Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Terfel, Bryn"
CadiW (Sgwrs | cyfraniadau) |
|||
Llinell 88: | Llinell 88: | ||
Pwyll ap Siôn, ‘Marathon yn y Met: diwrnod yn hanes Bryn Terfel’, ''Barn'', 593 (Mehefi n, 2012), 39–41 | Pwyll ap Siôn, ‘Marathon yn y Met: diwrnod yn hanes Bryn Terfel’, ''Barn'', 593 (Mehefi n, 2012), 39–41 | ||
− |
Y diwygiad cyfredol, am 21:54, 27 Ebrill 2021
Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.
(g.1965)
Ganed y bas-bariton Bryn Terfel (Jones) ym Mhantglas, ger Caernarfon. Dangosodd ddiddordeb mewn canu yn ifanc iawn: roedd yn eisteddfodwr brwd ac yn ymddiddori mewn canu cerdd dant. Datblygodd y grefft honno gyda Dafydd G. Jones (Selyf) yng Ngarndolbenmaen cyn mynychu gwersi canu gyda Pauline Desch. Derbyniodd ei addysg uwchradd yn Ysgol Dyffryn Nantlle cyn astudio yn Ysgol Gerdd a Drama’r Guildhall, Llundain, gan dderbyn hyfforddiant lleisiol gan Arthur Reckless. Aeth ymlaen i dderbyn ei addysg gyda Rudolph Piernay yn ystod ei fl wyddyn olaf yn y Guildhall gan ddatblygu ei allu i ganu mewn Almaeneg, Eidaleg a Ffrangeg.
Enillodd Ysgoloriaeth Kathleen Ferrier yn 1988 am ei berfformiad o ‘The Cloths of Heaven’ gan Dilys Elwyn-Edwards, a derbyniodd Fedal Aur wrth raddio o’r Guildhall yn ogystal. Flwyddyn yn ddiweddarach enillodd y wobr Lieder yng Nghystadleuaeth Canwr y Byd, gan gymryd yr ail safle yn y brif gystadleuaeth. Derbyniodd CBE am ei wasanaeth i opera yn 2003, Medal y Frenhines i Gerddoriaeth yn 2006 ac fe’i gwnaethpwyd yn Gymrawd o Brifysgol Aberystwyth, Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru a Choleg yr Iesu, Rhydychen. Dyfarnwyd iddo ddoethuriaeth er anrhydedd gan y Coleg Cerdd Brenhinol Llundain a Phrifysgol Bangor yn 2012, a’i urddo’n farchog gan y Frenhines yn 2017.
Mae Geraint Lewis yn disgrifio Syr Bryn Terfel fel ‘ymgorfforiad rhyngwladol o Gymru ac yn llysgennad answyddogol y genedl’, gan nodi y gellir olrhain ei arbenigedd mewn ynganiad a mynegiant naturiol yn ôl i’w brofiadau ym myd cerdd dant a osododd sylfeini cadarn i’w yrfa gerddorol. Mae llu o feirniaid wedi tynnu sylw at ei ddeallusrwydd, ei bresenoldeb llwyfan a’i garisma fel canwr, ac at ei allu arbennig i ganu gyda chynhesrwydd a hiwmor ond hefyd gyda dwyster mawr.
Dechreuodd ei yrfa ar y llwyfan operatig wrth gymeriadu’r ‘buffo’ yn operâu Mozart. Cymerodd rôl Guglielmo yng nghynhyrchiad Opera Cenedlaethol Cymru o Così fan tutte yn 1990. Aeth ymlaen i wneud ei ymddangosiad cyntaf yn Unol Daleithiau America gyda’r brif rôl yn Figaro ar gyfer Opera Santa Fe yn 1991. Perfformiodd y rhan honno gydag Opera Cenedlaethol Lloegr yr un flwyddyn, ac yn ei hadolygiad o’r cynhyrchiad sylwodd Lindsay Kemp ar ei ‘actio effro a deallus ynghyd â’i ynganu geiriau perffaith wrth ganu gyda chysondeb tôn deniadol a diymdrech’. Ymunodd â’r cwmni Opera Brenhinol, Covent Garden, yn 1992 fel Masetto yn Don Giovanni a derbyniodd wahoddiad i chwarae rhan y prif gymeriad yn Falstaff ar achlysur ailagor y Tŷ Opera Brenhinol yn 1999 a hynny o dan arweiniad Bernard Haitink.
Perfformia mewn nifer helaeth o dai opera nodedig ledled y byd, ac er iddo ddechrau ei yrfa operatig gan ganolbwyntio ar weithiau Mozart, aeth ymlaen i berfformio operâu Verdi a Wagner ymysg llawer eraill. Yn 2005 derbyniodd ganmoliaeth wresog am ei berfformiad o Wotan yn nhrioleg epig Wagner, Der Ring des Nibelungen, gyda Rupert Christiansen yn datgan bod ‘eglurder ei dafluniad lleisiol’ a’i ‘bresenoldeb bonheddig oll yn arddangos celfyddyd brin’, ac yn cyflawni ei dynged fel canwr opera wrth droi at repertoire Wagner.
