Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Parr-Davies, Harry (1914-55)"
CadiW (Sgwrs | cyfraniadau) |
CadiW (Sgwrs | cyfraniadau) |
||
Llinell 2: | Llinell 2: | ||
'''Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn [https://www.ylolfa.com/cynnyrch/9781784616250/cydymaith-i-gerddoriaeth-cymru''Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru''], cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.''' | '''Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn [https://www.ylolfa.com/cynnyrch/9781784616250/cydymaith-i-gerddoriaeth-cymru''Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru''], cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.''' | ||
− | Pianydd a chyfansoddwr caneuon poblogaidd. Fe’i ganed yn Llansawel, Sir Forgannwg, yn fab i grydd ac fe’i haddysgwyd yn Ysgol Ramadeg Castell-nedd. Yno cyfarfu â [[Henry Walford Davies]], a roddodd wersi iddo ar yr organ a’i annog i fynd i Brifysgol Rhydychen i astudio cerddoriaeth. Ni chymerodd y cyngor hwnnw, er bod ei ddoniau cerddorol yn rhyfeddol. Yn 1931 daeth yn gyfeilydd i’r gantores boblogaidd Gracie Fields. Roedd wedi ceisio ennill ei sylw fel cyfansoddwr, ond ei allu fel pianydd a wnaeth argraff arni. Parhaodd y bartneriaeth am dros ddeng mlynedd, ac yn ystod y cyfnod hwnnw ysgrifennodd Parr-Davies rai o ganeuon mwyaf llwyddiannus a hirhoedlog Fields, gan gynnwys ‘Sing as we go’ a ‘Wish me luck as you wave me goodbye’, y bu’r ddwy ohonynt yn eithriadol o boblogaidd yn ystod blynyddoedd y rhyfel. | + | Pianydd a chyfansoddwr caneuon poblogaidd. Fe’i ganed yn Llansawel, Sir Forgannwg, yn fab i grydd ac fe’i haddysgwyd yn Ysgol Ramadeg Castell-nedd. Yno cyfarfu â [[Davies, Henry Walford (1869-1941) | Henry Walford Davies]], a roddodd wersi iddo ar yr organ a’i annog i fynd i Brifysgol Rhydychen i astudio cerddoriaeth. Ni chymerodd y cyngor hwnnw, er bod ei ddoniau cerddorol yn rhyfeddol. Yn 1931 daeth yn gyfeilydd i’r gantores boblogaidd Gracie Fields. Roedd wedi ceisio ennill ei sylw fel cyfansoddwr, ond ei allu fel pianydd a wnaeth argraff arni. Parhaodd y bartneriaeth am dros ddeng mlynedd, ac yn ystod y cyfnod hwnnw ysgrifennodd Parr-Davies rai o ganeuon mwyaf llwyddiannus a hirhoedlog Fields, gan gynnwys ‘Sing as we go’ a ‘Wish me luck as you wave me goodbye’, y bu’r ddwy ohonynt yn eithriadol o boblogaidd yn ystod blynyddoedd y rhyfel. |
− | Ar ôl y rhyfel, cyfansoddodd gerddoriaeth ar gyfer | + | Ar ôl y rhyfel, cyfansoddodd gerddoriaeth ar gyfer rhai o ffilmiau George Formby, ac yna cychwynnodd ar gyfres o fentrau lle bu’n cydweithio ag eraill ar sioeau theatr yn Llundain. Efallai mai’r fwyaf llwyddiannus oedd ''The Lisbon Story'' (1943) a oedd yn cynnwys y gân enwog ‘Pedro the fisherman’. Bu farw’n sydyn ac yn annisgwyl yn Llundain o ganlyniad i effeithiau alcohol ar friw ar y stumog. Fe’i claddwyd ym mynwent Ystumllwynarth. |
− | rhai o ffilmiau George Formby, ac yna cychwynnodd ar gyfres o fentrau lle bu’n cydweithio ag eraill ar sioeau theatr yn Llundain. Efallai mai’r fwyaf llwyddiannus oedd ''The Lisbon Story'' (1943) a oedd yn cynnwys y gân enwog ‘Pedro the fisherman’. Bu farw’n sydyn ac yn annisgwyl yn Llundain o ganlyniad i effeithiau alcohol ar friw ar y stumog. Fe’i claddwyd ym mynwent Ystumllwynarth. | ||
Dywedir ei fod yn eithriadol o swil a thawedog, ac roedd ei bersonoliaeth yn rhwystr iddo rhag datblygu’r enwogrwydd personol a haeddai ei waith; hyd yn oed yn ei oes ei hun, pan gâi ei ganeuon eu canu bob dydd, roedd yn gymeriad cymharol anhysbys, ac ar ôl ei farwolaeth annhymig aeth hyd yn oed yn llai adnabyddus. | Dywedir ei fod yn eithriadol o swil a thawedog, ac roedd ei bersonoliaeth yn rhwystr iddo rhag datblygu’r enwogrwydd personol a haeddai ei waith; hyd yn oed yn ei oes ei hun, pan gâi ei ganeuon eu canu bob dydd, roedd yn gymeriad cymharol anhysbys, ac ar ôl ei farwolaeth annhymig aeth hyd yn oed yn llai adnabyddus. |
Y diwygiad cyfredol, am 08:59, 16 Gorffennaf 2021
Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.
