Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Cyseinedd"
(Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Cyfatebiaeth rhwng llafariaid mewn dau neu fwy o eiriau yw cyseinedd, neu ailadrodd seiniau llafarog yn bwrpasol er mwyn creu effaith arbennig. Ni ddyli...') |
(Dim gwahaniaeth)
|
Y diwygiad cyfredol, am 13:03, 13 Medi 2018
Cyfatebiaeth rhwng llafariaid mewn dau neu fwy o eiriau yw cyseinedd, neu ailadrodd seiniau llafarog yn bwrpasol er mwyn creu effaith arbennig. Ni ddylid cymysgu rhwng cyseinedd ac odl, lle mae’r sain ar ddiwedd y gair, boed yn llafariaid neu’n gyfuniad o lafariaid a chytseiniaid, yn cyfateb i ddiwedd gair arall. Ni ddylid cymysgu chwaith rhwng cyseinedd a chytseinedd, sef cyfatebiaeth rhwng cytseiniaid. Mae Gwyn thomas yn fardd a elwodd yn fawr ar effeithiau cyseinedd. Mae'r gerdd 'Deilen' yn defnyddio cyseineddd ('yn dal ar yr awel/ yn addfwyn yn hongian'), cytseinedd ('yn llithro - fflach, llathr -') ac odlau amrywiol wrth gyfleu symudiad deilen yn cwympo o'r goeden.
Llŷr Gwyn Lewis a Robert Rhys
Llyfryddiaeth
Thomas, G. (2000), Gweddnewidio (Dinbych: Gwasg Gee)
- Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.