Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Llen iâ"

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio
(Llyfryddiaeth)
 
(Ni ddangosir y 7 golygiad yn y canol gan 3 defnyddiwr arall)
Llinell 1: Llinell 1:
 
(Saesneg: ''ice sheet'')
 
(Saesneg: ''ice sheet'')
  
Corff mawr iawn o iâ yw llen iâ ac iddi arwynebedd sydd yn fwy nag oddeutu 50,000 km2 ac sy’n claddu’r rhan fwyaf o’r tir y mae’n ei orchuddio. Llen Iâ Antarctica, ac iddi arwynebedd o oddeutu 11.5 x 106 km2 a thrwch cymedrig o tua 2000 m, yw’r fwyaf yn y byd sydd ohoni. Mae’r llen iâ yma yn llawer llai na’r llenni iâ a orchuddiai’r rhan helaethaf o ogledd-orllewin Ewrop a gogledd Gogledd America pan oedd y Rhewlifiant Defensaidd Diwethaf yn ei anterth tua 20,000 o flynyddoedd yn ôl. Yn wahanol i len iâ mae cap iâ (''ice cap''), megis Vatnajökull (8,300 km2), Gwlad yr Iâ, yn llai na 50,000 km2 ond eto’n ddigon mawr i gladdu’r dirwedd y mae’n ei gorchuddio. O’r herwydd mae patrwm ei lif, megis patrwm llif llen iâ, yn ganlyniad i faintioli a ffurf y cap yn hytrach na’r topograffi claddedig. Yn wahanol i lenni iâ a chapiau iâ, mae patrwm llif meysydd iâ (''icefields''), megis y rheiny sy’n nodweddu’r Rockies yng Nghanada neu’r Tien Shan yn China, dan ddylanwad y topograffi y maent yn eu rhannol orchuddio.  
+
Corff mawr iawn o iâ yw llen iâ ac iddi arwynebedd sydd yn fwy nag oddeutu 50,000 km² ac sy’n claddu’r rhan fwyaf o’r tir y mae’n ei orchuddio. Llen Iâ Antarctica, ac iddi arwynebedd o oddeutu 11.5 x 106 km² a thrwch cymedrig o tua 2000 m, yw’r fwyaf yn y byd sydd ohoni. Mae’r llen iâ yma yn llawer llai na’r llenni iâ a orchuddiai’r rhan helaethaf o ogledd-orllewin Ewrop a gogledd Gogledd America pan oedd y Rhewlifiant Defensaidd Diwethaf yn ei anterth tua 20,000 o flynyddoedd yn ôl. Yn wahanol i len iâ mae cap iâ (''ice cap''), megis Vatnajökull (8,300 km²), Gwlad yr Iâ, yn llai na 50,000 km² ond eto’n ddigon mawr i gladdu’r dirwedd y mae’n ei gorchuddio. O’r herwydd mae patrwm ei lif, megis patrwm llif llen iâ, yn ganlyniad i faintioli a ffurf y cap yn hytrach na’r topograffi claddedig. Yn wahanol i lenni iâ a chapiau iâ, mae patrwm llif meysydd iâ (''icefields''), megis y rheiny sy’n nodweddu’r Rockies yng Nghanada neu’r Tien Shan yn China, dan ddylanwad y topograffi y maent yn eu rhannol orchuddio.  
  