Pianydd a chyfansoddwr caneuon poblogaidd. Fe’i ganed yn Llansawel, Sir Forgannwg, yn fab i grydd ac fe’i haddysgwyd yn Ysgol Ramadeg Castell-nedd. Yno cyfarfu â Henry Walford Davies, a roddodd wersi iddo ar yr organ a’i annog i fynd i Brifysgol Rhydychen i astudio cerddoriaeth. Ni chymerodd y cyngor hwnnw, er bod ei ddoniau cerddorol yn rhyfeddol. Yn 1931 daeth yn gyfeilydd i’r gantores boblogaidd Gracie Fields. Roedd wedi ceisio ennill ei sylw fel cyfansoddwr, ond ei allu fel pianydd a wnaeth argraff arni. Parhaodd y bartneriaeth am dros ddeng mlynedd, ac yn ystod y cyfnod hwnnw ysgrifennodd Parr-Davies rai o ganeuon mwyaf llwyddiannus a hirhoedlog Fields, gan gynnwys ‘Sing as we go’ a ‘Wish me luck as you wave me goodbye’, y bu’r ddwy ohonynt yn eithriadol o boblogaidd yn ystod blynyddoedd y rhyfel.
Ar ôl y rhyfel, cyfansoddodd gerddoriaeth ar gyfer rhai o ffilmiau George Formby, ac yna cychwynnodd ar gyfres o fentrau lle bu’n cydweithio ag eraill ar sioeau theatr yn Llundain. Efallai mai’r fwyaf llwyddiannus oedd The Lisbon Story (1943) a oedd yn cynnwys y gân enwog ‘Pedro the fisherman’. Bu farw’n sydyn ac yn annisgwyl yn Llundain o ganlyniad i effeithiau alcohol ar friw ar y stumog. Fe’i claddwyd ym mynwent Ystumllwynarth.
Dywedir ei fod yn eithriadol o swil a thawedog, ac roedd ei bersonoliaeth yn rhwystr iddo rhag datblygu’r enwogrwydd personol a haeddai ei waith; hyd yn oed yn ei oes ei hun, pan gâi ei ganeuon eu canu bob dydd, roedd yn gymeriad cymharol anhysbys, ac ar ôl ei farwolaeth annhymig aeth hyd yn oed yn llai adnabyddus.
Mewn gwirionedd, roedd yn un o’r cyfansoddwyr caneuon mwyaf dawnus a welodd yr 20g. Roedd yn gerddor gwych a lwyddodd i ddal ysbryd ei oes yn ei waith. Gallai llawer o’i ganeuon mwyaf poblogaidd weithio fel gorymdeithiau, ac efallai mai hynny, ynghyd â’u hoptimistiaeth wydn a chadarn, a apeliodd at y dycnwch cenedlaethol a dreiddiai drwy’r gymdeithas Brydeinig yn ystod blynyddoedd y rhyfel a’r cyfnod wedi’r rhyfel.
Trevor Herbert
- Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.