Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Englyn"
(Ni ddangosir y 2 olygiad yn y canol gan 2 ddefnyddiwr arall) | |||
Llinell 8: | Llinell 8: | ||
Hen fesur yw’r englyn unodl union, ac y mae iddo sawl perthynas agos yn nheulu’r mesurau, er y gellid dweud mai amrywiadau ar yr englyn unodl union yw’r mathau eraill hyn o englynion. Y mathau eraill hyn o englynion, sef englyn milwr ac englyn penfyr – yn ogystal ag englynion unodl union – a ddefnyddid yn bennaf yn y canu elegeiog, Cylch Llywarch Hen a Chylch Heledd, o’r 9g. neu’r 10g. Englyn unodl union heb y llinell olaf yw englyn penfyr, er enghraifft: | Hen fesur yw’r englyn unodl union, ac y mae iddo sawl perthynas agos yn nheulu’r mesurau, er y gellid dweud mai amrywiadau ar yr englyn unodl union yw’r mathau eraill hyn o englynion. Y mathau eraill hyn o englynion, sef englyn milwr ac englyn penfyr – yn ogystal ag englynion unodl union – a ddefnyddid yn bennaf yn y canu elegeiog, Cylch Llywarch Hen a Chylch Heledd, o’r 9g. neu’r 10g. Englyn unodl union heb y llinell olaf yw englyn penfyr, er enghraifft: | ||
− | |||
:Stafell Gynddylan ys tywyll heno, | :Stafell Gynddylan ys tywyll heno, | ||
:: Heb dân, heb wely; | :: Heb dân, heb wely; | ||
::Wylaf wers, tawaf wedy. | ::Wylaf wers, tawaf wedy. | ||
− | |||
Esgyll englyn unodl union gyda llinell ychwanegol yw englyn milwr, er nad yw’n dilyn y patrwm acennog/diacen bob tro: | Esgyll englyn unodl union gyda llinell ychwanegol yw englyn milwr, er nad yw’n dilyn y patrwm acennog/diacen bob tro: | ||
− | |||
:Pen a borthaf o du rhiw. | :Pen a borthaf o du rhiw. | ||
:Ar ei enau ewynfriw | :Ar ei enau ewynfriw | ||
:Gwaed; gwae Reged o heddiw. | :Gwaed; gwae Reged o heddiw. | ||
− | |||
Englyn unodl union o chwith yw englyn unodl crwca, gyda’r esgyll yn rhagflaenu’r paladr, ond ni fu erioed yn fesur poblogaidd. | Englyn unodl union o chwith yw englyn unodl crwca, gyda’r esgyll yn rhagflaenu’r paladr, ond ni fu erioed yn fesur poblogaidd. | ||
Llinell 27: | Llinell 23: | ||
Roedd englynion y Gogynfeirdd yn arddangos yr un arferion a’r un nodweddion a’i gilydd. Dyma gyfnod ffurfiant y gynghanedd a chyfnod ffurfiant yr englyn yn ogystal. Yn aml iawn, fe geid dwy gynghanedd bengoll yn englynion y Gogynfeirdd, er enghraifft, yr englynion hyn o waith Einion Wan (bl. 1205-1245): | Roedd englynion y Gogynfeirdd yn arddangos yr un arferion a’r un nodweddion a’i gilydd. Dyma gyfnod ffurfiant y gynghanedd a chyfnod ffurfiant yr englyn yn ogystal. Yn aml iawn, fe geid dwy gynghanedd bengoll yn englynion y Gogynfeirdd, er enghraifft, yr englynion hyn o waith Einion Wan (bl. 1205-1245): | ||
− | |||
:Llywelyn gelyn, golofn plymnwyd – lew, | :Llywelyn gelyn, golofn plymnwyd – lew, | ||
Llinell 33: | Llinell 28: | ||
::Rhoi i wan yw ei annwyd, | ::Rhoi i wan yw ei annwyd, | ||
::A rhag pob cadarn, cadwyd ... | ::A rhag pob cadarn, cadwyd ... | ||
− | |||
:Teg goryw fy llyw llafn greulawn – fal gŵr | :Teg goryw fy llyw llafn greulawn – fal gŵr | ||
Llinell 39: | Llinell 33: | ||
::Peryf hael o hil Merfyniawn, | ::Peryf hael o hil Merfyniawn, | ||
::Prudd yn ei ddeurudd ei ddawn. | ::Prudd yn ei ddeurudd ei ddawn. | ||
− | |||
Er bod ‘plymnwyd’ yn ffurfio’r brifodl yn y llinell gyntaf, y mae’r gair yn bodoli y tu allan i’r gynghanedd, yn bengoll, ac felly hefyd ‘beirdd y’i magwyd’ yn yr ail linell. Ceir cynghanedd Lusg gyflawn a chywir yn y drydedd linell, ond mae ‘rhag pob’ yn y llinell olaf eto wedi eu lleoli y tu allan i’r gynghanredd (‘cadarn, cadwyd’). Yn yr ail englyn mae ‘greulawn’ yn y llinell gyntaf ac ‘a’i estrawn’ yn yr ail linell yn bengoll. Cyfatebiaeth anghyflawn a geir yn ‘fal gŵr/Ar ei gâr’, egin-cynghanedd neu gynghanedd braidd-gyffwrdd a geir yn ‘hael o hil’, tra bo’r llinell olaf yn cynnwys cynghanedd Sain berffaith. Ceir llawer iawn o linellau anghyflawn fel ‘Peryf hael o hil Merfyniawn’ yng ngwaith y Gogynfeirdd, er enghraifft: ‘Rhwyd Brynaich, branes wrthgrif’, ‘Rhwym cad yn cadw ei addef’, ‘Mab difai difefl ei nerth’, ac yn y blaen. | Er bod ‘plymnwyd’ yn ffurfio’r brifodl yn y llinell gyntaf, y mae’r gair yn bodoli y tu allan i’r gynghanedd, yn bengoll, ac felly hefyd ‘beirdd y’i