Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Ffenomenoleg (Gwyddorau Cymdeithasol)"

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio
 
(Ni ddangosir y 12 golygiad yn y canol gan yr un defnyddiwr)
Llinell 3: Llinell 3:
 
'''1. Cyflwyniad i <nowiki>ffenomenoleg</nowiki>'''
 
'''1. Cyflwyniad i <nowiki>ffenomenoleg</nowiki>'''
  
Yn sylfaenol, <nowiki>ffenomenoleg<nowiki> yw’r cysyniad ein bod yn deall y byd drwy ffenomenau. <nowiki>Ystyr</nowiki> hynny yw honni nad yw’r byd yn bodoli fel endid sydd y tu hwnt i ni; ein canfyddiad a’n hamgyffred ein hunain o’r byd sy’n ei ffurfio i ni.
+
Yn sylfaenol, <nowiki>ffenomenoleg</nowiki> yw’r cysyniad ein bod yn deall y byd drwy ffenomenau. <nowiki>Ystyr</nowiki> hynny yw honni nad yw’r byd yn bodoli fel endid sydd y tu hwnt i ni; ein canfyddiad a’n hamgyffred ein hunain o’r byd sy’n ei ffurfio i ni.
  
Ar ddiwedd y 19g a dechrau’r 20g defnyddiodd Edmund Husserl (1973), un o’r rhai cyntaf i drafod [[ffenomenoleg]], syniadaeth yr athronydd René Descartes fel dechreubwynt i ystyried y modd y mae gwybodaeth yn cael ei chreu. Dywedodd Decartes: ‘Cogito, ergo sum’ (Rwyf yn meddwl, felly rwyf yn bod; 1982: 25). Yn ôl Decartes a Husserl, ni fel pobl sy’n dehongli’r byd. Ond tra oedd Decartes yn grediniol ein bod yn gwneud hyn o safbwynt meddyliol, dadleuai Husserl ein bod yn gwneud hyn drwy weld y byd drwy’r synhwyrau, gan ganfod ffenomenau. Credai Husserl nad proses wrthrychol, bositifaethol yw epistemoleg, ond mai meddwl ac athroniaeth sy’n rhoi bywyd i wyddoniaeth; nid yw’r byd yn bodoli ar ei ben ei hun fel endid gwyddonol, gwrthrychol. Profiad ymgorfforedig person sy’n cyfleu’r byd iddo.
+
Ar ddiwedd y 19g a dechrau’r 20g defnyddiodd Edmund Husserl (1973), un o’r rhai cyntaf i drafod <nowiki>ffenomenoleg</nowiki>, syniadaeth yr athronydd René Descartes fel dechreubwynt i ystyried y modd y mae gwybodaeth yn cael ei chreu. Dywedodd Decartes: ‘Cogito, ergo sum’ (Rwyf yn meddwl, felly rwyf yn bod; 1982: 25). Yn ôl Decartes a Husserl, ni fel pobl sy’n dehongli’r byd. Ond tra oedd Decartes yn grediniol ein bod yn gwneud hyn o safbwynt meddyliol, dadleuai Husserl ein bod yn gwneud hyn drwy weld y byd drwy’r synhwyrau, gan ganfod ffenomenau. Credai Husserl nad proses wrthrychol, bositifaethol yw epistemoleg, ond mai meddwl ac athroniaeth sy’n rhoi bywyd i wyddoniaeth; nid yw’r byd yn bodoli ar ei ben ei hun fel endid gwyddonol, gwrthrychol. Profiad ymgorfforedig person sy’n cyfleu’r byd iddo.
  
Cyfrannodd yr athronydd Maurice Merleau-Ponty (2009; ix) at syniadaeth ffenomenolegol drwy nodi mai profiadau’r corff sy’n estyn allan i greu byd, gan ddefnyddio’i amgyffred ei hun fel mesurydd: ‘I am the absolute source, my existence does not stem from its antecedents, from my physical and social environment; instead it moves out towards them and sustains them, for I alone bring into being for myself.’
 
