Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Aberjaber"
CadiW (Sgwrs | cyfraniadau) |
|||
(Ni ddangosir y 16 golygiad yn y canol gan 2 ddefnyddiwr arall) | |||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
__NOAUTOLINKS__ | __NOAUTOLINKS__ | ||
− | + | '''Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn [https://www.ylolfa.com/cynnyrch/9781784616250/cydymaith-i-gerddoriaeth-cymru''Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru''], cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.''' | |
− | + | [[Gwerin, grwpiau | Grŵp gwerin]] offerynnol o ardal Abertawe a fu’n nodedig am eu hagwedd arbrofol ac eclectig wrth gyfuno elfennau o’r traddodiad Cymraeg gydag alawon, seiniau ac arferion gwerin eraill. Sefydlwyd y band yn 1983. Yr aelodau gwreiddiol oedd Peter Stacey (ffliwt, sacsoffonau, chwislau, pibau Cymreig, ''bodhrán''), Delyth Evans ([[telyn]] Geltaidd) a Stevie Wishart ([[ffidil]], feiola, [[crwth]], ''hurdy-gurdy''), ill tri yn gyn-aelodau o’r grŵp gwerin Cromlech. Roedd y trac ‘Hindeg’, a ryddhawyd ar albwm olaf Cromlech, ''Igam Ogam'' (Sain, 1982), yn arwydd o’r cyfeiriad a gymerwyd gan Aberjaber. Bu Peter Stacey a Stevie Wishart yn dilyn astudiaethau ôlradd mewn cerddoriaeth, gyda’r naill yn ymchwilio i gerddoriaeth yr 20g. (gan gynnwys [[jazz]], chwarae byrfyfyr a diwylliannau cerddorol y byd) a’r llall yn archwilio’r cysylltiadau rhwng chwarae’r ffidil yn y dull Iberaidd traddodiadol a thechnegau’r ffidil yn yr Oesoedd Canol. | |
− | Safai cerddoriaeth Aberjaber ar wahân i duedd gyffredinol grwpiau gwerin Cymreig; fel yn achos Cromlech, roeddynt yn cynnwys cyfartaledd uwch na grwpiau eraill o’r cyfnod o ddeunydd tu allan i Gymru, ac mae eu recordiadau offerynnol yn cynnwys llai o dipyn o gadwyni o alawon. Er gwaethaf is-deitl eu recordiad cyntaf (‘Music from the Celtic Countries’), buont hefyd yn estyn ffiniau eu ''repertoire'' yn ehangach, gan berfformio cerddoriaeth o lawysgrif Robert ap Huw o gerddoriaeth telyn o’r 17g. a chyfansoddiadau gwreiddiol ochr yn ochr ag alawon dawns o Gymru a gwledydd Celtaidd eraill. Mae eu cyfansoddiadau gwreiddiol hefyd yn mynd y tu hwnt i’r alawon dwy-ran cymesur a ddisgwylir yn ''repertoire'' y dawnsiau. Roedd awgrym o hynny wedi bod eisoes yn albwm Cromlech, ''Igam Ogam'' (Sain, 1982), gyda’r trefniant estynedig o ‘Hin Deg’, a daeth yn fwy amlwg ar recordiadau Aberjaber lle ysgrifennwyd cyfansoddiad Wishart ‘Stevie’s Tune’, er enghraifft, gyda’r bwriad o ‘ymestyn arferion traddodiadol o gerddoriaeth werin’ (gw. Rees 