Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Anthemau"
CadiW (Sgwrs | cyfraniadau) (Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda '__NOAUTOLINKS__ '''Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn [https://www.ylolfa.com/cynnyrch/9781784616250/cydymaith-i-gerddoriaeth-cymru''Cydy...') |
CadiW (Sgwrs | cyfraniadau) |
||
Llinell 15: | Llinell 15: | ||
{{CC BY-SA Cydymaith}} | {{CC BY-SA Cydymaith}} | ||
+ | [[Categori:Cerddoriaeth]] |
Diwygiad 09:26, 26 Mawrth 2021
Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.
Cysylltir y gair anthem yn gyffredinol â’r syniad o gân wladgarol, hynny yw anthem genedlaethol. Gall hon fod yn emynyddol ei naws fel y mae nifer o anthemau Ewrop, ac mae hyn yn briodol gan mai gosodiad lleisiol o destun Beiblaidd oedd yr anthem yn wreiddiol i’w chanu fel rhan o ffurf-wasanaeth yr Eglwys, a datblygwyd hi yn Lloegr wedi’r Diwygiad Protestannaidd gan gyfansoddwyr fel Tallis, Blow, Purcell, Boyce ac yn arbennig Handel. Cyfansoddodd Handel dros ugain o anthemau, gan gynnwys un ar ddeg ar gyfer Dug Chandos (1716– 18); O Praise the Lord with one consent yw’r Chandos Anthem fwyaf adnabyddus.
Cafodd yr anthem adfywiad pan gyfrannodd S. S. Wesley yn helaeth i’r ffurf ar ddechrau oes Victoria, a Hubert Parry a C. V. Stanford ar ei diwedd. Gyda datblygiad canu cynulleidfaol a thwf corau capel o ganol y 19g. yng Nghymru gwelwyd cyfansoddwyr Cymreig yn ysgrifennu ar eu cyfer; yn wahanol i’r drefn yn Lloegr, byddai’r anthem Gymraeg yn adlewyrchu poblogrwydd canu cynulleidfaol a’r gymanfa ganu, a byddai anthemau newydd yn ymddangos yn rheolaidd yng nghyfnodolion cerddorol y wlad. Geiriau Cymraeg yn unig oedd iddynt fel arfer, ond o’r 1870au byddai cyhoeddwyr fel Isaac Jones yn y Rhondda yn ychwanegu cyfieithiadau Saesneg (gwael), adlewyrchiad o newid ieithyddol yn y cwm.
Gelwir God Bless the Prince of Wales (y geiriau Saesneg gan George Linley) neu ‘Ar D’wysog Gwlad y Bryniau’ (y geiriau Cymraeg gan Ceiriog), y gerddoriaeth gan Brinley Richards, yn ‘Anthem Tywysog Cymru’ oherwydd iddi gael ei hysgrifennu ar gyfer priodas y Tywysog Edward ac Alexandra o Ddenmarc yn 1863. Ond yn ddiau, y fwyaf adnabyddus hyd heddiw o holl anthemau Cymru yw Teyrnasoedd y Ddaear, gosodiad John Ambrose Lloyd o adnodau yn Salm 68 ar gyfer unawdwyr a chôr cymysg, a ddyfarnwyd yn fuddugol yn Eisteddfod Bethesda yn 1852. Fe’i canwyd am y tro cyntaf rai misoedd wedyn gan gôr y Tabernacl, Aberystwyth, dan arweiniad Edward Edwards (Pencerdd Ceredigion).
Ymhlith anthemau eraill a ddaeth yn boblogaidd ledled Cymru yr oedd Efe a Ddaw gan Tom Price, a ddyfarnwyd yn fuddugol yn Eisteddfod Genedlaethol Bangor yn 1902; Dyddiau dyn sydd fel glaswelltyn gan Tom Davies o Lynebwy, yr honnir bod dros 320,000 o gopïau ohoni wedi’u gwerthu erbyn 1920; Bendigedig fyddo Arglwydd Dduw Israel a ysgrifennwyd gan John Thomas, Blaenannerch, cyn iddo symud i Lanwrtyd yn 1871, a Dyn a aned o wraig gan D. C. Williams. Ystyrid anthemau yn llai heriol i’w canu na chorawdau oratorio, gyda’u cynganeddion cyfarwydd a’u cyfeiliant i harmoniwm neu organ yn gwneud fawr mwy na dyblu rhannau’r pedwar llais. Er mai ychydig o werth arhosol a oedd ynddynt, roeddynt fel arfer yn weithiau apelgar a oedd o fewn cyrraedd y cantorion ‘ar y galeri’ mewn cymanfa ganu, cantorion a fyddai wedi eu meistroli ar ôl ychydig o baratoi yn yr Ysgol Gân.
O droad y ganrif byddai cyfansoddwyr a gafodd well manteision addysgol, fel David Jenkins, E.T. Davies, David de Lloyd a David Emlyn Evans, yn ysgrifennu mewn arddull fwy mentrus gyda chyfeiliant pwrpasol, ond byddai anthemau fel Y Mae Afon gan Daniel Protheroe, Dyrchafaf fy Llygaid gan T. Hopkin Evans ac Yr Arglwydd yw fy Mugail o waith Caradog Roberts i’w clywed o hyd yn y blynyddoedd ar ôl yr Ail Ryfel Byd. Anthem o’r math Seisnig, at wasanaeth y ddefod Anglicanaidd, oedd Let the People Praise Thee, O God a gyfansoddwyd gan William Mathias ar gyfer priodas y Tywysog Siarl a’r Dywysoges Diana yn 1981.
Gareth Williams
- Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.