Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Rhaglenni Teledu Pop"
CadiW (Sgwrs | cyfraniadau) (Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda '__NOAUTOLINKS__ '''Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn [https://www.ylolfa.com/cynnyrch/9781784616250/cydymaith-i-gerddoriaeth-cymru''Cydy...') |
CadiW (Sgwrs | cyfraniadau) |
||
(Ni ddangosir y 4 golygiad yn y canol gan yr un defnyddiwr) | |||
Llinell 4: | Llinell 4: | ||
Ymddangosodd artistiaid pop ar raglenni teledu mor bell yn ôl ag 1964 - yr un flwyddyn â darllediad cyntaf ''Top of the Pops'' - pan ddarlledwyd ''Hob y Deri Dando'' am y tro cyntaf. Sioe gerdd oedd honno gyda phwyslais ar gerddoriaeth canu gwlad ar y cyfan. Erbyn 1968 roedd TWW wedi herio rhaglen y BBC gydag ''Ysgubor Lawen''. Roedd y ddwy raglen yn canolbwyntio ar gerddoriaeth a oedd yn addas i’r nosweithiau llawen. Yn wir, yn ddiweddarach, o ddyddiau cynnar S4C, cafodd nosweithiau o’r fath eu darlledu yn yr un diwyg o dan y teitl ''Noson Lawen''. | Ymddangosodd artistiaid pop ar raglenni teledu mor bell yn ôl ag 1964 - yr un flwyddyn â darllediad cyntaf ''Top of the Pops'' - pan ddarlledwyd ''Hob y Deri Dando'' am y tro cyntaf. Sioe gerdd oedd honno gyda phwyslais ar gerddoriaeth canu gwlad ar y cyfan. Erbyn 1968 roedd TWW wedi herio rhaglen y BBC gydag ''Ysgubor Lawen''. Roedd y ddwy raglen yn canolbwyntio ar gerddoriaeth a oedd yn addas i’r nosweithiau llawen. Yn wir, yn ddiweddarach, o ddyddiau cynnar S4C, cafodd nosweithiau o’r fath eu darlledu yn yr un diwyg o dan y teitl ''Noson Lawen''. | ||
− | Cafodd cyfresi i artistiaid penodol hefyd eu comisiynu gan y BBC a TWW/HTV o ganol yr 1960au ymlaen, gyda sioeau megis ''Dyma Dafydd'' ([[Dafydd Iwan]]; 1966), ''Tony ac Aloma'' (1969), a ''Gwrando ar fy Nghân'' ([[Heather Jones]]; 1972). Fodd bynnag, Disc a Dawn (1966) a wnaeth y cyfraniad pwysicaf i foderneiddio’r byd pop. Dechreuodd fel rhaglen gylchgrawn i ieuenctid a gynhwysai berfformiadau [[canu pop]], ond trodd yn rhaglen gerddoriaeth benodol erbyn 1968. | + | Cafodd cyfresi i artistiaid penodol hefyd eu comisiynu gan y BBC a TWW/HTV o ganol yr 1960au ymlaen, gyda sioeau megis ''Dyma Dafydd'' ([[Iwan, Dafydd (g.1943) | Dafydd Iwan]]; 1966), ''Tony ac Aloma'' (1969), a ''Gwrando ar fy Nghân'' ([[Jones, Heather (g.1949) | Heather Jones]]; 1972). Fodd bynnag, ''Disc a Dawn'' (1966) a wnaeth y cyfraniad pwysicaf i foderneiddio’r byd pop. Dechreuodd fel rhaglen gylchgrawn i ieuenctid a gynhwysai berfformiadau [[Poblogaidd, Cerddoriaeth | canu pop]], ond trodd yn rhaglen gerddoriaeth benodol erbyn 1968. |
− | Cafodd ''Disc a Dawn'' effaith aruthrol ar y byd pop Cymraeg a rhoddodd hwb enfawr i artistiaid. Darparodd fersiwn Cymraeg o’r ‘Hit Parade’ - sef Deg Uchaf ''Y Cymro'', a gyhoeddid bob wythnos - a bu’n fodd i hyrwyddo rhyddhau recordiau a digwyddiadau byw ledled Cymru. Gyda chymaint o gantorion protest megis Dafydd Iwan a [[Huw Jones]] yn ymddangos yn rheolaidd ar y sioe, derbyniodd feirniadaeth hallt gan rai - George Thomas yn enwedig - a chyhuddwyd y cynhyrchwyr o roi llwyfan wythnosol i Blaid Cymru. Erbyn yr 1970au, fodd bynnag, roedd y rhaglen yn wynebu cystadleuaeth o gyfeiriad y byd pop ei hunan. Derbyniad llugoer a gafodd y newid i ddiwyg ‘disgo’ yn 1972. Cwynai eraill fod ymddangosiad artistiaid ‘hŷn’, megis [[ | + | Cafodd ''Disc a Dawn'' effaith aruthrol ar y byd pop Cymraeg a rhoddodd hwb enfawr i artistiaid. Darparodd fersiwn Cymraeg o’r ‘Hit Parade’ - sef Deg Uchaf ''Y Cymro'', a gyhoeddid bob