Ddwy flynedd yn ddiweddarach perfformiodd rôl Sweeney Todd yn sioe gerdd Stephen Sondheim (Royal Festival Hall, 2007). Yn 2015 llwyfannwyd cynhyrchiad arall o’r sioe gerdd honno gan Opera Cenedlaethol Lloegr yn y Coliseum, Llundain. Ymhlith ei berfformiadau diweddarach y mae Falstaff (Opera Cenedlaethol Cymru, 2008); Tosca (Opera Brenhinol, 2009); Die Meistersinger von Nürnberg (Opera Cenedlaethol Cymru, 2010); Der Ring des Nibelungen (Opera Metropolitan Efrog Newydd, 2011–13); Der fliegende Holländer (La Scala, 2013); L’elisir d’amore (Opera Brenhinol, 2015); Fiddler on the Roof (Grange Park Opera, 2015); a Tosca (Opéra de Monte-Carlo, 2016). Perfformiodd waith Rwsieg am y tro cyntaf yn 2016 gan chwarae’r brif ran yn opera Boris Godunov gan Mussorgsky (Opera Brenhinol, 2016) – fel ei berfformiadau o weithiau Wagneraidd, llwydda i bortreadu cymeriadau pwerus, cymhleth a sylweddol trwy gyfuniad o allu cerddorol a phresenoldeb llwyfan argyhoeddiadol a dramatig.
Gwna Bryn Terfel ymddangosiadau cofiadwy ar lwyfannau cyngerdd yn ogystal. Yn 1994 cymerodd ran yng ngwamalrwydd Noson Olaf y Proms yn Neuadd Frenhinol Albert ac ers hynny mae wedi perfformio’n rheolaidd yn y gyfres honno. Yn ogystal, trefnodd Ŵyl y Faenol yng ngogledd Cymru rhwng 2000 a 2008 gan wahodd artistiaid ym myd cerddoriaeth bop megis Edward H Dafis a Bryn Fôn ochr yn ochr â chantorion clasurol megis Angela Gheorghiu ac Andrea Bocelli.
Rhyddhawyd ei albwm unawdol cyntaf, Bryn Terfel: Cyfrol 1, ar label Sain yn 1988, ac fe’i dilynwyd gan gyfrol arall o ganeuon ddwy flynedd yn ddiweddarach. Derbyniodd ei albwm Schwanengesang (1990) adolygiadau ffafriol tu hwnt gan y wasg gerddorol am arddangos ei ddawn arbennig i ddehongli Lieder. Yn 1993 rhyddhawyd Casgliad o Ganeuon Meirion Williams; cenir y caneuon hyn mewn tai opera rhyngwladol, ac o ganlyniad disgrifir Bryn Terfel gan Kenneth Bowen fel ‘allforiwr caneuon Cymraeg ar draws y byd’. Ymddengys sawl recordiad arall ar label Sain gan gynnwys ei ddeuawd ef a Rhys Meirion (Benedictus, 2005) a’r gân elusennol 'Anfonaf Angel' (2011).
Daeth y canwr yn gysylltiedig â’r cwmni recordio uchel ei barch Deutsche Grammophon yn gynnar yn ei yrfa, ac erbyn hyn mae wedi rhyddhau oddeutu 70 o recordiadau gyda nhw. Mae ei ddisgyddiaeth yn tystio i’w allu a’i barodrwydd i ganu cerddoriaeth o bob arddull. Yn gynnar yn yr 1990au recordiodd Marien-Vesper gan Monteverdi, Salome, Tosca a Figaro. Yna yn 1994 recordiodd gasgliad o Lieder gan Schubert, An Die Musik. Rhyddhawyd albwm yn flynyddol wedi hynny, fel yr ymddengys yn y rhestr ddethol a ganlyn. Yn 1995 cafwyd casgliad o ganeuon Seisnig yn The Vagabond; enillodd ei albwm Opera Arias wobr Grammy yn 1996, ac yn yr un flwyddyn rhyddhawyd Something Wonderful, yn seiliedig ar weithiau Rogers a Hammerstein (1996). Dilynwyd y rhain gan Handel Arias (1997) ynghyd â detholiad o ganeuon allan o sioeau cerdd, If Ever I Would Leave You (1998).
