Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Jones, R. Tudur"
(→Llyfryddiaeth) |
|||
(Ni ddangosir y 11 golygiad yn y canol gan yr un defnyddiwr) | |||
Llinell 4: | Llinell 4: | ||
Ei ddiddordeb ymchwil cyntaf oedd y Piwritaniaid ac wedi hynny hanes yr Eglwys Brotestannaidd, yn arbennig ei draddodiad ef ei hun, yr Annibynwyr. Yn ogystal â llu o ysgrifau cyhoeddodd dair cyfrol sylweddol am hanes y traddodiad Annibynnol sef ''Congregationalism in England, 1662-1962'' (1962), ''Hanes Annibynwyr Cymru'' (1966) ac ''Yr Undeb'' (1976). | Ei ddiddordeb ymchwil cyntaf oedd y Piwritaniaid ac wedi hynny hanes yr Eglwys Brotestannaidd, yn arbennig ei draddodiad ef ei hun, yr Annibynwyr. Yn ogystal â llu o ysgrifau cyhoeddodd dair cyfrol sylweddol am hanes y traddodiad Annibynnol sef ''Congregationalism in England, 1662-1962'' (1962), ''Hanes Annibynwyr Cymru'' (1966) ac ''Yr Undeb'' (1976). | ||
− | Yn ddiweddarach yn ei yrfa datblygodd ddiddordeb yng nghrefydd, diwylliant a gwleidyddiaeth Cymru ar droad yr 20g. Cyhoeddwyd ffrwyth y llafur hwn yn yr astudiaeth ddwy gyfrol ''Ffydd ac Argyfwng Cenedl: Crefydd a Chymdeithas yng Nghymru, 1890-1914'' (1981 ac 1982). Mae’n debyg mai yn y cyfrolau hyn – yn arbennig yr ail – y gwelir meddwl disglair R. Tudur Jones orau. O grynhoi, yr hyn y mae’n ceisio'i wneud yn y cyfrolau yw dangos bod modd olrhain argyfwng crefyddol, diwylliannol a gwleidyddol Cymru erbyn 1979 yn ôl i’r hwn. Ar yr wyneb roedd yn gyfnod llewyrchus i grefydd Cymru, ond credai R. Tudur Jones fod craciau a fyddai'n arwain at yr argyfwng eisoes yn bodoli. | + | Yn ddiweddarach yn ei yrfa datblygodd ddiddordeb yng nghrefydd, diwylliant a gwleidyddiaeth Cymru ar droad yr 20g. Cyhoeddwyd ffrwyth y llafur hwn yn yr astudiaeth ddwy gyfrol ''Ffydd ac Argyfwng Cenedl: Crefydd a Chymdeithas yng Nghymru, 1890-1914'' (1981 ac 1982). Mae’n debyg mai yn y cyfrolau hyn – yn arbennig yr ail – y gwelir meddwl disglair R. Tudur Jones ar ei orau. O grynhoi, yr hyn y mae’n ceisio'i wneud yn y cyfrolau yw dangos bod modd olrhain argyfwng crefyddol, diwylliannol a gwleidyddol Cymru erbyn 1979 yn ôl i’r cyfnod hwn. Ar yr wyneb roedd yn gyfnod llewyrchus i grefydd Cymru, ond credai R. Tudur Jones fod craciau a fyddai'n arwain at yr argyfwng eisoes yn bodoli. |
− | O safbwynt diwinyddol, dylanwad Moderniaeth Ryddfrydol, yn ei dyb ef, oedd ffynhonnell y crac cyntaf. Credai i'r symudiad hwnnw danseilio’r Gristnogaeth Feiblaidd Brotestannaidd oedd wedi esgor ar gyffro’r diwygiadau efengylaidd a Methodistaidd ac wedi bod yn sylfaen i Gristnogion Cymru ers canrifoedd. O safbwynt gwleidyddol a diwylliannol dadleuodd fod syniadau | + | O safbwynt diwinyddol, dylanwad Moderniaeth Ryddfrydol, yn ei dyb ef, oedd ffynhonnell y crac cyntaf. Credai i'r symudiad hwnnw danseilio’r Gristnogaeth Feiblaidd Brotestannaidd oedd wedi esgor ar gyffro’r diwygiadau efengylaidd a Methodistaidd ac wedi bod yn sylfaen i Gristnogion Cymru ers canrifoedd. O safbwynt gwleidyddol a diwylliannol dadleuodd fod syniadau rhyddfrydol gwleidyddol yr