magwyd’ yn yr ail linell. Ceir cynghanedd Lusg gyflawn a chywir yn y drydedd linell, ond mae ‘rhag pob’ yn y llinell olaf eto wedi eu lleoli y tu allan i’r gynghanredd (‘cadarn, cadwyd’). Yn yr ail englyn mae ‘greulawn’ yn y llinell gyntaf ac ‘a’i estrawn’ yn yr ail linell yn bengoll. Cyfatebiaeth anghyflawn a geir yn ‘fal gŵr/Ar ei gâr’, egin-cynghanedd neu gynghanedd braidd-gyffwrdd a geir yn ‘hael o hil’, tra bo’r llinell olaf yn cynnwys cynghanedd Sain berffaith. Ceir llawer iawn o linellau anghyflawn fel ‘Peryf hael o hil Merfyniawn’ yng ngwaith y Gogynfeirdd, er enghraifft: ‘Rhwyd Brynaich, branes wrthgrif’, ‘Rhwym cad yn cadw ei addef’, ‘Mab difai difefl ei nerth’, ac yn y blaen. | ||
Erbyn i ni gyrraedd cyfnod Dafydd Benfras, tua chanol y 13g., mae’r englyn yn dechrau magu’i ffurf orffenedig, sefydlog: | Erbyn i ni gyrraedd cyfnod Dafydd Benfras, tua chanol y 13g., mae’r englyn yn dechrau magu’i ffurf orffenedig, sefydlog: | ||
− | |||
:Pob dyn oer dyddyn, neud eiddaw – angau. | :Pob dyn oer dyddyn, neud eiddaw – angau. | ||
Llinell 50: | Llinell 42: | ||
::I feddu daear arnaw, | ::I feddu daear arnaw, | ||
::I fedd o’r diwedd y daw. | ::I fedd o’r diwedd y daw. | ||
− | |||
O ran cynghanedd a mydryddiaeth, nid oedd unrhyw fath o gysondeb yng nghanu’r Gogynfeirdd. Ceid cynganeddion cyflawn graenus yn gymysg â chyflythrennedd digon amrwd. Sefydlogi’r gynghanedd a wnaeth Beirdd yr Uchelwyr, a sefydlogi’r mesurau ar yr un pryd. Sefydlogwyd y gynghanedd trwy roi iddi reolau pendant. Bellach roedd yn rhaid wrth gynghanedd gyflawn. Mewn englyn, un rhan bengoll yn unig a ganiateid, sef ar ddiwedd yr ail linell, lle ceid y brifodl. | O ran cynghanedd a mydryddiaeth, nid oedd unrhyw fath o gysondeb yng nghanu’r Gogynfeirdd. Ceid cynganeddion cyflawn graenus yn gymysg â chyflythrennedd digon amrwd. Sefydlogi’r gynghanedd a wnaeth Beirdd yr Uchelwyr, a sefydlogi’r mesurau ar yr un pryd. Sefydlogwyd y gynghanedd trwy roi iddi reolau pendant. Bellach roedd yn rhaid wrth gynghanedd gyflawn. Mewn englyn, un rhan bengoll yn unig a ganiateid, sef ar ddiwedd yr ail linell, lle ceid y brifodl. | ||
Yn eu cerddi ‘swyddogol’, fel gyda’r Gogynfeirdd hwythau, nid fel mesur unigol, annibynnol y trinnid yr englyn, ond fel mesur a oedd yn rhan o gyfres, cadwyn o englynion, sef englynion a glymid ynghyd trwy gyrch-gymeriad, neu osteg o englynion, a genid yn unodl. Ond yn eu canu answyddogol, i’w difyrru eu hunain ac i ddiddanu eu cydfeirdd, lluniai Beirdd yr Uchelwyr englynion unigol. Canent fawl a dychan i’w gilydd, cofnodent droeon trwstan o bob math, canent i gariadon ac i gyfeillion, i wrthrychau o fyd natur ac i droeon yr yrfa. Er enghraifft, dyna englyn Tudur Aled i Lewys Môn: | Yn eu cerddi ‘swyddogol’, fel gyda’r Gogynfeirdd hwythau, nid fel mesur unigol, annibynnol y trinnid yr englyn, ond fel mesur a oedd yn rhan o gyfres, cadwyn o englynion, sef englynion a glymid ynghyd trwy gyrch-gymeriad, neu osteg o englynion, a genid yn unodl. Ond yn eu canu answyddogol, i’w difyrru eu hunain ac i ddiddanu eu cydfeirdd, lluniai Beirdd yr Uchelwyr englynion unigol. Canent fawl a dychan i’w gilydd, cofnodent droeon trwstan o bob math, canent i gariadon ac i gyfeillion, i wrthrychau o fyd natur ac i droeon yr yrfa. Er enghraifft, dyna englyn Tudur Aled i Lewys Môn: | ||
− | |||
:Rhaw dda a berfa, ar berfedd tymor, | :Rhaw dda a berfa, ar berfedd tymor, | ||
Llinell 61: | Llinell 51: | ||
::a’th fwrw i’th faw i orwedd, | ::a’th fwrw i’th faw i orwedd, | ||
::a cheudy fawr uwch dy fedd. | ::a cheudy fawr uwch dy fedd. | ||
− | |||
Canodd Guto’r Glyn englyn trawiadol i’w henaint ef ei hun: | Canodd Guto’r Glyn englyn trawiadol i’w henaint ef ei hun: | ||
− | |||
:Gwae’r gwan dan oedran, nid edrych, – ni chwardd, | :Gwae’r gwan dan oedran, nid edrych, – ni chwardd, | ||
Llinell 70: | Llinell 58: | ||
::Gwae ni wŷl yn gynilwych, | ::Gwae ni wŷl yn gynilwych, | ||
::Gwae ni chlyw organ a chlych. | ::Gwae ni chlyw organ a chlych. | ||
− | |||
Mwy anghyffredin fyth oedd iddo goffáu un o’i gydfeirdd ar ffurf englyn unigol yn hytrach na chywydd neu gyfres o englynion: | Mwy anghyffredin fyth oedd iddo goffáu un o’i gydfeirdd ar ffurf englyn unigol yn hytrach na chywydd neu gyfres o englynion: | ||
