Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Trefedigaethedd"

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio
(Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda '(Saesneg: ''Colonialism'') Mae sawl ystyr a defnydd posib i’r term trefedigaethedd. Gall gyfeirio at batrwm o goncwest ac ymsefydlu, pan fo un grŵ...')
 
 
(Ni ddangosir y golygiad yn y canol gan yr un defnyddiwr)
Llinell 1: Llinell 1:
 
(Saesneg: ''Colonialism'')
 
(Saesneg: ''Colonialism'')
  
Mae sawl [[ystyr]] a defnydd posib i’r term trefedigaethedd. Gall gyfeirio at batrwm o goncwest ac ymsefydlu, pan fo un grŵp yn meddiannu tiriogaeth grŵp arall er mwyn rheoli adnoddau a llafur.
+
Mae sawl <nowiki>ystyr</nowiki> a defnydd posib i’r term trefedigaethedd. Gall gyfeirio at batrwm o goncwest ac ymsefydlu, pan fo un grŵp yn meddiannu tiriogaeth grŵp arall er mwyn rheoli adnoddau a llafur.
  
Yn fwy arferol, fodd bynnag, mae’n cyfeirio at gyfnod penodol o 400 mlynedd o drefedigaethu Ewropeaidd, rhwng diwedd y Dadeni, a chanol yr 20g. Yn y cyfnod hwn, lledodd ymerodraethau Ewropeaidd eu trefedigaethau dros gyfran helaeth o’r byd, yn benodol yng nghyfandiroedd De a Gogledd America, Affrica, Asia ac Awstralia. Mae trefedigaethedd Ewropeaidd y cyfnod yn gysylltiedig â thwf systemau [[cyfalafol]] a’r Chwyldro Diwydiannol.
+
Yn fwy arferol, fodd bynnag, mae’n cyfeirio at gyfnod penodol o 400 mlynedd o drefedigaethu Ewropeaidd, rhwng diwedd y Dadeni, a chanol yr 20g. Yn y cyfnod hwn, lledodd ymerodraethau Ewropeaidd eu trefedigaethau dros gyfran helaeth o’r byd, yn benodol yng nghyfandiroedd De a Gogledd America, Affrica, Asia ac Awstralia. Mae trefedigaethedd Ewropeaidd y cyfnod yn gysylltiedig â thwf systemau [[cyfalaf|cyfalafol]] a’r Chwyldro Diwydiannol.
  
Trydydd ystyr y gair yw’r [[ideoleg]] oedd yn cyfiawnhau prosesau imperialaidd ac agweddau fel [[hiliaeth]], baich y dyn gwyn (''white man’s burden''), a thadofalaeth (''paternalism''). Nid yw’n cyfeirio at un [[ideoleg]] benodol, ond yn hytrach at amrywiol ymatebion athronyddol, crefyddol a diwylliannol wrth ymwneud â’r dasg o geisio cyfiawnhau trefedigaethedd a’i wahanol brosesau dros y canrifoedd. Gellid ystyried y gwahanol ffyrdd o gyfiawnhau caethwasiaeth, a’r modd yr esblygodd yn fudiad goruchafiaeth pobl wyn gyfoes (gweler gwaith Ibram X. Kendi, 2016) yn ffurf ar drefedigaethedd.
+
Trydydd <nowiki>ystyr</nowiki> y gair yw’r [[ideoleg]] oedd yn cyfiawnhau prosesau imperialaidd ac agweddau fel [[hiliaeth]], baich y dyn gwyn (''white man’s burden''), a thadofalaeth (''paternalism''). Nid yw’n cyfeirio at un [[ideoleg]] benodol, ond yn hytrach at amrywiol ymatebion athronyddol, crefyddol a diwylliannol wrth ymwneud â’r dasg o geisio cyfiawnhau trefedigaethedd a’i wahanol brosesau dros y canrifoedd. Gellid ystyried y gwahanol ffyrdd o gyfiawnhau caethwasiaeth, a’r modd yr esblygodd yn fudiad goruchafiaeth pobl wyn gyfoes (gweler gwaith Ibram X. Kendi, 2016) yn ffurf ar drefedigaethedd.
  