oes, a oedd wedi’u nodweddu gan agwedd ''laissez-faire'', yn tanseilio’r Gymraeg fel iaith a’r syniad o Gymru fel cenedl. Wrth adnabod natur y berthynas rhwng Cristnogaeth a’r diwylliant Cymraeg deallai fod ymosodiad ar y naill yn ymosodiad ar y llall, a gwendid y naill yn anorfod yn arwain at broblemau i’r llall. Dyna pam y treuliodd R. Tudur Jones ei fywyd yn cenhadu o blaid yr adferiad diwygiedig yn yr eglwys ac o blaid y mudiad cenedlaethol yn y sffêr wleidyddol. Roedd y ddeubeth wedi’u cysylltu yn ei feddwl. |
Nid dadleuon digyswllt, felly, oedd ei ddadleuon moesol a diwinyddol fel arweinydd crefyddol a'i ddadleuon gwleidyddol-economaidd fel arweinydd o fewn Plaid Cymru. Am ei fod yn dadlau bod penarglwyddiaeth Crist yn ymestyn i bob agwedd ar gymdeithas credai fod hynny'n rhoi dilysrwydd i Gristnogion i gloriannu, i fynegi barn a hyd yn oed i lunio polisïau gwleidyddol ar faterion a fyddai’n ymwneud â phob agwedd ar gymdeithas. Yn aml iawn cyfunwyd diwinyddiaeth a gwleidyddiaeth R. Tudur Jones fel na ellid gwahaniaethu'n hawdd rhwng y ddau. Nid syncretiaeth oedd hyn ond yn hytrach bodolai cysylltiad anhepgorol rhyngddynt yn ei dyb ef oherwydd ei gred sylfaenol ym mhenarglwyddiaeth Crist. Ar brydiau y mae'n anodd gwahaniaethu rhwng ei ddiwinyddiaeth a'i wleidyddiaeth gan fod y ddau, ei fywyd diwylliannol a gwleidyddol yn ogystal â'i fywyd ysbrydol, dan Benarglwyddiaeth Crist. | Nid dadleuon digyswllt, felly, oedd ei ddadleuon moesol a diwinyddol fel arweinydd crefyddol a'i ddadleuon gwleidyddol-economaidd fel arweinydd o fewn Plaid Cymru. Am ei fod yn dadlau bod penarglwyddiaeth Crist yn ymestyn i bob agwedd ar gymdeithas credai fod hynny'n rhoi dilysrwydd i Gristnogion i gloriannu, i fynegi barn a hyd yn oed i lunio polisïau gwleidyddol ar faterion a fyddai’n ymwneud â phob agwedd ar gymdeithas. Yn aml iawn cyfunwyd diwinyddiaeth a gwleidyddiaeth R. Tudur Jones fel na ellid gwahaniaethu'n hawdd rhwng y ddau. Nid syncretiaeth oedd hyn ond yn hytrach bodolai cysylltiad anhepgorol rhyngddynt yn ei dyb ef oherwydd ei gred sylfaenol ym mhenarglwyddiaeth Crist. Ar brydiau y mae'n anodd gwahaniaethu rhwng ei ddiwinyddiaeth a'i wleidyddiaeth gan fod y ddau, ei fywyd diwylliannol a gwleidyddol yn ogystal â'i fywyd ysbrydol, dan Benarglwyddiaeth Crist. | ||
− | Arwyddocâd y weledigaeth hon yw ei fod, ar y naill law, yn gochel rhag syniadaeth theocrataidd sy'n ceisio tynnu pob rhan o gymdeithas dan reolaeth yr eglwys, a’i fod ar y llaw arall yn gochel rhag Cristnogaeth arallfydol bietistaidd sy'n gwadu awdurdod Crist dros gymdeithas a diwylliant y byd hwn. Pwysigrwydd R. Tudur Jones heddiw yw bod y weledigaeth hon yn cynnig fframwaith Cristnogol i ymhél â chymdeithas mewn ffordd sy'n ei chwyldroi yng ngoleuni buddugoliaeth Crist, yn hytrach na cheisio ei gorthrymu neu ei chondemnio. Oherwydd ei weledigaeth ymneilltuol mae meddwl R. Tudur Jones yn arbennig o berthnasol i Gristnogion heddiw sy’n ceisio canfod llwybr ymlaen i’r Eglwys yn y cyfnod ôl-wledydd Cred | + | Arwyddocâd y weledigaeth hon yw