Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Beiau gwaharddedig"

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio
(Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda '__NOAUTOLINKS__ Rhaid gwarchod cywirdeb y gynghanedd, oherwydd y mae iddi reolau gosodedig. Pwrpas y rheolau hyn yw sicrhau bod pob agwedd ar y gynghanedd...')
 
(Ni ddangosir y 2 olygiad yn y canol gan ddefnyddiwr arall)
Llinell 2: Llinell 2:
 
Rhaid gwarchod cywirdeb y gynghanedd, oherwydd y mae iddi reolau gosodedig. Pwrpas y rheolau hyn yw sicrhau bod pob agwedd ar y gynghanedd yn gywir, a bod pob un o’r mân rannau yn cydweithio’n effeithiol â’i gilydd i greu cyfanwaith. Mae’r rheolau hyn yn ymwneud â phedair elfen, sef yr acen, cyfatebiaeth gytseiniol, odlau a chydbwysedd.
 
Y gwall pennaf o safbwynt yr acen yw Crych a Llyfn. Mae’n rhaid ateb y cytseiniaid a geir o flaen y ddwy brif acen mewn cynghanedd gytbwys acennog, a rhwng y brif acen a’r is-acen mewn cynghanedd gytbwys ddiacen, ac ar ôl y brif acen a rhwng y brif acen a’r is-acen mewn cynghanedd anghytbwys ddisgynedig. Crych a Llyfn yw’r term technegol am y math hwn o gamacennu. Ceir y bai Crych a Llyfn yn y llinell hon, ‘Ef ar ugain ofergamp’, gan Lewys Glyn Cothi, er enghraifft, gan y ceir g yn unig rhwng y brif acen a’r is-acen yn y naill hanner, ac rg rhwng y brif acen a’r is-acen yn yr hanner arall.
+
Y gwall pennaf o safbwynt yr acen yw Crych a Llyfn. Mae’n rhaid ateb y cytseiniaid a geir o flaen y ddwy brif acen mewn cynghanedd gytbwys acennog, a rhwng y brif acen a’r is-acen mewn cynghanedd gytbwys ddiacen, ac ar ôl y brif acen a rhwng y brif acen a’r is-acen mewn cynghanedd anghytbwys ddisgynedig. Crych a Llyfn yw’r term technegol am y math hwn o gamacennu. Ceir y bai Crych a Llyfn yn y llinell hon, ‘Ef ar ugain ofergamp’, gan Lewys Glyn Cothi, er enghraifft, gan y ceir ''g'' yn unig rhwng y brif acen a’r is-acen yn y naill hanner, ac ''rg'' rhwng y brif acen a’r is-acen yn yr hanner arall.
  
Camosodiad a Thwyll Gynghanedd yw’r ddau wall mwyaf ar ôl Crych a Llyfn. Mae’r naill nam fel y llall yn dinistrio trefn y gyfatebiaeth gytseiniol. Gosod dwy gytsain yn y drefn anghywir yw Camosodiad, ‘Sylfaen drws syfilian draw’, llinell o waith Lewys Daron, er enghraifft, lle ceir l ac f ac f ac l yn y drefn anghywir. Twyll Gynghanedd yw cynghanedd sy’n cynnwys cytsain gudd nad yw’n cael ei hateb yng nghorff y llinell, gan dwyllo’r glust yn llwyr, er enghraifft, llinell Guto’r Glyn, ‘Griffwnd wyd o gorff a dawn’, lle nad yw’r n yn ‘Griffwnd’ yn cael ei hateb o gwbl yn ail ran y gynghanedd.  
+
Camosodiad a Thwyll Gynghanedd yw’r ddau wall mwyaf ar ôl Crych a Llyfn. Mae’r naill nam fel y llall yn dinistrio trefn y gyfatebiaeth gytseiniol. Gosod dwy gytsain yn y drefn anghywir yw Camosodiad, ‘Sylfaen drws syfilian draw’, llinell o waith Lewys Daron, er enghraifft, lle ceir ''l'' ac ''f'' ac ''f'' ac ''l'' yn y drefn anghywir. Twyll Gynghanedd yw cynghanedd sy’n cynnwys cytsain gudd nad yw’n cael ei hateb yng nghorff y llinell, gan dwyllo’r glust yn llwyr, er enghraifft, llinell Guto’r Glyn, ‘Griffwnd wyd o gorff a dawn’, lle nad yw’r ''n'' yn ‘Griffw''n''d’ yn cael ei hateb o gwbl yn ail ran y gynghanedd.  
  