Gellir rhannu llenni iâ a chapiau iâ yn gromenni iâ (''ice domes'') – sef ardaloedd uchel o iâ sy’n symud yn gymharol araf – ac yn ffrydlifiau iâ (''ice streams'') a rhewlifau all-lifol (''outlet glaciers''), cyflymach o lawer eu llif, sy’n bennaf cyfrifol am symud swmp yr iâ tua chyrion y cap neu’r llen. Ar gyrion cap neu len iâ, tir heb iâ sy’n codi uwchlaw ymylon rhewlifau all-lifol ond iâ sy’n llifo’n araf a geir o boptu ffrydlifau iâ. Pa le bynnag y mae [[rhewlif]] all-lifol neu ffrydlif iâ yn terfynu yn y môr, bydd yr iâ’n arnofio gan esgor ar sgafell iâ (''ice shelf'') sydd, yn ei thro, yn bwtresu ac yn arafu llif y corff iâ sy’n ei bwydo. Mae sgafelli iâ, sy’n terfynu ar ffurf clogwyni a all fod cyn uched â 30 m, yn nodweddiadol iawn o Len Iâ Antarctica a Llen Iâ’r Ynys Las (Grønland). Er enghraifft, [[rhewlif]] Petermann, un o rewlifau all-lifol yr Ynys Las, yw’r mwyaf yn hemisffer y gogledd ac mae ei 50 milltir isaf ar ffurf sgafell arnofiol. Caiff rhannau o sgafelli iâ eu colli wrth i dalpiau enfawr ohonynt dorri a chwympo i’r môr ar ffurf mynyddoedd iâ tablaidd (''tabular icebergs'') a hefyd o ganlyniad i ddadmeriad gwaelodol (''bottom melt''). Yn y fath fodd y mae [[rhewlif]] Petermann yn cyflenwi 12 biliwn o dunelli metrig o iâ i’r Cefnfor Arctig bob blwyddyn.
+
Gellir rhannu llenni iâ a chapiau iâ yn gromenni iâ (''ice domes'') – sef ardaloedd uchel o iâ sy’n symud yn gymharol araf – ac yn ffrydlifiau iâ (''ice streams'') a [[rhewlif|rhewlifau]] all-lifol (''outlet glaciers''), cyflymach o lawer eu llif, sy’n bennaf cyfrifol am symud swmp yr iâ tua chyrion y cap neu’r llen. Ar gyrion cap neu len iâ, tir heb iâ sy’n codi uwchlaw ymylon rhewlifau all-lifol ond iâ sy’n llifo’n araf a geir o boptu ffrydlifau iâ. Pa le bynnag y mae rhewlif all-lifol neu ffrydlif iâ yn terfynu yn y môr, bydd yr iâ’n arnofio gan esgor ar sgafell iâ (''ice shelf'') sydd, yn ei thro, yn bwtresu ac yn arafu llif y corff iâ sy’n ei bwydo. Mae sgafelli iâ, sy’n terfynu ar ffurf clogwyni a all fod cyn uched â 30 m, yn nodweddiadol iawn o Len Iâ Antarctica a Llen Iâ’r Ynys Las (Grønland). Er enghraifft, rhewlif Petermann, un o rewlifau all-lifol yr Ynys Las, yw’r mwyaf yn hemisffer y gogledd ac mae ei 50 milltir isaf ar ffurf sgafell arnofiol. Caiff rhannau o sgafelli iâ eu colli wrth i dalpiau enfawr ohonynt dorri a chwympo i’r môr ar ffurf mynyddoedd iâ tablaidd (''tabular icebergs'') a hefyd o ganlyniad i ddadmeriad gwaelodol (''bottom melt''). Yn y fath fodd y mae rhewlif Petermann yn cyflenwi 12 biliwn o dunelli metrig o iâ i’r Cefnfor Arctig bob blwyddyn.
  