Felly, profiad ymgorfforedig cyflawn, corfforol yw profi a dirnad y byd. Gall ffenomenoleg fod yn ddefnyddiol wrth ystyried perthynas gorfforol person â’i amgylchedd neu â pherson arall, neu wrth ystyried ymateb ein synhwyrau fel modd o ddeall y byd.   
+
Felly, profiad ymgorfforedig cyflawn, corfforol yw profi a dirnad y byd. Gall <nowiki>ffenomenoleg</nowiki> fod yn ddefnyddiol wrth ystyried perthynas gorfforol person â’i amgylchedd neu â pherson arall, neu wrth ystyried ymateb ein synhwyrau fel modd o ddeall y byd.   
  
Mewn cyd-destun Cymreig, mae’r ddawnswraig a’r academydd Margaret Ames wedi cyfrannu at y ddealltwriaeth hon, gan nodi: ‘Trwy’r corff rydym yn canfod y byd. Trwy’r corff rydym yn gweithredu yn y byd ac yn creu’r byd. Trwy’r corff rydym yn profi’r byd ac mae’r profiad o’r byd yn ein newid yn raddol drwy gydol ein bywydau.’ (2010; 182)
 
Llinell 19: Llinell 19:
 
Defnyddia Husserl y term ‘lleihad trosgynnol-ffenomenolegol’ (''transcendental-phenomenological reduction'') i ddisgrifio’r broses o adnabod cylchol sy’n digwydd mewn ystyriaeth ffenomenolegol. Mae adnabod y byd ac adnabyddiaeth o’r hunan yn gyd-ddibynnol, yn cadarnhau ei gilydd, ac yn brofiad cylchol. Lleihad yw’r broses sy’n cymhwyso’r gwahanol ffenomenâu at ei gilydd i gyfnod penodol. Atega’r anthropolegydd Clifford Geertz (2000; 92) hyn drwy nodi: ‘culture patterns have an intrinsic double aspect: they give meaning, that is, objective conceptual form, to social and psychological reality both by shaping themselves to it and by shaping it to themselves.’
 
Hynny yw, rydym ni’n rhoi [[ystyr]] i wrthrych neu oddrych, ac mae’r gwrthrych neu’r goddrych yn rhoi [[ystyr]] i ni. Cymerer tedi plentyn er enghraifft: mae ei werth yn cynyddu i’r plentyn gan ddibynnu ar faint o oriau y bu’n ei anwesu ac yn chwarae ag ef dros y blynyddoedd. Ond i blentyn arall efallai nad oes iddo’r un gwerth.   
+
Hynny yw, rydym ni’n rhoi <nowiki>ystyr</nowiki> i wrthrych neu oddrych, ac mae’r gwrthrych neu’r goddrych yn rhoi <nowiki>ystyr</nowiki> i ni. Cymerer tedi plentyn er enghraifft: mae ei werth yn cynyddu i’r plentyn gan ddibynnu ar faint o oriau y bu’n ei anwesu ac yn chwarae ag ef dros y blynyddoedd. Ond i blentyn arall efallai nad oes iddo’r un gwerth.   
  
Mae ffenomenoleg yn rhoi gwerth ar brofiad, sy’n rhywbeth na ellir weithiau ei gyfleu mewn geiriau. Gall perfformiad fod yn fodd o arddangos profiadau ffenomenolegol. Yn ôl yr ysgolhaig a’r ymarferydd Susan Kozel (2007), gall <nowiki>perfformio</nowiki> gynrychioli bwriad y perfformiwr i brofi, i weld, i deimlo a’i glywed ei hun ac eraill. Hynny yw, gall gweithred berfformiadol gyfleu profiad synhwyrus, a mynegi aml haenau bodolaeth unigolyn yn y byd. Mae’r ymwybyddiaeth hon yn ffenomenolegol.
+
Mae <nowiki>ffenomenoleg</nowiki> yn rhoi gwerth ar brofiad, sy’n rhywbeth na ellir weithiau ei gyfleu mewn geiriau. Gall perfformiad fod yn fodd o arddangos profiadau ffenomenolegol. Yn ôl yr ysgolhaig a’r ymarferydd Susan Kozel (2007), gall <nowiki>perfformio</nowiki> gynrychioli bwriad y perfformiwr i brofi, i weld, i deimlo a’i glywed ei hun ac eraill. Hynny yw, gall gweithred berfformiadol gyfleu profiad synhwyrus, a mynegi aml haenau bodolaeth unigolyn yn y byd. Mae’r ymwybyddiaeth hon yn ffenomenolegol.
  
