Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Meic Povey"
(categori newydd: Categori:Ffilm a Theledu Cymru) |
|||
(Ni ddangosir y 5 golygiad yn y canol gan yr un defnyddiwr) | |||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
− | + | Brodor o Eryri yw '''Meic Povey''' ac fe’i ganwyd yn Nantgwynant ym 1950. Symudodd y teulu i Garndolbenmaen, Eifionydd, pan oedd yn fachgen ifanc ac ef yw’r pumed o ddeg o blant. Dechreuodd weithio fel clerc gyda chwmni cyfreithwyr W. R. P. George pan oedd yn bymtheg oed a chafodd brofiad cynnar o berfformio gyda chwmni’r Gegin yng Nghricieth. Dechreuodd ei yrfa broffesiynol gyda Chwmni Theatr Cymru ym 1968 a’r ddrama gyntaf iddo weithio arni oedd ''[[Tŷ ar y Tywod]]'' gan [[Gwenlyn Parry]]. Dywed fod Gwenlyn Parry a Wil Sam wedi bod yn ddylanwadau mawr arno yn ddiweddarach yn ei fywyd, yn enwedig o ran deialogi dramâu.[1] | |
− | Brodor o Eryri yw Meic Povey ac fe’i ganwyd yn Nantgwynant ym 1950. Symudodd y | ||
− | Ym 1974, yn bedair ar hugain oed, aeth i weithio fel golygydd sgriptiau i ''Pobol y Cwm'' dan gyfarwyddyd Gwenlyn Parry. Ond bu’n actio ac yn ysgrifennu dramâu’n broffesiynol byth ers ei gyfnod â Chwmni Theatr Cymru ac mae’n dal i ysgrifennu heddiw. Cyhoeddodd Meic Povey nofel fer | + | Ym 1974, yn bedair ar hugain oed, aeth i weithio fel golygydd sgriptiau i ''Pobol y Cwm'' dan gyfarwyddyd Gwenlyn Parry. Ond bu’n actio ac yn ysgrifennu dramâu’n broffesiynol byth ers ei gyfnod â Chwmni Theatr Cymru ac mae’n dal i ysgrifennu heddiw. Cyhoeddodd Meic Povey nofel fer – ''Mae’r Sgwâr yn Wag'' – ym 1975 ond nid yw’n cyfeirio ati’n aml. Dywed ei fod yn credu mai ym 1985, pan ysgrifennodd ''Sul y Blodau'', y dechreuodd ysgrifennu pethau o werth. |
− | Themâu cyffredin sy’n codi yn ei waith yw | + | Themâu cyffredin sy’n codi yn ei waith yw teulu, gadael cartref a dychwelyd adref wedi cyfnod i ffwrdd, ac yn arbennig, perthynas pobl â’i gilydd. Nodwedd bwysig yn ei waith yw ei fod yn tueddu i ysgrifennu cymeriadau neu ddigwyddiadau tebyg i’r hyn sydd wedi digwydd yn ei fywyd. Yn ei hunangofiant, mae’n datgelu’n aml pwy y mae wedi seilio cymeriad penodol arno, ac mae’n nodi rhai (mân) sefyllfaoedd sydd wedi eu dramateiddio yn ei waith. Mae’n awdur sy’n barod i feirniadu cymdeithas, ac yn arbennig y gymdeithas Gymreig. |
