Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Joanna Quinn"

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio
(Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda ' right Er iddi fabwysiadu dinas Caerdydd yn gartref a chanolfan i’w gwaith ers sawl degawd, ganwyd yr animeiddwraig a’r ...')
 
Llinell 14: Llinell 14:
 
''Bywgraffiad gan Dr. Gwenno Ffrancon.''
 
''Bywgraffiad gan Dr. Gwenno Ffrancon.''
  
Cyfeirnodau
+
 
 +
'''Cyfeirnodau'''
  
 
David Berry, ''Wales and Cinema – The First Hundred Years'' (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 1994)
 
David Berry, ''Wales and Cinema – The First Hundred Years'' (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 1994)

Diwygiad 14:45, 20 Rhagfyr 2013

Er iddi fabwysiadu dinas Caerdydd yn gartref a chanolfan i’w gwaith ers sawl degawd, ganwyd yr animeiddwraig a’r gyfarwyddwraig Joanna Quinn yn ninas Birmingham ym 1962. Dysgodd ei chrefft ar gwrs gradd Dylunio Graffig yng ngholeg Polytechnig Middlesex ac yno lluniodd ddrafft bras o’r ffilm Girls Night Out ar gyfer ei sioe raddio ym 1985. Cwblhaodd y ffilm ddwy flynedd yn ddiweddarach ar ôl derbyn cyllid gan Channel 4 ac S4C, ynghyd â chyfle i’w darlledu ar y ddwy sianel. Symudodd i weithio yng Nghaerdydd lle creodd y cwmni Beryl Productions gyda’r awdur a’r cynhyrchydd Les Mills a sefydlu swyddfa yng Nghanolfan Chapter. Bedyddiwyd y cwmni yn Beryl Productions ar ôl prif gymeriad y ffilm Girls Night Out a thra bo Quinn yn gwneud y gwaith arlunio, Mills sy’n scriptio’r ffilmiau a grëir gan y cwmni.

Dros y blynyddoedd mae Quinn a Mills wedi gwneud bywoliaeth drwy gyfuno cynyrchiadau animeiddio masnachol, megis hysbysebion neu waith teledu (yn arbennig ar gyfer marchnad gogledd America), â phrosiectau personol. Ymhlith eu hysbysebion mae gwaith ar gyfer y bwyd cath Whiskas a’r papur toiled Charmin, a Quinn hefyd luniodd ddilyniant agoriadol y gyfres deledu Gymraeg boblogaidd i bobl ifanc, Jabas (S4C, 1989). Mae ei phrosiectau personol, ar y llaw arall, yn gyfraniadau pwysig i fyd animeiddio, cynyrchiadau megis Girls Night Out (1987), Body Beautiful (1990), Britannia (1992) ac Elles (1992), ffilm sy’n dathlu gwaith yr artist Toulouse Lautrec. Tra bo Quinn yn gallu cyflawni gwaith ar gyfer hysbysebion o fewn ychydig wythnosau, mae ei gwaith ar y prosiectau personol yn aml yn para blynyddoedd.

Comedi deifiol yw Girls Night Out, sy’n darlunio Beryl, gwraig tŷ ganol oed gyffredin o dde Cymru, yn mwynhau noson allan gyda chriw o’i ffrindiau. Wrth i stripiwr ymddangos yn y dafarn daw Beryl, sy’n gweithio mewn ffatri ac sy’n briod â gŵr digon swrth, o’i chragen ac fe’i gwelir yn llawn drygioni yn rhoi’r stripiwr yn ei le. Gyda’r ffilm hon, rhoddodd Joanna Quinn lais credadwy i wragedd dosbarth gweithiol Cymru am y tro cyntaf, yn ogystal â llwyfan i gymeriad benywaidd cryf mewn ffilm wedi’i animeiddio. Dangosodd y ffilm bersbectif unigryw ar fywyd yn yr wythdegau gan mai ffilm animeiddiedig am fenyw gan fenyw yw hi. Cyflwynodd Quinn y ffilm i gystadleuaeth Gŵyl Ffilm Annecy lle’r enillodd dair gwobr, a bu’r llwyddiant hwn yn fodd iddi ddarganfod sut y gallai ymgorffori llais newydd yn y diwydiannau creadigol. Meddai: ‘It was this experience at Annecy that made me think seriously about the responsibility of the filmmaker as a communicator of ideas and particularly the responsibility of women film makers as portrayers of positive images of women’. (Gwefan Beryl Productions)

Nid Girls Night Out yw unig ymddangosiad Beryl. Gwelwyd y cymeriad eto yn y ffilm Body Beautiful (1990), comedi ag islais ffeministaidd, lle gwelir hi unwaith eto yn dod benben â dyn, y tro hwn Vince, cryfhâwr (bodybuilder) cegog, sydd â chryn feddwl ohono’i hun. Ac yn ffilm ddiweddaraf Quinn, Dreams and Desires – Family Ties (2006), gwelir Beryl yn defnyddio ei chamera fideo newydd i ffilmio priodas ei ffrind, Mandy, ac wrth geisio efelychu gwaith cyfarwyddwyr enwog mae’n achosi anhrefn llwyr. Mae Dreams and Desires – Family Ties wedi ennill 14 o wobrau rhyngwladol, gan gynnwys gwobr y rheithgor a gwobr y gynulleidfa yn Annecy a’r Cartoon d'Or (Oscars y byd animeiddio).