Dychwelodd Bryn Terfel i fyd Lieder ar ddechrau’r mileniwm newydd gyda’i ddehongliad o Liederkreis op. 39 gan Schumann. Bu iddo hefyd ryddhau casgliad o ganeuon adnabyddus o Gymru, We’ll Keep a Welcome (2000), cyn recordio operâu Falstaff a Figaro (2001). Daeth albwm Wagner Arias allan yn 2002; dair blynedd yn ddiweddarach cafwyd Silent Noon a Simple Gifts – y naill yn gasgliad o ganeuon Saesneg gan Dilys Elwyn-Edwards, Quilter, Vaughan Williams ac eraill, a’r llall yn cynnwys ffefrynnau cymysg gan ennill gwobr Grammy arall. Wedi hynny rhyddhawyd Tutto Mozart! (2006), yr albwm cymysg A Song in My Heart a’r albwm gwerin Scarborough Fair (2008). Yn 2010 ymddangosodd Bad Boys fel detholiad o ganeuon yn gysylltiedig â chymeriadau dieflig y byd theatrig ac operatig. Yr un flwyddyn llwyddodd y canwr i ddarbwyllo Deutsche Grammophon i gynnwys disg ychwanegol o garolau Cymreig ar eu halbwm Carols & Christmas Songs. Ymhlith ei recordiadau diweddarach y mae The Art of Bryn Terfel (2012); Das Rheingold, Die Walküre a Siegfried (2013); a Homeward Bound (2013) lle mae’n canu gyda Chôr Tabernacl y Mormoniaid.
Mae’n hael ei gefnogaeth i berfformwyr ifanc a newydd. Ac yntau’n gyn-aelod o Gôr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru, ef yw llywydd presennol y côr. Sefydlodd Ysgoloriaeth Bryn Terfel fel cystadleuaeth flynyddol yn 2004 ar gyfer perfformwyr buddugol yn Eisteddfod Urdd Gobaith Cymru. Yn 2009 lansiwyd Ymddiriedolaeth Bryn Terfel i gefnogi perfformwyr ifanc; ym Mai 2012 rhannodd y llwyfan gyda derbynwyr bwrsarïau’r Ymddiriedolaeth mewn cyngerdd i ddathlu canmlwyddiant Neuadd Prichard-Jones ym Mhrifysgol Bangor. Gwelwyd ei gysylltiad â’r Brifysgol yn parhau wrth i’r brif neuadd berfformio yng Nghanolfan Celfyddydau ac Arloesi Pontio, a agorwyd yn 2015, gael ei henwi’n Theatr Bryn Terfel.
Tristian Evans
Disgyddiaeth
Bryn Terfel Cyfrol I (Sain SCD9032, 1989)
Bryn Terfel Cyfrol II (Sain SCD9099, 1990)
Schwanengesang (Sain SCDC4035, 1991)
Caneuon Meirion Williams (Sain SCD2013, 1993)
An Die Musik (Favourite Schubert Songs) (Deutsche Grammophon 445294-2, 1994)
Mahler Symphony No. 7, Kindertotenlieder (Deutsche Grammophon 453133-2, 1994)
The Vagabond & Other Songs (Deutsche Grammophon 445946-2, 1995)
Opera Arias (Deutsche Grammophon 445866-2, 1996)
Something Wonderful: Bryn Terfel Sings Rodgers & Hammerstein (Deutsche Grammophon 449163-2, 1996)
Bryn Terfel Sings Handel Arias (Deutsche Grammophon 453480-2, 1997)
We’ll Keep A Welcome (Deutsche Grammophon 463593-2, 2000)
Schumann: Romances & Ballads (Deutsche Grammophon 447042-2, 2000)
Wagner (Deutsche Grammophon 471348-2,2002)
Bryn (Deutsche Grammophon 474703-2, 2003)
Silent Noon (Deutsche Grammophon 4742192, 2004)
Simple Gifts (Deutsche Grammophon 4775919, 2005)
Bryn Terfel & Rhys Meirion – Benedictus (Sain SCD2500, 2005)
Bad Boys (Deutsche Grammophon 4778091, 2010)
Carols and Christmas Songs (Deutsche Grammophon 4778768, 2010)
Casgliadau:
Y Recordiau Cynnar (Sain SCD2533, 2007)
Llyfryddiaeth
Kemp, Lindsay, ‘Fresh Air’, Musical Times, 133/1787 (Ionawr, 1992), 35
Kenneth Bowen, ‘A Tribute to Bryn Terfel’, Welsh Music/Cerddoriaeth Cymru, 10/4 (2000), 6–7
Geraint Lewis, ‘Bryn Terfel’ yn Trevor Herbert a Peter Stead (gol.), Hymns and Arias: Great Welsh voices (Caerdydd, 2001), 133–45
Rohan, Michael Scott, ‘A model Falstaff’, Gramophone (Hydref, 2001), 8–11
Alun Guy, Cantorion o Fri: Ar Lwyfan y Byd (Llandysul, 2005)
Christiansen, Rupert, ‘Amid the nonsense, a towering Terfel fulfils his destiny’ (8 Mawrth 2005) <http://www.telegraph.co.uk/culture/music/3638369/Amid-thenonsense-a-towering-Terfel-fulfils-his-destiny.html>
Mark Glanville, ‘The performing voice: Bryn Terfel’, Opera Now (Mai/Mehefin, 2009), 35, 37
Pwyll ap Siôn, ‘Marathon yn y Met: diwrnod yn hanes Bryn Terfel’, Barn, 593 (Mehefi n, 2012), 39–41