ei fod, ar y naill law, yn gochel rhag syniadaeth theocrataidd sy'n ceisio tynnu pob rhan o gymdeithas dan reolaeth yr eglwys, a’i fod ar y llaw arall yn gochel rhag Cristnogaeth arallfydol bietistaidd sy'n gwadu awdurdod Crist dros gymdeithas a diwylliant y byd hwn. Pwysigrwydd R. Tudur Jones heddiw yw bod y weledigaeth hon yn cynnig fframwaith Cristnogol i ymhél â chymdeithas mewn ffordd sy'n ei chwyldroi yng ngoleuni buddugoliaeth Crist, yn hytrach na cheisio ei gorthrymu neu ei chondemnio. Oherwydd ei weledigaeth ymneilltuol mae meddwl R. Tudur Jones yn arbennig o berthnasol i Gristnogion heddiw sy’n ceisio canfod llwybr ymlaen i’r Eglwys yn y cyfnod ôl-wledydd Cred pan fo'r Eglwys eto yn y man lle y credai R. Tudur Jones y dylai fod, yn creu diwylliant ac yn dal y sefydliad yn atebol yn hytrach na bodloni ar fod yn rhan ohono. |
− | Ceisiodd R.M. (Bobi) Jones leoli R. Tudur Jones o fewn y traddodiad Calfinaidd Ewropeaidd ehangach, yn arbennig o fewn traddodiad Calfinaidd yr Iseldiroedd a gysylltir yn fwyaf amlwg â syniadaeth Abraham Kuyper. Dadleuodd Bobi Jones fod gan Tudur Jones 'fywyd meddyliol cudd' a ddeilliodd o’i ymweliad yn ŵr ifanc | + | Ceisiodd R. M. (Bobi) Jones leoli R. Tudur Jones o fewn y traddodiad Calfinaidd Ewropeaidd ehangach, yn arbennig o fewn traddodiad Calfinaidd yr Iseldiroedd a gysylltir yn fwyaf amlwg â syniadaeth Abraham Kuyper. Dadleuodd Bobi Jones fod gan R. Tudur Jones 'fywyd meddyliol cudd' a ddeilliodd o’i ymweliad yn ŵr ifanc â Phrifysgol Rydd Amsterdam. Dyma'r brifysgol a sefydlwyd gan Abraham Kuyper, un o ddiwinyddion Calfinaidd mwyaf dylanwadol Ewrop yn y 19g. Yn ôl Bobi Jones, ‘gweddnewidiwyd syniadaeth Tudur o'r bôn i'r brig’ gan yr ymweliad hwnnw. |
− | Cysyniad tebyg yng ngweithiau Tudur Jones a Kuyper yw ‘sofraniaeth y sfferau’, sef y syniad fod pob sffêr gymdeithasol yn dod yn uniongyrchol dan benarglwyddiaeth Duw ac y dylai pob sffêr anrhydeddu annibyniaeth ei gilydd. Yn ymarferol, o'r fan yma y daw syniadaeth ymneilltuol Tudur Jones ynglŷn â gwahanu gwladwriaeth ac eglwys, a hefyd ryddid sefydliadau addysgol oddi wrth ymyrraeth gan y wladwriaeth a’r eglwys fel ei gilydd. Y cysyniad arall pwysig yw ‘gras cyffredin’, sef yr elfen honno o ras Duw sy’n syrthio ar bawb yn ddiwahân, ni waeth | + | Cysyniad tebyg yng ngweithiau R. Tudur Jones a Kuyper yw ‘sofraniaeth y sfferau’, sef y syniad fod pob sffêr gymdeithasol yn dod yn uniongyrchol dan benarglwyddiaeth Duw ac y dylai pob sffêr anrhydeddu annibyniaeth ei gilydd. Yn ymarferol, o'r fan yma y daw syniadaeth ymneilltuol R. Tudur Jones ynglŷn â gwahanu gwladwriaeth ac eglwys, a hefyd ryddid sefydliadau addysgol oddi wrth ymyrraeth gan y wladwriaeth a’r eglwys fel ei gilydd. Y cysyniad arall pwysig yw ‘gras cyffredin’, sef yr elfen honno o ras Duw sy’n syrthio ar bawb yn ddiwahân, ni waeth a yw’r person hwnnw yn gredadun ai peidio. Goblygiadau ymarferol hyn yw credu y gall rhywun nad yw’n Gristion ymarfer dawn Dduw-roddedig (er enghraifft, llenydda neu wleidydda) lawn gymaint â’r Cristion. |