Gall y ddealltwriaeth fod profiad ac amgyffred synhwyrus yn wybodaeth bwysig fod o gymorth i’r rheiny nad yw’r adnoddau ganddynt i gymhwyso profiad yn eiriau. Os astudir defod mewn diwylliant penodol, dyweder, er mwyn ceisio deall y diwylliant hwnnw, mae’n debyg y byddai modd deall rhywfaint drwy ddarllen cofnod ysgrifenedig o’r ddefod. Ond os tystir i’r ddefod, gan ystyried ei threfn, ei rhythm, ei symudiadau a’r holl brofiad a ddaw o fod yn yr un amser a’r un gofod, gellir cael dealltwriaeth ddyfnach ohoni. Mae hyn yn cydnabod bod y ffenomenau a gyflwynir yn medru cyfathrebu’n ehangach na’r gair sy’n ddisgrifio’r weithred yn unig.
 
Geilw’r ysgolhaig Diana Taylor (2003) ddefodau a gweithgareddau nad ydynt o reidrwydd yn gallu cael eu cofnodi yn wybodaeth sy’n perthyn i’r ''repertoire''. Cred fod grymoedd y Gorllewin yn ffafrio <nowiki>archifau</nowiki>, er enghraifft llyfrau, mapiau a dogfennau y gellir eu cyffwrdd. Ond rhybuddia fod blaenoriaethu <nowiki>archifau</nowiki> fel hyn yn niweidiol i ddiwylliannau lleiafrifol oherwydd bod [[archifau]] yn aml yn eithrio’r diwylliannau hynny; efallai nad oes ganddynt y gallu na’r cyfalaf i gyfleu’r <nowiki>naratif</nowiki> sy’n briodol i archif. Ni all archif gyfathrebu gwybodaeth sy’n cael ei chreu a’i chadw yn y ''repertoire''. Mae deall bod gwybodaeth i’w chaffael drwy ein hymwybyddiaeth synhwyraidd, corfforol, drwy brofi ffenomenau, yn bwysig er mwyn cael amgyffred cyflawn o’r byd.
+
Geilw’r ysgolhaig Diana Taylor (2003) ddefodau a gweithgareddau nad ydynt o reidrwydd yn gallu cael eu cofnodi yn wybodaeth sy’n perthyn i’r ''repertoire''. Cred fod grymoedd y Gorllewin yn ffafrio <nowiki>archifau</nowiki>, er enghraifft llyfrau, mapiau a dogfennau y gellir eu cyffwrdd. Ond rhybuddia fod blaenoriaethu <nowiki>archifau</nowiki> fel hyn yn niweidiol i ddiwylliannau lleiafrifol oherwydd bod <nowiki>archifau</nowiki> yn aml yn eithrio’r diwylliannau hynny; efallai nad oes ganddynt y gallu na’r cyfalaf i gyfleu’r <nowiki>naratif</nowiki> sy’n briodol i archif. Ni all archif gyfathrebu gwybodaeth sy’n cael ei chreu a’i chadw yn y ''repertoire''. Mae deall bod gwybodaeth i’w chaffael drwy ein hymwybyddiaeth synhwyraidd, corfforol, drwy brofi ffenomenau, yn bwysig er mwyn cael amgyffred cyflawn o’r byd.
  
'''Rhiannon M. Williams'''
 
'''Rhiannon M. Williams'''
  
'''2. Ffenomenoleg yng Nghymru'''
+
'''2. <nowiki>Ffenomenoleg</nowiki> yng Nghymru'''
  
