Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Deuglosia"
(Ni ddangosir y 2 olygiad yn y canol gan yr un defnyddiwr) | |||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
(Saesneg: ''Diglossia'') | (Saesneg: ''Diglossia'') | ||
− | Mae damcaniaeth deuglosia (''diglossia''), cysyniad a drafodwyd gyntaf gan Ferguson (1959), yn dadlau bod gwahanol ieithoedd, tafodieithoedd neu arddulliau iaith yn cael eu defnyddio ar gyfer gwahanol bwrpasau mewn cymdeithas. Mae iaith sy’n cael ei defnyddio fel iaith bob dydd gan siaradwyr, ar gyfer cyfathrebu gyda theulu neu ffrindiau, er enghraifft, yn cael ei galw’n iaith ‘isel’ (Low neu L yn nherminoleg Ferguson) tra bod iaith sy’n cael ei defnyddio mewn peuoedd ffurfiol fel addysg neu’r gweithle yn cael ei galw’n iaith ‘uchel’ ''(High neu H)''. Bydd gan y ffurf uchel fri a statws o fewn y gymdeithas, a bydd ei siaradwyr yn ei chydnabod fel ffurf sydd â gwerth cymdeithasol a hanesyddol uchel, tra bydd y ffurf isel yn cael ei gweld gan ei siaradwyr fel iaith ddefnyddiol efallai ond nid un sy’n addas ar gyfer rhai peuoedd cymdeithasol, e.e. ysgrifennu neu gyfathrebu ffurfiol. | + | Mae damcaniaeth deuglosia (''diglossia''), cysyniad a drafodwyd gyntaf gan Ferguson (1959), yn dadlau bod gwahanol ieithoedd, tafodieithoedd neu arddulliau iaith yn cael eu defnyddio ar gyfer gwahanol bwrpasau mewn cymdeithas. Mae iaith sy’n cael ei defnyddio fel iaith bob dydd gan siaradwyr, ar gyfer cyfathrebu gyda theulu neu ffrindiau, er enghraifft, yn cael ei galw’n iaith ‘isel’ (''Low neu L'' yn nherminoleg Ferguson) tra bod iaith sy’n cael ei defnyddio mewn peuoedd ffurfiol fel addysg neu’r gweithle yn cael ei galw’n iaith ‘uchel’ ''(High neu H)''. Bydd gan y ffurf uchel fri a statws o fewn y gymdeithas, a bydd ei siaradwyr yn ei chydnabod fel ffurf sydd â gwerth cymdeithasol a hanesyddol uchel, tra bydd y ffurf isel yn cael ei gweld gan ei siaradwyr fel iaith ddefnyddiol efallai ond nid un sy’n addas ar gyfer rhai peuoedd cymdeithasol, e.e. ysgrifennu neu gyfathrebu ffurfiol. |
− | Mewn cymdeithas uniaith bydd deuglosia rhwng <nowiki>arddull</nowiki> ffurfiol iaith—fel Saesneg safonol—fel y ffurf uchel, ac <nowiki>arddull</nowiki> anffurfiol neu dafodieithol yr iaith fel y ffurf isel. Mae Ferguson (1959) yn cyfeirio at sawl esiampl o gymunedau lle mae deuglosia rhwng dwy | + | Mewn cymdeithas uniaith bydd deuglosia rhwng <nowiki>arddull</nowiki> ffurfiol iaith—fel Saesneg safonol—fel y ffurf uchel, ac <nowiki>arddull</nowiki> anffurfiol neu dafodieithol yr iaith fel y ffurf isel. Mae Ferguson (1959) yn cyfeirio at sawl esiampl o gymunedau lle mae deuglosia rhwng dwy <nowiki>arddull</nowiki> o’r un iaith, gan gynnwys Groeg llenyddol a Groeg llafar yng Ngwlad Groeg ac Almaeneg Uchel (''High German'') ac Almaeneg y Swistir yn y Swistir. Yn y cymunedau hyn mae siaradwyr yn cydymffurfio â’r normau cymdeithasol sy’n pennu bod pobl yn defnyddio’r ffurf dafodieithol, leol neu greol, mewn peuoedd anffurfiol ond yn defnyddio’r iaith safonol neu gyffredinol mewn peuoedd ffurfiol neu bwysig. |