Gellid dadlau, fodd bynnag, fod Bobi Jones wedi gorbwysleisio dylanwad Calfinwyr Amsterdam ar R. Tudur Jones yn ei amcan i geisio profi rhyw ymlyniad Cymreig wrthynt. Hawdd cytuno â D. Densil Morgan wrth iddo fynnu bod cyfarwyddo â thraddodiad Amsterdam wedi 'cadarnhau'r weledigaeth a oedd ganddo eisoes a'i helpu i gyfundrefnu'i feddwl.' | Gellid dadlau, fodd bynnag, fod Bobi Jones wedi gorbwysleisio dylanwad Calfinwyr Amsterdam ar R. Tudur Jones yn ei amcan i geisio profi rhyw ymlyniad Cymreig wrthynt. Hawdd cytuno â D. Densil Morgan wrth iddo fynnu bod cyfarwyddo â thraddodiad Amsterdam wedi 'cadarnhau'r weledigaeth a oedd ganddo eisoes a'i helpu i gyfundrefnu'i feddwl.' | ||
Llinell 26: | Llinell 26: | ||
Jones, R. T. (1952), ''Yr Annibynwyr a Hunanlywodraeth i Gymru'' (Morriston: Jones and | Jones, R. T. (1952), ''Yr Annibynwyr a Hunanlywodraeth i Gymru'' (Morriston: Jones and | ||
Son, Crown Printing Works). | Son, Crown Printing Works). | ||
− | |||
− | |||
− | |||
Jones, R. T. (1966), ''Hanes Annibynwyr Cymru'' (Abertawe: Gwasg John Penry). | Jones, R. T. (1966), ''Hanes Annibynwyr Cymru'' (Abertawe: Gwasg John Penry). | ||
Llinell 36: | Llinell 33: | ||
Jones, R. T. (1974), ''The Desire of Nations'' (Llandybie: Christopher Davies). | Jones, R. T. (1974), ''The Desire of Nations'' (Llandybie: Christopher Davies). | ||
− | Jones, R. T. (1981), ''Ffydd ac Argyfwng Cenedl – Hanes Crefydd yng Nghymru 1890- | + | Jones, R. T. (1981), ''Ffydd ac Argyfwng Cenedl – Hanes Crefydd yng Nghymru'' ''1890-1914'' ''Cyfrol 1'' (Abertawe: Tŷ John Penry). |
− | 1914 | + | |
+ | Jones, R. T. (1982), ''Ffydd ac Argyfwng Cenedl – Hanes Crefydd yng Nghymru'' ''1890-1914'' ''Cyfrol 2'' (Abertawe: Tŷ John Penry). | ||
− | + | Llwyd, S. Rh. (2011), ‘Cenedlaetholdeb R. Tudur Jones yn ei gyd-destun hanesyddol a diwinyddol’ (Traethawd Ph.D.: Prifysgol Bangor). | |
− | + | {{CC BY-SA}} | |
+ | [[Categori:Beirniadaeth a Theori]] |
Y diwygiad cyfredol, am 20:46, 17 Hydref 2016
R. Tudur Jones (1921-1998) oedd un o ffigyrau Cristnogol pwysicaf Cymru’r 20g. Roedd yn awdur toreithiog ym meysydd Hanes yr Eglwys, Diwinyddiaeth ac Athroniaeth Wleidyddol. Er mai ym maes crefydd y gwnaeth ei gyfraniad pwysicaf, ni chyfyngodd ei ddylanwad i’r sffêr grefyddol. Chwaraeodd ran ddylanwadol ym Mhlaid Cymru yn ystod arweinyddiaeth Gwynfor Evans, gan weithredu fel is-lywydd ac fel golygydd papurau'r Blaid, The Welsh Nation a’r Ddraig Goch. Estynnodd ei gefnogaeth barod i ymgyrchoedd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, yn arbennig felly drwy ysbrydoli ei fyfyrwyr yng Ngholeg Bala-Bangor yn yr 1970au i weld y frwydr genedlaethol a brwydr yr iaith Gymraeg fel estyniad o’u cenadwri Gristnogol.
Ei ddiddordeb ymchwil cyntaf oedd y Piwritaniaid ac wedi hynny hanes yr Eglwys Brotestannaidd, yn arbennig ei draddodiad ef ei hun, yr Annibynwyr. Yn ogystal â llu o ysgrifau cyhoeddodd dair cyfrol sylweddol am hanes y traddodiad Annibynnol sef Congregationalism in England, 1662-1962 (1962), Hanes Annibynwyr Cymru (1966) ac Yr Undeb (1976).