wythnos - a bu’n fodd i hyrwyddo rhyddhau recordiau a digwyddiadau byw ledled Cymru. Gyda chymaint o gantorion protest megis Dafydd Iwan a [[Jones, Huw (g.1948) | Huw Jones]] yn ymddangos yn rheolaidd ar y sioe, derbyniodd feirniadaeth hallt gan rai - George Thomas yn enwedig - a chyhuddwyd y cynhyrchwyr o roi llwyfan wythnosol i Blaid Cymru. Erbyn yr 1970au, fodd bynnag, roedd y rhaglen yn wynebu cystadleuaeth o gyfeiriad y byd pop ei hunan. Derbyniad llugoer a gafodd y newid i ddiwyg ‘disgo’ yn 1972. Cwynai eraill fod ymddangosiad artistiaid ‘hŷn’, megis [[Hogia'r Wyddfa]], yn tanseilio perthnasedd y sioe i’r gynulleidfa ifanc. |
− | Yn 1974 disodlwyd ''Disc a Dawn'' gan ''Gwerin ’74''. Er gwaetha’r enw rhoddodd y rhaglen lwyfan i [[gerddoriaeth roc]] megis [[Edward H Dafis]]. Yn ddiweddarach llwyddodd ''Twndish'' a ''Seren Wib'' i roi sylw i fandiau pync a thon newydd ''(new wave)'' yr 1970au hwyr, er i ''Twndish'' gythruddo llawer drwy estyn gwahoddiadau i fandiau Saesneg megis X-Ray Spex. | + | Yn 1974 disodlwyd ''Disc a Dawn'' gan ''Gwerin ’74''. Er gwaetha’r enw rhoddodd y rhaglen lwyfan i [[Poblogaidd, Cerddoriaeth | gerddoriaeth roc]] megis [[Edward H Dafis]]. Yn ddiweddarach llwyddodd ''Twndish'' a ''Seren Wib'' i roi sylw i fandiau pync a thon newydd ''(new wave)'' yr 1970au hwyr, er i ''Twndish'' gythruddo llawer drwy estyn gwahoddiadau i fandiau Saesneg megis X-Ray Spex. |
− | Cafwyd nifer o raglenni byrhoedlog yn ystod yr 1980au, rhai megis ''Roc ar ôl Te'', ''Sêr'', ''Larwm'' a ''Stid'', ond gyda darllediad cyntaf ''Fideo 9'' yn 1988 cychwynnodd oes newydd yn hanes y sîn roc. Roedd artistiaid megis Huw Jones, [[Y Dyniadon Ynfyd Hirfelyn Tesog]] a’r [[Bara Menyn]] eisoes wedi arbrofi gyda chlipiau gweledol ar gyfer eu caneuon, ond ''Fideo 9'' - gweledigaeth [[Geraint Jarman]] - oedd y rhaglen Gymraeg gyntaf i arbenigo mewn creu fideos cerddoriaeth. Drwy roi sylw i fandiau megis [[Anhrefn]], [[Ffa Coffi Pawb]] a Traddodiad Ofnus, bu’n gyfrifol am ehangu ystod creadigol canu poblogaidd Cymraeg. Daeth ''Fideo 9'' i ben yn 1992, ond fe’i dilynwyd gan sioeau megis ''Garej'' ac ''i-dot''. Ers 2000 mae sioeau megis ''4trac'' (2000-02), ''Y Sesiwn Hwyr'' (2000-03), ''Y Set'' (2003), ''Bandit'' (2004-11) a ''Stiwdio Gefn'' (2012-17) wedi parhau i roi cyfle i fandiau ac artistiaid Cymraeg ddatblygu eu gyrfaoedd. | + | Cafwyd nifer o raglenni byrhoedlog yn ystod yr 1980au, rhai megis ''Roc ar ôl Te'', ''Sêr'', ''Larwm'' a ''Stid'', ond gyda darllediad cyntaf ''Fideo 9'' yn 1988 cychwynnodd oes newydd yn hanes y sîn roc. Roedd artistiaid megis Huw Jones, [[Dyniadon Ynfyd Hirfelyn Tesog, Y | Y Dyniadon Ynfyd Hirfelyn Tesog]] a’r [[Bara Menyn]] eisoes wedi arbrofi gyda chlipiau gweledol ar gyfer eu caneuon, ond ''Fideo 9'' - gweledigaeth [[Jarman, Geraint (g.1950) | Geraint Jarman]] - oedd y rhaglen Gymraeg gyntaf i arbenigo mewn creu fideos cerddoriaeth. Drwy roi sylw i fandiau megis [[Anhrefn]], [[Ffa Coffi Pawb]] a Traddodiad Ofnus, bu’n gyfrifol am ehangu ystod creadigol canu poblogaidd Cymraeg. Daeth ''Fideo 9'' i ben yn 1992, ond fe’i dilynwyd gan sioeau megis ''Garej'' ac ''i-dot''. Ers 2000 mae sioeau megis ''4trac'' (2000-02), ''Y Sesiwn Hwyr'' (2000-03), ''Y Set'' (2003), ''Bandit'' (2004-11) a ''Stiwdio Gefn'' (2012-17) wedi parhau i roi cyfle i fandiau ac artistiaid Cymraeg ddatblygu eu gyrfaoedd. |
'''Craig Owen Jones''' | '''Craig Owen Jones''' |
Y diwygiad cyfredol, am 18:45, 7 Awst 2021
Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.