2007, 334). | + | Clywir rhai o’r dylanwadau hyn ar eu halbwm eponymaidd cyntaf (Sain, 1985), sy’n cynnwys trefniannau o alawon Cymraeg ynghyd ag alawon o wledydd eraill, megis ‘Hoffedd Meistres’ ac alaw draddodiadol o Galisia, ‘Aires De Pontevedra’. Rhyddhawyd ''Aberdaujaber'' flwyddyn yn ddiweddarach, gyda’r chwaraewr pibau Albanaidd Peter Wallace yn cyfrannu hefyd ar ‘The Lament for Ronald MacDonald of Morar’. Ar ôl seibiant o ddegawd ailffurfiodd y grŵp, gyda Ben Assare (''cello'', offerynnau taro) yn cymryd lle Stevie Wishart, gan ryddhau ''Y Bwced Perffaith'' (Sain, 1997), a oedd yn gyfuniad creadigol o alawon Cymreig, Gwyddelig, Albanaidd a Galisiaidd wedi eu gwisgo ar brydiau mewn harmonïau jazz a churiadau Affricanaidd. |
+ | |||
+ | Safai cerddoriaeth Aberjaber ar wahân i duedd gyffredinol grwpiau gwerin Cymreig; fel yn achos Cromlech, roeddynt yn cynnwys cyfartaledd uwch na grwpiau eraill o’r cyfnod o ddeunydd a ddeuai tu allan i Gymru, ac mae eu recordiadau offerynnol yn cynnwys llai o dipyn o gadwyni o alawon. Er gwaethaf is-deitl eu recordiad cyntaf (‘Music from the Celtic Countries’), buont hefyd yn estyn ffiniau eu ''repertoire'' yn ehangach, gan berfformio cerddoriaeth o lawysgrif [[Ap Huw, Robert (c.1580-1665) | Robert ap Huw]] o gerddoriaeth telyn o’r 17g. a chyfansoddiadau gwreiddiol ochr yn ochr ag alawon dawns o Gymru a gwledydd Celtaidd eraill. Mae eu cyfansoddiadau gwreiddiol hefyd yn mynd y tu hwnt i’r alawon dwy-ran cymesur a ddisgwylir yn ''repertoire'' y dawnsiau. Roedd awgrym o hynny wedi bod eisoes yn albwm Cromlech, ''Igam Ogam'' (Sain, 1982), gyda’r trefniant estynedig o ‘Hin Deg’, a daeth yn fwy amlwg ar recordiadau Aberjaber lle ysgrifennwyd cyfansoddiad Wishart ‘Stevie’s Tune’, er enghraifft, gyda’r bwriad o ‘ymestyn arferion traddodiadol o gerddoriaeth werin’ (gw. Rees 2007, 334). | ||
'''Pwyll ap Siôn''' | '''Pwyll ap Siôn''' | ||
− | == | + | ==Disgyddiaeth== |
− | + | ||
+ | *''Aberjaber'' (Sain 1340M, 1985) | ||
+ | |||
+ | *''Aberdaujaber'' (Sain 1410M, 1986) | ||
− | + | *''Y Bwced Perffaith'' (Sain SCD2157, 1997) | |
− | |||
− | + | ==Llyfryddiaeth== | |
− | + | *Stephen P. Rees, ‘Traddodiad Celtaidd Newydd? Perfformiad Offerynnol gan Grwpiau yn yr Adfywiad Gwerin yng Nghymru, c.1975–c.1989’, ''Hanes Cerddoriaeth Cymru'' 7 (2007), 325–43. | |
{{CC BY-SA Cydymaith}} | {{CC BY-SA Cydymaith}} | ||
[[Categori:Cerddoriaeth]] | [[Categori:Cerddoriaeth]] |
Y diwygiad cyfredol, am 20:06, 31 Mai 2021
Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.