Ymysg ei ddramâu llwyfan mae ''Perthyn'' (1987); ''Wyneb yn Wyneb'' (1993); ''Fel Anifail'' (1995); ''Yn Debyg Iawn i Ti a Fi'' (1995); ''Tair'' (1998); ''Diwedd y Byd a Yr Hen Blant'' (2000); ''Hen Bobl mewn Ceir'' (2006) a ''Tyner yw’r Lleuad Heno'' (2010). Mae hefyd wedi ysgrifennu yn Saesneg – ''Indian Country'' (2003) a ''The Life of Ryan...and Ronnie'' (2005). Yn ogystal â hyn, bu’n actor adnabyddus yn ystod y 1970au a’r 1980au gan ymddangos mewn nifer o ddramâu Cymraeg, gan gynnwys rhai a ygrifennodd ei hun, a daeth yn enw adnabyddus ledled Prydain am ei rôl fel Jones y plismon yng nghyfres ''Minder''. | Ymysg ei ddramâu llwyfan mae ''Perthyn'' (1987); ''Wyneb yn Wyneb'' (1993); ''Fel Anifail'' (1995); ''Yn Debyg Iawn i Ti a Fi'' (1995); ''Tair'' (1998); ''Diwedd y Byd a Yr Hen Blant'' (2000); ''Hen Bobl mewn Ceir'' (2006) a ''Tyner yw’r Lleuad Heno'' (2010). Mae hefyd wedi ysgrifennu yn Saesneg – ''Indian Country'' (2003) a ''The Life of Ryan...and Ronnie'' (2005). Yn ogystal â hyn, bu’n actor adnabyddus yn ystod y 1970au a’r 1980au gan ymddangos mewn nifer o ddramâu Cymraeg, gan gynnwys rhai a ygrifennodd ei hun, a daeth yn enw adnabyddus ledled Prydain am ei rôl fel Jones y plismon yng nghyfres ''Minder''. | ||
− | Ei ffilm fwyaf adnabyddus yw ''Nel'' (1991). Ffilm oedd hon am wraig sengl, Nel, sydd yn wynebu cael ei symud o’i chartref teuluol i fyngalo yn y dref oherwydd bod ei brawd yn dymuno gwerthu fferm y | + | Ei ffilm fwyaf adnabyddus yw ''Nel'' (1991). Ffilm oedd hon am wraig sengl, Nel, sydd yn wynebu cael ei symud o’i chartref teuluol i fyngalo yn y dref oherwydd bod ei brawd yn dymuno gwerthu fferm y teulu. Wedi oes gyfan yn byw ar y fferm, mae Nel yn benderfynol o beidio â symud – mae’n bwriadu cymryd gwenwyn i ddiweddu ei bywyd. Daw ei nith i’r fferm am ginio gyda’i theulu o Gaerdydd. O ganlyniad i’r ymweliad hwn daw cyfrinachau a thensiynau i’r amlwg ynhgyd â chymeriad annwyl ac unig Nel. Portrëir hefyd y modd y mae’r nith yn clodfori’r ardal ond eto wedi symud oddi yno ac yn cau ei llygaid i broblemau Nel. Yn arbennig o amlwg yn y ffilm y mae’r feirniadaeth ar iaith a diwylliant y teulu o Gaerdydd, sydd wedi eu ‘heintio’ gan ddylanwandau anglo ac anglo-americanaidd. |
Yn 2009 dangoswyd ei ffilm ''Ryan a Ronnie'' mewn sinemâu ar draws Cymru gyda’r is-bennawd – ‘Bywyd dau, breuddwyd un’. Darlledwyd hi fel ffilm y Nadolig yn 2009. Addasiad o’r ddrama lwyfan Saesneg oedd hi. | Yn 2009 dangoswyd ei ffilm ''Ryan a Ronnie'' mewn sinemâu ar draws Cymru gyda’r is-bennawd – ‘Bywyd dau, breuddwyd un’. Darlledwyd hi fel ffilm y Nadolig yn 2009. Addasiad o’r ddrama lwyfan Saesneg oedd hi. | ||
