Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Jones, J. R."

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio
 
(Ni ddangosir y 4 golygiad yn y canol gan yr un defnyddiwr)
Llinell 1: Llinell 1:
__NOAUTOLINKS__
+
{{DISPLAYTITLE:Jones, J. R.}} __NOAUTOLINKS__
 
Meddyliwr Cymraeg pwysig yw '''J. R. Jones''' (1911-1970), a ffigwr cwbl unigryw yn y diwylliant Cymraeg. Athronydd ydoedd, yn ysgrifennu ar ystod o faterion athronyddol gan gynnwys natur yr hunan, natur canfod a natur cyffredinolion. Ysgrifennodd yn helaeth am grefydd a Christnogaeth hefyd. Roedd yn ymddiddori yn y syniad o genedl, ac yn ystod y 1960au cyhoeddodd gyfres o ysgrifau, llyfrau a phamffledi’n ymwneud â’r hyn a welai fel argyfwng y Gymru Gymraeg. Ceir yn y cyhoeddiadau hyn olion sawl dylanwad: rhamantiaeth Almaeneg (Fichte a Herder yn enwedig), materoliaeth (gan gynnwys materoliaeth Farcsaidd), cyfriniaeth Simone Weil, diwinyddiaeth Paul Tillich a diau fod peth o’r cynnyrch yn debyg ei naws i syniadaeth adeileddol a gwrth-drefedigaethol y 1960au hefyd. Mae’r cofnod hwn yn canolbwyntio ar ei waith o safbwynt ei gyfraniad i theori ôl-drefedigaethol Gymraeg heddiw.
 
Meddyliwr Cymraeg pwysig yw '''J. R. Jones''' (1911-1970), a ffigwr cwbl unigryw yn y diwylliant Cymraeg. Athronydd ydoedd, yn ysgrifennu ar ystod o faterion athronyddol gan gynnwys natur yr hunan, natur canfod a natur cyffredinolion. Ysgrifennodd yn helaeth am grefydd a Christnogaeth hefyd. Roedd yn ymddiddori yn y syniad o genedl, ac yn ystod y 1960au cyhoeddodd gyfres o ysgrifau, llyfrau a phamffledi’n ymwneud â’r hyn a welai fel argyfwng y Gymru Gymraeg. Ceir yn y cyhoeddiadau hyn olion sawl dylanwad: rhamantiaeth Almaeneg (Fichte a Herder yn enwedig), materoliaeth (gan gynnwys materoliaeth Farcsaidd), cyfriniaeth Simone Weil, diwinyddiaeth Paul Tillich a diau fod peth o’r cynnyrch yn debyg ei naws i syniadaeth adeileddol a gwrth-drefedigaethol y 1960au hefyd. Mae’r cofnod hwn yn canolbwyntio ar ei waith o safbwynt ei gyfraniad i theori ôl-drefedigaethol Gymraeg heddiw.
  
Llinell 25: Llinell 25:
  
 
'''Simon Brooks'''
 
'''Simon Brooks'''
 
 
  
 
== Llyfryddiaeth ==
 
== Llyfryddiaeth ==
  
* Jones, J. R. (2013), ''Prydeindod'' http://colegcymraeg.ac.uk/llyfrau/prydeindod-jr-jones [Cyrchwyd: 6 Ebrill 2016].
+
Jones, J. R. (2013), ''Prydeindod'' http://colegcymraeg.ac.uk/llyfrau/prydeindod-jr-jones [Cyrchwyd: 6 Ebrill 2016].
 
 
* Jones, J. R. (2013), ''Gwaedd yng Nghymru'' http://colegcymraeg.ac.uk/llyfrau/gwaedd-yng-nghymru [Cyrchwyd: 6 Ebrill 2016].
 
  
*Jones, J. R. (2013), ''Ac Onide'' http://colegcymraeg.ac.uk/llyfrau/ac-onide-jr-jones [Cyrchwyd: 6 Ebrill 2016].
+
Jones, J. R. (2013), ''Gwaedd yng Nghymru'' http://colegcymraeg.ac.uk/llyfrau/gwaedd-yng-nghymru [Cyrchwyd: 6 Ebrill 2016].
  
