Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Davies, Pennar"
(Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda '__NOAUTOLINKS__ Polymath oedd y gair a ddefnyddiwyd yn aml i ddisgrifio Pennar Davies (1911-96), un a wnaeth gyfraniad nodedig i lên a chrefydd Cymru yn ...') |
(→Llyfryddiaeth) |
||
(Ni ddangosir y 2 olygiad yn y canol gan yr un defnyddiwr) | |||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
__NOAUTOLINKS__ | __NOAUTOLINKS__ | ||
− | Polymath oedd y gair a ddefnyddiwyd yn aml i ddisgrifio Pennar Davies (1911-96), un a wnaeth gyfraniad nodedig i lên a chrefydd Cymru yn y degawdau a ddilynodd yr Ail Ryfel Byd. Yn frodor o Aberpennar, Morgannwg, a faged yn ddi-Gymraeg, cafodd yrfa academaidd ddisglair ym mhrifysgolion Cymru (Caerdydd), Rhydychen (Colegau Balliol a Mansfield) ac Iâl yn yr Unol Daleithiau. Yn agnostig o ran crefydd, cafodd dröedigaeth pan yn fyfyriwr yn Iâl, a dychwelodd er mwyn dilyn galwedigaeth fel gweinidog Ymneilltuol ac yn athro ac yn brifathro mewn colegau diwinyddol. Ni fygodd ei alwedigaeth ei asbri chwareus fel bardd, a mynegwyd hyn yn ei gyfrolau cynnar ''Cinio’r Cythraul'' (1946), ''Naw Wfft!'' (1957) a’i gyfran o’r casgliad cyfansawdd ''Cerddi Cadwgan'' (1953). (Ynghyd â’i gyfeillion J. Gwyn a Käthe Bosse Griffiths a Rhydwen Williams, bu’n aelod o Gylch Cadwgan, y cylch blaengar o lenorion ifainc a gyfarfu yn y Rhondda yn ystod blynyddoedd y rhyfel). Chwareus ac ysgafn eironig yw tôn llawer o’i gerddi cynnar, ond ceir yn ''Yr Efrydd o Lyn Cynon'' (1961) ac ''Y Tlws yn y Lotws'' (1971) weithiau aeddfetach sy’n cyfuno deallusrwydd llym, cyfoeth mynegiant a chanfyddiad ysbrydol anarferol. Er na ddenodd y sylw haeddiannol, deil ei ‘Gathl i’r Almonwydden’ o’r ''Efrydd o Lyn Cynon'' ei chymharu â rhai o gerddi mwyaf nodedig y Gymraeg canol yr 20g. | + | Polymath oedd y gair a ddefnyddiwyd yn aml i ddisgrifio Pennar Davies (1911-96), un a wnaeth gyfraniad nodedig i lên a chrefydd Cymru yn y degawdau a ddilynodd yr Ail Ryfel Byd. Yn frodor o Aberpennar, Morgannwg, a faged yn ddi-Gymraeg, cafodd yrfa academaidd ddisglair ym mhrifysgolion Cymru (Caerdydd), Rhydychen (Colegau Balliol a Mansfield) ac Iâl yn yr Unol Daleithiau. Yn agnostig o ran crefydd, cafodd dröedigaeth pan yn fyfyriwr yn Iâl, a dychwelodd er mwyn dilyn galwedigaeth fel gweinidog Ymneilltuol ac yn athro ac yn brifathro mewn colegau diwinyddol. Ni fygodd ei alwedigaeth ei asbri chwareus fel bardd, a mynegwyd hyn yn ei gyfrolau cynnar, ''Cinio’r Cythraul'' (1946), ''Naw Wfft!'' (1957) a’i gyfran o’r casgliad cyfansawdd ''Cerddi Cadwgan'' (1953). (Ynghyd â’i gyfeillion J. Gwyn Griffiths a Käthe Bosse-Griffiths a Rhydwen Williams, bu’n aelod o Gylch Cadwgan, y cylch blaengar o lenorion ifainc a gyfarfu yn y Rhondda yn ystod blynyddoedd y rhyfel). Chwareus ac ysgafn eironig yw tôn llawer o’i gerddi cynnar, ond ceir yn ''Yr Efrydd o Lyn Cynon'' (1961) ac ''Y Tlws yn y Lotws'' (1971) weithiau aeddfetach sy’n cyfuno deallusrwydd llym, cyfoeth mynegiant a chanfyddiad ysbrydol anarferol. Er na ddenodd y sylw haeddiannol, deil ei ‘Gathl i’r Almonwydden’ o’r ''Efrydd o Lyn Cynon'' ei chymharu â rhai o gerddi mwyaf nodedig y Gymraeg canol yr 20g. |
