Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Bois y Blacbord"
CadiW (Sgwrs | cyfraniadau) (→Disgyddiaeth) |
CadiW (Sgwrs | cyfraniadau) |
||
Llinell 10: | Llinell 10: | ||
=Disgyddiaeth= | =Disgyddiaeth= | ||
− | + | *‘Hen Fenyw Fach Cydweli’ [sengl] (Welsh Teldisc SPWD909, 1963) | |
− | + | *''Caneuon Difyrrus Bois y Blacbord … Jovial Songs of the Blackboard Boys'' [EP] (Welsh Teldisc TEP841, 1964) | |
− | + | *''Noson Lawen'' [EP] (Wren WRE1001, 1964) | |
− | + | *''Nadolig yng Nghwmni Bois y Blacbord'' [EP] (Wren WRE1010, 1965) | |
− | + | *''Bois y Blacbord'' [EP] (Wren WRE1019, c.1965) | |
'''Casgliadau amrywiol:''' | '''Casgliadau amrywiol:''' | ||
− | + | *''Y Bois a’r Hogia'' (Sain SCD2578, 2010) | |
{{CC BY-SA Cydymaith}} | {{CC BY-SA Cydymaith}} | ||
+ | [[Categori:Cerddoriaeth]] |
Diwygiad 22:46, 25 Mawrth 2021
Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.
Grŵp canu harmoni clòs o ysgolfeistri a ffurfiwyd yn 1958 yn Ysgol Haf flynyddol awdurdod addysg Sir Gaerfyrddin. Yn ogystal â chanu penillion mewn cystadlaethau cenedlaethol roedd Bois y Blacbord yn ymroi i adloniant ysgafn y cyfnod, gan gynnwys caneuon gwerin wedi’u haddasu at ddant cynulleidfa eang.
Bu’r Bois yn brysur am flynyddoedd yn canu mewn cyngherddau elusennol ac ar raglenni teledu a radio. Cawsant ran hefyd yn seremoni agoriadol Eisteddfod Genedlaethol Llanelli yn 1962. Yn 1964 aethant ar daith i Iwerddon lle cawsant gryn sylw mewn cyngherddau ac ar y cyfryngau. Yr arweinydd oedd Noel John ac ef hefyd a oedd yn gyfrifol am addasiadau cerddorol eu repertoire.
Sarah Hill
Disgyddiaeth
- ‘Hen Fenyw Fach Cydweli’ [sengl] (Welsh Teldisc SPWD909, 1963)
- Caneuon Difyrrus Bois y Blacbord … Jovial Songs of the Blackboard Boys [EP] (Welsh Teldisc TEP841, 1964)
- Noson Lawen [EP] (Wren WRE1001, 1964)
- Nadolig yng Nghwmni Bois y Blacbord [EP] (Wren WRE1010, 1965)
- Bois y Blacbord [EP] (Wren WRE1019, c.1965)
Casgliadau amrywiol:
- Y Bois a’r Hogia (Sain SCD2578, 2010)
- Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.