Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Dán díreach"
(Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda '__NOAUTOLINKS__ Cyfundrefn neu system farddol a fodolai yn Iwerddon ac yn ardaloedd Gaeleg yr Alban hyd yr ail ganrif ar bymtheg yw ''dán díreach''. Mae...') |
|||
(Ni ddangosir y 3 golygiad yn y canol gan ddefnyddiwr arall) | |||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
__NOAUTOLINKS__ | __NOAUTOLINKS__ | ||
− | Cyfundrefn neu system farddol a fodolai yn Iwerddon ac yn ardaloedd Gaeleg yr Alban hyd yr | + | {{DEFAULTSORT:Dan direach}}Cyfundrefn neu system farddol a fodolai yn Iwerddon ac yn ardaloedd Gaeleg yr Alban hyd yr 17g. yw ''dán díreach''. Mae’n bosibl mai’r gair sydd yn cyfateb orau i ''dán'' yn Gymraeg yw ‘cerdd’. Os cymerir esboniad Gerard Murphy o’r gair, sef ‘gift; skill, art, craft; poem’, gwelir ei fod yn ymdebygu yn ei aml ystyron i ‘cerdd’, gan gyfateb o ran yr hen ystyr eang, a’r ystyr modern mwy cyfyng. Fel yr eglura Osborn Bergin, ‘''dán'' “craft”, which originally was applied to the craft of poetry rather than to a poem, is also later used commonly to denote a poem.’ ‘Union’ neu ‘uniongyrchol’ yw ystyr ‘díreach’ wedyn, a chyfieithir y term yn ei gyfanrwydd gan John Stoddart i ‘barddas union’. Enw ar y gyfundrefn, felly, yw ''dán díreach'', yn debyg i’n ‘cerdd dafod’ ninnau. Efallai mai’r term cyffredinol ‘canu caeth’ a rydd yr argraff orau o’r term Gwyddeleg. |
Fel y gynghanedd a’i mesurau, cyfundrefn sydd yn ddibynnol ar gyfrif sillafau, yn hytrach na churiadau, yw ''dán díreach''. Dyma rai o brif egwyddorion a gofynion y system, yn ôl Gerard Murphy: cyfuniad o odl, cyseinedd, cytseinedd, cywasgu, ac acennu. Rhaid defnyddio ffordd benodol hefyd o ddirwyn cerdd i ben: rhaid wrth fath ar gyrch lle caiff agoriad y gerdd ei ailadrodd, neu o leiaf ei adleisio, er mwyn rhoi undod a chyflawnder i’r gerdd. | Fel y gynghanedd a’i mesurau, cyfundrefn sydd yn ddibynnol ar gyfrif sillafau, yn hytrach na churiadau, yw ''dán díreach''. Dyma rai o brif egwyddorion a gofynion y system, yn ôl Gerard Murphy: cyfuniad o odl, cyseinedd, cytseinedd, cywasgu, ac acennu. Rhaid defnyddio ffordd benodol hefyd o ddirwyn cerdd i ben: rhaid wrth fath ar gyrch lle caiff agoriad y gerdd ei ailadrodd, neu o leiaf ei adleisio, er mwyn rhoi undod a chyflawnder i’r gerdd. | ||
Llinell 8: | Llinell 8: | ||
