Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Neoryddfrydiaeth"
Llinell 7: | Llinell 7: | ||
− | Mae’r cofnod yma yn seiliedig ar ''Ceidwadaeth: Ffrydiau Amrywiol'' gan Dr. Huw Lewis (rhan o e-lawlyfrau Cyflwyniad i Syniadau Gwleidyddol sydd ar gael ym Mhorth Adnoddau’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol) wedi’i <nowiki>addasu</nowiki> gan Adam Pierce a Dr. Siôn Jones o Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol, Prifysgol <nowiki>Caerdydd</nowiki>. | + | '''Mae’r cofnod yma yn seiliedig ar ''Ceidwadaeth: Ffrydiau Amrywiol'' gan Dr. Huw Lewis (rhan o e-lawlyfrau Cyflwyniad i Syniadau Gwleidyddol sydd ar gael ym Mhorth Adnoddau’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol) wedi’i <nowiki>addasu</nowiki> gan Adam Pierce a Dr. Siôn Jones o Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol, Prifysgol <nowiki>Caerdydd</nowiki>.''' |
− | |||
Diwygiad 09:40, 22 Medi 2022
(Saesneg: Neoliberalism)
Mae dadleuon y gangen hon sydd yn gysylltiedig gyda’r De Newydd yn seiliedig ar syniadau economaidd Rhyddfrydiaeth Clasurol, ac yn benodol syniadau meddylwyr megis Adam Smith (1776/2007) ynglŷn â’r angen i hybu marchnadoedd cwbl rydd trwy gyfyngu ar ymyrraeth y wladwriaeth. Rhoddwyd sylw o’r newydd i syniadau fel hyn yn ystod ail hanner yr ugeinfed ganrif wrth i rôl economaidd a chymdeithasol y wladwriaeth dyfu’n gyson. Yn wir, erbyn y 1970au tybiwyd mai’r ymyrraeth wladwriaethol hon a fu’n bennaf gyfrifol am yr arafu economaidd mawr a welwyd ar draws gwledydd y gorllewin. Dadleuodd economegwyr megis Friedrich Hayek (1889-1992) a Milton Friedman (1912-2006) fod problemau megis diweithdra yn anorfod. Roedd ceisio anwybyddu’r realiti hwnnw, neu geisio’i atal trwy ymyrraeth artiffisial gan y wladwriaeth, yn y pendraw yn creu mwy o broblemau ac nid llai. Roedd yn creu chwyddiant – y bygythiad mwyaf i bob economi, gan ei fod yn arwain at ostwng gwerth arian, ac yn cymell cyfnodau o farweidd-dra llwyr.
Ymateb Hayek (1960) a Friedman (1962), ynghyd ag athronwyr gwleidyddol megis Robert Nozik (1974), oedd bod angen ymwrthod â syniadau dylanwadol yr economegydd John Maynard Keynes (1963) ynglŷn â’r angen am drefniadau cymdeithasol ac economaidd a oedd yn cydnabod rôl allweddol y wladwriaeth. Yn ei lle, dadleuodd Hayek (1960), Friedman (1962) a Nozik (1974) bod angen mabwysiadu rhaglen wleidyddol radical a fyddai’n arwain at ‘wthio’r wladwriaeth yn ôl’, gan adael mwy o ofod ar gyfer menter breifat. O ran gweithredu ymarferol, arweiniodd hyn at bwyslais ar breifateiddio gwasanaethau a diwydiannau ‘aneffeithiol’ a fu gynt yn rhan o’r sector cyhoeddus, ac felly o dan reolaeth y wladwriaeth, a hefyd pwyslais ar ‘ddiwygio’ gwahanol raglenni lles er mwyn torri ar lefel gwariant cyhoeddus. Mae neoryddfrydiaeth wedi bod yn ideoleg wleidyddol ddylanwadol iawn nid yn unig ar rannau Seisnig y Byd - yn enwedig yn ystod cyfnod Ronald Reagan a Margaret Thatcher yn ystod yr 1980au – ond hefyd ar ardaloedd eraill o’r byd (Steger a Roy 2010).
Mae’r cofnod yma yn seiliedig ar Ceidwadaeth: Ffrydiau Amrywiol gan Dr. Huw Lewis (rhan o e-lawlyfrau Cyflwyniad i Syniadau Gwleidyddol sydd ar gael ym Mhorth Adnoddau’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol) wedi’i addasu gan Adam Pierce a Dr. Siôn Jones o Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol, Prifysgol Caerdydd.
Llyfryddiaeth
Friedman, M. (1962), Capitalism and Freedom. (Chicago: University of Chicago Press) Hayek, F. H., (1960), The Constitution of Liberty. (London: Routledge) Keynes, J. (1936), The general theory of employment, interest, and money. (London: Macmillan) Nozick, R., (1974), Anarchy, State and Utopia. (Oxford: Blackwell) Steger, M. a Roy, R. (2010). Neoliberalism: A Very Short Introduction. (Oxford: Oxford University Press) Smith, A. (1776/2007). The Wealth of the Nations. (Hampshire: Harriman House)
- Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.