− | |||
:Marw Dafydd ysydd fel saeth – i’m hesgyrn | :Marw Dafydd ysydd fel saeth – i’m hesgyrn | ||
Llinell 79: | Llinell 65: | ||
::Marw dedryd Nanmor deudraeth, | ::Marw dedryd Nanmor deudraeth, | ||
::Marw dysg holl Gymru, od aeth. | ::Marw dysg holl Gymru, od aeth. | ||
− | |||
Fel y dywedodd Wiliam Midleton: ‘Ynglyn yw mesur, a genir naill ae ar i benn i hun, ac mewn gosteg, neu mewn owdl’. Roedd Wiliam Midleton yn un o’r rhai a fu’n gyfrifol am hybu’r englyn unigol, a barddoniaeth gaeth yn gyffredinol, trwy gyhoeddi llyfr ar reolau’r gynghanedd ac ar fesurau Cerdd Dafod, ''Bardhoniaeth neu Brydydhiaeth'', yn 1593. Gyda’r gyfundrefn nawdd yn dirwyn tua’i therfyn yn raddol, rhan o symudiad ehangach i ddadlennu cyfrinachau’r beirdd oedd llyfr Midleton. Symudiad dyneiddiol i raddau helaeth oedd y symudiad newydd hwn. Credai’r dyneiddwyr mai eiddo i genedl gyfan oedd y gynghanedd a mesurau Cerdd Dafod, nid eiddo i gylch dethol y beirdd yn unig. Yn 1567 cyhoeddwyd ''Dosparth Byrr ar y rhan gyntaf i ramadeg cymraeg'' gan Gruffydd Robert Milan, ac yn nhrydedd ran y gwaith hwn, a gyhoeddwyd tua 1584, ceid trafodaeth ar y cynganeddion, gyda phedwaredd ran ar y mesurau yn ymddangos cyn 1594. Yn 1592, cyhoeddodd Siôn Dafydd Rhys (John Davies) ei ramadeg yntau, ''Cambrobrytannicae Cymraecaeve Linguae Institutions et Rudimenta'', ac ynddo drafodaeth ar y gynghanedd ac ar y mesurau ymhlith pynciau eraill a oedd yn ymwneud â’r Gymraeg ac â Cherdd Dafod y Cymry. Ysgrifennodd Siôn Dafydd Rhys ei ramadeg, neu ei ‘ddwned’ ef, yn Gymraeg a Lladin, yn bennaf ar gyfer ysgolheigion. Bwriad Wiliam Midleton oedd cyflwyno’r gynghanedd a’r mesurau caeth traddodiadol i’r Cymry mewn dull syml ac ymarferol. Ac felly, o ddiwedd yr 16g. ymlaen, roedd cyfrinachau’r beirdd yn llyfr agored i bawb ar drothwy canrif newydd a chyfnod newydd. Yn 1728 wedyn, cyhoeddwyd ''Grammadeg Cymraeg'' Siôn Rhydderch (John Roderick). | Fel y dywedodd Wiliam Midleton: ‘Ynglyn yw mesur, a genir naill ae ar i benn i hun, ac mewn gosteg, neu mewn owdl’. Roedd Wiliam Midleton yn un o’r rhai a fu’n gyfrifol am hybu’r englyn unigol, a barddoniaeth gaeth yn gyffredinol, trwy gyhoeddi llyfr ar reolau’r gynghanedd ac ar fesurau Cerdd Dafod, ''Bardhoniaeth neu Brydydhiaeth'', yn 1593. Gyda’r gyfundrefn nawdd yn dirwyn tua’i therfyn yn raddol, rhan o symudiad ehangach i ddadlennu cyfrinachau’r beirdd oedd llyfr Midleton. Symudiad dyneiddiol i raddau helaeth oedd y symudiad newydd hwn. Credai’r dyneiddwyr mai eiddo i genedl gyfan oedd y gynghanedd a mesurau Cerdd Dafod, nid eiddo i gylch dethol y beirdd yn unig. Yn 1567 cyhoeddwyd ''Dosparth Byrr ar y rhan gyntaf i ramadeg cymraeg'' gan Gruffydd Robert Milan, ac yn nhrydedd ran y gwaith hwn, a gyhoeddwyd tua 1584, ceid trafodaeth ar y cynganeddion, gyda phedwaredd ran ar y mesurau yn ymddangos cyn 1594. Yn 1592, cyhoeddodd Siôn Dafydd Rhys (John Davies) ei ramadeg yntau, ''Cambrobrytannicae Cymraecaeve Linguae Institutions et Rudimenta'', ac ynddo drafodaeth ar y gynghanedd ac ar y mesurau ymhlith pynciau eraill a oedd yn ymwneud â’r Gymraeg ac â Cherdd Dafod y Cymry. Ysgrifennodd Siôn Dafydd Rhys ei ramadeg, neu ei ‘ddwned’ ef, yn Gymraeg a Lladin, yn bennaf ar gyfer ysgolheigion. Bwriad Wiliam Midleton oedd cyflwyno’r gynghanedd a’r mesurau caeth traddodiadol i’r Cymry mewn dull syml ac ymarferol. Ac felly, o ddiwedd yr 16g. ymlaen, roedd cyfrinachau’r beirdd yn llyfr agored i bawb ar drothwy canrif newydd a chyfnod newydd. Yn 1728 wedyn, cyhoeddwyd ''Grammadeg Cymraeg'' Siôn Rhydderch (John Roderick). | ||
