Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Emyn-donau"
CadiW (Sgwrs | cyfraniadau) (Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda ''''Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn [https://www.ylolfa.com/cynnyrch/9781784616250/cydymaith-i-gerddoriaeth-cymru''Cydymaith i Gerddori...') |
CadiW (Sgwrs | cyfraniadau) |
||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
'''Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn [https://www.ylolfa.com/cynnyrch/9781784616250/cydymaith-i-gerddoriaeth-cymru''Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru''], cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.''' | '''Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn [https://www.ylolfa.com/cynnyrch/9781784616250/cydymaith-i-gerddoriaeth-cymru''Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru''], cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.''' | ||
− | Mae’r emyn-donau a geir yng nghasgliad [[Edmwnd Prys]] o salmau mydryddol, ''Llyfr y Salmau'' (1621), yn alawon un llais; gwelir y rhan fwyaf ohonynt mewn casgliadau eraill yn Lloegr, yr Alban ac ar gyfandir Ewrop. Gellir dweud i’r traddodiad Cymreig o gyfansoddi emyn-donau ddechrau yn 1770 pan ymddangosodd tonau digon amrwd Evan Williams (Ifan Wiliam) yn y ''Llyfr Gweddi Gyffredin'', ond nid oes un o’r rhain wedi parhau mewn arferiad. Yn ystod y 18g. benthyciodd y diwygwyr Methodistaidd, a William Williams ‘Pantycelyn’ yn arbennig, donau Seisnig o ffynonellau crefyddol a seciwlar, a defnyddio ambell alaw draddodiadol Gymreig, megis ‘Dewch i’r frwydr’ o gasgliad [[Edward Jones]] (Bardd y Brenin), ''Musical and Poetical Relicks of the Welsh Bards'' (1794), a’r fersiwn cyfatebol yn y modd lleiaf, y rhoddwyd iddi’r enw ‘Iorddonen’/ | + | Mae’r emyn-donau a geir yng nghasgliad [[Edmwnd Prys]] o salmau mydryddol, ''Llyfr y Salmau'' (1621), yn alawon un llais; gwelir y rhan fwyaf ohonynt mewn casgliadau eraill yn Lloegr, yr Alban ac ar gyfandir Ewrop. Gellir dweud i’r traddodiad Cymreig o gyfansoddi emyn-donau ddechrau yn 1770 pan ymddangosodd tonau digon amrwd Evan Williams (Ifan Wiliam) yn y ''Llyfr Gweddi Gyffredin'', ond nid oes un o’r rhain wedi parhau mewn arferiad. Yn ystod y 18g. benthyciodd y diwygwyr Methodistaidd, a William Williams ‘Pantycelyn’ yn arbennig, donau Seisnig o ffynonellau crefyddol a seciwlar, a defnyddio ambell alaw draddodiadol Gymreig, megis ‘Dewch i’r frwydr’ o gasgliad [[Edward Jones]] (Bardd y Brenin), ''Musical and Poetical Relicks of the Welsh Bards'' (1794), a’r fersiwn cyfatebol yn y modd lleiaf, y rhoddwyd iddi’r enw ‘Iorddonen’/''‘Jordan’''. Gall fod y defnydd o’r alaw faled Gymreig ‘Can mlynedd i nawr’ (sef yr emyn-dôn ‘Joanna’ neu ‘St Denio’) ar gyfer canu emynau yn dyddio o ddiwedd y 18g., gan iddi gael ei chyhoeddi fel emyn-dôn mewn casgliad Saesneg tuag 1800: arwydd yw hyn mae’n debyg, o’r traffig mewn alawon yn ôl ac ymlaen rhwng Cymru a Lloegr. |
Mae’n anodd dweud ymhle y tarddodd rhai o’r alawon a blwyfodd yng Nghymru, ond ceir enghreifftiau sy’n ymddangos mewn ffynonellau Seisnig, megis ‘Clod (‘Ffigysbren)’ a ‘Cyfamod’ (‘Hen Ddarbi’). Ceir amrywiaeth o donau yng nghasgliadau Owen Williams o Fôn, ''Brenhinol Ganiadau Sion'' (1817–21), ac mae’n debyg fod nifer ohonynt o darddiad Cymreig, er bod yno hefyd donau a fewnforiwyd o Loegr. Yn y tri chasgliad arloesol ''Peroriaeth Hyfryd'' (1837) gan John Parry, Caer, ''Caniadau y Cyssegr'' (1839) gan John Roberts, Henllan, a ''Caniadau Seion'' (1840) gan Richard Mills gwelir nifer dda o donau y gellir bod yn bur sicr eu bod yn Gymreig eu tarddiad ac yn cylchredeg ymhlith cynulleidfaoedd y cyfnod. | Mae’n anodd dweud ymhle y tarddodd rhai o’r alawon a blwyfodd yng Nghymru, ond ceir enghreifftiau sy’n ymddangos mewn ffynonellau Seisnig, megis ‘Clod (‘Ffigysbren)’ a ‘Cyfamod’ (‘Hen Ddarbi’). Ceir amrywiaeth o donau yng nghasgliadau Owen Williams o Fôn, ''Brenhinol Ganiadau Sion'' (1817–21), ac mae’n debyg fod nifer ohonynt o darddiad Cymreig, er bod yno hefyd donau a fewnforiwyd o Loegr. Yn y tri chasgliad arloesol ''Peroriaeth Hyfryd'' (1837) gan John Parry, Caer, ''Caniadau y Cyssegr'' (1839) gan John Roberts, Henllan, a ''Caniadau Seion'' (1840) gan Richard Mills gwelir nifer dda o donau y gellir bod yn bur sicr eu bod yn Gymreig eu tarddiad ac yn cylchredeg ymhlith cynulleidfaoedd y cyfnod. |
Diwygiad 17:53, 6 Mawrth 2021
Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.
