Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Corfan"
(Ni ddangosir y 5 golygiad yn y canol gan ddefnyddiwr arall) | |||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
__NOAUTOLINKS__ | __NOAUTOLINKS__ | ||
− | Bar neu droed mydryddol yw corfan, sef y modd yr acennir gwahanol gyfuniadau o sillafau. Un o’r corfannau mwyaf cyffredin mewn barddoniaeth yw’r corfan talgrwn, a geir yn aml mewn mesurau pumban, sonedau, er enghraifft. Cyfuniad o ddwy sillaf yw’r math hwn o gorfan, gyda’r sillaf gyntaf yn ddiacen a’r ail sillaf yn acennog, er enghraifft, dyheu, ymhell, gerllaw, fan draw. | + | Bar neu droed mydryddol yw corfan, sef y modd yr acennir gwahanol gyfuniadau o sillafau. Un o’r corfannau mwyaf cyffredin mewn barddoniaeth yw’r corfan talgrwn, a geir yn aml mewn mesurau pumban, sonedau, er enghraifft. Cyfuniad o ddwy sillaf yw’r math hwn o gorfan, gyda’r sillaf gyntaf yn ddiacen a’r ail sillaf yn acennog, er enghraifft, ''dyheu'', ''ymhell'', ''gerllaw'', ''fan draw''. Math arall o gorfan yw corfan crych disgynedig lle ceir clymiad o dair sillaf, gyda’r sillaf gyntaf yn acennog a’r ail a’r drydedd sillaf yn ddiacen, er enghraifft, |
+ | |||
+ | :''Dwy''lo yn ''deb''yg i'r ''rhain'' | ||
+ | |||
+ | :''Cwsg'' fy an''wyl''yd di-''nam'', | ||
+ | :''Tec''ach na'r ''rhos''yn wyt ''ti''; | ||
+ | :''Hun''a ym ''myn''wes dy ''fam'', | ||
+ | :''Tar''ian dy ''fyw''yd yw ''hi''. | ||
+ | |||
+ | Dwy sillaf acennog yn dilyn ei gilydd yw corfan cytbwys, y gair cyntaf yn soned enwog R. Williams Parry, ‘Y Llwynog’, er enghraifft: | ||
:Ganllath o gopa’r mynydd, pan oedd clych | :Ganllath o gopa’r mynydd, pan oedd clych | ||
Llinell 6: | Llinell 15: | ||
:::::´´ – ´ – ´– ´– ´ | :::::´´ – ´ – ´– ´– ´ | ||
− | Y gwrthwyneb i gorfan crych disgynedig yw corfan crych dyrchafedig, lle ceir geiriau neu glymiad o dair sillaf, gyda’r ddwy sillaf gyntaf yn ddiacen, a’r drydedd sillaf yn acennog | + | Y gwrthwyneb i gorfan crych disgynedig yw corfan crych dyrchafedig, lle ceir geiriau neu glymiad o dair sillaf, gyda’r ddwy sillaf gyntaf yn ddiacen, a’r drydedd sillaf yn acennog, er enghraifft. |
+ | |||
+ | :[Nid oes] gennym ''hawl'' ar y ''sêr'' | ||
+ | :[Nid oes] gennym ''hawl'' ar ddim ''byd'' | ||
+ | |||
+ | :Mae'r ''plant bach'' o ''Lerpwl'' sy'n ''Arfon'' | ||
+ | :Mae'r ''ddaear'' fel ''pe bai'n'' ail''adrodd'' | ||
+ | |||
+ | Y corfan talgrwn o chwith yw corfan rhywiog, hynny yw, mewn clymiad o ddwy sillaf, y mae’r sillaf gyntaf yn acennog a’r ail linell yn ddiacen, ''caru'', ''rhedeg'', ''lleuad'', ''darfod'', er enghraifft. | ||
'''Alan Llwyd''' | '''Alan Llwyd''' | ||
{{CC BY-SA}} | {{CC BY-SA}} | ||
[[Categori:Beirniadaeth a Theori]] | [[Categori:Beirniadaeth a Theori]] | ||
+ | [[Categori:Cerdd Dafod]] |
Y diwygiad cyfredol, am 13:37, 13 Medi 2018
Bar neu droed mydryddol yw corfan, sef y modd yr acennir gwahanol gyfuniadau o sillafau. Un o’r corfannau mwyaf cyffredin mewn barddoniaeth yw’r corfan talgrwn, a geir yn aml mewn mesurau pumban, sonedau, er enghraifft. Cyfuniad o ddwy sillaf yw’r math hwn o gorfan, gyda’r sillaf gyntaf yn ddiacen a’r ail sillaf yn acennog, er enghraifft, dyheu, ymhell, gerllaw, fan draw. Math arall o gorfan yw corfan crych disgynedig lle ceir clymiad o dair sillaf, gyda’r sillaf gyntaf yn acennog a’r ail a’r drydedd sillaf yn ddiacen, er enghraifft,
- Dwylo yn debyg i'r rhain
- Cwsg fy anwylyd di-nam,
- Tecach na'r rhosyn wyt ti;
- Huna ym mynwes dy fam,
- Tarian dy fywyd yw hi.
Dwy sillaf acennog yn dilyn ei gilydd yw corfan cytbwys, y gair cyntaf yn soned enwog R. Williams Parry, ‘Y Llwynog’, er enghraifft:
- Ganllath o gopa’r mynydd, pan oedd clych
- ´´ – ´ – ´– ´– ´
Y gwrthwyneb i gorfan crych disgynedig yw corfan crych dyrchafedig, lle ceir geiriau neu glymiad o dair sillaf, gyda’r ddwy sillaf gyntaf yn ddiacen, a’r drydedd sillaf yn acennog, er enghraifft.
- [Nid oes] gennym hawl ar y sêr
- [Nid oes] gennym hawl ar ddim byd
- Mae'r plant bach o Lerpwl sy'n Arfon
- Mae'r ddaear fel pe bai'n ailadrodd
Y corfan talgrwn o chwith yw corfan rhywiog, hynny yw, mewn clymiad o ddwy sillaf, y mae’r sillaf gyntaf yn acennog a’r ail linell yn ddiacen, caru, rhedeg, lleuad, darfod, er enghraifft.
Alan Llwyd
- Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.