O safbwynt trosglwyddo rheolau’r gynghanedd a gofynion y mesurau i gylch ehangach, y ddwy gyfrol fwyaf poblogaidd a mwyaf hygyrch oedd ''Bardhoniaeth neu Brydydhiaeth'', 1593, a ''Grammadeg Cymraeg'' Siôn Rhydderch, 1728, er bod cryn dipyn o amser rhwng adeg cyhoeddi’r ddwy. Gyda rhyddhau’r gynghanedd o ddwylo’r beirdd wrth grefft, daeth yr englyn yn fesur hynod boblogaidd yn nwylo beirdd mawr a mân, a dechreuodd dau draddodiad englynol flodeuo tua’r un pryd â’i gilydd. Un o’r englynion coffa unigol cynharaf yn y Gymraeg yw englyn Guto’r Glyn er cof am Ddafydd Nanmor, a dyna enghraifft gynnar hefyd o ryddhau’r englyn o afael yr awdl, neu o afael cadwyn neu osteg o englynion. Daethpwyd i sylweddoli bod yr englyn yn ddigon byr, ac yn ddigon cryno, i’w osod ar garreg fedd, i goffáu’r ymadawedig. Mae’r tywydd wedi hen erydu llawer iawn o’r cerrig beddau cynharaf fel na ellir gyda sicrwydd nodi union ddechreuad y traddodiad o naddu englynion ar feddfeini. Un o’r beddargraffiadau cynharaf oll yn sicr yw’r ddau englyn a geir ar fedd Sydney Edwards o Ledrod a gladdwyd ar Ddygwyl Fair, 1664, ym Mynwent Eglwys Llansilin, ger Croesoswallt. Mewn gwirionedd, ceir dau englyn ar y garreg, ac un o feirdd enwog y cyfnod, Huw Morus, yw’r awdur: | O safbwynt trosglwyddo rheolau’r gynghanedd a gofynion y mesurau i gylch ehangach, y ddwy gyfrol fwyaf poblogaidd a mwyaf hygyrch oedd ''Bardhoniaeth neu Brydydhiaeth'', 1593, a ''Grammadeg Cymraeg'' Siôn Rhydderch, 1728, er bod cryn dipyn o amser rhwng adeg cyhoeddi’r ddwy. Gyda rhyddhau’r gynghanedd o ddwylo’r beirdd wrth grefft, daeth yr englyn yn fesur hynod boblogaidd yn nwylo beirdd mawr a mân, a dechreuodd dau draddodiad englynol flodeuo tua’r un pryd â’i gilydd. Un o’r englynion coffa unigol cynharaf yn y Gymraeg yw englyn Guto’r Glyn er cof am Ddafydd Nanmor, a dyna enghraifft gynnar hefyd o ryddhau’r englyn o afael yr awdl, neu o afael cadwyn neu osteg o englynion. Daethpwyd i sylweddoli bod yr englyn yn ddigon byr, ac yn ddigon cryno, i’w osod ar garreg fedd, i goffáu’r ymadawedig. Mae’r tywydd wedi hen erydu llawer iawn o’r cerrig beddau cynharaf fel na ellir gyda sicrwydd nodi union ddechreuad y traddodiad o naddu englynion ar feddfeini. Un o’r beddargraffiadau cynharaf oll yn sicr yw’r ddau englyn a geir ar fedd Sydney Edwards o Ledrod a gladdwyd ar Ddygwyl Fair, 1664, ym Mynwent Eglwys Llansilin, ger Croesoswallt. Mewn gwirionedd, ceir dau englyn ar y garreg, ac un o feirdd enwog y cyfnod, Huw Morus, yw’r awdur: | ||
− | |||
:Gangen bereiddwen i’n bro – oedd eurfawl | :Gangen bereiddwen i’n bro – oedd eurfawl | ||
Llinell 90: | Llinell 74: | ||
::Oreu’i gradd, nid â i’r gro | ::Oreu’i gradd, nid â i’r gro | ||
::Fyth eneth o fath honno. | ::Fyth eneth o fath honno. | ||
− | |||
:Mewn bedd, cnawd croywedd, cnwd crair – i orwedd | :Mewn bedd, cnawd croywedd, cnwd crair – i orwedd | ||
Llinell 96: | Llinell 79: | ||
::A briddwyd, hyn sydd bruddaidd, | ::A briddwyd, hyn sydd bruddaidd, | ||
::Ddigwl fun, ar Ddygwyl Fair. | ::Ddigwl fun, ar Ddygwyl Fair. | ||
− | |||
I’r 19g. y perthyn y rhan fwyaf helaeth o englynion beddau, a’r rheini’n aml yn addo llawenydd a thangnefedd yn y byd a ddaw, gan adlewyrchu crefyddolder yr oes. Dirywiodd yr englyn yn ystod y cyfnod hwn, a chymharol brin yw’r campweithiau. | I’r 19g. y perthyn y rhan fwyaf helaeth o englynion beddau, a’r rheini’n aml yn addo llawenydd a thangnefedd yn y byd a ddaw, gan adlewyrchu crefyddolder yr oes. Dirywiodd yr englyn yn ystod y cyfnod hwn, a chymharol brin yw’r campweithiau. | ||
Lluniwyd cannoedd o hen benillion, neu benillion telyn, rhwng 1600 a 1800, penillion a oedd yn llawn doethineb a ffraethineb, doethineb y pridd, ffraethineb y dafarn, penillion cynnil ac awgrymog a oedd yn mynegi hwyl a helynt, treialon a gofalon, gwerin-gwlad. Yn aml iawn, mae rhai englynion yn taro’r un cywair yn union â’r hen benillion, er enghraifft: | Lluniwyd cannoedd o hen benillion, neu benillion telyn, rhwng 1600 a 1800, penillion a oedd yn llawn doethineb a ffraethineb, doethineb y pridd, ffraethineb y dafarn, penillion cynnil ac awgrymog a oedd yn mynegi hwyl a helynt, treialon a gofalon, gwerin-gwlad. Yn aml iawn, mae rhai englynion yn taro’r un cywair yn union â’r hen benillion, er enghraifft: | ||
− | |||
:Telyn rawn, o chawn, a chanu – diboen, | :Telyn rawn, o chawn, a chanu – diboen, | ||
Llinell 106: | Llinell 87: | ||
::Angyles ar fy ngwely, | ::Angyles ar fy ngwely, | ||
::A chwart o win, a chau’r tŷ. | ::A chwart o win, a chau’r tŷ. | ||
− | |||
:Pedwar peth sydd dda gen innau, | :Pedwar peth sydd dda gen innau, | ||
− | : | + | :Canu telyn lawn o dannau, |
− | + | :Hefyd crowsio, yfed cwrw, | |