* Jones, J. R. (2013), ''A Raid i’r Iaith ein Gwahanu?'' http://colegcymraeg.ac.uk/llyfrau/a-raid-ir-iaith-ein-gwahanu [Cyrchwyd: 6 Ebrill 2016].
+
Jones, J. R. (2013), ''Ac Onide'' http://colegcymraeg.ac.uk/llyfrau/ac-onide-jr-jones [Cyrchwyd: 6 Ebrill 2016].
  
* Jones, J. R. (2015), ''Yr Ewyllys i Barhau'' http://colegcymraeg.ac.uk/llyfrau/yr-ewyllys-i-barhau-j-r-jones [Cyrchwyd: 6 Ebrill 2016].
+
Jones, J. R. (2013), ''A Raid i’r Iaith ein Gwahanu?'' http://colegcymraeg.ac.uk/llyfrau/a-raid-ir-iaith-ein-gwahanu [Cyrchwyd: 6 Ebrill 2016].
  
 +
Jones, J. R. (2015), ''Yr Ewyllys i Barhau''  http://colegcymraeg.ac.uk/llyfrau/yr-ewyllys-i-barhau-j-r-jones [Cyrchwyd: 6 Ebrill 2016].
  
 
{{CC BY-SA}}
 
{{CC BY-SA}}
 
[[Categori:Beirniadaeth a Theori]]
 
[[Categori:Beirniadaeth a Theori]]

Y diwygiad cyfredol, am 11:58, 9 Ionawr 2018

Meddyliwr Cymraeg pwysig yw J. R. Jones (1911-1970), a ffigwr cwbl unigryw yn y diwylliant Cymraeg. Athronydd ydoedd, yn ysgrifennu ar ystod o faterion athronyddol gan gynnwys natur yr hunan, natur canfod a natur cyffredinolion. Ysgrifennodd yn helaeth am grefydd a Christnogaeth hefyd. Roedd yn ymddiddori yn y syniad o genedl, ac yn ystod y 1960au cyhoeddodd gyfres o ysgrifau, llyfrau a phamffledi’n ymwneud â’r hyn a welai fel argyfwng y Gymru Gymraeg. Ceir yn y cyhoeddiadau hyn olion sawl dylanwad: rhamantiaeth Almaeneg (Fichte a Herder yn enwedig), materoliaeth (gan gynnwys materoliaeth Farcsaidd), cyfriniaeth Simone Weil, diwinyddiaeth Paul Tillich a diau fod peth o’r cynnyrch yn debyg ei naws i syniadaeth adeileddol a gwrth-drefedigaethol y 1960au hefyd. Mae’r cofnod hwn yn canolbwyntio ar ei waith o safbwynt ei gyfraniad i theori ôl-drefedigaethol Gymraeg heddiw.

Ei wrthsafiad yn erbyn trefedigaethedd yw ei gyfraniad mwyaf arhosol. Roedd o blaid parhad yr iaith Gymraeg fel ernes o wahanrwydd y Cymry ac o blaid codi Cymru’n genedl. Credai fod y ddau beth ynghlwm yn ei gilydd gan nad oes yn ei farn ef modd i ddiffinio cymunedau dynol ond ar ddau wastad, sef ar y gwastad ‘ffurfiannol’ a’r gwastad ‘gweithrediadol’. Mae a wnelo’r gwastad gweithrediadol â bywyd beunyddiol y gymuned, yn y cylch economaidd, dyweder, neu mewn arferion cymdeithasol. Y gwastad ffurfiannol yw’r nodweddion cynhwynol hynny sy’n rhoi i grŵp iaith ei ‘wahanrwydd’ ond na fydd yr aelodau yn ymwybodol ohonynt, efallai, ond ar adeg o argyfwng. Y gwastad ffurfiannol sy’n peri fod dichonolrwydd cenedl yn nodwedd ar gymdeithas ddynol.