Yng Nghymru ceir trafodaeth ynghylch i ba raddau y gellir disgrifio Cymru fel gwlad wedi ei ‘threfedigaethu’. Mae rhai’n dadlau bod Cymru wedi bod yn drefedigaeth Seisnig o 1282 hyd at y Deddfau Uno, ac eraill bod ymwneud Cymru yng ngweithredoedd yr Ymerodraeth Brydeinig yn golygu bod Cymru yn wlad drefedigaethol. Mae’r hanesydd Gwyn Alf Williams (1982) yn dadlau bod Cymru wedi dod yn wlad [[cyfalafol|gyfalafol]], drefedigaethol wedi’r cyfnod Tuduraidd, gan gyfeirio at ‘Imperial South Wales’ fel cymdeithas ddiwydiannol, imperialaidd, ryngwladol, ac er nad oedd grym gwleidyddol wedi’i leoli yng Nghymru, roedd grym economaidd yn bwysicach na’r grym hwnnw. Yn y gyfrol ''Postcolonial Wales'' (2005) mae Chris Williams hefyd yn dadlau nad oes sail i ddisgrifio Cymru fel gwlad wedi ei threfedigaethu wedi cyfnod y Tuduriaid. Yn ei gwaith hithau mae Kirsti Bohata (2004) yn dadlau yn erbyn gorsymleiddio’r ddeuoliaeth rhwng Cymru a Phrydain. Honna fod canrifoedd o gymathu diwylliannol a gwleidyddol, yn ogystal â rôl Cymru yn y prosiect imperialaidd, wedi gwneud y ffiniau rhwng y ddwy wlad yn amwys.
+
Yng Nghymru ceir trafodaeth ynghylch i ba raddau y gellir disgrifio Cymru fel gwlad wedi ei ‘threfedigaethu’. Mae rhai’n dadlau bod Cymru wedi bod yn drefedigaeth Seisnig o 1282 hyd at y Deddfau Uno, ac eraill bod ymwneud Cymru yng ngweithredoedd yr Ymerodraeth Brydeinig yn golygu bod Cymru yn wlad drefedigaethol. Mae’r hanesydd Gwyn Alf Williams (1982) yn dadlau bod Cymru wedi dod yn wlad [[cyfalaf|gyfalafol]], drefedigaethol wedi’r cyfnod Tuduraidd, gan gyfeirio at ‘Imperial South Wales’ fel cymdeithas ddiwydiannol, imperialaidd, ryngwladol, ac er nad oedd grym gwleidyddol wedi’i leoli yng Nghymru, roedd grym economaidd yn bwysicach na’r grym hwnnw. Yn y gyfrol ''Postcolonial Wales'' (2005) mae Chris Williams hefyd yn dadlau nad oes sail i ddisgrifio Cymru fel gwlad wedi ei threfedigaethu wedi cyfnod y Tuduriaid. Yn ei gwaith hithau mae Kirsti Bohata (2004) yn dadlau yn erbyn gorsymleiddio’r ddeuoliaeth rhwng Cymru a Phrydain. Honna fod canrifoedd o gymathu diwylliannol a gwleidyddol, yn ogystal â rôl Cymru yn y prosiect imperialaidd, wedi gwneud y ffiniau rhwng y ddwy wlad yn amwys.
  
 
Elfen bwysig o’r trafodaethau hyn yw archwilio’r rôl y bu i Gymru a’r Cymry ei chwarae mewn trefedigaethedd Ewropeaidd drwy eu hymwneud â’r gaethfasnach, gwladfa Patagonia, a’r Genhadaeth. Yn ei gyfrol ''Slave Wales: The Welsh and Atlantic Slavery, 1660–1850'' mae Chris Evans (2010) yn archwilio rôl y Cymry yn y gaethfasnach. Mae Lucy Taylor (2018) a Geraldine Lublin (2009; 2017) wedi astudio’r Wladfa ym Mhatagonia yng nghyd-destun trefedigaethedd a theori anheddfeydd gwladfaol (settler colonial theory). Mae theori drefedigaethol wladychol hefyd yn cael ei defnyddio fel term Cymraeg ar gyfer ''settler colonial theory''. Mae gweithiau fel ymchwil Jasmine Donahaye (2012), llenyddiaeth deithio fel Gwalia in Khasia Nigel Jenkins (1995), a llythyrau ''Y Gymraes o Ganaan'', Margaret Jones (gweler James 2011), yn ymwneud a rôl y Cymry fel cenhadon mewn ardaloedd wedi eu trefedigaethu.   
 