Grŵp gwerin offerynnol o ardal Abertawe a fu’n nodedig am eu hagwedd arbrofol ac eclectig wrth gyfuno elfennau o’r traddodiad Cymraeg gydag alawon, seiniau ac arferion gwerin eraill. Sefydlwyd y band yn 1983. Yr aelodau gwreiddiol oedd Peter Stacey (ffliwt, sacsoffonau, chwislau, pibau Cymreig, bodhrán), Delyth Evans (telyn Geltaidd) a Stevie Wishart (ffidil, feiola, crwth, hurdy-gurdy), ill tri yn gyn-aelodau o’r grŵp gwerin Cromlech. Roedd y trac ‘Hindeg’, a ryddhawyd ar albwm olaf Cromlech, Igam Ogam (Sain, 1982), yn arwydd o’r cyfeiriad a gymerwyd gan Aberjaber. Bu Peter Stacey a Stevie Wishart yn dilyn astudiaethau ôlradd mewn cerddoriaeth, gyda’r naill yn ymchwilio i gerddoriaeth yr 20g. (gan gynnwys jazz, chwarae byrfyfyr a diwylliannau cerddorol y byd) a’r llall yn archwilio’r cysylltiadau rhwng chwarae’r ffidil yn y dull Iberaidd traddodiadol a thechnegau’r ffidil yn yr Oesoedd Canol.
Clywir rhai o’r dylanwadau hyn ar eu halbwm eponymaidd cyntaf (Sain, 1985), sy’n cynnwys trefniannau o alawon Cymraeg ynghyd ag alawon o wledydd eraill, megis ‘Hoffedd Meistres’ ac alaw draddodiadol o Galisia, ‘Aires De Pontevedra’. Rhyddhawyd Aberdaujaber flwyddyn yn ddiweddarach, gyda’r chwaraewr pibau Albanaidd Peter Wallace yn cyfrannu hefyd ar ‘The Lament for Ronald MacDonald of Morar’. Ar ôl seibiant o ddegawd ailffurfiodd y grŵp, gyda Ben Assare (cello, offerynnau taro) yn cymryd lle Stevie Wishart, gan ryddhau Y Bwced Perffaith (Sain, 1997), a oedd yn gyfuniad creadigol o alawon Cymreig, Gwyddelig, Albanaidd a Galisiaidd wedi eu gwisgo ar brydiau mewn harmonïau jazz a churiadau Affricanaidd.
Safai cerddoriaeth Aberjaber ar wahân i duedd gyffredinol grwpiau gwerin Cymreig; fel yn achos Cromlech, roeddynt yn cynnwys cyfartaledd uwch na grwpiau eraill o’r cyfnod o ddeunydd a ddeuai tu allan i Gymru, ac mae eu recordiadau offerynnol yn cynnwys llai o dipyn o gadwyni o alawon. Er gwaethaf is-deitl eu recordiad cyntaf (‘Music from the Celtic Countries’), buont hefyd yn estyn ffiniau eu repertoire yn ehangach, gan berfformio cerddoriaeth o lawysgrif Robert ap Huw o gerddoriaeth telyn o’r 17g. a chyfansoddiadau gwreiddiol ochr yn ochr ag alawon dawns o Gymru a gwledydd Celtaidd eraill. Mae eu cyfansoddiadau gwreiddiol hefyd yn mynd y tu hwnt i’r alawon dwy-ran cymesur a ddisgwylir yn repertoire y dawnsiau. Roedd awgrym o hynny wedi bod eisoes yn albwm Cromlech, Igam Ogam (Sain, 1982), gyda’r trefniant estynedig o ‘Hin Deg’, a daeth yn fwy amlwg ar recordiadau Aberjaber lle ysgrifennwyd cyfansoddiad Wishart ‘Stevie’s Tune’, er enghraifft, gyda’r bwriad o ‘ymestyn arferion traddodiadol o gerddoriaeth werin’ (gw. Rees 2007, 334).
Pwyll ap Siôn
Disgyddiaeth
- Aberjaber (Sain 1340M, 1985)
- Aberdaujaber (Sain 1410M, 1986)
- Y Bwced Perffaith (Sain SCD2157, 1997)
Llyfryddiaeth
- Stephen P. Rees, ‘Traddodiad Celtaidd Newydd? Perfformiad Offerynnol gan Grwpiau yn yr Adfywiad Gwerin yng Nghymru, c.1975–c.1989’, Hanes Cerddoriaeth Cymru 7 (2007), 325–43.
- Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.