Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Athrawon Crwydrol"
CadiW (Sgwrs | cyfraniadau) |
CadiW (Sgwrs | cyfraniadau) |
||
(Ni ddangosir y 3 golygiad yn y canol gan yr un defnyddiwr) | |||
Llinell 6: | Llinell 6: | ||
Noda R. D. Griffith gyfraniad mawr gan yr Eglwys Wladol yn y maes hwn. Roedd John Williams (1740– 1821) yn fab i wneuthurwr brethyn, ac fe’i maged yn ymyl Dolgellau; gwelodd rhai o’r masnachwyr gwlân a ymwelai â Dolgellau fod gan John ddoniau cerddorol, a threfnwyd iddo gael cyfnod o ysgol yn Amwythig, lle gallodd ddatblygu ei ddoniau. Cafodd hyfforddiant pellach gan athro teithiol o’r enw John Symonds o Drefaldwyn, a ymwelai’n wythnosol ag eglwys Dolgellau, ac yna bu John Williams ei hun yn cynnal dosbarthiadau cerddorol ar draws gogledd Cymru, gan addysgu cerddorion megis David John James, Ardudwy, Hugh Jones, Maesglasau, a J. R. Jones, Ramoth. | Noda R. D. Griffith gyfraniad mawr gan yr Eglwys Wladol yn y maes hwn. Roedd John Williams (1740– 1821) yn fab i wneuthurwr brethyn, ac fe’i maged yn ymyl Dolgellau; gwelodd rhai o’r masnachwyr gwlân a ymwelai â Dolgellau fod gan John ddoniau cerddorol, a threfnwyd iddo gael cyfnod o ysgol yn Amwythig, lle gallodd ddatblygu ei ddoniau. Cafodd hyfforddiant pellach gan athro teithiol o’r enw John Symonds o Drefaldwyn, a ymwelai’n wythnosol ag eglwys Dolgellau, ac yna bu John Williams ei hun yn cynnal dosbarthiadau cerddorol ar draws gogledd Cymru, gan addysgu cerddorion megis David John James, Ardudwy, Hugh Jones, Maesglasau, a J. R. Jones, Ramoth. | ||
− | Yn ne Cymru bu Abram Morris (1720–83) yn weithgar fel athro yn Sir Fynwy yn arbennig. Mab i glochydd eglwys Llangrannog oedd | + | Yn ne Cymru bu Abram Morris (1720–83) yn weithgar fel athro yn Sir Fynwy yn arbennig. Mab i glochydd eglwys Llangrannog oedd Dafydd Siencyn Morgan (1752–1844), a ddysgodd elfennau cerddoriaeth gan ei dad. Ychwanegodd at ei brofiad cerddorol trwy ymuno â’r Cartreflu Milwrol (y milisia) yn Sir Benfro a chwarae yn y band. Arweiniai’r canu yn eglwys y plwyf ond fe’i cydnabyddid yn eang fel athro dawnus, a bu’n cynnal dosbarthiadau yng ngogledd a de Cymru. Yn Llanidloes a’r ardaloedd cyfagos cafodd Henry Mills (1757–1820) ddylanwad mawr iawn. Ef oedd sylfaenydd olyniaeth gerddorol teulu’r Millsiaid, ac ef hefyd oedd y cyntaf i’w benodi’n swyddogol gan Gyfarfod Misol y Methodistiaid yn yr ardal i hyfforddi’r cynulleidfaoedd yn egwyddorion canu. Parhawyd â’i waith gan ei feibion James Mills a Richard Mills. Roedd hefyd nifer o athrawon di-sôn-amdanynt a ddylanwadodd yn helaeth ar ffigurau pwysig yn y traddodiad Cymreig. Cafodd [[Ieuan Gwyllt (John Roberts; 1822-77) | Ieuan Gwyllt]] (John Roberts; 1822–77) ei wersi cerddorol cyntaf gan athro crwydrol o’r enw ‘Dafydd Siencyn y Borth’, a chan un arall o’r enw Thomas Jenkins, a gynhaliai ddosbarthiadau ym Mhenllwyn, Ceredigion. |
