Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Samuel, Rhian (g.1944)"
CadiW (Sgwrs | cyfraniadau) |
CadiW (Sgwrs | cyfraniadau) |
||
Llinell 5: | Llinell 5: | ||
Daeth Samuel i sylw’r cyhoedd gyda ''The Hare in the Moon'' (1978) ar gyfer soprano a phiano, a oedd yn osodiad o destun gan yr awdur Japaneaidd Ryokan. Mae rhan y llais yn aml yn amlygu cyfyngau penodol (megis seithfedau lleiaf a mwyaf) ac yn defnyddio technegu estynedig a melisma i atgyfnerthu ystyr y geiriau (gw. yr enghraifft gerddorol). [[Delwedd:The Hare in the Moon Rhian Samuel.png|thumb|<small>''The Hare in the Moon'' gan Rhian Samuel (mm.7–17) (© Stainer & Bell).</small>]] | Daeth Samuel i sylw’r cyhoedd gyda ''The Hare in the Moon'' (1978) ar gyfer soprano a phiano, a oedd yn osodiad o destun gan yr awdur Japaneaidd Ryokan. Mae rhan y llais yn aml yn amlygu cyfyngau penodol (megis seithfedau lleiaf a mwyaf) ac yn defnyddio technegu estynedig a melisma i atgyfnerthu ystyr y geiriau (gw. yr enghraifft gerddorol). [[Delwedd:The Hare in the Moon Rhian Samuel.png|thumb|<small>''The Hare in the Moon'' gan Rhian Samuel (mm.7–17) (© Stainer & Bell).</small>]] | ||
− | |||
Yn ogystal, mae nifer o’i gweithiau lleisiol a chorawl yn rhoi llais i brofiad menywod, gan osod testunau gan feirdd, er enghraifft gwaith Ann Stevenson yn ''Daughters’ Letters'' (1997), neu destun lle mae merched yn ‘siarad drostynt eu hunain’ (Pendle 2001, 243–44), gan fynegi eu hing o fewn darnau ar raddfa fawr megis yn ''Clytemnestra'' (1994), neu’r cylch o ganeuon ''Cerddi Hynafol'' (2001) sy’n defnyddio barddoniaeth Gymraeg gynnar. | Yn ogystal, mae nifer o’i gweithiau lleisiol a chorawl yn rhoi llais i brofiad menywod, gan osod testunau gan feirdd, er enghraifft gwaith Ann Stevenson yn ''Daughters’ Letters'' (1997), neu destun lle mae merched yn ‘siarad drostynt eu hunain’ (Pendle 2001, 243–44), gan fynegi eu hing o fewn darnau ar raddfa fawr megis yn ''Clytemnestra'' (1994), neu’r cylch o ganeuon ''Cerddi Hynafol'' (2001) sy’n defnyddio barddoniaeth Gymraeg gynnar. |
Diwygiad 19:55, 31 Awst 2021
Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.
Cyfansoddwr o Aber-nant, ger Aberdâr, yw Rhian Samuel. Wedi astudio gydag Andrew Byrne ym Mhrifysgol Reading enillodd ei BA yn 1966 a’i BMus yn 1967. Parhaodd â’i hastudiaethau ôl-radd yn Unol Daleithiau America gyda Robert Wykes (g.1926) a Paul Pisk (1893–1990) ym Mhrifysgol Washington, St Louis, gan dderbyn MA yn 1970 a PhD yn 1978. O 1977 hyd 1983 bu’n dysgu yn Conservatoire Cerdd St Louis cyn dychwelyd i Brydain yn 1984 pan gafodd ei phenodi’n ddarlithydd ym Mhrifysgol Reading; hi oedd pennaeth yr adran gerdd yno rhwng 1993 ac 1995. Roedd yn gyd-enillydd Gwobr Rudolph Nissim gyda Chymdeithas y Cyfansoddwyr, Awduron a Chyhoeddwyr Americanaidd yn 1983 am La belle dame sans merci a chyd-olygodd (gyda Julie Anne Sadie) y New Grove Dictionary of Women Composers (1994). Yn 1995 daeth yn ddarllenydd ym Mhrifysgol y Ddinas, Llundain, gan ddod yn Athro Emeritus Cerdd yno yn 2010 ynghyd â’i gwahodd fel tiwtor cyfansoddi yng Ngholeg Magdalen, Rhydychen.