Mae sawl ymchwilydd wedi defnyddio ffenomenoleg fel dull ymchwil er mwyn deall agweddau gwahanol o gymdeithas yng Nghymru. Er enghraifft, cynhaliodd Anna Sydor (2019) ymchwil i brofiadau dynion ifanc o dde Cymru wrth iddynt ymdrin â’u hiechyd rhywiol, a defnyddiodd Bernal-Davies (2016) ffenomenoleg er mwyn cael dealltwriaeth o weithwyr mudol Ffilipinaidd yng Nghymru. Mae Elizabeth Edwards (2009) hefyd wedi defnyddio ffenomenoleg i archwilio dewisiadau, disgwyliadau a phrofiadau merched oedd yn bwriadu rhoi genedigaeth mewn canolfan eni yn ne Cymru. Yn ogystal, defnyddiodd Williams (2016) ffenomenoleg er mwyn ceisio deall sut y gall astudiaethau [[perfformio]] gynnig cipolwg ar y modd y mae cymdogaeth gapelyddol Gymraeg yn cael ei chreu drwy weithredoedd perfformiadol.
+
Mae sawl ymchwilydd wedi defnyddio <nowiki>ffenomenoleg</nowiki> fel dull ymchwil er mwyn deall agweddau gwahanol o gymdeithas yng Nghymru. Er enghraifft, cynhaliodd Anna Sydor (2019) ymchwil i brofiadau dynion ifanc o dde Cymru wrth iddynt ymdrin â’u hiechyd rhywiol, a defnyddiodd Bernal-Davies (2016) <nowiki>ffenomenoleg</nowiki> er mwyn cael dealltwriaeth o weithwyr mudol Ffilipinaidd yng Nghymru. Mae Elizabeth Edwards (2009) hefyd wedi defnyddio <nowiki> ffenomenoleg </nowiki> i archwilio dewisiadau, disgwyliadau a phrofiadau merched oedd yn bwriadu rhoi genedigaeth mewn canolfan eni yn ne Cymru. Yn ogystal, defnyddiodd Williams (2016) <nowiki> ffenomenoleg </nowiki> er mwyn ceisio deall sut y gall astudiaethau <nowiki> perfformio </nowiki> gynnig cipolwg ar y modd y mae cymdogaeth gapelyddol Gymraeg yn cael ei chreu drwy weithredoedd perfformiadol.
  
'''Adam Pierce a Siôn Jones'''
 
'''Adam Pierce a Siôn Jones'''
  
== Llyfryddiaeth ==
 
== Llyfryddiaeth ==
 
Ames, M. (2010), ‘Blodeuwedd, somatic efforts in directing: a political imperative?’ ''Cyfrwng: Cyfnodolyn Cyfryngau Cymru'', 7, 28–57.  
 
Ames, M. (2010), ‘Blodeuwedd, somatic efforts in directing: a political imperative?’ ''Cyfrwng: Cyfnodolyn Cyfryngau Cymru'', 7, 28–57.  
Llinell 48: Llinell 47:
 
Geertz, C. (2000), ''The Interpretation of Cultures'' (New York: Basic Books).
 
Geertz, C. (2000), ''The Interpretation of Cultures'' (New York: Basic Books).
  
Husserl, E. (1973), ''Cartesian Meditations: An Introduction to Phenomenology'', cyfieithwyd gan D. Cairns (Dordecht: Kluwer).
+
Husserl, E. (1973), Cartesian Meditations: ''An Introduction to Phenomenology'', cyfieithwyd gan D. Cairns (Dordecht: Kluwer).
  
Kozel, S. (2007), ''Closer: Performance, Technology, Phenomenology'' (Cambridge, MA, and London: MIT Press)
 
Kozel, S. (2007), ''Closer: Performance, Technology, Phenomenology'' (Cambridge, MA, and London: MIT Press)
  
Merleau-Ponty, M. (2009), Phenomenology of Perception (London and New York: Routledge).
+
Merleau-Ponty, M. (2009), ''Phenomenology of Perception'' (London and New York: Routledge).
  
Pearson, M. (2013), ‘Perfformio Safle-benodol’ yn: Jones, A. a Lewis, L. (goln), Ysgrifau ar Theatr a Pherfformio ([[Caerdydd]]: Gwasg Prifysgol Cymru), tt.142–58.
+
Pearson, M. (2013), ‘<nowiki>Perfformio</nowiki> Safle-benodol’ yn: Jones, A. a Lewis, L. (goln), Y''sgrifau ar Theatr a Pherfformio'' (<nowiki>Caerdydd</nowiki>: Gwasg Prifysgol Cymru), tt.142–58.
  
Sydor, A (2019), ‘An interpretative phenomenological analysis of young men’s experiences of addressing their sexual health and the importance of researcher reflexivity’, ''Journal of Research in Nursing'', 24(1–2), 36–46.
 