Ymdoddodd traddodiad yr athrawon crwydrol i’r cymdeithasau cerddorol a ffurfiwyd mewn sawl ardal o’r 1820au ymlaen. Sefydlwyd cymdeithasau yn y Carneddi, Bethesda, Rhosllannerchrugog, Aberystwyth a chanolfannau eraill, a daethant yn gyfryngau dysgu a throsglwyddo elfennau cerddoriaeth i’w haelodau. Wedi cyhoeddi ''Gramadeg Cerddoriaeth'' gan John Mills yn 1838 a ''Gramadeg Cerddorol'' gan David Roberts (Alawydd) yn 1848, roedd mwy o gyfarpar ysgrifenedig ar gael yn gyffredinol i gynnal astudiaeth breifat gan unigolion, ac yn sgil hynny lai o ddibyniaeth ar athrawon crwydrol. Cryfhawyd y duedd hon ymhellach gydag ymddangosiad cyfnodolion cerddorol yn yr 1850au a’r 1860au: byddai ''Y Cerddor Cymreig'' (1861–73) yn cynnwys gwersi rheolaidd ar gynghanedd a gwrthbwynt a brofodd yn fuddiol i genhedlaeth gyfan o gerddorion. | Ymdoddodd traddodiad yr athrawon crwydrol i’r cymdeithasau cerddorol a ffurfiwyd mewn sawl ardal o’r 1820au ymlaen. Sefydlwyd cymdeithasau yn y Carneddi, Bethesda, Rhosllannerchrugog, Aberystwyth a chanolfannau eraill, a daethant yn gyfryngau dysgu a throsglwyddo elfennau cerddoriaeth i’w haelodau. Wedi cyhoeddi ''Gramadeg Cerddoriaeth'' gan John Mills yn 1838 a ''Gramadeg Cerddorol'' gan David Roberts (Alawydd) yn 1848, roedd mwy o gyfarpar ysgrifenedig ar gael yn gyffredinol i gynnal astudiaeth breifat gan unigolion, ac yn sgil hynny lai o ddibyniaeth ar athrawon crwydrol. Cryfhawyd y duedd hon ymhellach gydag ymddangosiad cyfnodolion cerddorol yn yr 1850au a’r 1860au: byddai ''Y Cerddor Cymreig'' (1861–73) yn cynnwys gwersi rheolaidd ar gynghanedd a gwrthbwynt a brofodd yn fuddiol i genhedlaeth gyfan o gerddorion. | ||
Llinell 14: | Llinell 14: | ||
==Llyfryddiaeth== | ==Llyfryddiaeth== | ||
− | + | *R. D. Griffith, ''Hanes Canu Cynulleidfaol Cymru'' (Caerdydd, 1948) | |
{{CC BY-SA Cydymaith}} | {{CC BY-SA Cydymaith}} | ||
+ | [[Categori:Cerddoriaeth]] |
Y diwygiad cyfredol, am 15:20, 28 Mai 2021
Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.
Yn y cyfnod cyn bod deunydd ysgrifenedig na choleg nac athrofa i ddysgu cerddoriaeth, rhaid oedd dibynnu ar ddawn athrawon unigol i drosglwyddo’r elfennau o un genhedlaeth i’r nesaf. Cyfyng, mae’n debyg, oedd cylchrediad y gwerslyfrau cerddorol Cymraeg cynnar, ac nid tan ganol y 19g. y byddai astudio elfennau cerddoriaeth o lyfr yn dod yn arfer mwy cyffredinol. Cyn y 18g. dibynnid yn helaeth ar offerynwyr a chantorion i drosglwyddo’u crefft i eraill ar lefel unigol, ond wedi hynny datblygodd yr athrawon cerdd crwydrol fel roedd yr hen arferion yn pallu.