Bai sy’n ymwneud ag odlau yw Proest i’r odl. Rhyw fath o odl yw Proest, gyda’r cytseiniaid yn cyfateb i’w gilydd, ond y llafariaid yn wahanol i’w gilydd, er enghraifft, bwrdd/bardd; gardd/gordd; maes/moes; coeden/cudyn; capel/cwpwl. Bai arall sy’n ymwneud ag odlau yw Trwm ac Ysgafn. Tra bo glân, mân, gwân, tân yn ysgafn, mae glan, man, gwan, tan yn drwm. Mae glân yn odli â mân ond nid â glan. Mae’r bai Trwm ac Ysgafn yn berthnasol i’r gynghanedd Sain ac i’r gynghanedd Lusg. Mae’r egwyddor o unoliaeth a gwahaniaeth yn hanfodol i’r gynghanedd. Mae llawer iawn o feiau gwaharddedig Cerdd Dafod yn ymwneud â gormodedd a phrinder. Rhaid cael cydbwysedd perffaith. Dylai cyfatebiaeth gytseiniol ddigwydd o flaen y ddwy acen mewn cynghanedd gytbwys acennog, er enghraifft, ‘Gwas drwg ar neges a drig’, Guto’r Glyn, a rhwng y brif acen a’r is-acen mewn cynghanedd gytbwys ddiacen, er enghraifft, ‘Gofyn a wna Duw’n gyfan’, Siôn Tudur. Mae gormod o gytseiniaid yn llinellau Guto’r Glyn a Siôn Tudur, ac mae hynny yn treisio unoliaeth y gynghanedd. Gellir cael gormod o lafariaid tebyg mewn llinell yn ogystal, er enghraifft, ‘Daroganodd dewr gannos’, Tudur Aled. ‘Gormodd Odlau’ y gelwir y bai hwn. ‘Mewn cynghanedd Lusg, ceir y bai Trwm ac Ysgafn os ceisir odli sillaf drom â sillaf ysgafn, er enghraifft, ‘Adar glân ar y glannau’. Ni all prifodlau englyn ychwaith odli sillaf drom â sillaf ysgafn.
+
Bai sy’n ymwneud ag odlau yw Proest i’r odl. Rhyw fath o odl yw Proest, gyda’r cytseiniaid yn cyfateb i’w gilydd, ond y llafariaid yn wahanol i’w gilydd, er enghraifft, bwrdd/bardd; gardd/gordd; maes/moes; coeden/cudyn; capel/cwpwl. Bai arall sy’n ymwneud ag odlau yw Trwm ac Ysgafn. Tra bo ''glân'', ''mân'', ''gwân'', ''tân'' yn ysgafn, mae ''glan'', ''man'', ''gwan'', ''tan'' yn drwm. Mae ''glân'' yn odli â ''mân'' ond nid â ''glan''. Mae’r bai Trwm ac Ysgafn yn berthnasol i’r gynghanedd Sain ac i’r gynghanedd Lusg. Mae’r egwyddor o unoliaeth a gwahaniaeth yn hanfodol i’r gynghanedd. Mae llawer iawn o feiau gwaharddedig Cerdd Dafod yn ymwneud â gormodedd a phrinder. Rhaid cael cydbwysedd perffaith. Dylai cyfatebiaeth gytseiniol ddigwydd o flaen y ddwy acen mewn cynghanedd gytbwys acennog, er enghraifft, ‘Gwas drwg ar neges a drig’, Guto’r Glyn, a rhwng y brif acen a’r is-acen mewn cynghanedd gytbwys ddiacen, er enghraifft, ‘Gofyn a wna Duw’n gyfan’, Siôn Tudur. Mae gormod o gytseiniaid yn llinellau Guto’r Glyn a Siôn Tudur, ac mae hynny yn treisio unoliaeth y gynghanedd. Gellir cael gormod o lafariaid tebyg mewn llinell yn ogystal, er enghraifft, ‘Darog''a''nodd dewr g''a''nn''o''s’, Tudur Aled. ‘Gormodd Odlau’ y gelwir y bai hwn. ‘Mewn cynghanedd Lusg, ceir y bai Trwm ac Ysgafn os ceisir odli sillaf drom â sillaf ysgafn, er enghraifft, ‘Adar glân ar y glannau’. Ni all prifodlau englyn ychwaith odli sillaf drom â sillaf ysgafn.
  
