Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Hwiangerdd"
(Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda '__NOAUTOLINKS__ Cân i ddiddanu neu gysuro plentyn bychan yw hwiangerdd. Er mai cymell plentyn i gysgu yw ystyr ‘hwian’, fe’i defnyddir i ddisgrifio...') |
|||
(Ni ddangosir y 2 olygiad yn y canol gan yr un defnyddiwr) | |||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
__NOAUTOLINKS__ | __NOAUTOLINKS__ | ||
− | Cân i ddiddanu neu gysuro plentyn bychan yw hwiangerdd. Er mai cymell | + | Cân i ddiddanu neu gysuro plentyn bychan yw hwiangerdd. Er mai cymell cwsg ar blentyn yw ystyr ‘hwian’, fe’i defnyddir i ddisgrifio unrhyw gân ar gyfer plant bychain, boed i’w cadw’n effro neu i’w suo i gysgu. Cofnodwyd yr hwiangerdd Gymraeg gyntaf yn ''Llyfr Aneirin'', ‘Pais Dinogad’, sy’n disgrifio campau hela’r tad. Nid yw pob hwiangerdd yn gân o fawl i’r bychan nac yn cyfeirio at amgylchiadau ei fywyd, fodd bynnag. Mae rhieni dros y canrifoedd wedi tynnu ar bob math o ganeuon er mwyn dofi eu plant ac wedi mynegi ofnau a dyheadau yn aml yn y geiriau. Dangosodd Meredydd Evans a Phyllis Kinney, er enghraifft, mai cân am rwystredigaeth serch sydd wrth wraidd ‘Si hei lwli ’mabi’. Mae hwiangerddi eraill yn dibynnu ar rythmau cyson a ffwlbri ieithyddol, gyda symudiadau’n aml i gyd-fynd â’r canu. Mae’n sicr y rhoddwyd gwerth iddynt am eu defnyddioldeb ymarferol dros y canrifoedd, ond dechreuwyd tadogi arnynt werth diwylliannol yn sgil y diddordeb hynafiaethol mewn penillion gwerin a symbylwyd gan y Morrisiaid yn y 18g.. Yna, yn y 19g., cafwyd casglu bwriadol arnynt, a chyhoeddwyd y casgliad cyntaf o rigymau plant yn y Gymraeg dan y term ‘hwiangerddi’ gan Ceiriog yn ''Yr Arweinydd'' yn 1856. Ni chawsant groeso cyffredinol, gyda chyhuddo’r ''Arweinydd'' o argraffu ‘gwagedd’, ond maes o law neilltuwyd i’r hwiangerddi arwyddocâd cenedlaethol fel mynegiant o ‘ysbryd y werin’. Penllanw’r meddylfryd hwnnw oedd datganiad ysgubol O. M. Edwards, ‘Os mynnech ddeall nodweddion cenedl, y dull chwilio hawddaf a chyflymaf a sicraf yw hwn, – darllenwch ei cherddi hwian.’ |
+ | |||
+ | Fodd bynnag, ni ddylid synied am hwiangerddi fel corff statig o ganu. Ffurf ar lên gwerin yw’r hwiangerdd, ac o ganlyniad y mae’n eiddo i’r sawl a’i cân. O ganlyniad, ffurf ystwyth yw, yn adlewyrchu’r awydd creadigol i addasu ac amrywio sydd wrth wraidd pob diwylliant llafar a bydd oedolyn yn canu pa gân bynnag sy’n ateb y galw ar y pryd, boed yn hwiangerdd draddodiadol neu fodern, cân bop neu emyn. | ||
'''Siwan M. Rosser''' | '''Siwan M. Rosser''' | ||
Llinell 8: | Llinell 10: | ||
Edwards, O. M. (1911), ''Yr Hwiangerddi'' (Llanuwchllyn: Ab Owen). | Edwards, O. M. (1911), ''Yr Hwiangerddi'' (Llanuwchllyn: Ab Owen). | ||
− | Evans, M. a Kinney, P. (1994), ‘...Ac ar ei ôl mi gofiais inne’ yn Jones, T. a Fryde, E. B. (goln), ''Ysgrifau a Cherddi Cyflwynedig i Daniel Huws'' (Aberystwyth: Llyfrgell Genedlaethol Cymru), tt.123-63. | + | Evans, M. a Kinney, P. (1994), ‘...Ac ar ei ôl mi gofiais inne’ yn Jones, T. a Fryde, E. B. (goln), ''Ysgrifau a Cherddi Cyflwynedig i Daniel Huws'' (Aberystwyth: Llyfrgell Genedlaethol Cymru), tt. 123-63. |
