Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Gellan"
CadiW (Sgwrs | cyfraniadau) (Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda '__NOAUTOLINKS__ '''Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn [https://www.ylolfa.com/cynnyrch/9781784616250/cydymaith-i-gerddoriaeth-cymru''Cydy...') |
CadiW (Sgwrs | cyfraniadau) |
||
(Ni ddangosir y 2 olygiad yn y canol gan yr un defnyddiwr) | |||
Llinell 2: | Llinell 2: | ||
'''Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn [https://www.ylolfa.com/cynnyrch/9781784616250/cydymaith-i-gerddoriaeth-cymru''Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru''], cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.''' | '''Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn [https://www.ylolfa.com/cynnyrch/9781784616250/cydymaith-i-gerddoriaeth-cymru''Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru''], cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.''' | ||
− | Gellan telynor pencerdd, yr honnir mai ef oedd prif delynor bencerdd Gruffudd ap Cynan (''c''.1055– 1137), brenin Gwynedd, yw’r pencerdd [[telyn]] cyntaf y mae cofnod amdano. Mae ''Historia Gruffud Vab Kenan'' (a gomisiynwyd gan fab Gruffudd, Owain, ac a ysgrifennwyd mae’n debyg yn fuan wedi 1137, er mai testun o ganol y 13g. yw’r cynharaf i oroesi) yn nodi iddo farw ym mrwydr Aberlleiniog, Llangoed, Môn, tua 1094: ‘Ac ena y diguydus Gellan telynyaur penkerd o barthret Gruffud en e llynges.’ | + | Gellan telynor [[pencerdd]], yr honnir mai ef oedd prif delynor bencerdd Gruffudd ap Cynan (''c''.1055– 1137), brenin Gwynedd, yw’r pencerdd [[telyn]] cyntaf y mae cofnod amdano. Mae ''Historia Gruffud Vab Kenan'' (a gomisiynwyd gan fab Gruffudd, Owain, ac a ysgrifennwyd mae’n debyg yn fuan wedi 1137, er mai testun o ganol y 13g. yw’r cynharaf i oroesi) yn nodi iddo farw ym mrwydr Aberlleiniog, Llangoed, Môn, tua 1094: ‘Ac ena y diguydus Gellan telynyaur penkerd o barthret Gruffud en e llynges.’ |
Efallai i Gellan wasanaethu fel ''bardd teilu'' yn llys Gruffydd, gan fod Cyfraith Hywel Dda yn pennu mai un o swyddogaethau’r swyddog hwn yn llys y tywysog oedd arwain gosgordd y tywysog (y teulu) i frwydr – o leiaf yn y cyfnod pan fodolai corff o’r fath (tan y 12g. mae’n debyg). Mae enw Gellan yn swnio’n Wyddelig, ac mae’n ddigon posibl fod hynny’n awgrymu iddo ddod draw i Gymru gyda Gruffudd ap Cynan, a aned yn Iwerddon: dywed yr hanesydd o Sir Ddinbych, David Powel (1552–98), fod Gruffudd wedi dod ag amryw o gerddorion medrus (‘divers cunning musicians’) gydag ef o Iwerddon. | Efallai i Gellan wasanaethu fel ''bardd teilu'' yn llys Gruffydd, gan fod Cyfraith Hywel Dda yn pennu mai un o swyddogaethau’r swyddog hwn yn llys y tywysog oedd arwain gosgordd y tywysog (y teulu) i frwydr – o leiaf yn y cyfnod pan fodolai corff o’r fath (tan y 12g. mae’n debyg). Mae enw Gellan yn swnio’n Wyddelig, ac mae’n ddigon posibl fod hynny’n awgrymu iddo ddod draw i Gymru gyda Gruffudd ap Cynan, a aned yn Iwerddon: dywed yr hanesydd o Sir Ddinbych, David Powel (1552–98), fod Gruffudd wedi dod ag amryw o gerddorion medrus (‘divers cunning musicians’) gydag ef o Iwerddon. | ||
Llinell 10: | Llinell 10: | ||
==Llyfryddiaeth== | ==Llyfryddiaeth== | ||
− | + | *Thomas Parry, ‘Gruffudd ap Cynan’, ''Y Bywgraffiadur Cymraeg'', gol. J. E. Lloyd & R. T. Jenkins (Llundain, 1959), fersiwn newydd arlein (LlGC, 2009) http://yba.llgc.org.uk/cy | |
− | + | *D. S. Evans, ''A Medieval Prince of Wales: The Life of Gruffudd ap Cynan'' (Burnham-on-Sea, 1990) | |
− | + | *Sally Harper, ‘Canu’r “Songes of the Doeinges of their Auncestors”: Agweddau ar Draddodiadau Cerddorol Cymru a Lloegr’, ''Llên Cymru'', 31 (2008), 104–117 | |
{{CC BY-SA Cydymaith}} | {{CC BY-SA Cydymaith}} | ||
+ | [[Categori:Cerddoriaeth]] |
Y diwygiad cyfredol, am 09:51, 26 Mawrth 2021
Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.
Gellan telynor pencerdd, yr honnir mai ef oedd prif delynor bencerdd Gruffudd ap Cynan (c.1055– 1137), brenin Gwynedd, yw’r pencerdd telyn cyntaf y mae cofnod amdano. Mae Historia Gruffud Vab Kenan (a gomisiynwyd gan fab Gruffudd, Owain, ac a ysgrifennwyd mae’n debyg yn fuan wedi 1137, er mai testun o ganol y 13g. yw’r cynharaf i oroesi) yn nodi iddo farw ym mrwydr Aberlleiniog, Llangoed, Môn, tua 1094: ‘Ac ena y diguydus Gellan telynyaur penkerd o barthret Gruffud en e llynges.’
Efallai i Gellan wasanaethu fel bardd teilu yn llys Gruffydd, gan fod Cyfraith Hywel Dda yn pennu mai un o swyddogaethau’r swyddog hwn yn llys y tywysog oedd arwain gosgordd y tywysog (y teulu) i frwydr – o leiaf yn y cyfnod pan fodolai corff o’r fath (tan y 12g. mae’n debyg). Mae enw Gellan yn swnio’n Wyddelig, ac mae’n ddigon posibl fod hynny’n awgrymu iddo ddod draw i Gymru gyda Gruffudd ap Cynan, a aned yn Iwerddon: dywed yr hanesydd o Sir Ddinbych, David Powel (1552–98), fod Gruffudd wedi dod ag amryw o gerddorion medrus (‘divers cunning musicians’) gydag ef o Iwerddon.
Sally Harper
Llyfryddiaeth
- Thomas Parry, ‘Gruffudd ap Cynan’, Y Bywgraffiadur Cymraeg, gol. J. E. Lloyd & R. T. Jenkins (Llundain, 1959), fersiwn newydd arlein (LlGC, 2009) http://yba.llgc.org.uk/cy
- D. S. Evans, A Medieval Prince of Wales: The Life of Gruffudd ap Cynan (Burnham-on-Sea, 1990)
- Sally Harper, ‘Canu’r “Songes of the Doeinges of their Auncestors”: Agweddau ar Draddodiadau Cerddorol Cymru a Lloegr’, Llên Cymru, 31 (2008), 104–117
- Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.