− | Mae ei gynyrchiadau teledu’n cynnwys cyfres am isfyd | + | Mae ei gynyrchiadau teledu’n cynnwys cyfres am isfyd Caerdydd – ''Dim ond Heddiw'' (1978); ''Nos Sadwrn Bach'' (1981); ''Aelwyd Gartrefol'' (1983); ''Meistres y Chwarae'' (1983); addasiad o’i ddrama lwyfan ''Y Cadfridog'' (1984); ''Camau Troellog'' (1984); cyfres ddrama ''Deryn'' (1986); ''Sul y Blodau'' (1986); drama deledu Saesneg am farwolaeth ''Babylon Bypassed'' (1988); ''Yma i Aros'' (1989); ''Yr Ynys'' (1992); ''Y Weithred'' (1995); ''[[Talcen Caled]]'' (2001); ''Bob a’i Fam'' (2002); ''[[Teulu]]'' (2008). |
− | Ymysg ei ddramâu teledu gorau mae ''Sul y Blodau'' (1986) sy’n olrhain hanes cyrch yr heddlu ar noswyl Sul y Blodau ym 1980 yn erbyn y rhai oedd yn cael eu hamau o losgi tai hâf. Mae ffocws y ddrama ar un o’r teuluoedd sydd dan amheuaeth wrth i’w mab, Geraint, gael ei gymryd i’r ddalfa. Yn y ddrama mae ymateb ei rieni i’w mab cenedlaetholgar yn cael ei gymharu ag ymateb ei frawd, Owain, sy’n byw ac yn gweithio yn Lloegr, ac sy’n dychwelyd adref ar gyfer penwythnos Sul y Blodau, gyda Saesnes i’w ganlyn. Archwilir yma’r tensiynau sy’n codi o fewn | + | Ymysg ei ddramâu teledu gorau mae ''Sul y Blodau'' (1986) sy’n olrhain hanes cyrch yr heddlu ar noswyl Sul y Blodau ym 1980 yn erbyn y rhai oedd yn cael eu hamau o losgi tai hâf. Mae ffocws y ddrama ar un o’r teuluoedd sydd dan amheuaeth wrth i’w mab, Geraint, gael ei gymryd i’r ddalfa. Yn y ddrama mae ymateb ei rieni i’w mab cenedlaetholgar yn cael ei gymharu ag ymateb ei frawd, Owain, sy’n byw ac yn gweithio yn Lloegr, ac sy’n dychwelyd adref ar gyfer penwythnos Sul y Blodau, gyda Saesnes i’w ganlyn. Archwilir yma’r tensiynau sy’n codi o fewn teulu a’r rhagrith a geid o fewn cymunedau Cymraeg. |
Yn 2010 cyhoeddodd ei hunangofiant, ''Nesa Peth i Ddim''. | Yn 2010 cyhoeddodd ei hunangofiant, ''Nesa Peth i Ddim''. | ||
''Bywgraffiad gan Michelle Davies''. | ''Bywgraffiad gan Michelle Davies''. | ||
− | |||
'''Troednodiadau''' | '''Troednodiadau''' | ||
[1] A.M.Davies mewn cyfweliad â Meic Povey, ''Astudiaeth o ddramâu teledu unigol Meic Povey'', Astudiaeth MA ym Mhrifysgol Cymru, Bangor, (16 Gorffennaf 2007). | [1] A.M.Davies mewn cyfweliad â Meic Povey, ''Astudiaeth o ddramâu teledu unigol Meic Povey'', Astudiaeth MA ym Mhrifysgol Cymru, Bangor, (16 Gorffennaf 2007). | ||
− | |||
'''Llyfryddiaeth defnyddiol''' | '''Llyfryddiaeth defnyddiol''' | ||
− | Meic Povey, ''Nesa Peth i Ddim'' (Gwasg Carreg Gwalch; Llanrwst, 2010). | + | * Meic Povey, ''Nesa Peth i Ddim'' (Gwasg Carreg Gwalch; Llanrwst, 2010). |
− | Anna Michelle Davies, ''Astudiaeth o ddramâu teledu unigol Meic Povey'', Astudiaeth MA ym Mhrifysgol Cymru, Bangor (2007). | + | * Anna Michelle Davies, ''Astudiaeth o ddramâu teledu unigol Meic Povey'', Astudiaeth MA ym Mhrifysgol Cymru, Bangor (2007). |
