Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Priodoliad"
Oddi ar WICI
(Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda ' Saesneg: ''Attribution'' Cydnabyddiaeth ffurfiol o ffynhonnell deunydd sy’n ymddangos mewn adroddiad newyddion. Mae priodoliad yn codi hygrededd y...') |
(Dim gwahaniaeth)
|
Y diwygiad cyfredol, am 11:24, 22 Hydref 2018
Saesneg: Attribution
Cydnabyddiaeth ffurfiol o ffynhonnell deunydd sy’n ymddangos mewn adroddiad newyddion. Mae priodoliad yn codi hygrededd y sefydliad newyddion, lle y mae cydnabod datganiadau a delweddau unigol dan hawlfraint yn cefnogi tryloywder y broses o gasglu newyddion.
Mae confensiynau priodoliad yn parhau i newid, fodd bynnag, wrth i’r amgylchedd newyddiadurol newid. Er enghraifft, yn aml ar y dechrau, roedd lluniau newyddion yn cael eu priodoli i ffotograffydd, tra yn fwy diweddar gwelir nodyn wrth ymyl y llun yn cydnabod archif neu asiantaeth luniau sy’n berchen ar y lluniau. Weithiau, mae priodoliad yn broblem i’r sawl sy’n cynnig gwybodaeth, ac yn yr achosion hynny ni roddir cydnabyddiaeth i’r ffynhonnell.
- Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.