Yn y cyswllt hwn, mae gwahaniaeth rhwng ‘Pobl’ a ‘chenedl’. Diffinnir y ddwy gan glymau, a’r hyn sy’n bwysig yw faint o glymau y mae’r Bobl neu’r genedl yn meddu arnynt: ‘o safbwynt eu ffurfiant [...] natur a nifer y lleiafswm o glymau (bonds) sy’n ddigonol i’w ffurfiad a’u parhad’. Mae cenedl yn endid drichlwm, a’r clymau sy’n ei diffinio yw tiriogaeth, priod iaith (neu ieithoedd) a bodolaeth gwladwriaeth sofran o’i heiddo ei hun. Gan nad yw Cymru’n meddu ar wladwriaeth, nid yw’n genedl. Roedd y Cymry yn hytrach yn Bobl, grŵp iaith (nid grŵp hil) a ddiffinnid gan ei berchnogaeth ar diriogaeth ac iaith mewn cydymdreiddiad â’i gilydd. Golyga cydymdreiddiad fod yr iaith yn nodweddu cymdeithas ddynol a fodolai yn yr un lle dros gyfnod estynedig o amser. Peth byw yw’r cydymdreiddiad hwn gan ei fod yn digwydd ‘yn oddrychol, yn eneidiau dynion ac, felly, yn wrthrychol, yng nghymdeithas dyn’. Mae’n fwy felly na chydymdreiddiad ffosiliedig rhwng yr iaith a’r tir ei hun, a ddynodir efallai gan enwau Cymraeg mewn broydd sydd wedi hen Seisnigo.

Grŵp iaith yw’r ‘Bobl Gymraeg’, ond nid oes rhaid siarad Cymraeg er mwyn bod yn Gymro am fod presenoldeb y ‘Bobl Gymraeg’ mewn cymdeithas sydd wedi cydymdreiddio â’r iaith Gymraeg yn sicrhau ‘gwahanrwydd’ y genedl gyfan. Dywed J. R. Jones yn Prydeindod (1966), ei gyhoeddiad gwrth-drefedigaethol sylweddol cyntaf, ‘Oblegid yr iaith fyw, yn y troedle cwtogedig sy’n aros iddi, yr ydym yn Bobl’. Mae parhad ardaloedd ble mae’r Gymraeg yn iaith arferedig ddiofyn y boblogaeth yn hanfodol i barhad y Bobl Gymraeg, ac felly i obeithion y Cymry o ddatblygu’n genedl. Gan fod cydymdreiddiad tir ac iaith yn digwydd oddi mewn i gymdeithasau dynol, mae’r cydymdreiddiad yn cael ei wanhau wrth i’r cymdeithasau hyn fynd yn llai Cymraeg a’r cydymdreiddiad o ganlyniad ar drai. Pe bai’r broydd Cymraeg yn darfod amdanynt, fel na fyddai cydymdreiddiad mwyach, byddai Cymru yn parhau am ryw hyd, gan y byddai adlais neu ‘adgof’ o’r Gymraeg, ond byddai’r ymwybod â gwahanrwydd y Cymry yn lleihau, nes yn y diwedd diflannu.

Yn ei ysgrif, ‘Troedle’, dadleua J. R. Jones y dylid atal hyn rhag digwydd wrth warchod trwy gyfanheddiad newydd y rhannau mwyaf Cymraeg o’r wlad. Wrth i’r Cymry Cymraeg gronni mewn ardaloedd dwys eu Cymraeg, ffurfir cymuned ieithyddol gref. Bu’r syniad hwn yn ddiwylliannol ddylanwadol yng Nghymru, a chyfnerthid y ddelfryd o froydd neu Fro Gymraeg ble y byddai’r Gymraeg yn llywodraethol. Ceid dadleuon tebyg mewn diwylliannau eraill yn y cyfnod: er enghraifft, dadleuai rhai pobl dduon dros gael Talaith Ddu yn America, a chyfeiriai J. R. Jones at yr Iddewon yn mynnu gwladychu ac ail-wladychu rhannau o Israel yn ystod amseroedd yr Hen Destament, ac yn yr ugeinfed ganrif.

Gan ddilyn yn fras y rhaniad cyfarwydd mewn theori wleidyddol rhwng cenedlaetholdeb sifig a chenedlaetholdeb ethnig, mae J. R. Jones yn haeru fod dwy frwydr yn mynd rhagddynt yng Nghymru, sef ‘y frwydr i ymwahanu (oddi wrth Loegr) a’r frwydr i barhau (yn ein gwahanrwydd priod)’. Datblygir y ddadl hon yn ei bamffled, Yr Ewyllys i Barhau (1968), sy’n ymosodiad ar genedlaetholdeb sifig na fydd yn symud gorthrwm oddi ar y grŵp Cymraeg ei iaith. Mewn cenedlatholdeb o’r fath, mae’r frwydr i ymwahanu yn disodli’r frwydr i barhau, ac o’r herwydd ni fydd parhau. Fodd bynnag, ni fydd y frwydr i ymwahanu yn ddigonol ar ei phen ei hun i gyrchu annibyniaeth gan mai’r ‘unig gymhelliad digonol, yn y pen draw’ dros geisio rhyddid i wlad ‘yw’r un a gyfyd pan edrycho cenedl yn syth i wyneb posibilrwydd ei thranc.’ Dim ond y Gymru Gymraeg sydd yn edrych ar ei thranc, ac mae’n dilyn yn rhesymegol felly mai trwy adfer yr iaith Gymraeg y crëir yr amodau cymdeithasol a fydd yn arwain at ennill rhyddid i Gymru.