Huws, B. A. (2015), ‘“Gwell Cymro, Cymro oddi cartref”? – cymhlethdodau meddwl a gwaith John Ceiriog Hughes’ (Traethawd MPhil: Prifysgol Caerdydd). | Huws, B. A. (2015), ‘“Gwell Cymro, Cymro oddi cartref”? – cymhlethdodau meddwl a gwaith John Ceiriog Hughes’ (Traethawd MPhil: Prifysgol Caerdydd). | ||
+ | {{CC BY-SA}} | ||
+ | [[Categori:Beirniadaeth a Theori]] |
Y diwygiad cyfredol, am 11:48, 4 Hydref 2016
Cân i ddiddanu neu gysuro plentyn bychan yw hwiangerdd. Er mai cymell cwsg ar blentyn yw ystyr ‘hwian’, fe’i defnyddir i ddisgrifio unrhyw gân ar gyfer plant bychain, boed i’w cadw’n effro neu i’w suo i gysgu. Cofnodwyd yr hwiangerdd Gymraeg gyntaf yn Llyfr Aneirin, ‘Pais Dinogad’, sy’n disgrifio campau hela’r tad. Nid yw pob hwiangerdd yn gân o fawl i’r bychan nac yn cyfeirio at amgylchiadau ei fywyd, fodd bynnag. Mae rhieni dros y canrifoedd wedi tynnu ar bob math o ganeuon er mwyn dofi eu plant ac wedi mynegi ofnau a dyheadau yn aml yn y geiriau. Dangosodd Meredydd Evans a Phyllis Kinney, er enghraifft, mai cân am rwystredigaeth serch sydd wrth wraidd ‘Si hei lwli ’mabi’. Mae hwiangerddi eraill yn dibynnu ar rythmau cyson a ffwlbri ieithyddol, gyda symudiadau’n aml i gyd-fynd â’r canu. Mae’n sicr y rhoddwyd gwerth iddynt am eu defnyddioldeb ymarferol dros y canrifoedd, ond dechreuwyd tadogi arnynt werth diwylliannol yn sgil y diddordeb hynafiaethol mewn penillion gwerin a symbylwyd gan y Morrisiaid yn y 18g.. Yna, yn y 19g., cafwyd casglu bwriadol arnynt, a chyhoeddwyd y casgliad cyntaf o rigymau plant yn y Gymraeg dan y term ‘hwiangerddi’ gan Ceiriog yn Yr Arweinydd yn 1856. Ni chawsant groeso cyffredinol, gyda chyhuddo’r Arweinydd o argraffu ‘gwagedd’, ond maes o law neilltuwyd i’r hwiangerddi arwyddocâd cenedlaethol fel mynegiant o ‘ysbryd y werin’. Penllanw’r meddylfryd hwnnw oedd datganiad ysgubol O. M. Edwards, ‘Os mynnech ddeall nodweddion cenedl, y dull chwilio hawddaf a chyflymaf a sicraf yw hwn, – darllenwch ei cherddi hwian.’
Fodd bynnag, ni ddylid synied am hwiangerddi fel corff statig o ganu. Ffurf ar lên gwerin yw’r hwiangerdd, ac o ganlyniad y mae’n eiddo i’r sawl a’i cân. O ganlyniad, ffurf ystwyth yw, yn adlewyrchu’r awydd creadigol i addasu ac amrywio sydd wrth wraidd pob diwylliant llafar a bydd oedolyn yn canu pa gân bynnag sy’n ateb y galw ar y pryd, boed yn hwiangerdd draddodiadol neu fodern, cân bop neu emyn.
Siwan M. Rosser
Llyfryddiaeth
Edwards, O. M. (1911), Yr Hwiangerddi (Llanuwchllyn: Ab Owen).
Evans, M. a Kinney, P. (1994), ‘...Ac ar ei ôl mi gofiais inne’ yn Jones, T. a Fryde, E. B. (goln), Ysgrifau a Cherddi Cyflwynedig i Daniel Huws (Aberystwyth: Llyfrgell Genedlaethol Cymru), tt. 123-63.
Huws, B. A. (2015), ‘“Gwell Cymro, Cymro oddi cartref”? – cymhlethdodau meddwl a gwaith John Ceiriog Hughes’ (Traethawd MPhil: Prifysgol Caerdydd).
- Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.