Ac yn olaf, cydbwysedd. Cydbwysedd yw cynghanedd. Rhaid i’r ddwy ochr i glorian y gynghanedd fod yn berffaith gytbwys. Os ceir chwech o gytseiniaid yn rhan gyntaf y gynghanedd, rhaid ailadrodd yr un chwe chytsain yn ail ran y gynghanedd, yn yr union un drefn ag a geir yn rhan gyntaf y gynghanedd. Ond fe ellir ateb dwy gytsain ag un gytsain ar yr amod mai un sillaf lafarog yn unig sydd rhwng y ddwy gytsain, er enghraifft, ‘Troes Elwy lwyd tros y lan’, Tudur Aled. Prin y gall y glust glywed yr ail l yn y llinell, a hynny oherwydd mai’r tair cytsain leiaf tramgwyddus mewn llinellau o’r fath yw l, n ac r. Gellir ateb tair cytsain gydag un, ar yr amod bod dwy gytsain o’r tair yn gytseiniaid clwm, dwy r neu dwy n, er enghraifft, ‘Uwch yw’r to no chyrrau’r tir, Guto’r Glyn, lle mae’r ddwy r yn ‘cyrrau’ yn gweithredu fel un. Mae rhai beirdd cyfoes wedi ceisio manteisio ar y goddefiad hwn i ateb tair cytsain ar wahân ag un gytsain, er enghraifft, ‘A babi bach eto’n ben’, sy’n llinell gwbl wallus. Peth arall sy’n achosi diffyg cydbwysedd yw cynganeddion pendrwm. Mewn cynghanedd Groes gytbwys acennog seithsill, rhaid i’r orffwysfa ddisgyn ar y bedwaredd sillaf fan bellaf. Os bydd yn digwydd ar y bumed neu’r chweched sillaf, yna, fe geir cynghanedd gwbl anghytbwys, a elwir yn gynghanedd bendrom, er enghraifft, ‘Oni thorres iaith o’r sŵn’, R. Williams Parry. Mewn cynghanedd gytbwys ddiacen, rhaid i ran gyntaf y gynghanedd ddiweddu ar y bedwaredd sillaf, ac mewn cynghanedd anghytbwys ddisgynedig, rhaid i ran gyntaf y gynghanedd ddiweddu ar y drydedd sillaf, felly, mae’r llinellau hyn gan T. Gwynn Jones ac R. Williams Parry yn anghywir: ‘A gwe o liwiau/gloywon’, ‘A llawen oedd llonyddwch’. ‘Camosodiad mewn Gorffwysfa’ yw’r term a ddefnyddir gan Simwnt Fychan am y gwall hwn yn Pum Llyfr Kerddwriaeth.   
+
Ac yn olaf, cydbwysedd. Cydbwysedd yw cynghanedd. Rhaid i’r ddwy ochr i glorian y gynghanedd fod yn berffaith gytbwys. Os ceir chwech o gytseiniaid yn rhan gyntaf y gynghanedd, rhaid ailadrodd yr un chwe chytsain yn ail ran y gynghanedd, yn yr union un drefn ag a geir yn rhan gyntaf y gynghanedd. Ond fe ellir ateb dwy gytsain ag un gytsain ar yr amod mai un sillaf lafarog yn unig sydd rhwng y ddwy gytsain, er enghraifft, ‘Troes Elwy lwyd tros y lan’, Tudur Aled. Prin y gall y glust glywed yr ail ''l'' yn y llinell, a hynny oherwydd mai’r tair cytsain leiaf tramgwyddus mewn llinellau o’r fath yw ''l'', ''n'' ac ''r''. Gellir ateb tair cytsain gydag un, ar yr amod bod dwy gytsain o’r tair yn gytseiniaid clwm, dwy ''r'' neu dwy ''n'', er enghraifft, ‘Uwch yw’r to no chyrrau’r tir, Guto’r Glyn, lle mae’r ddwy ''r'' yn ‘cyrrau’ yn gweithredu fel un. Mae rhai beirdd cyfoes wedi ceisio manteisio ar y goddefiad hwn i ateb tair cytsain ar wahân ag un gytsain, er enghraifft, ‘A babi bach eto’n ben’, sy’n llinell gwbl wallus. Peth arall sy’n achosi diffyg cydbwysedd yw cynganeddion pendrwm. Mewn cynghanedd Groes gytbwys acennog seithsill, rhaid i’r orffwysfa ddisgyn ar y bedwaredd sillaf fan bellaf. Os bydd yn digwydd ar y bumed neu’r chweched sillaf, yna, fe geir cynghanedd gwbl anghytbwys, a elwir yn gynghanedd bendrom, er enghraifft, ‘Oni thorres iaith o’r sŵn’, R. Williams Parry. Mewn cynghanedd gytbwys ddiacen, rhaid i ran gyntaf y gynghanedd ddiweddu ar y bedwaredd sillaf, ac mewn cynghanedd anghytbwys ddisgynedig, rhaid i ran gyntaf y gynghanedd ddiweddu ar y drydedd sillaf, felly, mae’r llinellau hyn gan T. Gwynn Jones ac R. Williams Parry yn anghywir: ‘A gwe o liwiau/gloywon’, ‘A llawen oedd llonyddwch’. ‘Camosodiad mewn Gorffwysfa’ yw’r term a ddefnyddir gan Simwnt Fychan am y gwall hwn yn ''Pum Llyfr Kerddwriaeth''.   
 