Mewn cymdeithas ddwyieithog lle ceir deuglosia, bydd rôl y ffurf isel, L, yn cael ei chyflawni gan un iaith tra bydd rôl y ffurf uchel, H, yn cael ei chyflawni gan iaith arall. Felly bydd gan un iaith statws uwch na’r iaith arall o fewn y gymdeithas honno, efallai oherwydd ei bod hi’n iaith fwyafrifol, neu fod y rhai sy’n ei siarad fel mamiaith â mwy o rym cymdeithasol, neu ei bod hi’n iaith sy’n cael ei defnyddio ar draws cymunedau ar gyfer busnes, a.y.b. Ceir nifer helaeth o esiamplau o gymunedau dwyieithog deuglosig ar draws y byd, a thrafodir rhai gan Fishman (1967), a ddatblygodd syniadau Ferguson o sôn am wahanol arddulliau o fewn yr un iaith i sôn am ieithoedd gwahanol. Dylid nodi nad yw pob cymdeithas ddwyieithog yn un ddeuglosig hefyd. | Mewn cymdeithas ddwyieithog lle ceir deuglosia, bydd rôl y ffurf isel, L, yn cael ei chyflawni gan un iaith tra bydd rôl y ffurf uchel, H, yn cael ei chyflawni gan iaith arall. Felly bydd gan un iaith statws uwch na’r iaith arall o fewn y gymdeithas honno, efallai oherwydd ei bod hi’n iaith fwyafrifol, neu fod y rhai sy’n ei siarad fel mamiaith â mwy o rym cymdeithasol, neu ei bod hi’n iaith sy’n cael ei defnyddio ar draws cymunedau ar gyfer busnes, a.y.b. Ceir nifer helaeth o esiamplau o gymunedau dwyieithog deuglosig ar draws y byd, a thrafodir rhai gan Fishman (1967), a ddatblygodd syniadau Ferguson o sôn am wahanol arddulliau o fewn yr un iaith i sôn am ieithoedd gwahanol. Dylid nodi nad yw pob cymdeithas ddwyieithog yn un ddeuglosig hefyd. | ||
Llinell 10: | Llinell 10: | ||
Gweler Pennod 7 yn E.M. Thomas & Webb-Davies (2017) am fwy am ddeuglosia. | Gweler Pennod 7 yn E.M. Thomas & Webb-Davies (2017) am fwy am ddeuglosia. | ||
− | |||
'''Dr Peredur Webb-Davies (yn deillio o’r e-lyfr Cyflwyniad i ''<nowiki>Ieithyddiaeth</nowiki>'' wedi ei olygu gan Dr Sarah Cooper a Dr Laura Arman sydd ar gael ym Mhorth Adnoddau’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol).''' | '''Dr Peredur Webb-Davies (yn deillio o’r e-lyfr Cyflwyniad i ''<nowiki>Ieithyddiaeth</nowiki>'' wedi ei olygu gan Dr Sarah Cooper a Dr Laura Arman sydd ar gael ym Mhorth Adnoddau’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol).''' |
Y diwygiad cyfredol, am 15:13, 13 Mawrth 2023
(Saesneg: Diglossia)
Mae damcaniaeth deuglosia (diglossia), cysyniad a drafodwyd gyntaf gan Ferguson (1959), yn dadlau bod gwahanol ieithoedd, tafodieithoedd neu arddulliau iaith yn cael eu defnyddio ar gyfer gwahanol bwrpasau mewn cymdeithas. Mae iaith sy’n cael ei defnyddio fel iaith bob dydd gan siaradwyr, ar gyfer cyfathrebu gyda theulu neu ffrindiau, er enghraifft, yn cael ei galw’n iaith ‘isel’ (Low neu L yn nherminoleg Ferguson) tra bod iaith sy’n cael ei defnyddio mewn peuoedd ffurfiol fel addysg neu’r gweithle yn cael ei galw’n iaith ‘uchel’ (High neu H). Bydd gan y ffurf uchel fri a statws o fewn y gymdeithas, a bydd ei siaradwyr yn ei chydnabod fel ffurf sydd â gwerth cymdeithasol a hanesyddol uchel, tra bydd y ffurf isel yn cael ei gweld gan ei siaradwyr fel iaith ddefnyddiol efallai ond nid un sy’n addas ar gyfer rhai peuoedd cymdeithasol, e.e. ysgrifennu neu gyfathrebu ffurfiol.