Tra bod y drioleg ar Beryl yn cyfleu syniadau am wleidyddiaeth rhywedd mae’r ffilm fer Britannia (1992) yn ymwneud ag imperialaeth gan ddychanu’r modd y mae’r ymerodraeth Brydeinig yn ei thrachwant am rym a chyfoeth wedi cam-drin cenhedloedd eraill. Yn ogystal, mae’r ffilm yn beirniadu ac yn gwatwar gwerthoedd Oes Fictoria a hefyd Thatcheriaeth. Ym 1997 enwebwyd Quinn am Oscar am ei ffilm i blant, Famous Fred / Yr Enwog Ffred (1996) a wnaed i Channel 4, S4C a TVC Productions. Mae’r ffilm, sy’n dilyn hanes anturiaethau berfeddion nos cath o’r enw Ffred, yn seiliedig ar stribed cartŵn yn y Guardian gan Posy Simmonds ac fe roddwyd iddi drac sain Cymraeg a Saesneg. Dyma’r agosaf y mae gwaith Quinn wedi dod at brofi poblogrwydd prif ffrwd a derbyniodd wobr BAFTA am y ffilm animeiddiedig orau i blant ym 1997. Prosiect arall y bu Quinn yn rhan ohono oedd yr addasiad animeiddedig a ariannwyd gan S4C, BBC a HBO o waith Geoffrey Chaucer, Canterbury Tales. Quinn a animeiddiodd y bennod The Wife of Bath's Tale (1998) ac enillodd ei darluniau trawiadol o’r hen wraig enwebiad arall am Oscar.

Nod Joanna Quinn yw creu animeiddiadau hygyrch sy’n archwilio profiadau bywyd pobl gyffredin. Mae ei ffilmiau yn llawn sylwadau ar y natur ddynol ac mae hiwmor yn elfen allweddol. Mae arddull arlunio ac animeiddio Quinn yn un arbennig iawn ac yn un y gellir ei hadnabod yn syth. Er ei bod yn arddull egniol, mae’n llyfn a mynegiannol iawn gyda chryn bwyslais ar symudiad a rhythm. Mae’n llunio pob un darlun 2D â llaw ar cel neu bapur cyn ei sganio a’i osod mewn trefn yn ddigidol ar gyfrifiadur (yn ystod yr wythdegau ffotograffwyd y lluniau ar ffilm). Mae Quinn yn rhoi pwys ar fanylder gan fynnu bod pob darlun unigol yn berffaith, a hynny er gwaetha’r ffaith eu bod yn hedfan heibio llygad y gwyliwr. Ymhlith y dylanwadau ar ei harddull mae gwaith yr Argraffiadwyr Ffrengig, ysgythriadau Goya, a chartwnau papur newydd.

Bywgraffiad gan Dr. Gwenno Ffrancon.


Cyfeirnodau

David Berry, Wales and Cinema – The First Hundred Years (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 1994)

S. Law, ‘Putting themselves in the pictures: Images of women in the work of Joanna Quinn, Candy Guard and Alison de Vere’ in J. Pilling, A reader in animation studies (John Libbey, 1997), pp. 48-70.

Jayne Pilling (ed.), ‘Joanna Quinn’, Women and Animation: A Compendium (BFI: London, 1992)

T. Robins a C. Webster, ‘Between Nation and Animation: the Fear of a Mickey Mouse Planet’ yn S. Blandford, Wales on Screen (Seren: Bridgend, 2000)

Paul Wells, ‘Animation as a self-reflexive language – Girls Night Out (Joanna Quinn)’ yn Jill Nelmes, An introduction to film studies (Routledge, 2003), tt. 221-3.

Paul Wells with Joanna Quinn and Les Mills, Drawing for Animation (Ava Publishing, 2009).

‘Joanna Quinn’ yn Anima Mundi a J. Wiedemann, Animation now! (Taschen, 2004), tt. 240-9.

Stella Papamichael, 'Joanna Quinn on Animation’[1], Film Network (25 May 07)

Gwefan Beryl Productions[2]

Ysgrif Michael Brooke ar Joanna Quinn ar Screenonline[3]

BBC Cymru Wales Arts – Top Welsh directors: Joanna Quinn[4]

National Media Museum, ‘Drawings that Move – the art of Joanna Quinn’

Cyfweliad gan Taylor Jessen, ‘The Animation Show Year 3: Joanna Quinn and Les Mills, Animator & Producer, Dreams and Desires: Family Ties (2006)' 11/7/2006.

The Slate: the wonderful world of Joanna Quinn (rhaglen deledu BBC, 1999)