Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Richards, Nansi (Telynores Maldwyn)"

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio
 
(Ni ddangosir y golygiad yn y canol gan ddefnyddiwr arall)
Llinell 1: Llinell 1:
'''Bydd y cofnod hwn ymysg y cannoedd fydd yn ymddangos yn ''Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru'', cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.'''
+
'''Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn [https://www.ylolfa.com/cynnyrch/9781784616250/cydymaith-i-gerddoriaeth-cymru''Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru''], cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.'''
  
 
(1888-1979)
 
(1888-1979)
Llinell 8: Llinell 8:
  
 
Cyflawnodd waith gorchestol fel athrawes telyn yn ogystal, a rhannodd ei dealltwriaeth o’r
 
Cyflawnodd waith gorchestol fel athrawes telyn yn ogystal, a rhannodd ei dealltwriaeth o’r
maes gyda chenedlaethau o gyw-delynorion drwy drosglwyddo ceinciau, amrywiadau, technegau a hanes y traddodiad Cymreig iddynt. Yn ystod cyfnod yr Ail Ryfel Byd ymaelododd ag ENSA (Entertainments National Service Association) ac ymunodd â charfan o ddiddanwyr proffesiynol a weithiai yng ngwersylloedd milwrol y lluoedd arfog ym Mhrydain. Yn 1954 cyhoeddodd cwmni Snell yn Abertawe gyfrol o drefniannau newydd gan Nansi, ''Wyth o Geinciau Cerdd Dant'', oedd yn cynnwys alawon fel ‘Eryri Wen’, ‘Cainc y Clogwyn’ a ‘Mantell Siani’. Yn yr un modd, lluniodd ddarnau unawdol ar gyfer y delyn (e.e. ‘Gaeaf’, ‘Cainc Dona’, ‘Cainc Iona’ a ‘Melfyn’), ac er i’r rhain gael eu recordio gan gwmni Decca/Qualiton, erys y mwyafrif ohonynt mewn [[llawysgrif]] yn bennaf am eu bod yn anghyflawn ac yn anorffenedig o safbwynt nodiant.
+
maes gyda chenedlaethau o gyw-delynorion drwy drosglwyddo ceinciau, amrywiadau, technegau a hanes y traddodiad Cymreig iddynt. Yn ystod cyfnod yr Ail Ryfel Byd ymaelododd ag ENSA (Entertainments National Service Association) ac ymunodd â charfan o ddiddanwyr proffesiynol a weithiai yng ngwersylloedd milwrol y lluoedd arfog ym Mhrydain. Yn 1954 cyhoeddodd cwmni Snell yn Abertawe gyfrol o drefniannau newydd gan Nansi, ''Wyth o Geinciau [[Cerdd Dant]]'', oedd yn cynnwys alawon fel ‘Eryri Wen’, ‘Cainc y Clogwyn’ a ‘Mantell Siani’. Yn yr un modd, lluniodd ddarnau unawdol ar gyfer y delyn (e.e. ‘Gaeaf’, ‘Cainc Dona’, ‘Cainc Iona’ a ‘Melfyn’), ac er i’r rhain gael eu recordio gan gwmni Decca/Qualiton, erys y mwyafrif ohonynt mewn [[llawysgrif]] yn bennaf am eu bod yn anghyflawn ac yn anorffenedig o safbwynt nodiant.
  
 
Fel llythyrwraig, bu Nansi’n gohebu trwy gydol ei gyrfa ar faterion cerddorol, hanesyddol, ieithyddol a llenyddol, a hynny gyda rhai fel Osian Ellis, Joan Rimmer, Iorwerth Peate, Edith Evans, Edward Witsenberg, Erfyl Fychan ac Elfed Lewys. Yn y llythyrau hyn bu Nansi’n olrhain achau nifer o delynorion Cymreig y gorffennol, yn dadlau achos rhai o geinciau ac alawon y traddodiad yng Nghymru ac yn esbonio dulliau canu gyda’r tannau i rai o ddieithriaid y grefft.
 
Fel llythyrwraig, bu Nansi’n gohebu trwy gydol ei gyrfa ar faterion cerddorol, hanesyddol, ieithyddol a llenyddol, a hynny gyda rhai fel Osian Ellis, Joan Rimmer, Iorwerth Peate, Edith Evans, Edward Witsenberg, Erfyl Fychan ac Elfed Lewys. Yn y llythyrau hyn bu Nansi’n olrhain achau nifer o delynorion Cymreig y gorffennol, yn dadlau achos rhai o geinciau ac alawon y traddodiad yng Nghymru ac yn esbonio dulliau canu gyda’r tannau i rai o ddieithriaid y grefft.
Llinell 29: Llinell 29:
  
 
Nia Gwyn Evans, ''Nansi Richards, Telynores Maldwyn'' (Caernarfon, 1996)
 
Nia Gwyn Evans, ''Nansi Richards, Telynores Maldwyn'' (Caernarfon, 1996)
[[Categori:Cerddoriaeth]]
 

Y diwygiad cyfredol, am 15:45, 6 Ebrill 2021

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

(1888-1979)

Telynores draddodiadol a cherddor amlochrog a ddylanwadodd ar faes cerddoriaeth frodorol yng Nghymru yn yr 20g.

