Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Guest, George (1924–2002)"

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio
 
(Ni ddangosir y golygiad yn y canol gan yr un defnyddiwr)
Llinell 2: Llinell 2:
 
'''Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn [https://www.ylolfa.com/cynnyrch/9781784616250/cydymaith-i-gerddoriaeth-cymru''Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru''], cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.'''
 
Organydd, athro ac un o [[arweinyddion corawl]] pwysicaf ei genhedlaeth, ganed George Howell Guest ym Mangor ar 9 Chwefror 1924.
+
Organydd, athro ac un o [[Arweinydd, Arweinyddion | arweinyddion corawl]] pwysicaf ei genhedlaeth, ganed George Howell Guest ym Mangor ar 9 Chwefror 1924.
  
Daeth ei brofiadau cynnar o berfformio cerddoriaeth eglwysig tra’n fachgen yn canu yng Nghadeirlan Bangor, ac yna yng Nghaer, lle bu’n organydd o dan Malcolm Boyle. Yn dilyn cyfnod gyda’r llu awyr fe dderbyniodd ysgoloriaeth ar gyfer chwarae’r organ yng ngholeg Sant Ioan, Caergrawnt (1947–51) o dan Robin Orr, gan ddod yn organydd yno’n ddiweddarach. Roedd ei athrawon yng Nghaergrawnt yn cynnwys Boris Ord a Thurston Dart. Daeth Guest ei hun yn ddarlithydd yno rhwng 1956 ac 1982, ac yn organydd i’r brifysgol rhwng 1974 ac 1991. Derbyniodd MusD Lambeth yn 1977, CBE yn 1987, a bu’n llywydd Coleg Brenhinol yr Organyddion (1978–80).
 
Llinell 9: Llinell 9:
  
Roedd yn hoff o ganu cadarn, pwerus ac emosiynol, gan osod pwyslais ar arwyddocâd y testun a’i ystyr. Rhoddai bwyslais ar bwysigrwydd newid ansawdd y llais ynghyd â sicrhau defnydd eang o ddynameg, fibrato lleisiol, a sain fwy ‘cyfandirol’ ei naws. Hyfforddodd genedlaethau niferus o gantorion ac organyddion, ac fe ddaeth nifer o’r rhain yn eu tro yn gerddorion blaenllaw yn eu maes.
 
''Yn seiliedig ar gofnod yn y'' New Grove Dictionary of Music and Musicians ''(2001)''
 
Llinell 15: Llinell 14:
 
==Llyfryddiaeth==
 
==Llyfryddiaeth==
  
:Stanley Webb, ‘The Sound of St John’s’, ''Gramophone'', xlvii (1969–70), 1578–83
+
*Stanley Webb, ‘The Sound of St John’s’, ''Gramophone'', xlvii (1969–70), 1578–83
  
{{CC BY-SA Cydymaith}}
 
{{CC BY-SA Cydymaith}}
 +
[[Categori:Cerddoriaeth]]

Y diwygiad cyfredol, am 15:53, 8 Gorffennaf 2021

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Organydd, athro ac un o arweinyddion corawl pwysicaf ei genhedlaeth, ganed George Howell Guest ym Mangor ar 9 Chwefror 1924.

Daeth ei brofiadau cynnar o berfformio cerddoriaeth eglwysig tra’n fachgen yn canu yng Nghadeirlan Bangor, ac yna yng Nghaer, lle bu’n organydd o dan Malcolm Boyle. Yn dilyn cyfnod gyda’r llu awyr fe dderbyniodd ysgoloriaeth ar gyfer chwarae’r organ yng ngholeg Sant Ioan, Caergrawnt (1947–51) o dan Robin Orr, gan ddod yn organydd yno’n ddiweddarach. Roedd ei athrawon yng Nghaergrawnt yn cynnwys Boris Ord a Thurston Dart. Daeth Guest ei hun yn ddarlithydd yno rhwng 1956 ac 1982, ac yn organydd i’r brifysgol rhwng 1974 ac 1991. Derbyniodd MusD Lambeth yn 1977, CBE yn 1987, a bu’n llywydd Coleg Brenhinol yr Organyddion (1978–80).

Fe’i cofir yn bennaf am ei waith fel arweinydd côr Sant Ioan, lle bu’n cyfarwyddo’r côr am ddeugain mlynedd (1951–91). O dan ofal Guest fe ryddhaodd y côr dros 60 o recordiadau (gan gwmpasu ystod eang yn cynnwys Beethoven, Byrd, Duruflé, Fauré, Haydn, Langlais, Mozart, Palestrina, Taverner, Tye a Victoria). Roedd sain soniarus y côr i’w chlywed yn arbennig o effeithiol wrth ganu cerddoriaeth o gyfnod y Dadeni. Bu ei ymdrechion i hyrwyddo repertoire gyfoes wrth gomisiynu darnau newydd ar gyfer y côr gan gyfansoddwyr megis Michael Tippett, Herbert Howells a Lennox Berkeley yn fodd i fywiogi’r traddodiad lleisiol Anglicanaidd, ac roedd ei ddylanwad ar arddull berfformio, yn arbennig lleisiau’r bechgyn, yn hynod bwysig.

Roedd yn hoff o ganu cadarn, pwerus ac emosiynol, gan osod pwyslais ar arwyddocâd y testun a’i ystyr. Rhoddai bwyslais ar bwysigrwydd newid ansawdd y llais ynghyd â sicrhau defnydd eang o ddynameg, fibrato lleisiol, a sain fwy ‘cyfandirol’ ei naws. Hyfforddodd genedlaethau niferus o gantorion ac organyddion, ac fe ddaeth nifer o’r rhain yn eu tro yn gerddorion blaenllaw yn eu maes.

Yn seiliedig ar gofnod yn y New Grove Dictionary of Music and Musicians (2001)

Llyfryddiaeth

  • Stanley Webb, ‘The Sound of St John’s’, Gramophone, xlvii (1969–70), 1578–83

Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.