− | Ynghyd â’i farddoniaeth cyhoeddodd nofelau a straeon byrion. Disgrifiodd Saunders Lewis ei nofel rhyfel oer apocalyptig ''Anadl o’r Uchelder'' (1958) fel ‘the strangest, perhaps the most phoney of the new novels’, a mynnu ei bod ‘as learned as Joyce’s ''Ulysses''; it is comic and fantastic and melodramatic and brilliant’. Digrifwch sy’n nodweddu ''Meibion Darogan'' (1968), sy’n seiliedig ar brofiadau a throeon trwstan Cylch Cadwgan, tra ailafaelodd yn themâu a chymeriadau ''Anadl o’r Uchelder'' yn y nofelau diweddarach, llai llachar o lawer, ''Mabinogi Mwys'' (1979) a ''Gwas y Gwaredwr'' (1991). Cododd i dir uchel iawn yn ei gasgliad straeon byrion ''Caregl Nwyf'' (1966), ond ei gampwaith diamheuol o ran rhyddiaith greadigol oedd ''Cudd fy Meiau'' (1958), dyddiadur enaid sy’n seriol yn ei onestrwydd ac yn dwys-ddeniadol ei ysbrydolrwydd. Yn ôl Bobi Jones roedd yn ‘un o glasuron y cyfnod wedi’r rhyfel ... ac yn fy marn i, campwaith bach yn anialwch defosiwn y ganrif hon’. | + | Ynghyd â’i farddoniaeth cyhoeddodd nofelau a straeon byrion. Disgrifiodd Saunders Lewis ei nofel rhyfel oer apocalyptig, ''Anadl o’r Uchelder'' (1958), fel ‘the strangest, perhaps the most phoney of the new novels’, a mynnu ei bod ‘as learned as Joyce’s ''Ulysses''; it is comic and fantastic and melodramatic and brilliant’. Digrifwch sy’n nodweddu ''Meibion Darogan'' (1968), sy’n seiliedig ar brofiadau a throeon trwstan Cylch Cadwgan, tra ailafaelodd yn themâu a chymeriadau ''Anadl o’r Uchelder'' yn y nofelau diweddarach, llai llachar o lawer, ''Mabinogi Mwys'' (1979) a ''Gwas y Gwaredwr'' (1991). Cododd i dir uchel iawn yn ei gasgliad o straeon byrion, ''Caregl Nwyf'' (1966), ond ei gampwaith diamheuol o ran rhyddiaith greadigol oedd ''Cudd fy Meiau'' (1958), dyddiadur enaid sy’n seriol yn ei onestrwydd ac yn dwys-ddeniadol ei ysbrydolrwydd. Yn ôl Bobi Jones roedd yn ‘un o glasuron y cyfnod wedi’r rhyfel ... ac yn fy marn i, campwaith bach yn anialwch defosiwn y ganrif hon’. |
− | Ar hyd ei yrfa mawrygodd Pennar Belagiws, y diwinydd Prydeinig o’r 5g., fel y dengys ei astudiaeth ddysgedig os ecsentrig ''Rhwng Chwedl a Chredo'' (1966), sy’n gyfraniad cynnar at bwnc a ddaeth yn ffasiynol ddegawdau yn ddiweddarach, sef Cristionogaeth Geltaidd. Eclectig ac unigolyddol oedd ei safbwynt diwinyddol, math ar ryddfrydiaeth efengylaidd iwtopaidd ei naws, a oedd yn canoli’n addolgar ar ddilyn Person Crist. Fe’i mynegwyd yn fwyaf cyflawn yn ei gyfrol ''Y Brenin Alltud'' (1974). | + | Ar hyd ei yrfa mawrygodd Pennar Belagiws, y diwinydd Prydeinig o’r 5g., fel y dengys ei astudiaeth ddysgedig os ecsentrig, ''Rhwng Chwedl a Chredo'' (1966), sy’n gyfraniad cynnar at bwnc a ddaeth yn ffasiynol ddegawdau yn ddiweddarach, sef Cristionogaeth Geltaidd. Eclectig ac unigolyddol oedd ei safbwynt diwinyddol, math ar ryddfrydiaeth efengylaidd iwtopaidd ei naws, a oedd yn canoli’n addolgar ar ddilyn Person Crist. Fe’i mynegwyd yn fwyaf cyflawn yn ei gyfrol, ''Y Brenin Alltud'' (1974). |
Cyhoeddodd ysgrifau dysgedig ar ei briod faes, sef Hanes yr Eglwys, ac ymroi yn gydwybodol i’r byd cyhoeddus, yn grefyddol ac yn wleidyddol – ymladdodd am sedd seneddol yn enw Plaid Cymru yn 1959 a 1964, ac, ynghyd â Ned Thomas a Meredydd Evans, cafodd ei ddwyn gerbron brawdlys Caerfyrddin yn 1979 am dorri i mewn i orsaf trosglwyddo Pen-carreg fel rhan o’r ymgyrch o blaid sianel deledu Gymraeg. Ond fel llenor creadigol y gwnaeth ei gyfraniad arhosol. O holl feddylwyr crefyddol Cymru’r 20g., ef oedd biau’r dychymyg mwyaf bywiog athrylithgar, tra mynnai pawb