Noda R. D. Griffith gyfraniad mawr gan yr Eglwys Wladol yn y maes hwn. Roedd John Williams (1740– 1821) yn fab i wneuthurwr brethyn, ac fe’i maged yn ymyl Dolgellau; gwelodd rhai o’r masnachwyr gwlân a ymwelai â Dolgellau fod gan John ddoniau cerddorol, a threfnwyd iddo gael cyfnod o ysgol yn Amwythig, lle gallodd ddatblygu ei ddoniau. Cafodd hyfforddiant pellach gan athro teithiol o’r enw John Symonds o Drefaldwyn, a ymwelai’n wythnosol ag eglwys Dolgellau, ac yna bu John Williams ei hun yn cynnal dosbarthiadau cerddorol ar draws gogledd Cymru, gan addysgu cerddorion megis David John James, Ardudwy, Hugh Jones, Maesglasau, a J. R. Jones, Ramoth.
Yn ne Cymru bu Abram Morris (1720–83) yn weithgar fel athro yn Sir Fynwy yn arbennig. Mab i glochydd eglwys Llangrannog oedd Dafydd Siencyn Morgan (1752–1844), a ddysgodd elfennau cerddoriaeth gan ei dad. Ychwanegodd at ei brofiad cerddorol trwy ymuno â’r Cartreflu Milwrol (y milisia) yn Sir Benfro a chwarae yn y band. Arweiniai’r canu yn eglwys y plwyf ond fe’i cydnabyddid yn eang fel athro dawnus, a bu’n cynnal dosbarthiadau yng ngogledd a de Cymru. Yn Llanidloes a’r ardaloedd cyfagos cafodd Henry Mills (1757–1820) ddylanwad mawr iawn. Ef oedd sylfaenydd olyniaeth gerddorol teulu’r Millsiaid, ac ef hefyd oedd y cyntaf i’w benodi’n swyddogol gan Gyfarfod Misol y Methodistiaid yn yr ardal i hyfforddi’r cynulleidfaoedd yn egwyddorion canu. Parhawyd â’i waith gan ei feibion James Mills a Richard Mills. Roedd hefyd nifer o athrawon di-sôn-amdanynt a ddylanwadodd yn helaeth ar ffigurau pwysig yn y traddodiad Cymreig. Cafodd Ieuan Gwyllt (John Roberts; 1822–77) ei wersi cerddorol cyntaf gan athro crwydrol o’r enw ‘Dafydd Siencyn y Borth’, a chan un arall o’r enw Thomas Jenkins, a gynhaliai ddosbarthiadau ym Mhenllwyn, Ceredigion.
Ymdoddodd traddodiad yr athrawon crwydrol i’r cymdeithasau cerddorol a ffurfiwyd mewn sawl ardal o’r 1820au ymlaen. Sefydlwyd cymdeithasau yn y Carneddi, Bethesda, Rhosllannerchrugog, Aberystwyth a chanolfannau eraill, a daethant yn gyfryngau dysgu a throsglwyddo elfennau cerddoriaeth i’w haelodau. Wedi cyhoeddi Gramadeg Cerddoriaeth gan John Mills yn 1838 a Gramadeg Cerddorol gan David Roberts (Alawydd) yn 1848, roedd mwy o gyfarpar ysgrifenedig ar gael yn gyffredinol i gynnal astudiaeth breifat gan unigolion, ac yn sgil hynny lai o ddibyniaeth ar athrawon crwydrol. Cryfhawyd y duedd hon ymhellach gydag ymddangosiad cyfnodolion cerddorol yn yr 1850au a’r 1860au: byddai Y Cerddor Cymreig (1861–73) yn cynnwys gwersi rheolaidd ar gynghanedd a gwrthbwynt a brofodd yn fuddiol i genhedlaeth gyfan o gerddorion.
Rhidian Griffiths
Llyfryddiaeth
- R. D. Griffith, Hanes Canu Cynulleidfaol Cymru (Caerdydd, 1948)
- Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.