Mae creiddiau iâ (''ice cores'') o’r ddwy len iâ fwyaf yn y byd yn darparu data hinsoddegol dirprwyol (''proxy climatological data'') manwl am hanes yr hinsawdd dros gyfnod o oddeutu 250,000 o flynyddoedd yn achos yr Ynys Las ac o leiaf 450,000 o flynyddoedd, ac o bosibl 750,000 o flynyddoedd, yn achos Antarctica. Yn wir, maent yn un o’r archifau pwysicaf o ddata palaeoamgylcheddol a [[palaeohinsoddeg]] y [[cyfnod cwaternaidd]] diweddar. Yn benodol, mae’r creiddiau yn cynnwys gwybodaeth hynod werthfawr am newidiadau hinsoddol, gan gynnwys newidiadau hinsoddol sydyn iawn, cyfansoddiad a chylchrediad yr atmosffer, llygredd atmosfferig ac echdoriadau folcanig. Er enghraifft, dengys cofnod y gymhareb isotop-ocsigen (18O:16O) (''oxygen-isotope ratio'') yng nghreiddiau’r Ynys Las fod hinsawdd yr [[holosen]], megis y cyfnod rhyngrewlifol diwethaf (''last interglacial'') rhwng tua 110,000 a 140,000 o flynyddoedd yn ôl, wedi bod yn gymharol sefydlog ond bod newidiadau dramatig, ond byrhoedlog, wedi nodweddu’r cyfnod hwyr-rewlifol (''late-glacial'') a’r gylchred rewlifol ddiwethaf.  
+
Mae creiddiau iâ (''ice cores'') o’r ddwy len iâ fwyaf yn y byd yn darparu data hinsoddegol dirprwyol (''proxy climatological data'') manwl am hanes yr hinsawdd dros gyfnod o oddeutu 250,000 o flynyddoedd yn achos yr Ynys Las ac o leiaf 450,000 o flynyddoedd, ac o bosibl 750,000 o flynyddoedd, yn achos Antarctica. Yn wir, maent yn un o’r archifau pwysicaf o ddata palaeoamgylcheddol a [[palaeohinsoddeg]] y [[Cyfnod Cwaternaidd|cyfnod cwaternaidd]] diweddar. Yn benodol, mae’r creiddiau yn cynnwys gwybodaeth hynod werthfawr am newidiadau hinsoddol, gan gynnwys newidiadau hinsoddol sydyn iawn, cyfansoddiad a chylchrediad yr atmosffer, llygredd atmosfferig ac echdoriadau folcanig. Er enghraifft, dengys cofnod y gymhareb isotop-ocsigen (18O:16O) (''oxygen-isotope ratio'') yng nghreiddiau’r Ynys Las fod hinsawdd yr [[holosen]], megis y cyfnod rhyngrewlifol diwethaf (''last interglacial'') rhwng tua 110,000 a 140,000 o flynyddoedd yn ôl, wedi bod yn gymharol sefydlog ond bod newidiadau dramatig, ond byrhoedlog, wedi nodweddu’r cyfnod hwyr-rewlifol (''late-glacial'') a’r gylchred rewlifol ddiwethaf.  
  
 
== Llyfryddiaeth ==
 
== Llyfryddiaeth ==
  
Benn, D.I. a Evans, D.J.A. (adarg. 2010) ''Glaciers and Glaciation'', Arnold, Llundain, tt. 15-18.
+
* Benn, D. I. a Evans, D. J. A. (adarg. 2010) ''Glaciers and Glaciation'', Arnold, Llundain, tt. 15–18.
  
Bennett, M.R. a Glasser, N.F. (ail arg. 2009) ''Glacial Geology: Ice Sheets and Landforms'', Wiley, Chichester, tt. 7-17.
+
* Bennett, M. R. a Glasser, N. F. (ail arg. 2009) ''Glacial Geology: Ice Sheets and Landforms'', Wiley, Chichester, tt. 7–17.
  
Hancock, P.L. a Skinner, B.J. (2000) ''The Oxford Companion to The Earth'', Oxford University Press, Rhydychen, tt. 24-8, 475-9.
+
* Hancock, P. L. a Skinner, B. J. (2000) ''The Oxford Companion to The Earth'', Oxford University Press, Rhydychen, tt. 24–8, 475–9.
 +
 
 +
 
 +
{{CC BY-SA}}
 +
[[Categori:Daearyddiaeth]]
 +
 
 +
__NOAUTOLINKS__

Y diwygiad cyfredol, am 09:55, 22 Gorffennaf 2016

(Saesneg: ice sheet)

Corff mawr iawn o iâ yw llen iâ ac iddi arwynebedd sydd yn fwy nag oddeutu 50,000 km² ac sy’n claddu’r rhan fwyaf o’r tir y mae’n ei orchuddio. Llen Iâ Antarctica, ac iddi arwynebedd o oddeutu 11.5 x 106 km² a thrwch cymedrig o tua 2000 m, yw’r fwyaf yn y byd sydd ohoni. Mae’r llen iâ yma yn llawer llai na’r llenni iâ a orchuddiai’r rhan helaethaf o ogledd-orllewin Ewrop a gogledd Gogledd America pan oedd y Rhewlifiant Defensaidd Diwethaf yn ei anterth tua 20,000 o flynyddoedd yn ôl. Yn wahanol i len iâ mae cap iâ (ice cap), megis Vatnajökull (8,300 km²), Gwlad yr Iâ, yn llai na 50,000 km² ond eto’n ddigon mawr i gladdu’r dirwedd y mae’n ei gorchuddio. O’r herwydd mae patrwm ei lif, megis patrwm llif llen iâ, yn ganlyniad i faintioli a ffurf y cap yn hytrach na’r topograffi claddedig. Yn wahanol i lenni iâ a chapiau iâ, mae patrwm llif meysydd iâ (icefields), megis y rheiny sy’n nodweddu’r Rockies yng Nghanada neu’r Tien Shan yn China, dan ddylanwad y topograffi y maent yn eu rhannol orchuddio.

