Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Boyce, Max (g.1943)"
CadiW (Sgwrs | cyfraniadau) (→Disgyddiaeth) |
CadiW (Sgwrs | cyfraniadau) |
||
(Ni ddangosir y golygiad yn y canol gan yr un defnyddiwr) | |||
Llinell 4: | Llinell 4: | ||
Ganed Max Boyce yng Nglyn-nedd i deulu a oedd wedi symud yno o Ynys-hir yn y Rhondda. Y diwydiant glo oedd y dylanwad pennaf ar ei ddyddiau cynnar. Cafodd ei dad ei ladd mewn ffrwydrad tanddaearol ddyddiau’n unig ar ôl genedigaeth ei fab. Er hynny, bu Max Boyce ei hun yn gweithio mewn pyllau glo am ddegawd, profiad sy’n cael ei adlewyrchu mewn caneuon megis ‘Duw! It’s Hard’ a ‘Rhondda Grey’. Fe’i prentisiwyd yn drydanwr yng nghwmni Metal Box yng Nghwm Nedd ac yn ddiweddarach astudiodd i fod yn beiriannydd mwyngloddio ym Mhontypridd. | Ganed Max Boyce yng Nglyn-nedd i deulu a oedd wedi symud yno o Ynys-hir yn y Rhondda. Y diwydiant glo oedd y dylanwad pennaf ar ei ddyddiau cynnar. Cafodd ei dad ei ladd mewn ffrwydrad tanddaearol ddyddiau’n unig ar ôl genedigaeth ei fab. Er hynny, bu Max Boyce ei hun yn gweithio mewn pyllau glo am ddegawd, profiad sy’n cael ei adlewyrchu mewn caneuon megis ‘Duw! It’s Hard’ a ‘Rhondda Grey’. Fe’i prentisiwyd yn drydanwr yng nghwmni Metal Box yng Nghwm Nedd ac yn ddiweddarach astudiodd i fod yn beiriannydd mwyngloddio ym Mhontypridd. | ||
− | Wrth astudio yno ymddangosodd ar lwyfannau lleol yn canu [[caneuon gwerin]]. Yn raddol daeth y perfformiadau hyn i gynnwys y straeon doniol sydd mor nodweddiadol o’i allbwn fel canwr a baledwr. Rhyddhaodd hefyd ddwy record. Y gyntaf o’r rhain oedd ''Max Boyce in Session'', a recordiwyd yn y Valley Folk Club, Pontardawe (Cambrian, 1971). Ymhlith y caneuon yr oedd nifer a ddaeth yn ffefrynnau mawr megis ‘Hymns and Arias’ a ‘Slow – Men at Work’. Yn yr un flwyddyn hefyd y rhyddhawyd ''Caneuon Amrywiol'', unwaith eto gan Cambrian. | + | Wrth astudio yno ymddangosodd ar lwyfannau lleol yn canu [[Gwerin, Canu a Cherddoriaeth Draddodiadol | caneuon gwerin]]. Yn raddol daeth y perfformiadau hyn i gynnwys y straeon doniol sydd mor nodweddiadol o’i allbwn fel canwr a baledwr. Rhyddhaodd hefyd ddwy record. Y gyntaf o’r rhain oedd ''Max Boyce in Session'', a recordiwyd yn y Valley Folk Club, Pontardawe (Cambrian, 1971). Ymhlith y caneuon yr oedd nifer a ddaeth yn ffefrynnau mawr megis ‘Hymns and Arias’ a ‘Slow – Men at Work’. Yn yr un flwyddyn hefyd y rhyddhawyd ''Caneuon Amrywiol'', unwaith eto gan Cambrian. |
O ganlyniad i’r recordiau hyn, ynghyd ag ymddangosiad ar y rhaglen deledu ''Opportunity Knocks'', daeth Max Boyce i sylw cwmni EMI. Dechreuodd ei yrfa o ddifrif ar 23 Tachwedd 1973 pan recordiodd yr albwm byw ''Live at Treorchy'' (EMI, 1974). Heb fawr o amser i baratoi, llwyddodd i hel criw o gerddorion ynghyd, a pherfformiwyd caneuon megis ‘The Outside-Half Factory’ a ‘The Ballad of Morgan the Moon’ o flaen cynulleidfa nad oedd wedi clywed am y canwr. Dotiodd y gynulleidfa at ei ganeuon, at eu perthnasedd lleol, hiwmor ffraeth a’u cyfeiriadau doniol at fyd rygbi. | O ganlyniad i’r recordiau hyn, ynghyd ag ymddangosiad ar y rhaglen deledu ''Opportunity Knocks'', daeth Max Boyce i sylw cwmni EMI. Dechreuodd ei yrfa o ddifrif ar 23 Tachwedd 1973 pan recordiodd yr albwm byw ''Live at Treorchy'' (EMI, 1974). Heb fawr o amser i baratoi, llwyddodd i hel criw o gerddorion ynghyd, a pherfformiwyd caneuon megis ‘The Outside-Half Factory’ a ‘The Ballad of Morgan the Moon’ o flaen cynulleidfa nad oedd wedi clywed am y canwr. Dotiodd y gynulleidfa at ei ganeuon, at eu perthnasedd lleol, hiwmor ffraeth a’u cyfeiriadau doniol at fyd rygbi. | ||