Llinell 60: Llinell 59:
 
Taylor, D. (2003), ''The Archive and the Repertoire: Performing Cultural Memory in the Americas'' (Durham and London: Duke University Press).
 
Taylor, D. (2003), ''The Archive and the Repertoire: Performing Cultural Memory in the Americas'' (Durham and London: Duke University Press).
  
Williams, R., ‘Y Capel Cymraeg, Cymdogaeth a Pherfformiad’, traethawd PhD, Prifysgol De Cymru, [[Caerdydd]], 2016.  
+
Williams, R., ‘Y Capel Cymraeg, Cymdogaeth a Pherfformiad’, traethawd PhD, Prifysgol De Cymru, <nowiki>Caerdydd</nowiki>, 2016.  
  
{{CC BY-SA}}
 
{{CC BY-SA}}
 
[[Categori:Gwyddorau_Cymdeithasol]]
 
[[Categori:Gwyddorau_Cymdeithasol]]

Y diwygiad cyfredol, am 09:26, 8 Medi 2024

(Saesneg: Phenomenology)

1. Cyflwyniad i ffenomenoleg

Yn sylfaenol, ffenomenoleg yw’r cysyniad ein bod yn deall y byd drwy ffenomenau. Ystyr hynny yw honni nad yw’r byd yn bodoli fel endid sydd y tu hwnt i ni; ein canfyddiad a’n hamgyffred ein hunain o’r byd sy’n ei ffurfio i ni.

Ar ddiwedd y 19g a dechrau’r 20g defnyddiodd Edmund Husserl (1973), un o’r rhai cyntaf i drafod ffenomenoleg, syniadaeth yr athronydd René Descartes fel dechreubwynt i ystyried y modd y mae gwybodaeth yn cael ei chreu. Dywedodd Decartes: ‘Cogito, ergo sum’ (Rwyf yn meddwl, felly rwyf yn bod; 1982: 25). Yn ôl Decartes a Husserl, ni fel pobl sy’n dehongli’r byd. Ond tra oedd Decartes yn grediniol ein bod yn gwneud hyn o safbwynt meddyliol, dadleuai Husserl ein bod yn gwneud hyn drwy weld y byd drwy’r synhwyrau, gan ganfod ffenomenau. Credai Husserl nad proses wrthrychol, bositifaethol yw epistemoleg, ond mai meddwl ac athroniaeth sy’n rhoi bywyd i wyddoniaeth; nid yw’r byd yn bodoli ar ei ben ei hun fel endid gwyddonol, gwrthrychol. Profiad ymgorfforedig person sy’n cyfleu’r byd iddo.

Cyfrannodd yr athronydd Maurice Merleau-Ponty (2009; ix) at syniadaeth ffenomenolegol drwy nodi mai profiadau’r corff sy’n estyn allan i greu byd, gan ddefnyddio’i amgyffred ei hun fel mesurydd: ‘I am the absolute source, my existence does not stem from its antecedents, from my physical and social environment; instead it moves out towards them and sustains them, for I alone bring into being for myself.’

Felly, profiad ymgorfforedig cyflawn, corfforol yw profi a dirnad y byd. Gall ffenomenoleg fod yn ddefnyddiol wrth ystyried perthynas gorfforol person â’i amgylchedd neu â pherson arall, neu wrth ystyried ymateb ein synhwyrau fel modd o ddeall y byd.

Mewn cyd-destun Cymreig, mae’r ddawnswraig a’r academydd Margaret Ames wedi cyfrannu at y ddealltwriaeth hon, gan nodi: ‘Trwy’r corff rydym yn canfod y byd. Trwy’r corff rydym yn gweithredu yn y byd ac yn creu’r byd. Trwy’r corff rydym yn profi’r byd ac mae’r profiad o’r byd yn ein newid yn raddol drwy gydol ein bywydau.’ (2010; 182)