Ceir nifer o fân reolau a goddefiadau eraill yn ogystal.
 
Alan Llwyd
+
'''Alan Llwyd'''
  
Llyfryddiaeth
+
==Llyfryddiaeth==
  
Llwyd, A. (2007), Anghenion y Gynghanedd (Llandybïe: Cyhoeddiadau Barddas).
+
Llwyd, A. (2007), ''Anghenion y Gynghanedd'' (Llandybïe: Cyhoeddiadau Barddas).
  
Morris-Jones, J. (1925), Cerdd Dafod sef Celfyddyd Barddoniaeth Gymraeg (Rhydychen: Gwasg Clarendon).
+
Morris-Jones, J. (1925), ''Cerdd Dafod sef Celfyddyd Barddoniaeth Gymraeg'' (Rhydychen: Gwasg Clarendon).
 +
{{CC BY-SA}}
 +
[[Categori:Beirniadaeth a Theori]]
 +
[[Categori:Cerdd Dafod]]

Y diwygiad cyfredol, am 13:34, 13 Medi 2018

Rhaid gwarchod cywirdeb y gynghanedd, oherwydd y mae iddi reolau gosodedig. Pwrpas y rheolau hyn yw sicrhau bod pob agwedd ar y gynghanedd yn gywir, a bod pob un o’r mân rannau yn cydweithio’n effeithiol â’i gilydd i greu cyfanwaith. Mae’r rheolau hyn yn ymwneud â phedair elfen, sef yr acen, cyfatebiaeth gytseiniol, odlau a chydbwysedd.

Y gwall pennaf o safbwynt yr acen yw Crych a Llyfn. Mae’n rhaid ateb y cytseiniaid a geir o flaen y ddwy brif acen mewn cynghanedd gytbwys acennog, a rhwng y brif acen a’r is-acen mewn cynghanedd gytbwys ddiacen, ac ar ôl y brif acen a rhwng y brif acen a’r is-acen mewn cynghanedd anghytbwys ddisgynedig. Crych a Llyfn yw’r term technegol am y math hwn o gamacennu. Ceir y bai Crych a Llyfn yn y llinell hon, ‘Ef ar ugain ofergamp’, gan Lewys Glyn Cothi, er enghraifft, gan y ceir g yn unig rhwng y brif acen a’r is-acen yn y naill hanner, ac rg rhwng y brif acen a’r is-acen yn yr hanner arall.

Camosodiad a Thwyll Gynghanedd yw’r ddau wall mwyaf ar ôl Crych a Llyfn. Mae’r naill nam fel y llall yn dinistrio trefn y gyfatebiaeth gytseiniol. Gosod dwy gytsain yn y drefn anghywir yw Camosodiad, ‘Sylfaen drws syfilian draw’, llinell o waith Lewys Daron, er enghraifft, lle ceir l ac f ac f ac l yn y drefn anghywir. Twyll Gynghanedd yw cynghanedd sy’n cynnwys cytsain gudd nad yw’n cael ei hateb yng nghorff y llinell, gan dwyllo’r glust yn llwyr, er enghraifft, llinell Guto’r Glyn, ‘Griffwnd wyd o gorff a dawn’, lle nad yw’r n yn ‘Griffwnd’ yn cael ei hateb o gwbl yn ail ran y gynghanedd.