O safbwynt theori ôl-drefedigaethol, mae syniadau J. R. Jones yn hynod ddiddorol. ‘Gwahanrwydd’ sy’n gwarantu parhad bodolaeth y ‘Bobl Cymraeg’ yn wyneb ‘imperium’ sy’n ceisio ei ddileu. Mae gwahanrwydd yn syniad canolog mewn theori ddiwylliannol gyfoes, a gwelir strwythurwyr ac ôl-strwythurwyr, gwrth-drefedigaethwyr ac ôl-drefedigaethwyr, yn trafod diwylliannau dynol yn nhermau ‘gwahanrwydd’ diwylliannol, neu fel arall yn nhermau hybridedd sy’n peri nad oes modd i wahanrwydd absoliwt fodoli o gwbl. Yn gyffredinol mewn theori ddiwylliannol, gwelir y frwydr ryngwladol yn erbyn trefedigaethedd fel brwydr i atal grymoedd imperialaidd rhag dileu gwahanrwydd diwylliannau darostyngedig.

Yn achos penodol y Cymry, yr ideoleg sy’n cyfiawnhau’r imperium yn ei waith o ddinistrio gwahanrwydd yw Prydeindod. Mae Prydeindod yn celu grym Lloegr sy’n ceisio gyrru’r Cymry allan o’u cydymdreiddiad â’u hiaith. Oherwydd ‘goresgyniad ein tir gan iaith arall’ brwydr y Cymry yw ‘brwydr y goresgynedig am eu bodolaeth, y frwydr dros gadw’u gwahanrwydd rhag ei fathru allan o fod.’ Deellir hanes fel hanes grym, ac mae’r frwydr dros y Bobl Gymraeg yn frwydr dros Ofod, sef brwydr grŵp cymdeithasol darostyngedig dros gadw ei adnoddau ei hun. Yma mae dadleuon J. R. Jones yn ddyledus i syniadau am natur grym o’r math a geir ymysg rhai theorïwyr Marcsaidd ac ôl-Farcsaidd. Mae’n ddadlennol mai syniadau Joseph Stalin am genedligrwydd yw dechreubwynt ei erthygl, ‘Y Syniad o Genedl’ (1961), a ailgyhoeddwyd yn Ac Onide (1970), a diddorol fyddai cymharu J. R. Jones â meddylwyr eraill sydd wedi ymddiddori ym mherthynas iaith a grym, megis Pierre Bourdieu. Yn sicr, ni ddylid ystyried J. R. Jones fel meddyliwr adain dde ‘hanfodaidd’ yn gwyntyllu syniadau rhamantaidd am gyd-berthynas iaith a chenedl, fel y buasai rhai’n ei wneud ar gyfeiliorn.

Er bod J. R. Jones yn feddyliwr gwrth-drefedigaethol amlwg, nid yw’n derbyn fod Cymru’n drefedigaeth. Camddeall hanes Prydain yw meddwl hynny, a gall gamarwain cenedlaetholwyr Cymreig i dybio y bydd y mudiad gwrth-drefedigaethol byd-eang yn dwyn rhyddid i Gymru yn ei thro. Corfforasid Cymru yn Lloegr a thrwy hynny ym Mhrydain; roedd y cyn-drefedigaethau yn ddarostyngedig i Brydain, ac eto nid oeddynt yn rhan annatod ohoni. Ni fyddai’r Saeson mor barod i ildio Cymru ag y buasent i ildio hen drefedigaethau. Digon teg holi felly pam yr ystyrir J. R. Jones yn feddyliwr gwrth-drefedigaethol os nad yw’n credu fod Cymru’n drefedigaeth.