Elfen bwysig o’r trafodaethau hyn yw archwilio’r rôl y bu i Gymru a’r Cymry ei chwarae mewn trefedigaethedd Ewropeaidd drwy eu hymwneud â’r gaethfasnach, gwladfa Patagonia, a’r Genhadaeth. Yn ei gyfrol ''Slave Wales: The Welsh and Atlantic Slavery, 1660–1850'' mae Chris Evans (2010) yn archwilio rôl y Cymry yn y gaethfasnach. Mae Lucy Taylor (2018) a Geraldine Lublin (2009; 2017) wedi astudio’r Wladfa ym Mhatagonia yng nghyd-destun trefedigaethedd a theori anheddfeydd gwladfaol (settler colonial theory). Mae theori drefedigaethol wladychol hefyd yn cael ei defnyddio fel term Cymraeg ar gyfer ''settler colonial theory''. Mae gweithiau fel ymchwil Jasmine Donahaye (2012), llenyddiaeth deithio fel Gwalia in Khasia Nigel Jenkins (1995), a llythyrau ''Y Gymraes o Ganaan'', Margaret Jones (gweler James 2011), yn ymwneud a rôl y Cymry fel cenhadon mewn ardaloedd wedi eu trefedigaethu.   

Y diwygiad cyfredol, am 15:04, 7 Medi 2024

(Saesneg: Colonialism)

Mae sawl ystyr a defnydd posib i’r term trefedigaethedd. Gall gyfeirio at batrwm o goncwest ac ymsefydlu, pan fo un grŵp yn meddiannu tiriogaeth grŵp arall er mwyn rheoli adnoddau a llafur.

Yn fwy arferol, fodd bynnag, mae’n cyfeirio at gyfnod penodol o 400 mlynedd o drefedigaethu Ewropeaidd, rhwng diwedd y Dadeni, a chanol yr 20g. Yn y cyfnod hwn, lledodd ymerodraethau Ewropeaidd eu trefedigaethau dros gyfran helaeth o’r byd, yn benodol yng nghyfandiroedd De a Gogledd America, Affrica, Asia ac Awstralia. Mae trefedigaethedd Ewropeaidd y cyfnod yn gysylltiedig â thwf systemau cyfalafol a’r Chwyldro Diwydiannol.

Trydydd ystyr y gair yw’r ideoleg oedd yn cyfiawnhau prosesau imperialaidd ac agweddau fel hiliaeth, baich y dyn gwyn (white man’s burden), a thadofalaeth (paternalism). Nid yw’n cyfeirio at un ideoleg benodol, ond yn hytrach at amrywiol ymatebion athronyddol, crefyddol a diwylliannol wrth ymwneud â’r dasg o geisio cyfiawnhau trefedigaethedd a’i wahanol brosesau dros y canrifoedd. Gellid ystyried y gwahanol ffyrdd o gyfiawnhau caethwasiaeth, a’r modd yr esblygodd yn fudiad goruchafiaeth pobl wyn gyfoes (gweler gwaith Ibram X. Kendi, 2016) yn ffurf ar drefedigaethedd.

