Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Symbolaeth"
(Ni ddangosir y golygiad yn y canol gan yr un defnyddiwr) | |||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
__NOAUTOLINKS__ | __NOAUTOLINKS__ | ||
− | Mabwysiadwyd y term mewn maniffesto llenyddol o 1886 gan y Groegwr Jean Moréas, ond fe’i cysylltir hefyd â’r celfyddydau’n fwy cyffredinol; megis ag arlunwyr fel Gustave Moreau ac Odilon Redon, ac yn arbennig â datblygiadau yn y theatr, fel gwaith Maurice Maeterlinck ''Pelléas et Mélisande'' a wnaed yn opera gan Claude Debussy. Er pwysigrwydd Paris fel canolbwynt, a’r Ffrangeg fel cyfrwng, roedd cyfran uchel o’r Symbolwyr yn dramorwyr, a dyma hefyd adeg pan ddaeth beirdd a dramodwyr Gwlad Belg hwythau i flaen y gad, a hynny am y tro cyntaf. | + | Mabwysiadwyd y term mewn maniffesto llenyddol o 1886 gan y Groegwr Jean Moréas, ond fe’i cysylltir hefyd â’r celfyddydau’n fwy cyffredinol; megis ag arlunwyr fel Gustave Moreau ac Odilon Redon, ac yn arbennig â datblygiadau yn y theatr, fel gwaith Maurice Maeterlinck, ''Pelléas et Mélisande'', a wnaed yn opera gan Claude Debussy. Er pwysigrwydd Paris fel canolbwynt, a’r Ffrangeg fel cyfrwng, roedd cyfran uchel o’r Symbolwyr yn Ffrainc yn dramorwyr, a dyma hefyd adeg pan ddaeth beirdd a dramodwyr Gwlad Belg hwythau i flaen y gad, a hynny am y tro cyntaf. |
Bu’r ''Revue wagnérienne'', sef cyfnodolyn a ganolbwyntiai ar syniadau Richard Wagner a sefydlwyd ym Mharis ym 1885, yn ddylanwad pwysig ar syniadau’r Symbolwyr; ac yn ei golofnau y cyhoeddwyd ysgrif a cherdd-deyrnged i’r cerddor mawr gan Stéphane Mallarmé. Arwydd o bwysigrwydd Mallarmé yn ystod ei oes yw’r diffiniad a goleddir o Symbolaeth fel cynnyrch y beirdd a oedd yn cyfeillachu ag ef ac yn mynychu ei gyfarfodydd enwog bob nos Fawrth yn ei fflat yn y ‘rue de Rome’ yn ystod yr 1880au a’r 1890au. Ac yn gam neu'n gymwys, gyda’r label hwn y cysylltir ei enw fynychaf hyd heddiw: ‘Archoffeiriad Simboliaeth Ffrainc’, meddai Euros Bowen amdano yn ei gyfrol ''Beirdd Simbolaidd Ffrainc''. Efallai’n wir y dylid bodloni ar y diffiniad hwn yn hytrach na cheisio ‘method’ neu gredo a fyddai’n clymu’r holl artistiaid at ei gilydd, oherwydd o fynd i’r eithaf arall, bardd Symbolaidd yw bardd sy’n gwneud defnydd o symbolau. | Bu’r ''Revue wagnérienne'', sef cyfnodolyn a ganolbwyntiai ar syniadau Richard Wagner a sefydlwyd ym Mharis ym 1885, yn ddylanwad pwysig ar syniadau’r Symbolwyr; ac yn ei golofnau y cyhoeddwyd ysgrif a cherdd-deyrnged i’r cerddor mawr gan Stéphane Mallarmé. Arwydd o bwysigrwydd Mallarmé yn ystod ei oes yw’r diffiniad a goleddir o Symbolaeth fel cynnyrch y beirdd a oedd yn cyfeillachu ag ef ac yn mynychu ei gyfarfodydd enwog bob nos Fawrth yn ei fflat yn y ‘rue de Rome’ yn ystod yr 1880au a’r 1890au. Ac yn gam neu'n gymwys, gyda’r label hwn y cysylltir ei enw fynychaf hyd heddiw: ‘Archoffeiriad Simboliaeth Ffrainc’, meddai Euros Bowen amdano yn ei gyfrol ''Beirdd Simbolaidd Ffrainc''. Efallai’n wir y dylid bodloni ar y diffiniad hwn yn hytrach na cheisio ‘method’ neu gredo a fyddai’n clymu’r holl artistiaid at ei gilydd, oherwydd o fynd i’r eithaf arall, bardd Symbolaidd yw bardd sy’n gwneud defnydd o symbolau. |
Y diwygiad cyfredol, am 23:52, 26 Medi 2016
Mabwysiadwyd y term mewn maniffesto llenyddol o 1886 gan y Groegwr Jean Moréas, ond fe’i cysylltir hefyd â’r celfyddydau’n fwy cyffredinol; megis ag arlunwyr fel Gustave Moreau ac Odilon Redon, ac yn arbennig â datblygiadau yn y theatr, fel gwaith Maurice Maeterlinck, Pelléas et Mélisande, a wnaed yn opera gan Claude Debussy. Er pwysigrwydd Paris fel canolbwynt, a’r Ffrangeg fel cyfrwng, roedd cyfran uchel o’r Symbolwyr yn Ffrainc yn dramorwyr, a dyma hefyd adeg pan ddaeth beirdd a dramodwyr Gwlad Belg hwythau i flaen y gad, a hynny am y tro cyntaf.
