|
|
(Ni ddangosir y 2 olygiad yn y canol gan ddefnyddiwr arall) |
Llinell 1: |
Llinell 1: |
− | _NOAUTOLINKS_
| |
− | Canu yn null John Evans (1827?-95), ‘Y Bardd Cocos’ o Borthaethwy, Môn. Trwy estyniad aed i ddefnyddio’r term am unrhyw brydyddiaeth gloff. Cymeriad diniwed oedd y Bardd Cocos gwreiddiol, ag uchelgais farddol fawr ond heb unrhyw amgyffred o fesur nac aceniad, dim ond obsesiwn ag odl, honno’n cael ei harfer yn brennaidd ailadroddus. Testunau ei ganu oedd damweiniau a thrychinebau’r oes, teyrngedau i wŷr enwog, a’i fyfyrdodau ei hun ar fywyd. Weithiau drwy’r cyfan fe drawai’r Bardd ar ambell gwpled cofiadwy:
| |
| | | |
− | :Fydd yr awen ddim yn fflash
| |
− | :Heb fwstash;
| |
− |
| |
− | neu ambell wirionedd sy’n ein hoelio:
| |
− |
| |
− | :Mae Prince of Wales wedi priodi
| |
− | :A miloedd heddiw’n byw mewn tlodi.
| |
− |
| |
− | Cafwyd ‘beirdd cocosaidd’ eraill, a daeth y ‘gerdd gocosaidd’ yn eitem mewn adloniant. Ond pethau amhur yw cerddi cocos modern, yn tueddu at ergydion ffraeth a diweddglo trawiadol. Carbwleidd-dra diniwed yw hanfod y cocoswaith gwreiddiol, – ac eto nid yn yr iaith, sy’n hollol gywir.
| |
− |
| |
− | Yn William McGonagall (‘The Great McGonagall’) (1830-1902) cafodd yr Alban ei henwog fardd cocos ei hun. Ie, ‘gwŷr o athrylith’ chwedl bardd arall, ond nad oedd ‘mesur eu llathen hwy yr un hyd â llath’.
| |
− |
| |
− | '''[[Dafydd]] Glyn Jones'''
| |
− |
| |
− | ==Llyfryddiaeth==
| |
− |
| |
− | Jones, D. G. (2014), ''Hen Lyfr Bach y Bardd Cocos'' (Bangor: Dalen Newydd).
| |
− |
| |
− | Ceiriog, H. ac Ap [[Dafydd]], M. (1998), ''Perlau Cocos. Casgliad o Waith Beirdd Cocosaidd'' (Llanrwst: Gwasg Carreg Gwalch).
| |
− | {{CC BY-SA}}
| |
− | [[Categori:Beirniadaeth a Theori]]
| |