Yn ddiweddarach yn ei yrfa datblygodd ddiddordeb yng nghrefydd, diwylliant a gwleidyddiaeth Cymru ar droad yr 20g. Cyhoeddwyd ffrwyth y llafur hwn yn yr astudiaeth ddwy gyfrol Ffydd ac Argyfwng Cenedl: Crefydd a Chymdeithas yng Nghymru, 1890-1914 (1981 ac 1982). Mae’n debyg mai yn y cyfrolau hyn – yn arbennig yr ail – y gwelir meddwl disglair R. Tudur Jones ar ei orau. O grynhoi, yr hyn y mae’n ceisio'i wneud yn y cyfrolau yw dangos bod modd olrhain argyfwng crefyddol, diwylliannol a gwleidyddol Cymru erbyn 1979 yn ôl i’r cyfnod hwn. Ar yr wyneb roedd yn gyfnod llewyrchus i grefydd Cymru, ond credai R. Tudur Jones fod craciau a fyddai'n arwain at yr argyfwng eisoes yn bodoli.
O safbwynt diwinyddol, dylanwad Moderniaeth Ryddfrydol, yn ei dyb ef, oedd ffynhonnell y crac cyntaf. Credai i'r symudiad hwnnw danseilio’r Gristnogaeth Feiblaidd Brotestannaidd oedd wedi esgor ar gyffro’r diwygiadau efengylaidd a Methodistaidd ac wedi bod yn sylfaen i Gristnogion Cymru ers canrifoedd. O safbwynt gwleidyddol a diwylliannol dadleuodd fod syniadau rhyddfrydol gwleidyddol yr oes, a oedd wedi’u nodweddu gan agwedd laissez-faire, yn tanseilio’r Gymraeg fel iaith a’r syniad o Gymru fel cenedl. Wrth adnabod natur y berthynas rhwng Cristnogaeth a’r diwylliant Cymraeg deallai fod ymosodiad ar y naill yn ymosodiad ar y llall, a gwendid y naill yn anorfod yn arwain at broblemau i’r llall. Dyna pam y treuliodd R. Tudur Jones ei fywyd yn cenhadu o blaid yr adferiad diwygiedig yn yr eglwys ac o blaid y mudiad cenedlaethol yn y sffêr wleidyddol. Roedd y ddeubeth wedi’u cysylltu yn ei feddwl.
Nid dadleuon digyswllt, felly, oedd ei ddadleuon moesol a diwinyddol fel arweinydd crefyddol a'i ddadleuon gwleidyddol-economaidd fel arweinydd o fewn Plaid Cymru. Am ei fod yn dadlau bod penarglwyddiaeth Crist yn ymestyn i bob agwedd ar gymdeithas credai fod hynny'n rhoi dilysrwydd i Gristnogion i gloriannu, i fynegi barn a hyd yn oed i lunio polisïau gwleidyddol ar faterion a fyddai’n ymwneud â phob agwedd ar gymdeithas. Yn aml iawn cyfunwyd diwinyddiaeth a gwleidyddiaeth R. Tudur Jones fel na ellid gwahaniaethu'n hawdd rhwng y ddau. Nid syncretiaeth oedd hyn ond yn hytrach bodolai cysylltiad anhepgorol rhyngddynt yn ei dyb ef oherwydd ei gred sylfaenol ym mhenarglwyddiaeth Crist. Ar brydiau y mae'n anodd gwahaniaethu rhwng ei ddiwinyddiaeth a'i wleidyddiaeth gan fod y ddau, ei fywyd diwylliannol a gwleidyddol yn ogystal â'i fywyd ysbrydol, dan Benarglwyddiaeth Crist.