Bu’r Revue wagnérienne, sef cyfnodolyn a ganolbwyntiai ar syniadau Richard Wagner a sefydlwyd ym Mharis ym 1885, yn ddylanwad pwysig ar syniadau’r Symbolwyr; ac yn ei golofnau y cyhoeddwyd ysgrif a cherdd-deyrnged i’r cerddor mawr gan Stéphane Mallarmé. Arwydd o bwysigrwydd Mallarmé yn ystod ei oes yw’r diffiniad a goleddir o Symbolaeth fel cynnyrch y beirdd a oedd yn cyfeillachu ag ef ac yn mynychu ei gyfarfodydd enwog bob nos Fawrth yn ei fflat yn y ‘rue de Rome’ yn ystod yr 1880au a’r 1890au. Ac yn gam neu'n gymwys, gyda’r label hwn y cysylltir ei enw fynychaf hyd heddiw: ‘Archoffeiriad Simboliaeth Ffrainc’, meddai Euros Bowen amdano yn ei gyfrol Beirdd Simbolaidd Ffrainc. Efallai’n wir y dylid bodloni ar y diffiniad hwn yn hytrach na cheisio ‘method’ neu gredo a fyddai’n clymu’r holl artistiaid at ei gilydd, oherwydd o fynd i’r eithaf arall, bardd Symbolaidd yw bardd sy’n gwneud defnydd o symbolau.
Cysylltir y term ‘Symbolaeth’ â’r bardd Charles Baudelaire (a fu farw ugain mlynedd cyn cyhoeddi’r maniffesto), ac mae i un o sonedau enwocaf Baudelaire, ‘Cyfatebiaethau’ (‘Correspondances’), le allweddol yn hanes datblygiad Symbolaeth. Yn wir caiff y gerdd ei thrin yn fynych fel ars poetica ac fel tarddle Symbolaeth. Yr hyn hoeliodd sylw’r Symbolwyr ar y gerdd ‘Cyfatebiaethau’, a’r beirniaid llenyddol ddaeth ar eu holau o ran hynny, oedd y pwyslais a roddir ar y cyfatebiaethau fertigol ar y naill law (rhai rhwng byd empeiraidd y synhwyrau a byd haniaethol yr ysbryd), a’r cyfatebiaethau llorweddol (y rhai rhwng y gwahanol synhwyrau) ar y llaw arall. Nod Symbolwyr yn eu gwaith creadigol oedd cyfleu naws, awgrymu yn hytrach nag enwi, neu yng ngeiriau Mallarmé: ‘peindre, non la chose, mais l’effet qu’elle produit’ [‘nid peintio’r peth, ond yn hytrach yr effaith mae’r peth yn ei greu’]. Yn gyffredinol, ymateb ydoedd yn erbyn y nofel realaidd, a barddoniaeth Barnasaidd a’r feddylfryd bositifistaidd a ddaethai’n bwysig erbyn ail hanner y 19g., ac i ryw raddau roedd y Symbolwyr yn ail-gydio yn syniadau Rhamantiaeth.
Y tu hwnt i’r diwylliannau Ffrangeg dylanwadodd Symbolaeth ar Rainer Maria Rilke yn yr Almaen, W. B. Yeats yn Saesneg ac Euros Bowen yn Gymraeg. Fel bardd roedd Euros Bowen yn agored i ddylanwadau tramor, ac roedd ganddo ddiddordeb arbennig ym meirdd Symbolaidd Ffrainc. Ymwrthododd â delweddau fel addurniadau gan eu gwneud yn anhepgor i’w gerddi. Er bod modd gosod y delweddau yn ei farddoniaeth, fel yr alarch, mewn perthynas ag elyrch y traddodiad Ffrangeg, mynnai Bowen fod geiriau yn bwysicach iddo na delweddau, ac felly galwai ei hun yn fardd sagrafennol yn hytrach nag un symbolaidd.
Heather Williams
Llyfryddiaeth
Bowen, E. (1980), Beirdd Simbolaidd Ffrainc (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru).
Thomas, M. W. (1995), ‘Symbyliad y Symbol: barddoniaeth Euros Bowen a Vernon Watkins’, yn Thomas, M. W. (gol.), Diffinio Dwy Lenyddiaeth Cymru (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru), tt. 170-89.
Williams, H. (1998), Barddoniaeth i Bawb: Stéphane Mallarmé ([Aberystwyth]: Cronfa Goffa Saunders Lewis).
- Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.