Bai sy’n ymwneud ag odlau yw Proest i’r odl. Rhyw fath o odl yw Proest, gyda’r cytseiniaid yn cyfateb i’w gilydd, ond y llafariaid yn wahanol i’w gilydd, er enghraifft, bwrdd/bardd; gardd/gordd; maes/moes; coeden/cudyn; capel/cwpwl. Bai arall sy’n ymwneud ag odlau yw Trwm ac Ysgafn. Tra bo glân, mân, gwân, tân yn ysgafn, mae glan, man, gwan, tan yn drwm. Mae glân yn odli â mân ond nid â glan. Mae’r bai Trwm ac Ysgafn yn berthnasol i’r gynghanedd Sain ac i’r gynghanedd Lusg. Mae’r egwyddor o unoliaeth a gwahaniaeth yn hanfodol i’r gynghanedd. Mae llawer iawn o feiau gwaharddedig Cerdd Dafod yn ymwneud â gormodedd a phrinder. Rhaid cael cydbwysedd perffaith. Dylai cyfatebiaeth gytseiniol ddigwydd o flaen y ddwy acen mewn cynghanedd gytbwys acennog, er enghraifft, ‘Gwas drwg ar neges a drig’, Guto’r Glyn, a rhwng y brif acen a’r is-acen mewn cynghanedd gytbwys ddiacen, er enghraifft, ‘Gofyn a wna Duw’n gyfan’, Siôn Tudur. Mae gormod o gytseiniaid yn llinellau Guto’r Glyn a Siôn Tudur, ac mae hynny yn treisio unoliaeth y gynghanedd. Gellir cael gormod o lafariaid tebyg mewn llinell yn ogystal, er enghraifft, ‘Daroganodd dewr gannos’, Tudur Aled. ‘Gormodd Odlau’ y gelwir y bai hwn. ‘Mewn cynghanedd Lusg, ceir y bai Trwm ac Ysgafn os ceisir odli sillaf drom â sillaf ysgafn, er enghraifft, ‘Adar glân ar y glannau’. Ni all prifodlau englyn ychwaith odli sillaf drom â sillaf ysgafn.

Ac yn olaf, cydbwysedd. Cydbwysedd yw cynghanedd. Rhaid i’r ddwy ochr i glorian y gynghanedd fod yn berffaith gytbwys. Os ceir chwech o gytseiniaid yn rhan gyntaf y gynghanedd, rhaid ailadrodd yr un chwe chytsain yn ail ran y gynghanedd, yn yr union un drefn ag a geir yn rhan gyntaf y gynghanedd. Ond fe ellir ateb dwy gytsain ag un gytsain ar yr amod mai un sillaf lafarog yn unig sydd rhwng y ddwy gytsain, er enghraifft, ‘Troes Elwy lwyd tros y lan’, Tudur Aled. Prin y gall y glust glywed yr ail l yn y llinell, a hynny oherwydd mai’r tair cytsain leiaf tramgwyddus mewn llinellau o’r fath yw l, n ac r. Gellir ateb tair cytsain gydag un, ar yr amod bod dwy gytsain o’r tair yn gytseiniaid clwm, dwy r neu dwy n, er enghraifft, ‘Uwch yw’r to no chyrrau’r tir, Guto’r Glyn, lle mae’r ddwy r yn ‘cyrrau’ yn gweithredu fel un. Mae rhai beirdd cyfoes wedi ceisio manteisio ar y goddefiad hwn i ateb tair cytsain ar wahân ag un gytsain, er enghraifft, ‘A babi bach eto’n ben’, sy’n llinell gwbl wallus. Peth arall sy’n achosi diffyg cydbwysedd yw cynganeddion pendrwm. Mewn cynghanedd Groes gytbwys acennog seithsill, rhaid i’r orffwysfa ddisgyn ar y bedwaredd sillaf fan bellaf. Os bydd yn digwydd ar y bumed neu’r chweched sillaf, yna, fe geir cynghanedd gwbl anghytbwys, a elwir yn gynghanedd bendrom, er enghraifft, ‘Oni thorres iaith o’r sŵn’, R. Williams Parry. Mewn cynghanedd gytbwys ddiacen, rhaid i ran gyntaf y gynghanedd ddiweddu ar y bedwaredd sillaf, ac mewn cynghanedd anghytbwys ddisgynedig, rhaid i ran gyntaf y gynghanedd ddiweddu ar y drydedd sillaf, felly, mae’r llinellau hyn gan T. Gwynn Jones ac R. Williams Parry yn anghywir: ‘A gwe o liwiau/gloywon’, ‘A llawen oedd llonyddwch’. ‘Camosodiad mewn Gorffwysfa’ yw’r term a ddefnyddir gan Simwnt Fychan am y gwall hwn yn Pum Llyfr Kerddwriaeth.

Ceir nifer o fân reolau a goddefiadau eraill yn ogystal.

Alan Llwyd

Llyfryddiaeth

Llwyd, A. (2007), Anghenion y Gynghanedd (Llandybïe: Cyhoeddiadau Barddas).

Morris-Jones, J. (1925), Cerdd Dafod sef Celfyddyd Barddoniaeth Gymraeg (Rhydychen: Gwasg Clarendon).

Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.