− | + | :A chwmpeini geneth hoyw. | |
− | |||
Y cyfnod tywyllaf yn hanes yr englyn yw Oes yr Eisteddfodau, o ganol y 19g., yn fras, hyd at ddau ddegawd cyntaf yr 20g. Oes wyddonol, faterol, oedd oes Victoria, ac oes ddiwydiannol galed. Rhoddid gwrthrychau a dyfeisiau’r oes yn destun ar gyfer cystadleuaeth yr englyn yn eisteddfodau mawr a mân y wlad, ac fel yna y ganed yr englyn diffiniadol, sef englyn a geisiai ddigrifio’r gwrthrych a nodi ei bwrpas. Bod yn destunol er mwyn ennill y wobr oedd y nod bellach, nid creu celfyddyd. Rhaid oedd enwi’r gwrthrych, y testun, yn yr englyn, yn y cyrch, fel arfer, neu ar ddechrau neu ddiwedd yr ail linell. Dyma englyn gan fardd anhysbys i’r ‘Lamp’, er enghraifft: | Y cyfnod tywyllaf yn hanes yr englyn yw Oes yr Eisteddfodau, o ganol y 19g., yn fras, hyd at ddau ddegawd cyntaf yr 20g. Oes wyddonol, faterol, oedd oes Victoria, ac oes ddiwydiannol galed. Rhoddid gwrthrychau a dyfeisiau’r oes yn destun ar gyfer cystadleuaeth yr englyn yn eisteddfodau mawr a mân y wlad, ac fel yna y ganed yr englyn diffiniadol, sef englyn a geisiai ddigrifio’r gwrthrych a nodi ei bwrpas. Bod yn destunol er mwyn ennill y wobr oedd y nod bellach, nid creu celfyddyd. Rhaid oedd enwi’r gwrthrych, y testun, yn yr englyn, yn y cyrch, fel arfer, neu ar ddechrau neu ddiwedd yr ail linell. Dyma englyn gan fardd anhysbys i’r ‘Lamp’, er enghraifft: | ||
− | |||
:Un luniwyd at ddal goleuni – yw’r Lamp, | :Un luniwyd at ddal goleuni – yw’r Lamp, | ||
Llinell 121: | Llinell 99: | ||
::Trwy ei llewych harddwych hi | ::Trwy ei llewych harddwych hi | ||
::Llama’r gwyll mawr i golli. | ::Llama’r gwyll mawr i golli. | ||
− | |||
Gyda Dadeni Cynganeddol y 1970au, daeth yr englyn i’w deyrnas drachefn, ac fe luniwyd toreth o englynion disglair yn ystod y cyfnod. Cyhoeddwyd nifer o flodeugerddi o englynion i grisialu’r holl gyffro hwn, er enghraifft, ''Y Flodeugerdd Englynion'', dan olygyddiaeth Alan Llwyd (1978), ''Blodeugerdd Barddas o Englynion Cyfoes'' (1993), a olygwyd gan Tudur Dylan Jones, ''Y Flodeugerdd Englynion Newydd'', a olygwyd gan Alan Llwyd (2009) a chyfres ''Pigion Talwrn y Beirdd'', dan olygyddiaeth Gerallt Lloyd Owen. | Gyda Dadeni Cynganeddol y 1970au, daeth yr englyn i’w deyrnas drachefn, ac fe luniwyd toreth o englynion disglair yn ystod y cyfnod. Cyhoeddwyd nifer o flodeugerddi o englynion i grisialu’r holl gyffro hwn, er enghraifft, ''Y Flodeugerdd Englynion'', dan olygyddiaeth Alan Llwyd (1978), ''Blodeugerdd Barddas o Englynion Cyfoes'' (1993), a olygwyd gan Tudur Dylan Jones, ''Y Flodeugerdd Englynion Newydd'', a olygwyd gan Alan Llwyd (2009) a chyfres ''Pigion Talwrn y Beirdd'', dan olygyddiaeth Gerallt Lloyd Owen. | ||
Llinell 140: | Llinell 117: | ||
{{CC BY-SA}} | {{CC BY-SA}} | ||
[[Categori:Beirniadaeth a Theori]] | [[Categori:Beirniadaeth a Theori]] | ||
+ | [[Categori:Cerdd Dafod]] |
Y diwygiad cyfredol, am 13:34, 13 Medi 2018
Mesur cynganeddol pedair llinell, 30 o sillafau i gyd, a mesur mwyaf poblogaidd Cerdd Dafod, yw’r englyn. Enw’r mesur yn llawn yw Englyn Unodl Union, gan mai mesur unodl ydyw. Cyfuniad yw’r englyn o ddau fesur, sef toddaid byr (y ddwy linell gyntaf) a chwpled cywydd (y ddwy linell olaf). Gelwir y ddwy linell gyntaf yn baladr, a’r ddwy linell olaf yn esgyll. Hyd y llinell gyntaf yw deg sillaf a hyd yr ail linell yw chwe sillaf. Mae’r llinell gyntaf yn cynnwys y gynghanedd gyflawn gyntaf a hanner cyntaf yr ail linell, hyd at yr orffwysfa, os yw’r ail gynghanedd yn gynghanedd Groes neu’n gynghanedd Draws. Yn y llinell gyntaf ceir gwant a chyrch. Y gwant yw diwedd y llinell gynganeddol gyflawn gyntaf, y cyrch yw gweddill y llinell gyntaf, sef hanner cyntaf yr ail linell a’r ail gynghanedd. Mewn cynghanedd Groes neu Draws, ar sillaf olaf y llinell gyntaf, sef y degfed sillaf, y syrth yr orffwysfa. Felly, fe geir dwy orffwysfa yn y llinell gyntaf. Gall y gynghanedd gyntaf fod yn seithsill, yn wythsill neu’n nawsill o hyd, ac fe gaiff y cyrch fod yn deirsill, yn ddwysill neu’n unsill o hyd. Ni all y gynghanedd gyntaf fod yn fwy na naw sillaf nac yn llai na saith sillaf. Daw’r odl gyntaf ar y gwant, sef yn union ar ddiwedd y gynghanedd gyflawn gyntaf.