Noda’n glir ei chred mai’r corff sy’n ganolog i’n dealltwriaeth o’r byd ac o’n hunain mewn perthynas â’r byd. Felly, gellir ystyried profiad mewn ffyrdd sydd y tu hwnt i feddwl a geiriau, a gellir dadlau nad yw strwythur iaith yn caniatáu mynegiant llwyr o ymatebion creiddiol, corfforol. Mae’r ymarferydd perfformio a’r athro Mike Pearson yn ychwanegu at hyn yn ei drafodaeth o’r modd yr ydym yn amgyffred gofod. Noda fod haenau o wybodaeth ‘aml-amserol’ (2013; 151) yn bresennol mewn gofod, sy’n ychwanegu at ein dehongliad ohono. Mae’r wybodaeth yn ffisegol, yn dod o fateroldeb strwythur y gofod, a hefyd yn drosiadol, sef yn ymwneud â’r atgofion neu’r straeon sydd ynghlwm â’r lle. Dywed y canlynol am berfformiad safle-benodol, ac mae’n gyfraniad all ychwanegu at ein dealltwriaeth o amgyffred y byd drwy ein synhwyrau mewn modd adnewyddol: ‘mae natur fyrhoedlog perfformiad a materoldeb lleoliad yn cydblethu ac yn dadlennu pethau am ei gilydd; mae natur dros dro’r digwyddiad yn cuddio natur barhaol y digwyddiad; y dadleniad cyfoes yw’r haen ddiweddaraf yn hanes y lle.’

Hynny yw, gall ffrwd person o wybodaeth am safle gael ei hadnewyddu’n gyson, ac mae’n brofiad cylchol.

Defnyddia Husserl y term ‘lleihad trosgynnol-ffenomenolegol’ (transcendental-phenomenological reduction) i ddisgrifio’r broses o adnabod cylchol sy’n digwydd mewn ystyriaeth ffenomenolegol. Mae adnabod y byd ac adnabyddiaeth o’r hunan yn gyd-ddibynnol, yn cadarnhau ei gilydd, ac yn brofiad cylchol. Lleihad yw’r broses sy’n cymhwyso’r gwahanol ffenomenâu at ei gilydd i gyfnod penodol. Atega’r anthropolegydd Clifford Geertz (2000; 92) hyn drwy nodi: ‘culture patterns have an intrinsic double aspect: they give meaning, that is, objective conceptual form, to social and psychological reality both by shaping themselves to it and by shaping it to themselves.’

Hynny yw, rydym ni’n rhoi ystyr i wrthrych neu oddrych, ac mae’r gwrthrych neu’r goddrych yn rhoi ystyr i ni. Cymerer tedi plentyn er enghraifft: mae ei werth yn cynyddu i’r plentyn gan ddibynnu ar faint o oriau y bu’n ei anwesu ac yn chwarae ag ef dros y blynyddoedd. Ond i blentyn arall efallai nad oes iddo’r un gwerth.

Mae ffenomenoleg yn rhoi gwerth ar brofiad, sy’n rhywbeth na ellir weithiau ei gyfleu mewn geiriau. Gall perfformiad fod yn fodd o arddangos profiadau ffenomenolegol. Yn ôl yr ysgolhaig a’r ymarferydd Susan Kozel (2007), gall perfformio gynrychioli bwriad y perfformiwr i brofi, i weld, i deimlo a’i glywed ei hun ac eraill. Hynny yw, gall gweithred berfformiadol gyfleu profiad synhwyrus, a mynegi aml haenau bodolaeth unigolyn yn y byd. Mae’r ymwybyddiaeth hon yn ffenomenolegol.

Gall y ddealltwriaeth fod profiad ac amgyffred synhwyrus yn wybodaeth bwysig fod o gymorth i’r rheiny nad yw’r adnoddau ganddynt i gymhwyso profiad yn eiriau. Os astudir defod mewn diwylliant penodol, dyweder, er mwyn ceisio deall y diwylliant hwnnw, mae’n debyg y byddai modd deall rhywfaint drwy ddarllen cofnod ysgrifenedig o’r ddefod. Ond os tystir i’r ddefod, gan ystyried ei threfn, ei rhythm, ei symudiadau a’r holl brofiad a ddaw o fod yn yr un amser a’r un gofod, gellir cael dealltwriaeth ddyfnach ohoni. Mae hyn yn cydnabod bod y ffenomenau a gyflwynir yn medru cyfathrebu’n ehangach na’r gair sy’n ddisgrifio’r weithred yn unig.