Arwyddocâd y weledigaeth hon yw ei fod, ar y naill law, yn gochel rhag syniadaeth theocrataidd sy'n ceisio tynnu pob rhan o gymdeithas dan reolaeth yr eglwys, a’i fod ar y llaw arall yn gochel rhag Cristnogaeth arallfydol bietistaidd sy'n gwadu awdurdod Crist dros gymdeithas a diwylliant y byd hwn. Pwysigrwydd R. Tudur Jones heddiw yw bod y weledigaeth hon yn cynnig fframwaith Cristnogol i ymhél â chymdeithas mewn ffordd sy'n ei chwyldroi yng ngoleuni buddugoliaeth Crist, yn hytrach na cheisio ei gorthrymu neu ei chondemnio. Oherwydd ei weledigaeth ymneilltuol mae meddwl R. Tudur Jones yn arbennig o berthnasol i Gristnogion heddiw sy’n ceisio canfod llwybr ymlaen i’r Eglwys yn y cyfnod ôl-wledydd Cred pan fo'r Eglwys eto yn y man lle y credai R. Tudur Jones y dylai fod, yn creu diwylliant ac yn dal y sefydliad yn atebol yn hytrach na bodloni ar fod yn rhan ohono.
Ceisiodd R. M. (Bobi) Jones leoli R. Tudur Jones o fewn y traddodiad Calfinaidd Ewropeaidd ehangach, yn arbennig o fewn traddodiad Calfinaidd yr Iseldiroedd a gysylltir yn fwyaf amlwg â syniadaeth Abraham Kuyper. Dadleuodd Bobi Jones fod gan R. Tudur Jones 'fywyd meddyliol cudd' a ddeilliodd o’i ymweliad yn ŵr ifanc â Phrifysgol Rydd Amsterdam. Dyma'r brifysgol a sefydlwyd gan Abraham Kuyper, un o ddiwinyddion Calfinaidd mwyaf dylanwadol Ewrop yn y 19g. Yn ôl Bobi Jones, ‘gweddnewidiwyd syniadaeth Tudur o'r bôn i'r brig’ gan yr ymweliad hwnnw.
Cysyniad tebyg yng ngweithiau R. Tudur Jones a Kuyper yw ‘sofraniaeth y sfferau’, sef y syniad fod pob sffêr gymdeithasol yn dod yn uniongyrchol dan benarglwyddiaeth Duw ac y dylai pob sffêr anrhydeddu annibyniaeth ei gilydd. Yn ymarferol, o'r fan yma y daw syniadaeth ymneilltuol R. Tudur Jones ynglŷn â gwahanu gwladwriaeth ac eglwys, a hefyd ryddid sefydliadau addysgol oddi wrth ymyrraeth gan y wladwriaeth a’r eglwys fel ei gilydd. Y cysyniad arall pwysig yw ‘gras cyffredin’, sef yr elfen honno o ras Duw sy’n syrthio ar bawb yn ddiwahân, ni waeth a yw’r person hwnnw yn gredadun ai peidio. Goblygiadau ymarferol hyn yw credu y gall rhywun nad yw’n Gristion ymarfer dawn Dduw-roddedig (er enghraifft, llenydda neu wleidydda) lawn gymaint â’r Cristion.
Gellid dadlau, fodd bynnag, fod Bobi Jones wedi gorbwysleisio dylanwad Calfinwyr Amsterdam ar R. Tudur Jones yn ei amcan i geisio profi rhyw ymlyniad Cymreig wrthynt. Hawdd cytuno â D. Densil Morgan wrth iddo fynnu bod cyfarwyddo â thraddodiad Amsterdam wedi 'cadarnhau'r weledigaeth a oedd ganddo eisoes a'i helpu i gyfundrefnu'i feddwl.'
Rhys Llwyd
Llyfryddiaeth
Jones, R. M. (2002), Mawl a Gelynion ei Elynion (Llandybie: Barddas).
Jones, R. T. (1952), Yr Annibynwyr a Hunanlywodraeth i Gymru (Morriston: Jones and Son, Crown Printing Works).
Jones, R. T. (1966), Hanes Annibynwyr Cymru (Abertawe: Gwasg John Penry).
Jones, R. T. (1972), Yr Ysbryd Glân (Caernarfon: Llyfrfa’r Methodistiaid Calfinaidd).
Jones, R. T. (1974), The Desire of Nations (Llandybie: Christopher Davies).
Jones, R. T. (1981), Ffydd ac Argyfwng Cenedl – Hanes Crefydd yng Nghymru 1890-1914 Cyfrol 1 (Abertawe: Tŷ John Penry).
Jones, R. T. (1982), Ffydd ac Argyfwng Cenedl – Hanes Crefydd yng Nghymru 1890-1914 Cyfrol 2 (Abertawe: Tŷ John Penry).
Llwyd, S. Rh. (2011), ‘Cenedlaetholdeb R. Tudur Jones yn ei gyd-destun hanesyddol a diwinyddol’ (Traethawd Ph.D.: Prifysgol Bangor).
- Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.