Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Cyfle am lun"
Oddi ar WICI
(Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda ' ''Saesneg: Photo-op,'' talfyriad am ''photo-opportunity'' Mae hwn yn cyfeirio at drefniant lle y mae person neu grŵp o bobl yn cytuno i gael tynnu eu l...') |
(Dim gwahaniaeth)
|
Diwygiad 11:53, 10 Hydref 2018
Saesneg: Photo-op, talfyriad am photo-opportunity
Mae hwn yn cyfeirio at drefniant lle y mae person neu grŵp o bobl yn cytuno i gael tynnu eu llun gan ffoto-newyddiadurwyr mewn man arbennig ar amser penodol. Gall y rhain fod yn arweinwyr gwlad, gwleidyddion, pêl-droedwyr ar fin chwarae gêm bwysig neu actorion Hollywood ar y carped coch. Hefyd caiff ei ddisgrifio fel ‘photo calls’, ac mae’r cyfleoedd hyn yn arbennig o werthfawr i’r paparazzi a’r wasg tabloid, sy’n aml yn tynnu lluniau sy’n ymddangos yn rhai preifat (e.e. cyplau enwog yn cael eu ‘dal’ yn cerdded ar y traeth), er bod y rhain wedi eu trefnu o flaen llaw.
- Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.