Yn yr ail linell, chwesill o hyd, ceir ail ran yr ail gynghanedd, ond nid yw ail ran yr ail gynghanedd yn hawlio’r llinell ar ei hyd. Gall ail ran yr ail gynghanedd hawlio un sillaf, dwy sillaf, tair sillaf neu bedair sillaf, ond dim mwy na hynny. Yn dilyn yr ail gynghanedd ceir gair neu eiriau pengoll, sef gair neu eiriau sy’n sefyll y tu allan i’r gynghanedd. Ar sillaf olaf y darn pengoll hwn y ceir ail brifodl y mesur. Ni chaniateir defnyddio’r gynghanedd Lusg yn yr ail gynghanedd mewn englyn, nac yn y llinell olaf – y llinell glo – ychwaith, ac os yw’r ail gynghanedd yn gynghanedd Sain, fe ddefnyddir yr ail linell i gwblhau’r gynghanedd, ac ni cheir rhan bengoll yn yr ail linell os yw’r ail linell honno yn gynghanedd Sain. Mewn cynganeddion Croes a Thraws yn unig y ceir rhan bengoll.
Cwpled cywydd yw’r ddwy linell olaf mewn englyn, ar y patrwm acennog/ ddiacen neu ddiacen/acennog, ac ar sillaf olaf y ddwy linell hyn y ceir y drydedd a’r bedwaredd brifodl.
Hen fesur yw’r englyn unodl union, ac y mae iddo sawl perthynas agos yn nheulu’r mesurau, er y gellid dweud mai amrywiadau ar yr englyn unodl union yw’r mathau eraill hyn o englynion. Y mathau eraill hyn o englynion, sef englyn milwr ac englyn penfyr – yn ogystal ag englynion unodl union – a ddefnyddid yn bennaf yn y canu elegeiog, Cylch Llywarch Hen a Chylch Heledd, o’r 9g. neu’r 10g. Englyn unodl union heb y llinell olaf yw englyn penfyr, er enghraifft:
- Stafell Gynddylan ys tywyll heno,
- Heb dân, heb wely;
- Wylaf wers, tawaf wedy.
Esgyll englyn unodl union gyda llinell ychwanegol yw englyn milwr, er nad yw’n dilyn y patrwm acennog/diacen bob tro:
- Pen a borthaf o du rhiw.
- Ar ei enau ewynfriw
- Gwaed; gwae Reged o heddiw.
Englyn unodl union o chwith yw englyn unodl crwca, gyda’r esgyll yn rhagflaenu’r paladr, ond ni fu erioed yn fesur poblogaidd.
Yn ystod Oes y Tywysogion, sef cyfnod y Gogynfeirdd, y dechreuodd yr englyn unodl union ddatblygu fel mesur ac iddo’i nodweddion pendant ei hun. Rhoddwyd statws aruchel i’r englyn gan Feirdd y Tywysogion. Canwyd toreth o gerddi mawl a marwnad i dywysogion a phenaethiaid trwy gyfrwng cadwyni neu osteg o englynion. Ar ei thwf yr oedd y gynghanedd yn y cyfnod hwnnw, ac ar ei dwf yr oedd yr englyn yntau.
Roedd englynion y Gogynfeirdd yn arddangos yr un arferion a’r un nodweddion a’i gilydd. Dyma gyfnod ffurfiant y gynghanedd a chyfnod ffurfiant yr englyn yn ogystal. Yn aml iawn, fe geid dwy gynghanedd bengoll yn englynion y Gogynfeirdd, er enghraifft, yr englynion hyn o waith Einion Wan (bl. 1205-1245):
- Llywelyn gelyn, golofn plymnwyd – lew,
- Ar les beirdd y’i magwyd;
- Rhoi i wan yw ei annwyd,
- A rhag pob cadarn, cadwyd ...
- Teg goryw fy llyw llafn greulawn – fal gŵr
- Ar ei gâr a’i estrawn;
- Peryf hael o hil Merfyniawn,
- Prudd yn ei ddeurudd ei ddawn.
Er bod ‘plymnwyd’ yn ffurfio’r brifodl yn y llinell gyntaf, y mae’r gair yn bodoli y tu allan i’r gynghanedd, yn bengoll, ac felly hefyd ‘beirdd y’i magwyd’ yn yr ail linell. Ceir cynghanedd Lusg gyflawn a chywir yn y drydedd linell, ond mae ‘rhag pob’ yn y llinell olaf eto wedi eu lleoli y tu allan i’r gynghanredd (‘cadarn, cadwyd’). Yn yr ail englyn mae ‘greulawn’ yn y llinell gyntaf ac ‘a’i estrawn’ yn yr ail linell yn bengoll. Cyfatebiaeth anghyflawn a geir yn ‘fal gŵr/Ar ei gâr’, egin-cynghanedd neu gynghanedd braidd-gyffwrdd a geir yn ‘hael o hil’, tra bo’r llinell olaf yn cynnwys cynghanedd Sain berffaith. Ceir llawer iawn o linellau anghyflawn fel ‘Peryf hael o hil Merfyniawn’ yng ngwaith y Gogynfeirdd, er enghraifft: ‘Rhwyd Brynaich, branes wrthgrif’, ‘Rhwym cad yn cadw ei addef’, ‘Mab difai difefl ei nerth’, ac yn y blaen.