Yng Nghymru ceir trafodaeth ynghylch i ba raddau y gellir disgrifio Cymru fel gwlad wedi ei ‘threfedigaethu’. Mae rhai’n dadlau bod Cymru wedi bod yn drefedigaeth Seisnig o 1282 hyd at y Deddfau Uno, ac eraill bod ymwneud Cymru yng ngweithredoedd yr Ymerodraeth Brydeinig yn golygu bod Cymru yn wlad drefedigaethol. Mae’r hanesydd Gwyn Alf Williams (1982) yn dadlau bod Cymru wedi dod yn wlad gyfalafol, drefedigaethol wedi’r cyfnod Tuduraidd, gan gyfeirio at ‘Imperial South Wales’ fel cymdeithas ddiwydiannol, imperialaidd, ryngwladol, ac er nad oedd grym gwleidyddol wedi’i leoli yng Nghymru, roedd grym economaidd yn bwysicach na’r grym hwnnw. Yn y gyfrol Postcolonial Wales (2005) mae Chris Williams hefyd yn dadlau nad oes sail i ddisgrifio Cymru fel gwlad wedi ei threfedigaethu wedi cyfnod y Tuduriaid. Yn ei gwaith hithau mae Kirsti Bohata (2004) yn dadlau yn erbyn gorsymleiddio’r ddeuoliaeth rhwng Cymru a Phrydain. Honna fod canrifoedd o gymathu diwylliannol a gwleidyddol, yn ogystal â rôl Cymru yn y prosiect imperialaidd, wedi gwneud y ffiniau rhwng y ddwy wlad yn amwys.

Elfen bwysig o’r trafodaethau hyn yw archwilio’r rôl y bu i Gymru a’r Cymry ei chwarae mewn trefedigaethedd Ewropeaidd drwy eu hymwneud â’r gaethfasnach, gwladfa Patagonia, a’r Genhadaeth. Yn ei gyfrol Slave Wales: The Welsh and Atlantic Slavery, 1660–1850 mae Chris Evans (2010) yn archwilio rôl y Cymry yn y gaethfasnach. Mae Lucy Taylor (2018) a Geraldine Lublin (2009; 2017) wedi astudio’r Wladfa ym Mhatagonia yng nghyd-destun trefedigaethedd a theori anheddfeydd gwladfaol (settler colonial theory). Mae theori drefedigaethol wladychol hefyd yn cael ei defnyddio fel term Cymraeg ar gyfer settler colonial theory. Mae gweithiau fel ymchwil Jasmine Donahaye (2012), llenyddiaeth deithio fel Gwalia in Khasia Nigel Jenkins (1995), a llythyrau Y Gymraes o Ganaan, Margaret Jones (gweler James 2011), yn ymwneud a rôl y Cymry fel cenhadon mewn ardaloedd wedi eu trefedigaethu.

Grug Muse

Llyfryddiaeth

Aaron, J. a Williams, C. (2005), Postcolonial Wales (Cardiff: University of Wales Press).

Bohata, K. (2004), Postcolonialism revisited (Cardiff: University of Wales Press).

Donahaye, J. (2012), Whose People? Wales, Israel, Palestine (Cardiff: University of Wales Press).

Evans, C. (2010), Slave Wales: The Welsh and Atlantic Slavery, 1660–1850 (Cardiff: University of Wales Press).

James, E. (2011), Y Gymraes o Ganaan (Talybont: Y Lolfa).

Jenkins, N. (1995), Gwalia in Khasia (Llandysul: Gomer).

Kendi, I. X. (2016), Stamped from the Beginning: The Definitive History of Racist Ideas in America (New York: Nation Books).

Lublin, G. (2009), ‘Y Wladfa: gwladychu heb drefedigaethu?’, Gwerddon, 4, 8–23.

Lublin, G. (2017), Memoir and Identity in Welsh Patagonia (Cardiff: University of Wales Press).

Miguelez-Carballeira, H. (2020), ‘Chwilio am T Ifor Rees, Llysgennad ei fawrhydi: safbwynt Mecsicanaidd’, O’r Pedwar Gwynt, 13, 21–22.

Taylor, L. (2018), ‘Global perspectives on Welsh Patagonia: the complexities of being both colonizer and colonized’, Journal of global history. 13(3), 446–68.

Williams, G. A. (1982), The Welsh in their history (London: Croom Helm).


Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.