Ymddangosodd artistiaid pop ar raglenni teledu mor bell yn ôl ag 1964 - yr un flwyddyn â darllediad cyntaf Top of the Pops - pan ddarlledwyd Hob y Deri Dando am y tro cyntaf. Sioe gerdd oedd honno gyda phwyslais ar gerddoriaeth canu gwlad ar y cyfan. Erbyn 1968 roedd TWW wedi herio rhaglen y BBC gydag Ysgubor Lawen. Roedd y ddwy raglen yn canolbwyntio ar gerddoriaeth a oedd yn addas i’r nosweithiau llawen. Yn wir, yn ddiweddarach, o ddyddiau cynnar S4C, cafodd nosweithiau o’r fath eu darlledu yn yr un diwyg o dan y teitl Noson Lawen.
Cafodd cyfresi i artistiaid penodol hefyd eu comisiynu gan y BBC a TWW/HTV o ganol yr 1960au ymlaen, gyda sioeau megis Dyma Dafydd ( Dafydd Iwan; 1966), Tony ac Aloma (1969), a Gwrando ar fy Nghân ( Heather Jones; 1972). Fodd bynnag, Disc a Dawn (1966) a wnaeth y cyfraniad pwysicaf i foderneiddio’r byd pop. Dechreuodd fel rhaglen gylchgrawn i ieuenctid a gynhwysai berfformiadau canu pop, ond trodd yn rhaglen gerddoriaeth benodol erbyn 1968.
Cafodd Disc a Dawn effaith aruthrol ar y byd pop Cymraeg a rhoddodd hwb enfawr i artistiaid. Darparodd fersiwn Cymraeg o’r ‘Hit Parade’ - sef Deg Uchaf Y Cymro, a gyhoeddid bob wythnos - a bu’n fodd i hyrwyddo rhyddhau recordiau a digwyddiadau byw ledled Cymru. Gyda chymaint o gantorion protest megis Dafydd Iwan a Huw Jones yn ymddangos yn rheolaidd ar y sioe, derbyniodd feirniadaeth hallt gan rai - George Thomas yn enwedig - a chyhuddwyd y cynhyrchwyr o roi llwyfan wythnosol i Blaid Cymru. Erbyn yr 1970au, fodd bynnag, roedd y rhaglen yn wynebu cystadleuaeth o gyfeiriad y byd pop ei hunan. Derbyniad llugoer a gafodd y newid i ddiwyg ‘disgo’ yn 1972. Cwynai eraill fod ymddangosiad artistiaid ‘hŷn’, megis Hogia'r Wyddfa, yn tanseilio perthnasedd y sioe i’r gynulleidfa ifanc.
Yn 1974 disodlwyd Disc a Dawn gan Gwerin ’74. Er gwaetha’r enw rhoddodd y rhaglen lwyfan i gerddoriaeth roc megis Edward H Dafis. Yn ddiweddarach llwyddodd Twndish a Seren Wib i roi sylw i fandiau pync a thon newydd (new wave) yr 1970au hwyr, er i Twndish gythruddo llawer drwy estyn gwahoddiadau i fandiau Saesneg megis X-Ray Spex.
Cafwyd nifer o raglenni byrhoedlog yn ystod yr 1980au, rhai megis Roc ar ôl Te, Sêr, Larwm a Stid, ond gyda darllediad cyntaf Fideo 9 yn 1988 cychwynnodd oes newydd yn hanes y sîn roc. Roedd artistiaid megis Huw Jones, Y Dyniadon Ynfyd Hirfelyn Tesog a’r Bara Menyn eisoes wedi arbrofi gyda chlipiau gweledol ar gyfer eu caneuon, ond Fideo 9 - gweledigaeth Geraint Jarman - oedd y rhaglen Gymraeg gyntaf i arbenigo mewn creu fideos cerddoriaeth. Drwy roi sylw i fandiau megis Anhrefn, Ffa Coffi Pawb a Traddodiad Ofnus, bu’n gyfrifol am ehangu ystod creadigol canu poblogaidd Cymraeg. Daeth Fideo 9 i ben yn 1992, ond fe’i dilynwyd gan sioeau megis Garej ac i-dot. Ers 2000 mae sioeau megis 4trac (2000-02), Y Sesiwn Hwyr (2000-03), Y Set (2003), Bandit (2004-11) a Stiwdio Gefn (2012-17) wedi parhau i roi cyfle i fandiau ac artistiaid Cymraeg ddatblygu eu gyrfaoedd.
Craig Owen Jones
- Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.