Daeth Samuel i sylw’r cyhoedd gyda The Hare in the Moon (1978) ar gyfer soprano a phiano, a oedd yn osodiad o destun gan yr awdur Japaneaidd Ryokan. Mae rhan y llais yn aml yn amlygu cyfyngau penodol (megis seithfedau lleiaf a mwyaf) ac yn defnyddio technegu estynedig a melisma i atgyfnerthu ystyr y geiriau (gw. yr enghraifft gerddorol).Yn ogystal, mae nifer o’i gweithiau lleisiol a chorawl yn rhoi llais i brofiad menywod, gan osod testunau gan feirdd, er enghraifft gwaith Ann Stevenson yn Daughters’ Letters (1997), neu destun lle mae merched yn ‘siarad drostynt eu hunain’ (Pendle 2001, 243–44), gan fynegi eu hing o fewn darnau ar raddfa fawr megis yn Clytemnestra (1994), neu’r cylch o ganeuon Cerddi Hynafol (2001) sy’n defnyddio barddoniaeth Gymraeg gynnar.
Yn gynnar yn ei gyrfa cafodd Rhian Samuel gryn lwyddiant gyda gweithiau ar raddfa fawr, sy’n cynnwys Elegy-Symphony (1981) i gerddorfa a La belle dame sans merci (1983) ar gyfer corws a cherddorfa. Mae’r darnau hyn yn idiomatig o’u cyfnod, wedi eu hysgrifennu mewn arddull uniongyrchol gan ychwanegu technegau modern ar gyfer effaith a lliw. Fodd bynnag, mae ei darnau cerddorfaol diweddarach yn dibynnu ar arddull fwy tonyddol a neo-ramantaidd sy’n aml yn ymwneud ag elfen o natur, megis Dawnsiau’r Nant (1999) a Tirluniau (2000), a berfformiwyd am y tro cyntaf yn y Proms.
Guto Puw
Cyfansoddiadau (rhestr ddethol)
Cerddorfaol:
- Elegy-Symphony (1981), ar gyfer cerddorfa
- Clytemnestra (1994), ar gyfer soprano a cherddorfa
- Dawnsiau’r Nant (1999), ar gyfer cerddorfa
- Tirluniau (2000), ar gyfer cerddorfa
Ensemble/offerynnol:
- Quartet: Light and Water (2003), ar gyfer piano a llinynnau
- Threaded Light (2012), ar gyfer pedwarawd llinynnol
Lleisiol/corawl:
- The Hare in the Moon (1978), ar gyfer soprano a phiano
- La Belle Dame Sans Merci (1982/1987), ar gyfer corws SATB a cherddorfa
- Lovesongs and Observations (1989), ar gyfer côr SATB
- Daughters’ Letters (1996), ar gyfer soprano ac ensemble
- Cerddi Hynafol (2001), ar gyfer mezzo-soprano a phiano
- Nantcol Songs (2003), ar gyfer llais uchel/cymharol uchel a phiano
- The Flowing Sand (2006), ar gyfer bariton a phiano
- Summer Songs (2012), ar gyfer llais uchel/cymharol uchel a phiano
Disgyddiaeth
- Ariel (HAL004, 2008)
- Shadow Dance [yn British Music for Flute, Oboe and Piano] (Dutton CDLX7181, 2006)
- Blythswood [yn British Rhapsody] (Stone Records 5060192780352, 2013)
- Traquair Music [yn Daystream Dances] (Hester Park CD7707, 2000)
- Nantcol Songs: A Perfect View [yn A Garland for Presteigne] (Metronome METCD1065, 2004)
- The Gaze [yn Love said to me…] (Stone Records 5060192780451, 2014)
- Songs of Earth and Air: The Kingfisher ac April Rise [yn Music by Women] (Capstone CPS-8714, 2003)
- Threnody with Fanfares yn North Star (Deux-Elles DXL1097, 2006)
- Light and Water (Deux-Elles DXL1128, 2007)
Gwefannau
Llyfryddiaeth
- Karine Pendle (gol.), Women and Music: A History (Indiana, 2001)
- Elaine Barkin, ‘A Response to Rhian Samuel’, Perspectives of New Music, 40/2 (Mehefin, 2002), 275–77
- Sharon Mabry, Exploring Twentieth-Century Vocal Music (OUP, 2002)
- Joyce Andrews, ‘Composer Rhian Samuel: the Female Viewpoint and Welsh Influences in her Vocal Music,’ Women & Music, 8 (2004), 61–73
- Guy Rickards, ‘Rhian Samuel’s Quartet, Light & Water,’ Tempo, 58 (Hydref, 2004), 58–60
- Nicholas Williams, ‘Composer focus: Rhian Samuel,’ Mastersinger (Gwanwyn 2004), 22–3
- Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.