (1673-1735) o Amwythig yn 1715. Mae’n debyg i rai o’r almanaciau hyn gael eu hargraffu yn Nulyn ac wedyn eu mewnforio i’r wlad trwy Gaergybi er mwyn osgoi'r dreth ar bapur a fu’n gyfrifol am godi prisiau llyfrau yn sylweddol. Mae’r almanaciau hyn i gyd ar gael ar ffurf ddigidol ar wefan Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
Diana Luft
Llyfryddiaeth
Chabás, J. (2006), ‘Almanac’, yn Glick, T., Livesy, S. J. a Wallis, F. (goln), Medieval Science, Medicine, and Technology: An Encyclopedia (Llundain: Routledge), tt. 29–31.
Chapman, A. A. (2006), ‘Almanacs’, yn Kastan, David Scott (gol.), The Oxford Encyclopedia of British Literature (Rhydychen: OUP, gol. ar lein, 2006, gwelwyd 31/07/2018).
Capp, B. S. (1979), Astrology and the Popular Press: English Almanacs 1500-1800 (Ithaca Ny: Cornell University Press).
Carey, H. M. (2004), ‘Astrological Medicine and the English Folding Almanac’, Social History of Medicine 17, 345–63.
Casgliad Almanaciau Cymru [1]
Driver, M. W. (2003), ‘When is a miscellany not miscellaneous? Making sense of the “Kalender of Shepherds”’, Yearbook of English Studies 33, 199–214.
Jenkins, G. H. (1980), Thomas Jones yr Almanaciwr (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Caerdydd).
Jenkins, G. H. (1984), ‘Thomas Jones: the Sweating Astrologer’, yn Davies, R. R. a Jones, I. G. (goln), Welsh Society and Nationhood: Historical Essays presented to Glanmor Williams (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Caerdydd), tt. 161–77.
Jenkins, G. H. (1988), ‘Almanaciau Thomas Jones’, Ysgrifau Beirniadol 14, 165–98.
Jenkins, G. H. (1990), ‘Almanaciau Thomas Jones 1680-1712’, Cadw Tŷ mewn Cwmwl Tystion: Ysgrifau Hanesyddol ar Grefydd a Diwylliant (Llandysul: Gomer), tt. 51–85.
Rees, E. (1969), ‘Developments in the Book Trade in Eighteenth-Century Wales’, The Library, 5ed gyfres, 24, 33–43.
Rees, E. (1988), The Welsh Book Trade before 1820 (Aberystwyth: Llyfrgell Genedlaethol Cymru).
Rees, E. a Morgan, G. (1979), ‘Welsh Almanacks, 1680-1835: Problems of Piracy’, The Library, 6ed gyfres, 1, 143–63.
William, D. W. (1980–4), ‘Almanacwyr Caergybi’, Transactions of the Anglesey Antiquarian Society and Field Club (1980), 67–100; (1981), 29–56; a (1984), 74–92.
- Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.