Mae Cymru mewn sefyllfa waeth o lawer na’r cyn-drefedigaethau Prydeinig. Gan hynny, nid yn unig y bydd dadleuon gwrth-drefedigaethol yn ystyrlon yn achos Cymru, ond gellid dadlau y byddant yn fwy felly. Gwleidyddiaeth grym yw gwleidyddiaeth i J. R. Jones, a brwydr yn erbyn grym yw brwydr y cyn-drefedigaethau Prydeinig a brwydr y Gymru Gymraeg fel ei gilydd. Nid oes ddwywaith na welid J. R. Jones gan Gymry’r 1960au a’r 1970au fel prif feddyliwr gwrth-drefedigaethol y diwylliant Cymraeg, er enghraifft gan arweinydd mudiad Adfer, Emyr Llywelyn, a gyfeiriai ato ar yr un gwynt â meddylwyr gwrthdrefedigaethol o’r cyn-drefedigaethau.

Ceir rhai cymhlethdodau yng ngwaith J. R. Jones. Yn A Raid i’r Iaith ein Gwahanu? (1967), mae’n gofyn a ellir deialog rhwng Cymry Cymraeg a Chymry di-Gymraeg gan fod deialog fod mewn iaith. Bydd honno o raid yn Saesneg, gan mai’r Cymry Cymraeg yn unig sy’n ddwyieithog, ac os oes uno rhwng siaradwyr Cymraeg a Saesneg, ‘uno drwy’r iaith Saesneg’ a geir. Ond os nad oes modd uno’r genedl ar y gwastad gweithrediadol, beunyddiol, gellid ei huno ar y gwastad ffurfiannol ‘drwy gael y trwch i’w gweld hi [yr iaith] yng ngolau ei harwyddocâd ffurfiannol’. Yn wir, mae J. R. Jones yn dadlau yn erbyn rhoi i’r Gymraeg rai swyddogaethau ar y gwastad gweithrediadol am nad oes dichon i’r Gymraeg wneud tasgau mae’r Saesneg yn eu gwneud eisoes. Yma felly, gall y pwyslais ar gadw ‘gwahanrwydd’ y Cymry greu dadl mewn bywyd ymarferol o blaid cyfyngu ar ddefnydd o’r Gymraeg mewn rhai cylchoedd, neu o leiaf beidio ag ymgyrchu'n rhy ddygn drosti. A siarad yn blaen, a oes perygl i’r pwyslais ar rôl ffurfiannol y Gymraeg arwain at sefyllfa ble y’i defnyddir at ddibenion symbolaidd yn bennaf?

Mewn ffordd arall, mae’n ymddangos fod J. R. Jones yn gadael cil y drws ar agor ar gyfer Cymru heb Gymraeg. Ateb J. R. Jones i’r cwestiwn pam fod y Gwyddelod yn genedl er iddynt golli eu hiaith yw fod ganddynt wladwriaeth ac nad oes angen yr iaith arnynt mwyach er mwyn parhau’n Bobl ac felly’n genedl. Ond os felly tybed na fyddai modd i genedl Gymreig ddi-Gymraeg fodoli ar dir Cymru pe ceid gwladwriaeth Gymreig?

Simon Brooks

Llyfryddiaeth

Jones, J. R. (2013), Prydeindod http://colegcymraeg.ac.uk/llyfrau/prydeindod-jr-jones [Cyrchwyd: 6 Ebrill 2016].

Jones, J. R. (2013), Gwaedd yng Nghymru http://colegcymraeg.ac.uk/llyfrau/gwaedd-yng-nghymru [Cyrchwyd: 6 Ebrill 2016].

Jones, J. R. (2013), Ac Onide http://colegcymraeg.ac.uk/llyfrau/ac-onide-jr-jones [Cyrchwyd: 6 Ebrill 2016].

Jones, J. R. (2013), A Raid i’r Iaith ein Gwahanu? http://colegcymraeg.ac.uk/llyfrau/a-raid-ir-iaith-ein-gwahanu [Cyrchwyd: 6 Ebrill 2016].

Jones, J. R. (2015), Yr Ewyllys i Barhau http://colegcymraeg.ac.uk/llyfrau/yr-ewyllys-i-barhau-j-r-jones [Cyrchwyd: 6 Ebrill 2016].


Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.