Llinell 10: | Llinell 10: | ||
Llwyddodd y recordiad o’r cyngerdd yn Nhreorci greu record aur i Boyce ac i gwmni EMI. Dilynodd ''We All Had Doctors’ Papers'' (EMI, 1975), a recordiwyd yng nghlwb rygbi Pontarddulais. Aeth i rif un yn siartiau’r albymau, y tro cyntaf i record gomedi gyflawni’r fath gamp. Roedd llwyddiant caneuon rygbi Boyce yn adlewyrchu oes aur y tîm cenedlaethol, gyda sêr megis Gareth Edwards, Barry John a Gerald Davies yn disgleirio ar y maes. Dilynodd recordiau aur eraill, megis ''The Incredible Plan'' (EMI, 1976) ac ''I Know ’Cos I Was There!'' (EMI, 1978). | Llwyddodd y recordiad o’r cyngerdd yn Nhreorci greu record aur i Boyce ac i gwmni EMI. Dilynodd ''We All Had Doctors’ Papers'' (EMI, 1975), a recordiwyd yng nghlwb rygbi Pontarddulais. Aeth i rif un yn siartiau’r albymau, y tro cyntaf i record gomedi gyflawni’r fath gamp. Roedd llwyddiant caneuon rygbi Boyce yn adlewyrchu oes aur y tîm cenedlaethol, gyda sêr megis Gareth Edwards, Barry John a Gerald Davies yn disgleirio ar y maes. Dilynodd recordiau aur eraill, megis ''The Incredible Plan'' (EMI, 1976) ac ''I Know ’Cos I Was There!'' (EMI, 1978). | ||
− | Yn sgil y llwyddiannau hyn a’i ddawn i ddiddanu cynulleidfa, blodeuodd ei yrfa fel cyflwynydd [[rhaglenni teledu]]. Yn ystod yr 1980au a’r 1990au bu’n perfformio mewn pantomeimiau. Cymerodd ran hefyd mewn cyfres o raglenni her ar y teledu. Byddai’n derbyn sialens ym mhob un, megis chwarae pêl-droed Americanaidd, marchogaeth fel cowboi mewn rodeo a chwarae polo ar gefn eliffant. Yn 1999 cyflwynodd y gyfres ''An Evening with Max Boyce'' (BBC Wales), gan ddenu cynulleidfa iau a niferus iawn. Torrodd y gyfres record BBC Wales o ran ffigyrau gwylio. Canodd yn y seremoni i agor Cynulliad Cenedlaethol Cymru ym Mae Caerdydd ac yng Nghwpan Rygbi’r Byd yn 1999. Yn 2000 derbyniodd yr MBE a thanlinellwyd ei boblogrwydd pan ffurfiwyd band teyrnged iddo, sef Boycezone. | + | Yn sgil y llwyddiannau hyn a’i ddawn i ddiddanu cynulleidfa, blodeuodd ei yrfa fel cyflwynydd [[Rhaglenni Teledu Pop | rhaglenni teledu]]. Yn ystod yr 1980au a’r 1990au bu’n perfformio mewn pantomeimiau. Cymerodd ran hefyd mewn cyfres o raglenni her ar y teledu. Byddai’n derbyn sialens ym mhob un, megis chwarae pêl-droed Americanaidd, marchogaeth fel cowboi mewn rodeo a chwarae polo ar gefn eliffant. Yn 1999 cyflwynodd y gyfres ''An Evening with Max Boyce'' (BBC Wales), gan ddenu cynulleidfa iau a niferus iawn. Torrodd y gyfres record BBC Wales o ran ffigyrau gwylio. Canodd yn y seremoni i agor Cynulliad Cenedlaethol Cymru ym Mae Caerdydd ac yng Nghwpan Rygbi’r Byd yn 1999. Yn 2000 derbyniodd yr MBE a thanlinellwyd ei boblogrwydd pan ffurfiwyd band teyrnged iddo, sef Boycezone. |
Dros ddeugain mlynedd ar ôl dechrau ei yrfa yng nghlybiau bychain cymoedd y de roedd wedi llwyddo i werthu dros ddwy filiwn o recordiau a chreu canon o ganeuon poblogaidd, yn enwedig felly ymhlith selogion y byd rygbi. | Dros ddeugain mlynedd ar ôl dechrau ei yrfa yng nghlybiau bychain cymoedd y de roedd wedi llwyddo i werthu dros ddwy filiwn o recordiau a chreu canon o ganeuon poblogaidd, yn enwedig felly ymhlith selogion y byd rygbi. | ||
Llinell 29: | Llinell 29: | ||
{{CC BY-SA Cydymaith}} | {{CC BY-SA Cydymaith}} | ||
+ | [[Categori:Cerddoriaeth]] |
Y diwygiad cyfredol, am 16:08, 28 Mai 2021
Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.