Geilw’r ysgolhaig Diana Taylor (2003) ddefodau a gweithgareddau nad ydynt o reidrwydd yn gallu cael eu cofnodi yn wybodaeth sy’n perthyn i’r repertoire. Cred fod grymoedd y Gorllewin yn ffafrio archifau, er enghraifft llyfrau, mapiau a dogfennau y gellir eu cyffwrdd. Ond rhybuddia fod blaenoriaethu archifau fel hyn yn niweidiol i ddiwylliannau lleiafrifol oherwydd bod archifau yn aml yn eithrio’r diwylliannau hynny; efallai nad oes ganddynt y gallu na’r cyfalaf i gyfleu’r naratif sy’n briodol i archif. Ni all archif gyfathrebu gwybodaeth sy’n cael ei chreu a’i chadw yn y repertoire. Mae deall bod gwybodaeth i’w chaffael drwy ein hymwybyddiaeth synhwyraidd, corfforol, drwy brofi ffenomenau, yn bwysig er mwyn cael amgyffred cyflawn o’r byd.

Rhiannon M. Williams

2. Ffenomenoleg yng Nghymru

Mae sawl ymchwilydd wedi defnyddio ffenomenoleg fel dull ymchwil er mwyn deall agweddau gwahanol o gymdeithas yng Nghymru. Er enghraifft, cynhaliodd Anna Sydor (2019) ymchwil i brofiadau dynion ifanc o dde Cymru wrth iddynt ymdrin â’u hiechyd rhywiol, a defnyddiodd Bernal-Davies (2016) ffenomenoleg er mwyn cael dealltwriaeth o weithwyr mudol Ffilipinaidd yng Nghymru. Mae Elizabeth Edwards (2009) hefyd wedi defnyddio ffenomenoleg i archwilio dewisiadau, disgwyliadau a phrofiadau merched oedd yn bwriadu rhoi genedigaeth mewn canolfan eni yn ne Cymru. Yn ogystal, defnyddiodd Williams (2016) ffenomenoleg er mwyn ceisio deall sut y gall astudiaethau perfformio gynnig cipolwg ar y modd y mae cymdogaeth gapelyddol Gymraeg yn cael ei chreu drwy weithredoedd perfformiadol.

Adam Pierce a Siôn Jones

Llyfryddiaeth

Ames, M. (2010), ‘Blodeuwedd, somatic efforts in directing: a political imperative?’ Cyfrwng: Cyfnodolyn Cyfryngau Cymru, 7, 28–57.

Bernal-Davies, B. (2016), Constructing Social Identity: An Interpretative Phenomenological Analysis Approach to Understanding Filipino Migrant Workers in Wales, United Kingdom [cyflwyniad mewn cynhadledd], Cynhadledd Ymchwil 2016, The European Conference on Psychology & the Behavioral Sciences.

Descartes, R. (1982), Y Traethawd a’r Myfyrdodau, cyfieithwyd gan J. Fitzgerald (Aberystwyth: Coleg Prifysgol Cymru).

Edwards, E., ‘A Phenomenological Analysis of Women’s Choices: Expectations and Experiences when Intending to Give Birth in a Birth Centre’, traethawd PhD, Prifysgol Morgannwg, Trefforest, 2009.

Geertz, C. (2000), The Interpretation of Cultures (New York: Basic Books).

Husserl, E. (1973), Cartesian Meditations: An Introduction to Phenomenology, cyfieithwyd gan D. Cairns (Dordecht: Kluwer).

Kozel, S. (2007), Closer: Performance, Technology, Phenomenology (Cambridge, MA, and London: MIT Press)

Merleau-Ponty, M. (2009), Phenomenology of Perception (London and New York: Routledge).

Pearson, M. (2013), ‘Perfformio Safle-benodol’ yn: Jones, A. a Lewis, L. (goln), Ysgrifau ar Theatr a Pherfformio (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru), tt.142–58.

Sydor, A (2019), ‘An interpretative phenomenological analysis of young men’s experiences of addressing their sexual health and the importance of researcher reflexivity’, Journal of Research in Nursing, 24(1–2), 36–46.

Taylor, D. (2003), The Archive and the Repertoire: Performing Cultural Memory in the Americas (Durham and London: Duke University Press).

Williams, R., ‘Y Capel Cymraeg, Cymdogaeth a Pherfformiad’, traethawd PhD, Prifysgol De Cymru, Caerdydd, 2016.

Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.