Ganed Nansi Richards Jones ar fferm Pen-y-bont ym Mhen-y-bont-fawr, Sir Drefaldwyn. Dan gyfarwyddyd ei thad (Thomas Richards), aelodau o deulu’r sipsiwn Cymreig a’i hathro telyn cyntaf, Tom Lloyd (Telynor Ceiriog), llwyddodd i feithrin techneg a gallu perfformio digymar a fu’n gyfrwng iddi sicrhau bri eisteddfodol a chyfle, yn 1910, i astudio yng Ngholeg Cerdd y Guildhall, Llundain, lle canolbwyntiodd ar ddysgu repertoire y traddodiad clasurol Ewropeaidd. Treuliodd gyfnod yn Unol Daleithiau America (1923–5) yn diddanu cynulleidfaoedd ac unigolion amlwg (gan gynnwys Henry Ford a William Kellogg) gyda’i dawn a’i hathrylith gerddorol. Fel aelod blaenllaw o Gôr Telyn Eryri a chyd-sylfaenydd yr ensemble, treuliodd drigain mlynedd yn perfformio mewn gwyliau, eisteddfodau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol fel cyfeilyddes (i ddatgeinwyr cerdd dant) ac fel unawdydd telyn yng Nghymru a’r tu hwnt.

Cyflawnodd waith gorchestol fel athrawes telyn yn ogystal, a rhannodd ei dealltwriaeth o’r maes gyda chenedlaethau o gyw-delynorion drwy drosglwyddo ceinciau, amrywiadau, technegau a hanes y traddodiad Cymreig iddynt. Yn ystod cyfnod yr Ail Ryfel Byd ymaelododd ag ENSA (Entertainments National Service Association) ac ymunodd â charfan o ddiddanwyr proffesiynol a weithiai yng ngwersylloedd milwrol y lluoedd arfog ym Mhrydain. Yn 1954 cyhoeddodd cwmni Snell yn Abertawe gyfrol o drefniannau newydd gan Nansi, Wyth o Geinciau Cerdd Dant, oedd yn cynnwys alawon fel ‘Eryri Wen’, ‘Cainc y Clogwyn’ a ‘Mantell Siani’. Yn yr un modd, lluniodd ddarnau unawdol ar gyfer y delyn (e.e. ‘Gaeaf’, ‘Cainc Dona’, ‘Cainc Iona’ a ‘Melfyn’), ac er i’r rhain gael eu recordio gan gwmni Decca/Qualiton, erys y mwyafrif ohonynt mewn llawysgrif yn bennaf am eu bod yn anghyflawn ac yn anorffenedig o safbwynt nodiant.

Fel llythyrwraig, bu Nansi’n gohebu trwy gydol ei gyrfa ar faterion cerddorol, hanesyddol, ieithyddol a llenyddol, a hynny gyda rhai fel Osian Ellis, Joan Rimmer, Iorwerth Peate, Edith Evans, Edward Witsenberg, Erfyl Fychan ac Elfed Lewys. Yn y llythyrau hyn bu Nansi’n olrhain achau nifer o delynorion Cymreig y gorffennol, yn dadlau achos rhai o geinciau ac alawon y traddodiad yng Nghymru ac yn esbonio dulliau canu gyda’r tannau i rai o ddieithriaid y grefft.

Yn 1967 fe’i hanrhydeddwyd â’r MBE ym Mhalas Buckingham ac yn 1977 dyfarnwyd doethuriaeth anrhydeddus iddi gan Brifysgol Cymru am ei chyfraniad neilltuol i gerddoriaeth. Yn 1972 y cyhoeddwyd ei hunangofiant, Cwpwrdd Nansi, sy’n amlinellu ei phrofiadau fel cerddor Cymreig yn llinach yr hen delynorion crwydrol. Cyfrannodd drefniannau cerddorol i’r ffilmiau The Last Days of Dolwyn (a gyfarwyddwyd gan Emlyn Williams) a Noson Lawen/The Fruitful Year, ac yn dilyn cyfarfod teyrnged iddi ym Mhafiliwn Corwen (a drefnwyd gan Gymdeithas yr Iaith Gymraeg) yn 1976, sefydlwyd Ymddiriedolaeth Nansi Richards i gefnogi telynorion ifanc yng Nghymru. Roedd yn gymeriad lliwgar a diwylliedig ac yn ymgorfforiad o’r traddodiad cerddorol Cymreig ar ei anterth.

Wyn Thomas

Disgyddiaeth

Celfyddyd Telynores Maldwyn/The Art of Nansi Richards (Sain/Decca DCRC331, 1987 [1973])

Llyfryddiaeth

Nansi Richards Jones, Cwpwrdd Nansi (Llandysul, 1972)

Marged Jones, Nansi (Llandysul, 1981)

Joan Rimmer, ‘Telynores Maldwyn – Nansi Richards’, Welsh Music/Cerddoriaeth Cymru, 7/10 (1982), 18–32

Nia Gwyn Evans, Nansi Richards, Telynores Maldwyn (Caernarfon, 1996)