Mae’r emyn-donau a geir yng nghasgliad Edmwnd Prys o salmau mydryddol, Llyfr y Salmau (1621), yn alawon un llais; gwelir y rhan fwyaf ohonynt mewn casgliadau eraill yn Lloegr, yr Alban ac ar gyfandir Ewrop. Gellir dweud i’r traddodiad Cymreig o gyfansoddi emyn-donau ddechrau yn 1770 pan ymddangosodd tonau digon amrwd Evan Williams (Ifan Wiliam) yn y Llyfr Gweddi Gyffredin, ond nid oes un o’r rhain wedi parhau mewn arferiad. Yn ystod y 18g. benthyciodd y diwygwyr Methodistaidd, a William Williams ‘Pantycelyn’ yn arbennig, donau Seisnig o ffynonellau crefyddol a seciwlar, a defnyddio ambell alaw draddodiadol Gymreig, megis ‘Dewch i’r frwydr’ o gasgliad Edward Jones (Bardd y Brenin), Musical and Poetical Relicks of the Welsh Bards (1794), a’r fersiwn cyfatebol yn y modd lleiaf, y rhoddwyd iddi’r enw ‘Iorddonen’/‘Jordan’. Gall fod y defnydd o’r alaw faled Gymreig ‘Can mlynedd i nawr’ (sef yr emyn-dôn ‘Joanna’ neu ‘St Denio’) ar gyfer canu emynau yn dyddio o ddiwedd y 18g., gan iddi gael ei chyhoeddi fel emyn-dôn mewn casgliad Saesneg tuag 1800: arwydd yw hyn mae’n debyg, o’r traffig mewn alawon yn ôl ac ymlaen rhwng Cymru a Lloegr.
Mae’n anodd dweud ymhle y tarddodd rhai o’r alawon a blwyfodd yng Nghymru, ond ceir enghreifftiau sy’n ymddangos mewn ffynonellau Seisnig, megis ‘Clod (‘Ffigysbren)’ a ‘Cyfamod’ (‘Hen Ddarbi’). Ceir amrywiaeth o donau yng nghasgliadau Owen Williams o Fôn, Brenhinol Ganiadau Sion (1817–21), ac mae’n debyg fod nifer ohonynt o darddiad Cymreig, er bod yno hefyd donau a fewnforiwyd o Loegr. Yn y tri chasgliad arloesol Peroriaeth Hyfryd (1837) gan John Parry, Caer, Caniadau y Cyssegr (1839) gan John Roberts, Henllan, a Caniadau Seion (1840) gan Richard Mills gwelir nifer dda o donau y gellir bod yn bur sicr eu bod yn Gymreig eu tarddiad ac yn cylchredeg ymhlith cynulleidfaoedd y cyfnod.
Awgrym o’u cefndir gwerin yw eu bod, fel alawon gwerin, yn bodoli mewn fersiynau gwahanol mewn gwahanol ardaloedd. Yr un alaw yw ‘Llangollen’ yng nghasgliad John Roberts â ‘Drefnewydd’ yng nghasgliad Richard Mills, ond mae eu rhythm a’u hamseriad yn gwbl wahanol: daeth yr alaw’n adnabyddus yn ddiweddarach dan yr enw ‘Lledrod’. Yn y casgliadau hyn hefyd y gwelir nifer o’r tonau traddodiadol a ddisgrifir mewn ffynonellau diweddarach fel ‘alawon Cymreig’. Maent yn syml ond yn gadarn eu gwead ac yn aml yn dilyn patrwm AABA. Mae rhai ohonynt, megis ‘Diniweidrwydd’ neu ‘Y Seren Ddydd’, hefyd wedi eu cofnodi fel tonau baled yn y traddodiad seciwlar.
Dilynwyd y patrwm hwn gan gyfansoddwyr cynnar: gwaith Robert Williams (1782–1818) o Lanfechell yw’r emyn-dôn ‘Llanfair’, ond mae’n dilyn ffurf draddodiadol; ac mewn cenhedlaeth ddiweddarach ceir J. D. Jones (1827–70) yn llunio’i emyn-dôn ‘Gwalchmai’ ar yr un patrwm. Y symlrwydd diymdrech hwn a apeliodd at Ralph Vaughan Williams a’i arwain i gynnwys nifer o emyn-donau Cymreig yn y casgliad dylanwadol The English Hymnal (1906). Datblygwyd y patrwm ymhellach gan gyfansoddwyr megis J. Ambrose Lloyd (1815–74) yn ei emyn-dôn ‘Eifionydd’ a Joseph Parry (1841–1903) yn ei emyn-dôn ‘Aberystwyth’, sy’n dangos crefft a chynghanedd mwy soffistigedig.
Rhidian Griffiths
- Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.