− | Gwenno Hughes, ''Astudiaeth o ddramâu Meical Povey ers 1985'', Astudiaeth MA ym Mhrifysgol Cymru, Bangor (1994). | + | * Gwenno Hughes, ''Astudiaeth o ddramâu Meical Povey ers 1985'', Astudiaeth MA ym Mhrifysgol Cymru, Bangor (1994). |
+ | {{DEFAULTSORT:Povey, Meic}} | ||
+ | [[Categori:Ffilm a Theledu Cymru]] | ||
+ | [[Categori:Cyfarwyddwyr]] | ||
+ | [[Categori:Actorion]] | ||
− | + | __NOAUTOLINKS__ | |
− |
Y diwygiad cyfredol, am 13:46, 25 Gorffennaf 2014
Brodor o Eryri yw Meic Povey ac fe’i ganwyd yn Nantgwynant ym 1950. Symudodd y teulu i Garndolbenmaen, Eifionydd, pan oedd yn fachgen ifanc ac ef yw’r pumed o ddeg o blant. Dechreuodd weithio fel clerc gyda chwmni cyfreithwyr W. R. P. George pan oedd yn bymtheg oed a chafodd brofiad cynnar o berfformio gyda chwmni’r Gegin yng Nghricieth. Dechreuodd ei yrfa broffesiynol gyda Chwmni Theatr Cymru ym 1968 a’r ddrama gyntaf iddo weithio arni oedd Tŷ ar y Tywod gan Gwenlyn Parry. Dywed fod Gwenlyn Parry a Wil Sam wedi bod yn ddylanwadau mawr arno yn ddiweddarach yn ei fywyd, yn enwedig o ran deialogi dramâu.[1]
Ym 1974, yn bedair ar hugain oed, aeth i weithio fel golygydd sgriptiau i Pobol y Cwm dan gyfarwyddyd Gwenlyn Parry. Ond bu’n actio ac yn ysgrifennu dramâu’n broffesiynol byth ers ei gyfnod â Chwmni Theatr Cymru ac mae’n dal i ysgrifennu heddiw. Cyhoeddodd Meic Povey nofel fer – Mae’r Sgwâr yn Wag – ym 1975 ond nid yw’n cyfeirio ati’n aml. Dywed ei fod yn credu mai ym 1985, pan ysgrifennodd Sul y Blodau, y dechreuodd ysgrifennu pethau o werth.
Themâu cyffredin sy’n codi yn ei waith yw teulu, gadael cartref a dychwelyd adref wedi cyfnod i ffwrdd, ac yn arbennig, perthynas pobl â’i gilydd. Nodwedd bwysig yn ei waith yw ei fod yn tueddu i ysgrifennu cymeriadau neu ddigwyddiadau tebyg i’r hyn sydd wedi digwydd yn ei fywyd. Yn ei hunangofiant, mae’n datgelu’n aml pwy y mae wedi seilio cymeriad penodol arno, ac mae’n nodi rhai (mân) sefyllfaoedd sydd wedi eu dramateiddio yn ei waith. Mae’n awdur sy’n barod i feirniadu cymdeithas, ac yn arbennig y gymdeithas Gymreig.
Ymysg ei ddramâu llwyfan mae Perthyn (1987); Wyneb yn Wyneb (1993); Fel Anifail (1995); Yn Debyg Iawn i Ti a Fi (1995); Tair (1998); Diwedd y Byd a Yr Hen Blant (2000); Hen Bobl mewn Ceir (2006) a Tyner yw’r Lleuad Heno (2010). Mae hefyd wedi ysgrifennu yn Saesneg – Indian Country (2003) a The Life of Ryan...and Ronnie (2005). Yn ogystal â hyn, bu’n actor adnabyddus yn ystod y 1970au a’r 1980au gan ymddangos mewn nifer o ddramâu Cymraeg, gan gynnwys rhai a ygrifennodd ei hun, a daeth yn enw adnabyddus ledled Prydain am ei rôl fel Jones y plismon yng nghyfres Minder.