Ganed Max Boyce yng Nglyn-nedd i deulu a oedd wedi symud yno o Ynys-hir yn y Rhondda. Y diwydiant glo oedd y dylanwad pennaf ar ei ddyddiau cynnar. Cafodd ei dad ei ladd mewn ffrwydrad tanddaearol ddyddiau’n unig ar ôl genedigaeth ei fab. Er hynny, bu Max Boyce ei hun yn gweithio mewn pyllau glo am ddegawd, profiad sy’n cael ei adlewyrchu mewn caneuon megis ‘Duw! It’s Hard’ a ‘Rhondda Grey’. Fe’i prentisiwyd yn drydanwr yng nghwmni Metal Box yng Nghwm Nedd ac yn ddiweddarach astudiodd i fod yn beiriannydd mwyngloddio ym Mhontypridd.
Wrth astudio yno ymddangosodd ar lwyfannau lleol yn canu caneuon gwerin. Yn raddol daeth y perfformiadau hyn i gynnwys y straeon doniol sydd mor nodweddiadol o’i allbwn fel canwr a baledwr. Rhyddhaodd hefyd ddwy record. Y gyntaf o’r rhain oedd Max Boyce in Session, a recordiwyd yn y Valley Folk Club, Pontardawe (Cambrian, 1971). Ymhlith y caneuon yr oedd nifer a ddaeth yn ffefrynnau mawr megis ‘Hymns and Arias’ a ‘Slow – Men at Work’. Yn yr un flwyddyn hefyd y rhyddhawyd Caneuon Amrywiol, unwaith eto gan Cambrian.
O ganlyniad i’r recordiau hyn, ynghyd ag ymddangosiad ar y rhaglen deledu Opportunity Knocks, daeth Max Boyce i sylw cwmni EMI. Dechreuodd ei yrfa o ddifrif ar 23 Tachwedd 1973 pan recordiodd yr albwm byw Live at Treorchy (EMI, 1974). Heb fawr o amser i baratoi, llwyddodd i hel criw o gerddorion ynghyd, a pherfformiwyd caneuon megis ‘The Outside-Half Factory’ a ‘The Ballad of Morgan the Moon’ o flaen cynulleidfa nad oedd wedi clywed am y canwr. Dotiodd y gynulleidfa at ei ganeuon, at eu perthnasedd lleol, hiwmor ffraeth a’u cyfeiriadau doniol at fyd rygbi.
Llwyddodd y recordiad o’r cyngerdd yn Nhreorci greu record aur i Boyce ac i gwmni EMI. Dilynodd We All Had Doctors’ Papers (EMI, 1975), a recordiwyd yng nghlwb rygbi Pontarddulais. Aeth i rif un yn siartiau’r albymau, y tro cyntaf i record gomedi gyflawni’r fath gamp. Roedd llwyddiant caneuon rygbi Boyce yn adlewyrchu oes aur y tîm cenedlaethol, gyda sêr megis Gareth Edwards, Barry John a Gerald Davies yn disgleirio ar y maes. Dilynodd recordiau aur eraill, megis The Incredible Plan (EMI, 1976) ac I Know ’Cos I Was There! (EMI, 1978).
Yn sgil y llwyddiannau hyn a’i ddawn i ddiddanu cynulleidfa, blodeuodd ei yrfa fel cyflwynydd rhaglenni teledu. Yn ystod yr 1980au a’r 1990au bu’n perfformio mewn pantomeimiau. Cymerodd ran hefyd mewn cyfres o raglenni her ar y teledu. Byddai’n derbyn sialens ym mhob un, megis chwarae pêl-droed Americanaidd, marchogaeth fel cowboi mewn rodeo a chwarae polo ar gefn eliffant. Yn 1999 cyflwynodd y gyfres An Evening with Max Boyce (BBC Wales), gan ddenu cynulleidfa iau a niferus iawn. Torrodd y gyfres record BBC Wales o ran ffigyrau gwylio. Canodd yn y seremoni i agor Cynulliad Cenedlaethol Cymru ym Mae Caerdydd ac yng Nghwpan Rygbi’r Byd yn 1999. Yn 2000 derbyniodd yr MBE a thanlinellwyd ei boblogrwydd pan ffurfiwyd band teyrnged iddo, sef Boycezone.
Dros ddeugain mlynedd ar ôl dechrau ei yrfa yng nghlybiau bychain cymoedd y de roedd wedi llwyddo i werthu dros ddwy filiwn o recordiau a chreu canon o ganeuon poblogaidd, yn enwedig felly ymhlith selogion y byd rygbi.
Jon Gower a Sarah Hill
Disgyddiaeth
- In Session (Cambrian MCT207, 1971)
- The World of Max Boyce (Decca PA469, 1971)
- ‘Live’ At Treorchy (EMI OU2033, 1974)
- We All Had Doctors’ Papers (EMI MB101, 1975)
- I Know ’Cos I Was There! (EMI Max1001, 1978)
- Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.