Erbyn i ni gyrraedd cyfnod Dafydd Benfras, tua chanol y 13g., mae’r englyn yn dechrau magu’i ffurf orffenedig, sefydlog:
- Pob dyn oer dyddyn, neud eiddaw – angau.
- Anghyfeillwr iddaw;
- I feddu daear arnaw,
- I fedd o’r diwedd y daw.
O ran cynghanedd a mydryddiaeth, nid oedd unrhyw fath o gysondeb yng nghanu’r Gogynfeirdd. Ceid cynganeddion cyflawn graenus yn gymysg â chyflythrennedd digon amrwd. Sefydlogi’r gynghanedd a wnaeth Beirdd yr Uchelwyr, a sefydlogi’r mesurau ar yr un pryd. Sefydlogwyd y gynghanedd trwy roi iddi reolau pendant. Bellach roedd yn rhaid wrth gynghanedd gyflawn. Mewn englyn, un rhan bengoll yn unig a ganiateid, sef ar ddiwedd yr ail linell, lle ceid y brifodl.
Yn eu cerddi ‘swyddogol’, fel gyda’r Gogynfeirdd hwythau, nid fel mesur unigol, annibynnol y trinnid yr englyn, ond fel mesur a oedd yn rhan o gyfres, cadwyn o englynion, sef englynion a glymid ynghyd trwy gyrch-gymeriad, neu osteg o englynion, a genid yn unodl. Ond yn eu canu answyddogol, i’w difyrru eu hunain ac i ddiddanu eu cydfeirdd, lluniai Beirdd yr Uchelwyr englynion unigol. Canent fawl a dychan i’w gilydd, cofnodent droeon trwstan o bob math, canent i gariadon ac i gyfeillion, i wrthrychau o fyd natur ac i droeon yr yrfa. Er enghraifft, dyna englyn Tudur Aled i Lewys Môn:
- Rhaw dda a berfa, ar berfedd tymor,
- tomen fo dy ddiwedd;
- a’th fwrw i’th faw i orwedd,
- a cheudy fawr uwch dy fedd.
Canodd Guto’r Glyn englyn trawiadol i’w henaint ef ei hun:
- Gwae’r gwan dan oedran, nid edrych, – ni chwardd,
- Ni cherdda led y rhych;
- Gwae ni wŷl yn gynilwych,
- Gwae ni chlyw organ a chlych.
Mwy anghyffredin fyth oedd iddo goffáu un o’i gydfeirdd ar ffurf englyn unigol yn hytrach na chywydd neu gyfres o englynion:
- Marw Dafydd ysydd fel saeth – i’m hesgyrn
- Am ysgol penceirddiaeth.
- Marw dedryd Nanmor deudraeth,
- Marw dysg holl Gymru, od aeth.
Fel y dywedodd Wiliam Midleton: ‘Ynglyn yw mesur, a genir naill ae ar i benn i hun, ac mewn gosteg, neu mewn owdl’. Roedd Wiliam Midleton yn un o’r rhai a fu’n gyfrifol am hybu’r englyn unigol, a barddoniaeth gaeth yn gyffredinol, trwy gyhoeddi llyfr ar reolau’r gynghanedd ac ar fesurau Cerdd Dafod, Bardhoniaeth neu Brydydhiaeth, yn 1593. Gyda’r gyfundrefn nawdd yn dirwyn tua’i therfyn yn raddol, rhan o symudiad ehangach i ddadlennu cyfrinachau’r beirdd oedd llyfr Midleton. Symudiad dyneiddiol i raddau helaeth oedd y symudiad newydd hwn. Credai’r dyneiddwyr mai eiddo i genedl gyfan oedd y gynghanedd a mesurau Cerdd Dafod, nid eiddo i gylch dethol y beirdd yn unig. Yn 1567 cyhoeddwyd Dosparth Byrr ar y rhan gyntaf i ramadeg cymraeg gan Gruffydd Robert Milan, ac yn nhrydedd ran y gwaith hwn, a gyhoeddwyd tua 1584, ceid trafodaeth ar y cynganeddion, gyda phedwaredd ran ar y mesurau yn ymddangos cyn 1594. Yn 1592, cyhoeddodd Siôn Dafydd Rhys (John Davies) ei ramadeg yntau, Cambrobrytannicae Cymraecaeve Linguae Institutions et Rudimenta, ac ynddo drafodaeth ar y gynghanedd ac ar y mesurau ymhlith pynciau eraill a oedd yn ymwneud â’r Gymraeg ac â Cherdd Dafod y Cymry. Ysgrifennodd Siôn Dafydd Rhys ei ramadeg, neu ei ‘ddwned’ ef, yn Gymraeg a Lladin, yn bennaf ar gyfer ysgolheigion. Bwriad Wiliam Midleton oedd cyflwyno’r gynghanedd a’r mesurau caeth traddodiadol i’r Cymry mewn dull syml ac ymarferol. Ac felly, o ddiwedd yr 16g. ymlaen, roedd cyfrinachau’r beirdd yn llyfr agored i bawb ar drothwy canrif newydd a chyfnod newydd. Yn 1728 wedyn, cyhoeddwyd Grammadeg Cymraeg Siôn Rhydderch (John Roderick).