a’i hadnabu fod ei gyneddfau deallusol pwerus wedi’u tymheru â naws sancteiddrwydd. | Cyhoeddodd ysgrifau dysgedig ar ei briod faes, sef Hanes yr Eglwys, ac ymroi yn gydwybodol i’r byd cyhoeddus, yn grefyddol ac yn wleidyddol – ymladdodd am sedd seneddol yn enw Plaid Cymru yn 1959 a 1964, ac, ynghyd â Ned Thomas a Meredydd Evans, cafodd ei ddwyn gerbron brawdlys Caerfyrddin yn 1979 am dorri i mewn i orsaf trosglwyddo Pen-carreg fel rhan o’r ymgyrch o blaid sianel deledu Gymraeg. Ond fel llenor creadigol y gwnaeth ei gyfraniad arhosol. O holl feddylwyr crefyddol Cymru’r 20g., ef oedd biau’r dychymyg mwyaf bywiog athrylithgar, tra mynnai pawb a’i hadnabu fod ei gyneddfau deallusol pwerus wedi’u tymheru â naws sancteiddrwydd. | ||
Llinell 11: | Llinell 11: | ||
==Llyfryddiaeth== | ==Llyfryddiaeth== | ||
+ | |||
+ | Jones, R. Tudur (1997), rhagymadrodd i ''Cudd fy Meiau'', ail argraffiad (Talybont: Y Lolfa). | ||
Morgan, D. D. (2003), ''Pennar Davies'' (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru). | Morgan, D. D. (2003), ''Pennar Davies'' (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru). | ||
Llinell 18: | Llinell 20: | ||
Morgan, D. D. (2005), ‘ “Mae gen i gred, mae gen i gân”: rhai themâu ym marddoniaeth Pennar Davies, ''Llên Cymru'', 28, 160-77. | Morgan, D. D. (2005), ‘ “Mae gen i gred, mae gen i gân”: rhai themâu ym marddoniaeth Pennar Davies, ''Llên Cymru'', 28, 160-77. | ||
− | Morgan, D. D. (2007), ‘Spirit and flesh in twentieth century Welsh poetry: a comparison of the work of D Gwenallt Jones and Pennar Davies’, ''Christianity and Literature'', 56, 423-36. | + | Morgan, D. D. (2007), ‘Spirit and flesh in twentieth century Welsh poetry: a comparison of the work of D. Gwenallt Jones and Pennar Davies’, ''Christianity and Literature'', 56, 423-36. |
Rees, I. T. (2011), ''Saintly Enigma: a Biography of Pennar Davies'' (Talybont: Y Lolfa). | Rees, I. T. (2011), ''Saintly Enigma: a Biography of Pennar Davies'' (Talybont: Y Lolfa). |
Y diwygiad cyfredol, am 13:34, 5 Hydref 2016
Polymath oedd y gair a ddefnyddiwyd yn aml i ddisgrifio Pennar Davies (1911-96), un a wnaeth gyfraniad nodedig i lên a chrefydd Cymru yn y degawdau a ddilynodd yr Ail Ryfel Byd. Yn frodor o Aberpennar, Morgannwg, a faged yn ddi-Gymraeg, cafodd yrfa academaidd ddisglair ym mhrifysgolion Cymru (Caerdydd), Rhydychen (Colegau Balliol a Mansfield) ac Iâl yn yr Unol Daleithiau. Yn agnostig o ran crefydd, cafodd dröedigaeth pan yn fyfyriwr yn Iâl, a dychwelodd er mwyn dilyn galwedigaeth fel gweinidog Ymneilltuol ac yn athro ac yn brifathro mewn colegau diwinyddol. Ni fygodd ei alwedigaeth ei asbri chwareus fel bardd, a mynegwyd hyn yn ei gyfrolau cynnar, Cinio’r Cythraul (1946), Naw Wfft! (1957) a’i gyfran o’r casgliad cyfansawdd Cerddi Cadwgan (1953). (Ynghyd â’i gyfeillion J. Gwyn Griffiths a Käthe Bosse-Griffiths a Rhydwen Williams, bu’n aelod o Gylch Cadwgan, y cylch blaengar o lenorion ifainc a gyfarfu yn y Rhondda yn ystod blynyddoedd y rhyfel). Chwareus ac ysgafn eironig yw tôn llawer o’i gerddi cynnar, ond ceir yn Yr Efrydd o Lyn Cynon (1961) ac Y Tlws yn y Lotws (1971) weithiau aeddfetach sy’n cyfuno deallusrwydd llym, cyfoeth mynegiant a chanfyddiad ysbrydol anarferol. Er na ddenodd y sylw haeddiannol, deil ei ‘Gathl i’r Almonwydden’ o’r Efrydd o Lyn Cynon ei chymharu â rhai o gerddi mwyaf nodedig y Gymraeg canol yr 20g.
