Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Crasdant"

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio
Llinell 16: Llinell 16:
 
==Disgyddiaeth==
 
==Disgyddiaeth==
  
:''Cerddoriaeth Draddodiadol Gymreig'' (Sain SCD2220, 1999)
+
*''Cerddoriaeth Draddodiadol Gymreig'' (Sain SCD2220, 1999)
  
:''Nos Sadwrn Bach'' (Sain SCD2306, 2001)
+
*''Nos Sadwrn Bach'' (Sain SCD2306, 2001)
  
:''Dwndwr'' (Sain SCD2487, 2005)
+
*''Dwndwr'' (Sain SCD2487, 2005)
  
 
==Llyfryddiaeth==
 
==Llyfryddiaeth==
  
:Adolygiad Paul Burgess o ''Nos Sadwrn Bach'' yn <http:// www.folkmusic.net/htmfiles/webrevs/scd2306.htm>
+
*Adolygiad Paul Burgess o ''Nos Sadwrn Bach'' yn <http:// www.folkmusic.net/htmfiles/webrevs/scd2306.htm>
  
 
{{CC BY-SA Cydymaith}}
 
{{CC BY-SA Cydymaith}}
 +
[[Categori:Cerddoriaeth]]

Diwygiad 14:08, 4 Mai 2021

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Un o grwpiau gwerin offerynnol mwyaf blaenllaw Cymru ers yr 1990au. Yr aelodau gwreiddiol oedd Robin Huw Bowen (telyn deires), Stephen Rees (ffidil ac acordion, un a fu’n aelod o Ar Log ac yn perfformio’n gyson gyda’r gantores Siân James), Andy McLauchlin (ffliwt a phibgorn) a Huw Williams (gitâr a stepio/clocsio). Daeth Chris Bain (ffidil) yn aelod maes o law hefyd.

Bu Robin Huw Bowen, Stephen Rees a Huw Williams yn cynnal gwaith ymchwil i draddodiadau gwerin Cymru. O ganlyniad, mae nifer o alawon y grŵp yn perthyn i gasgliadau o’r 19g.

Ynghyd ag Andy McLauchlin, roedd Robin Huw Bowen a Stephen Rees ymhlith aelodau gwreiddiol Cymdeithas Offerynnau Traddodiadol Cymru a sefydlwyd yn 1996 (fe’i hailenwyd yn Clera yn 2003) ac a fu’n fodd i hybu diddordeb yn y maes gan esgor ddeng mlynedd yn ddiweddarach ar gerddorfa werin Y Glerorfa. Bu Huw Williams yn brif ddehonglwr y traddodiad stepio (neu glocsio) yng Nghymru am flynyddoedd, gan gyhoeddi llyfr ar y pwnc. Bu hefyd yn adnabyddus fel canwr, cyfansoddwr caneuon ac aelod o’r ddeuawd werin Huw a Tony Williams.

Er gwaethaf pwysigrwydd y delyn deires i sain Crasdant, cryfder y grŵp yw eu gallu i asio fel ensemble ac i gynnig dehongliadau safonol, chwaethus a graenus o alawon gwerin o Gymru a thu hwnt, megis riliau, jigs, polkas neu alawon dawns a chân. Er enghraifft, mae ‘Polca Eldra’ oddi ar eu hail record hir, Nos Sadwrn Bach (Sain, 2002), yn seiliedig ar alaw a ddysgodd Robin Huw Bowen gan ei athrawes, y delynores Eldra Jarman (1917–2000), yr olaf i gynrychioli’r traddodiad telynorion sipsi yng Nghymru. Clywir yn nhrefniant Robin Huw Bowen gyfuniadau o alawon megis ‘Girl With the Blue Dress On’ ynghyd â polka gan Walter Bulwer o Norfolk, prawf pellach o’r cysylltiadau a fodolai rhwng y gwahanol draddodiadau (gw. Burgess).

Rhyddhawyd tair record hir ganddynt, i gyd ar label Sain. Clywir yn arddull Crasdant yr awydd i fynd yn ôl at wreiddiau’r traddodiad gwerin a hynny’n rhannol fel ymateb i’r duedd erbyn canol yr 1990au ymysg grwpiau’r cyfnod un ai i symud tuag at sain fwy masnachol roc-gwerin (fel yn achos Ar Log), neu i gyfosod y traddodiad gydag arddulliau eraill (Bob Delyn a’r Ebillion).

Pwyll ap Siôn

Disgyddiaeth

  • Cerddoriaeth Draddodiadol Gymreig (Sain SCD2220, 1999)
  • Nos Sadwrn Bach (Sain SCD2306, 2001)
  • Dwndwr (Sain SCD2487, 2005)

Llyfryddiaeth

  • Adolygiad Paul Burgess o Nos Sadwrn Bach yn <http:// www.folkmusic.net/htmfiles/webrevs/scd2306.htm>



Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.