Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Rondo"
Oddi ar WICI
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
__NOAUTOLINKS__ | __NOAUTOLINKS__ | ||
− | Cerdd fer o darddiad Ffrengig yw rondo (rondeau). Roedd y ffurf, neu amrywiadau ar y ffurf, yn boblogaidd iawn yn Ffrainc rhwng 1300 a 1500. Ceir pedair ffurf i’r rondo: ''rondeau simple'', ''rondeau tercet'', ''rondeau quatrain'' a ''rondeau cinquain''. Dwy odl yn unig a geir mewn rondo, a rhaid ailadrodd hanner cyntaf y llinell gyntaf ddwywaith yng nghorff y gerdd. | + | Cerdd fer o darddiad Ffrengig yw rondo (''rondeau''). Roedd y ffurf, neu amrywiadau ar y ffurf, yn boblogaidd iawn yn Ffrainc rhwng 1300 a 1500. Ceir pedair ffurf i’r rondo: ''rondeau simple'', ''rondeau tercet'', ''rondeau quatrain'' a ''rondeau cinquain''. Dwy odl yn unig a geir mewn rondo, a rhaid ailadrodd hanner cyntaf y llinell gyntaf ddwywaith yng nghorff y gerdd. |
Dyma enghrafft o rondo, ‘I Ieuenctid Cymru’ gan Cynan: | Dyma enghrafft o rondo, ‘I Ieuenctid Cymru’ gan Cynan: |
Y diwygiad cyfredol, am 19:43, 27 Hydref 2016
Cerdd fer o darddiad Ffrengig yw rondo (rondeau). Roedd y ffurf, neu amrywiadau ar y ffurf, yn boblogaidd iawn yn Ffrainc rhwng 1300 a 1500. Ceir pedair ffurf i’r rondo: rondeau simple, rondeau tercet, rondeau quatrain a rondeau cinquain. Dwy odl yn unig a geir mewn rondo, a rhaid ailadrodd hanner cyntaf y llinell gyntaf ddwywaith yng nghorff y gerdd.
Dyma enghrafft o rondo, ‘I Ieuenctid Cymru’ gan Cynan:
- Pan fwyf yn hen bregethwr piwys, croes,
- Heb destun ond “chwaraeon gwag yr oes”;
- Yn dwrdio “pobol ifainc” wyllt y dydd
- Am feddwl newid gair o’n Cyffes Ffydd,
- A’u galw’n ddirywiedig a di-foes;
- Gan ddiolch am yr erys yn y toes
- Ryw gymaint o’r hen lefain hwnnw a roes
- Fy llaw a llaw rhai tebyg – ynddo ’nghudd
- Pan fwyf yn hen:
- Bryd hynny, a chwi’n gwingo o dan loes
- Fy fflangell ar eich nwyf, gwybyddwch, bois,
- Er gwaethaf ambarél a doniau rhydd,
- Het silc a dillad offeiriadol, prudd,
- Gwaredwr ifanc a fydd Gŵr y Groes
- Pan fwyf yn hen.
Alan Llwyd
- Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.