Ynghyd â’i farddoniaeth cyhoeddodd nofelau a straeon byrion. Disgrifiodd Saunders Lewis ei nofel rhyfel oer apocalyptig, Anadl o’r Uchelder (1958), fel ‘the strangest, perhaps the most phoney of the new novels’, a mynnu ei bod ‘as learned as Joyce’s Ulysses; it is comic and fantastic and melodramatic and brilliant’. Digrifwch sy’n nodweddu Meibion Darogan (1968), sy’n seiliedig ar brofiadau a throeon trwstan Cylch Cadwgan, tra ailafaelodd yn themâu a chymeriadau Anadl o’r Uchelder yn y nofelau diweddarach, llai llachar o lawer, Mabinogi Mwys (1979) a Gwas y Gwaredwr (1991). Cododd i dir uchel iawn yn ei gasgliad o straeon byrion, Caregl Nwyf (1966), ond ei gampwaith diamheuol o ran rhyddiaith greadigol oedd Cudd fy Meiau (1958), dyddiadur enaid sy’n seriol yn ei onestrwydd ac yn dwys-ddeniadol ei ysbrydolrwydd. Yn ôl Bobi Jones roedd yn ‘un o glasuron y cyfnod wedi’r rhyfel ... ac yn fy marn i, campwaith bach yn anialwch defosiwn y ganrif hon’.
Ar hyd ei yrfa mawrygodd Pennar Belagiws, y diwinydd Prydeinig o’r 5g., fel y dengys ei astudiaeth ddysgedig os ecsentrig, Rhwng Chwedl a Chredo (1966), sy’n gyfraniad cynnar at bwnc a ddaeth yn ffasiynol ddegawdau yn ddiweddarach, sef Cristionogaeth Geltaidd. Eclectig ac unigolyddol oedd ei safbwynt diwinyddol, math ar ryddfrydiaeth efengylaidd iwtopaidd ei naws, a oedd yn canoli’n addolgar ar ddilyn Person Crist. Fe’i mynegwyd yn fwyaf cyflawn yn ei gyfrol, Y Brenin Alltud (1974).
Cyhoeddodd ysgrifau dysgedig ar ei briod faes, sef Hanes yr Eglwys, ac ymroi yn gydwybodol i’r byd cyhoeddus, yn grefyddol ac yn wleidyddol – ymladdodd am sedd seneddol yn enw Plaid Cymru yn 1959 a 1964, ac, ynghyd â Ned Thomas a Meredydd Evans, cafodd ei ddwyn gerbron brawdlys Caerfyrddin yn 1979 am dorri i mewn i orsaf trosglwyddo Pen-carreg fel rhan o’r ymgyrch o blaid sianel deledu Gymraeg. Ond fel llenor creadigol y gwnaeth ei gyfraniad arhosol. O holl feddylwyr crefyddol Cymru’r 20g., ef oedd biau’r dychymyg mwyaf bywiog athrylithgar, tra mynnai pawb a’i hadnabu fod ei gyneddfau deallusol pwerus wedi’u tymheru â naws sancteiddrwydd.
D. Densil Morgan
Llyfryddiaeth
Jones, R. Tudur (1997), rhagymadrodd i Cudd fy Meiau, ail argraffiad (Talybont: Y Lolfa).
Morgan, D. D. (2003), Pennar Davies (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru).
Morgan, D. D. (2003), ‘Celts and Christians in the work of Pennar Davies’, yn Pope, R. (gol.), Respecting the Past and Shaping the Future: Festschrift for Gareth Lloyd Jones (Leominster: Gracewing), tt. 113-35.
Morgan, D. D. (2005), ‘ “Mae gen i gred, mae gen i gân”: rhai themâu ym marddoniaeth Pennar Davies, Llên Cymru, 28, 160-77.
Morgan, D. D. (2007), ‘Spirit and flesh in twentieth century Welsh poetry: a comparison of the work of D. Gwenallt Jones and Pennar Davies’, Christianity and Literature, 56, 423-36.
Rees, I. T. (2011), Saintly Enigma: a Biography of Pennar Davies (Talybont: Y Lolfa).
Williams, R. (2011), rhagair i Diary of a Soul, cyfieithiad Herbert Hughes o Cudd Fy Meiau (Talybont: Y Lolfa).
- Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.