Ei ffilm fwyaf adnabyddus yw Nel (1991). Ffilm oedd hon am wraig sengl, Nel, sydd yn wynebu cael ei symud o’i chartref teuluol i fyngalo yn y dref oherwydd bod ei brawd yn dymuno gwerthu fferm y teulu. Wedi oes gyfan yn byw ar y fferm, mae Nel yn benderfynol o beidio â symud – mae’n bwriadu cymryd gwenwyn i ddiweddu ei bywyd. Daw ei nith i’r fferm am ginio gyda’i theulu o Gaerdydd. O ganlyniad i’r ymweliad hwn daw cyfrinachau a thensiynau i’r amlwg ynhgyd â chymeriad annwyl ac unig Nel. Portrëir hefyd y modd y mae’r nith yn clodfori’r ardal ond eto wedi symud oddi yno ac yn cau ei llygaid i broblemau Nel. Yn arbennig o amlwg yn y ffilm y mae’r feirniadaeth ar iaith a diwylliant y teulu o Gaerdydd, sydd wedi eu ‘heintio’ gan ddylanwandau anglo ac anglo-americanaidd.
Yn 2009 dangoswyd ei ffilm Ryan a Ronnie mewn sinemâu ar draws Cymru gyda’r is-bennawd – ‘Bywyd dau, breuddwyd un’. Darlledwyd hi fel ffilm y Nadolig yn 2009. Addasiad o’r ddrama lwyfan Saesneg oedd hi.
Mae ei gynyrchiadau teledu’n cynnwys cyfres am isfyd Caerdydd – Dim ond Heddiw (1978); Nos Sadwrn Bach (1981); Aelwyd Gartrefol (1983); Meistres y Chwarae (1983); addasiad o’i ddrama lwyfan Y Cadfridog (1984); Camau Troellog (1984); cyfres ddrama Deryn (1986); Sul y Blodau (1986); drama deledu Saesneg am farwolaeth Babylon Bypassed (1988); Yma i Aros (1989); Yr Ynys (1992); Y Weithred (1995); Talcen Caled (2001); Bob a’i Fam (2002); Teulu (2008).
Ymysg ei ddramâu teledu gorau mae Sul y Blodau (1986) sy’n olrhain hanes cyrch yr heddlu ar noswyl Sul y Blodau ym 1980 yn erbyn y rhai oedd yn cael eu hamau o losgi tai hâf. Mae ffocws y ddrama ar un o’r teuluoedd sydd dan amheuaeth wrth i’w mab, Geraint, gael ei gymryd i’r ddalfa. Yn y ddrama mae ymateb ei rieni i’w mab cenedlaetholgar yn cael ei gymharu ag ymateb ei frawd, Owain, sy’n byw ac yn gweithio yn Lloegr, ac sy’n dychwelyd adref ar gyfer penwythnos Sul y Blodau, gyda Saesnes i’w ganlyn. Archwilir yma’r tensiynau sy’n codi o fewn teulu a’r rhagrith a geid o fewn cymunedau Cymraeg.
Yn 2010 cyhoeddodd ei hunangofiant, Nesa Peth i Ddim.
Bywgraffiad gan Michelle Davies.
Troednodiadau
[1] A.M.Davies mewn cyfweliad â Meic Povey, Astudiaeth o ddramâu teledu unigol Meic Povey, Astudiaeth MA ym Mhrifysgol Cymru, Bangor, (16 Gorffennaf 2007).
Llyfryddiaeth defnyddiol
- Meic Povey, Nesa Peth i Ddim (Gwasg Carreg Gwalch; Llanrwst, 2010).
- Anna Michelle Davies, Astudiaeth o ddramâu teledu unigol Meic Povey, Astudiaeth MA ym Mhrifysgol Cymru, Bangor (2007).
- Gwenno Hughes, Astudiaeth o ddramâu Meical Povey ers 1985, Astudiaeth MA ym Mhrifysgol Cymru, Bangor (1994).