Gellir rhannu llenni iâ a chapiau iâ yn gromenni iâ (ice domes) – sef ardaloedd uchel o iâ sy’n symud yn gymharol araf – ac yn ffrydlifiau iâ (ice streams) a rhewlifau all-lifol (outlet glaciers), cyflymach o lawer eu llif, sy’n bennaf cyfrifol am symud swmp yr iâ tua chyrion y cap neu’r llen. Ar gyrion cap neu len iâ, tir heb iâ sy’n codi uwchlaw ymylon rhewlifau all-lifol ond iâ sy’n llifo’n araf a geir o boptu ffrydlifau iâ. Pa le bynnag y mae rhewlif all-lifol neu ffrydlif iâ yn terfynu yn y môr, bydd yr iâ’n arnofio gan esgor ar sgafell iâ (ice shelf) sydd, yn ei thro, yn bwtresu ac yn arafu llif y corff iâ sy’n ei bwydo. Mae sgafelli iâ, sy’n terfynu ar ffurf clogwyni a all fod cyn uched â 30 m, yn nodweddiadol iawn o Len Iâ Antarctica a Llen Iâ’r Ynys Las (Grønland). Er enghraifft, rhewlif Petermann, un o rewlifau all-lifol yr Ynys Las, yw’r mwyaf yn hemisffer y gogledd ac mae ei 50 milltir isaf ar ffurf sgafell arnofiol. Caiff rhannau o sgafelli iâ eu colli wrth i dalpiau enfawr ohonynt dorri a chwympo i’r môr ar ffurf mynyddoedd iâ tablaidd (tabular icebergs) a hefyd o ganlyniad i ddadmeriad gwaelodol (bottom melt). Yn y fath fodd y mae rhewlif Petermann yn cyflenwi 12 biliwn o dunelli metrig o iâ i’r Cefnfor Arctig bob blwyddyn.

Mae creiddiau iâ (ice cores) o’r ddwy len iâ fwyaf yn y byd yn darparu data hinsoddegol dirprwyol (proxy climatological data) manwl am hanes yr hinsawdd dros gyfnod o oddeutu 250,000 o flynyddoedd yn achos yr Ynys Las ac o leiaf 450,000 o flynyddoedd, ac o bosibl 750,000 o flynyddoedd, yn achos Antarctica. Yn wir, maent yn un o’r archifau pwysicaf o ddata palaeoamgylcheddol a palaeohinsoddeg y cyfnod cwaternaidd diweddar. Yn benodol, mae’r creiddiau yn cynnwys gwybodaeth hynod werthfawr am newidiadau hinsoddol, gan gynnwys newidiadau hinsoddol sydyn iawn, cyfansoddiad a chylchrediad yr atmosffer, llygredd atmosfferig ac echdoriadau folcanig. Er enghraifft, dengys cofnod y gymhareb isotop-ocsigen (18O:16O) (oxygen-isotope ratio) yng nghreiddiau’r Ynys Las fod hinsawdd yr holosen, megis y cyfnod rhyngrewlifol diwethaf (last interglacial) rhwng tua 110,000 a 140,000 o flynyddoedd yn ôl, wedi bod yn gymharol sefydlog ond bod newidiadau dramatig, ond byrhoedlog, wedi nodweddu’r cyfnod hwyr-rewlifol (late-glacial) a’r gylchred rewlifol ddiwethaf.

Llyfryddiaeth

  • Benn, D. I. a Evans, D. J. A. (adarg. 2010) Glaciers and Glaciation, Arnold, Llundain, tt. 15–18.
  • Bennett, M. R. a Glasser, N. F. (ail arg. 2009) Glacial Geology: Ice Sheets and Landforms, Wiley, Chichester, tt. 7–17.
  • Hancock, P. L. a Skinner, B. J. (2000) The Oxford Companion to The Earth, Oxford University Press, Rhydychen, tt. 24–8, 475–9.



Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.