O safbwynt trosglwyddo rheolau’r gynghanedd a gofynion y mesurau i gylch ehangach, y ddwy gyfrol fwyaf poblogaidd a mwyaf hygyrch oedd Bardhoniaeth neu Brydydhiaeth, 1593, a Grammadeg Cymraeg Siôn Rhydderch, 1728, er bod cryn dipyn o amser rhwng adeg cyhoeddi’r ddwy. Gyda rhyddhau’r gynghanedd o ddwylo’r beirdd wrth grefft, daeth yr englyn yn fesur hynod boblogaidd yn nwylo beirdd mawr a mân, a dechreuodd dau draddodiad englynol flodeuo tua’r un pryd â’i gilydd. Un o’r englynion coffa unigol cynharaf yn y Gymraeg yw englyn Guto’r Glyn er cof am Ddafydd Nanmor, a dyna enghraifft gynnar hefyd o ryddhau’r englyn o afael yr awdl, neu o afael cadwyn neu osteg o englynion. Daethpwyd i sylweddoli bod yr englyn yn ddigon byr, ac yn ddigon cryno, i’w osod ar garreg fedd, i goffáu’r ymadawedig. Mae’r tywydd wedi hen erydu llawer iawn o’r cerrig beddau cynharaf fel na ellir gyda sicrwydd nodi union ddechreuad y traddodiad o naddu englynion ar feddfeini. Un o’r beddargraffiadau cynharaf oll yn sicr yw’r ddau englyn a geir ar fedd Sydney Edwards o Ledrod a gladdwyd ar Ddygwyl Fair, 1664, ym Mynwent Eglwys Llansilin, ger Croesoswallt. Mewn gwirionedd, ceir dau englyn ar y garreg, ac un o feirdd enwog y cyfnod, Huw Morus, yw’r awdur:
- Gangen bereiddwen i’n bro – oedd eurfawl
- A ddarfu ddadwreiddio;
- Oreu’i gradd, nid â i’r gro
- Fyth eneth o fath honno.
- Mewn bedd, cnawd croywedd, cnwd crair – i orwedd
- Yr araul fun ddiwair
- A briddwyd, hyn sydd bruddaidd,
- Ddigwl fun, ar Ddygwyl Fair.
I’r 19g. y perthyn y rhan fwyaf helaeth o englynion beddau, a’r rheini’n aml yn addo llawenydd a thangnefedd yn y byd a ddaw, gan adlewyrchu crefyddolder yr oes. Dirywiodd yr englyn yn ystod y cyfnod hwn, a chymharol brin yw’r campweithiau. Lluniwyd cannoedd o hen benillion, neu benillion telyn, rhwng 1600 a 1800, penillion a oedd yn llawn doethineb a ffraethineb, doethineb y pridd, ffraethineb y dafarn, penillion cynnil ac awgrymog a oedd yn mynegi hwyl a helynt, treialon a gofalon, gwerin-gwlad. Yn aml iawn, mae rhai englynion yn taro’r un cywair yn union â’r hen benillion, er enghraifft:
- Telyn rawn, o chawn, a chanu – diboen,
- Deubeth gyda hynny:
- Angyles ar fy ngwely,
- A chwart o win, a chau’r tŷ.
- Pedwar peth sydd dda gen innau,
- Canu telyn lawn o dannau,
- Hefyd crowsio, yfed cwrw,
- A chwmpeini geneth hoyw.
Y cyfnod tywyllaf yn hanes yr englyn yw Oes yr Eisteddfodau, o ganol y 19g., yn fras, hyd at ddau ddegawd cyntaf yr 20g. Oes wyddonol, faterol, oedd oes Victoria, ac oes ddiwydiannol galed. Rhoddid gwrthrychau a dyfeisiau’r oes yn destun ar gyfer cystadleuaeth yr englyn yn eisteddfodau mawr a mân y wlad, ac fel yna y ganed yr englyn diffiniadol, sef englyn a geisiai ddigrifio’r gwrthrych a nodi ei bwrpas. Bod yn destunol er mwyn ennill y wobr oedd y nod bellach, nid creu celfyddyd. Rhaid oedd enwi’r gwrthrych, y testun, yn yr englyn, yn y cyrch, fel arfer, neu ar ddechrau neu ddiwedd yr ail linell. Dyma englyn gan fardd anhysbys i’r ‘Lamp’, er enghraifft:
- Un luniwyd at ddal goleuni – yw’r Lamp,
- Ac ar lu mae’n gweini:
- Trwy ei llewych harddwych hi
- Llama’r gwyll mawr i golli.
Gyda Dadeni Cynganeddol y 1970au, daeth yr englyn i’w deyrnas drachefn, ac fe luniwyd toreth o englynion disglair yn ystod y cyfnod. Cyhoeddwyd nifer o flodeugerddi o englynion i grisialu’r holl gyffro hwn, er enghraifft, Y Flodeugerdd Englynion, dan olygyddiaeth Alan Llwyd (1978), Blodeugerdd Barddas o Englynion Cyfoes (1993), a olygwyd gan Tudur Dylan Jones, Y Flodeugerdd Englynion Newydd, a olygwyd gan Alan Llwyd (2009) a chyfres Pigion Talwrn y Beirdd, dan olygyddiaeth Gerallt Lloyd Owen.
Alan Llwyd
Llyfryddiaeth
Llwyd, A. (gol.) (1978), Y Flodeugerdd Englynion (Llandybïe: Gwasg Christopher Davies).
Morris-Jones, J. (1925), Cerdd Dafod sef Celfyddyd Barddoniaeth Gymraeg (Rhydychen: Gwasg Clarendon).
Williams, I. (gol.) (1953), Canu Llywarch Hen (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru).
Williams, I. (gol.) (1961), Gwaith Guto’r Glyn, casglwyd gan John Llywelyn Williams (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru).
Gruffydd, R. G. (gol.) (1995), Gwaith Dafydd Benfras ac Eraill o Feirdd Hanner Cyntaf y Drydedd Ganrif ar Ddeg (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru).
- Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.