Mewn cymdeithas uniaith bydd deuglosia rhwng arddull ffurfiol iaith—fel Saesneg safonol—fel y ffurf uchel, ac arddull anffurfiol neu dafodieithol yr iaith fel y ffurf isel. Mae Ferguson (1959) yn cyfeirio at sawl esiampl o gymunedau lle mae deuglosia rhwng dwy arddull o’r un iaith, gan gynnwys Groeg llenyddol a Groeg llafar yng Ngwlad Groeg ac Almaeneg Uchel (High German) ac Almaeneg y Swistir yn y Swistir. Yn y cymunedau hyn mae siaradwyr yn cydymffurfio â’r normau cymdeithasol sy’n pennu bod pobl yn defnyddio’r ffurf dafodieithol, leol neu greol, mewn peuoedd anffurfiol ond yn defnyddio’r iaith safonol neu gyffredinol mewn peuoedd ffurfiol neu bwysig.
Mewn cymdeithas ddwyieithog lle ceir deuglosia, bydd rôl y ffurf isel, L, yn cael ei chyflawni gan un iaith tra bydd rôl y ffurf uchel, H, yn cael ei chyflawni gan iaith arall. Felly bydd gan un iaith statws uwch na’r iaith arall o fewn y gymdeithas honno, efallai oherwydd ei bod hi’n iaith fwyafrifol, neu fod y rhai sy’n ei siarad fel mamiaith â mwy o rym cymdeithasol, neu ei bod hi’n iaith sy’n cael ei defnyddio ar draws cymunedau ar gyfer busnes, a.y.b. Ceir nifer helaeth o esiamplau o gymunedau dwyieithog deuglosig ar draws y byd, a thrafodir rhai gan Fishman (1967), a ddatblygodd syniadau Ferguson o sôn am wahanol arddulliau o fewn yr un iaith i sôn am ieithoedd gwahanol. Dylid nodi nad yw pob cymdeithas ddwyieithog yn un ddeuglosig hefyd.
Gallwn ystyried bod cymunedau Cymru yn arfer bod yn ddeuglosig. Yn hanesyddol cafwyd deuglosia yng Nghymru oherwydd dylanwad a phwysigrwydd yr iaith Saesneg. Dim ond yn y cartref, yn y gymuned, mewn diwylliant ac efallai yn y capeli yr oedd y Gymraeg yn cael ei defnyddio am amser hir yn dilyn y Deddfau Uno (1536–43), gan mai’r iaith Saesneg oedd yr unig iaith yr oedd modd ei defnyddio yn y gweithle, mewn addysg neu mewn llywodraeth. Yn hanesyddol, felly, Cymraeg oedd yr iaith isel a Saesneg oedd yr iaith uchel, gyda gwahaniaeth statws mawr rhwng y ddwy iaith. Yn y cyfnod diweddar, mae gan y Gymraeg fwy o hawliau cyfreithiol, a hefyd mae’r iaith Saesneg yn gyffredin iawn fel iaith bob-dydd yng Nghymru. Felly, gallwn ddweud nad oes deuglosia yng Nghymru o’r math a gafwyd yn y cyfnod hanesyddol, ond efallai fod yna ddeuglosia o fath gwahanol rhwng gwahanol ffurfiau o’r Gymraeg/Saesneg (e.e. rhwng y ffurfiau tafodieithol a’r ffurfiau safonol).
Gweler Pennod 7 yn E.M. Thomas & Webb-Davies (2017) am fwy am ddeuglosia.
Dr Peredur Webb-Davies (yn deillio o’r e-lyfr Cyflwyniad i Ieithyddiaeth wedi ei olygu gan Dr Sarah Cooper a Dr Laura Arman sydd ar gael ym Mhorth Adnoddau’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol).
Llyfryddiaeth
Ferguson, C. A. 1959. Diglossia. Word 15(2) 325–340
Fishman, J. A. 1967. Bilingualism with and without diglossia; diglossia with and without bilingualism. Journal of social issues 23(2). 29–38.
Thomas, E.M & Webb-Davies, P. 2017. Agweddau ar ddwyieithrwydd. https://llyfrgell.porth.ac.uk/View.aspx?id=3001~4e~cunoKUqT [Cyrchwyd: 8 Mehefin 2022]
- Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.