Fel yn y Gymraeg, yr oedd enwau amrywiol ar y sawl a gyflawnai swyddogaeth bardd o fewn y gyfundrefn hon yn y canol oesoedd. Mae’n debyg mai ''fili'', neu’r gweledydd, oedd flaenaf yn y dyddiau cynnar, a gellid cymharu ei swyddogaeth â’r ‘cyfarwydd’ Cymraeg, nid yn unig o ran ehangder ei ddyletswyddau ond hefyd o ran amwysedd yr hyn sy’n hysbys i ninnau bellach amdanynt. Ymhen amser daeth y termau ''fili'' a ''bard'' i gael eu defnyddio’n gyfnewidiol heb fawr wahaniaeth rhyngddynt. | Fel yn y Gymraeg, yr oedd enwau amrywiol ar y sawl a gyflawnai swyddogaeth bardd o fewn y gyfundrefn hon yn y canol oesoedd. Mae’n debyg mai ''fili'', neu’r gweledydd, oedd flaenaf yn y dyddiau cynnar, a gellid cymharu ei swyddogaeth â’r ‘cyfarwydd’ Cymraeg, nid yn unig o ran ehangder ei ddyletswyddau ond hefyd o ran amwysedd yr hyn sy’n hysbys i ninnau bellach amdanynt. Ymhen amser daeth y termau ''fili'' a ''bard'' i gael eu defnyddio’n gyfnewidiol heb fawr wahaniaeth rhyngddynt. | ||
− | Dibynnai’r system ar ysgolion barddol yn Iwerddon ac yn ardaloedd Gaeleg yr Alban hyd oddeutu’r | + | Dibynnai’r system ar ysgolion barddol yn Iwerddon ac yn ardaloedd Gaeleg yr Alban hyd oddeutu’r 17g. Roedd cyfnod hyfforddiant llawn yn para oddeutu chwe neu saith mlynedd. Y radd uchaf ymysg beirdd yr ysgolion hyn, yn cyfateb yn fras i’n pencerdd ninnau, ydoedd yr ''ollam''. Proffesiwn teuluol ydoedd bod yn ''bard'', i raddau mwy helaeth, fe ymddengys, nag yng Nghymru. Serch hynny yr oedd yr hyfforddiant yr âi’r beirdd drwyddo, a’r math o ganu dan nawdd y disgwylid iddynt ei gynhyrchu, yn dra thebyg i’r gyfundrefn farddol ganoloesol yng Nghymru hefyd. Oherwydd hynny, gellid dadlau bod cryn dipyn o gorff y cerddi a oroesodd yn dioddef o’r un gwendidau ag a geir yn llawer o gynnyrch y canu caeth yn y canol oesoedd: gall fod yn fformiwlaig, wedi’i gyfyngu i ddosbarth penodol o feirdd, gwrthrychau a chyd-destunau economaidd; tuedda tuag at y ceidwadol ac mae’n hwyrfrydig i ddatblygu neu arloesi. |
− | Yn debyg hefyd i’r olwg draddodiadol o’r canu caeth yng Nghymru, daeth bywiogrwydd y ''dán díreach'' i ben i bob pwrpas yn ystod yr | + | Yn debyg hefyd i’r olwg draddodiadol o’r canu caeth yng Nghymru, daeth bywiogrwydd y ''dán díreach'' i ben i bob pwrpas yn ystod yr 17g. Wedi dweud hynny, ceir rhai enghreifftiau disglair o ymarferwyr cyfoes, megis y bardd-newyddiadurwr o’r Alban, Niall O’Gallagher, a gyhoeddodd gyfrol o gerddi ar fesurau’r ''dán díreach'' yn 2016. |
'''Llŷr Gwyn Lewis''' | '''Llŷr Gwyn Lewis''' | ||
Llinell 27: | Llinell 27: | ||
Williams, J. E. C. (1958), ''Traddodiad Llenyddol Iwerddon'' (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru). | Williams, J. E. C. (1958), ''Traddodiad Llenyddol Iwerddon'' (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru). | ||
+ | {{CC BY-SA}} | ||
+ | [[Categori:Beirniadaeth a Theori]] |
Y diwygiad cyfredol, am 18:30, 16 Rhagfyr 2018
Cyfundrefn neu system farddol a fodolai yn Iwerddon ac yn ardaloedd Gaeleg yr Alban hyd yr 17g. yw dán díreach. Mae’n bosibl mai’r gair sydd yn cyfateb orau i dán yn Gymraeg yw ‘cerdd’. Os cymerir esboniad Gerard Murphy o’r gair, sef ‘gift; skill, art, craft; poem’, gwelir ei fod yn ymdebygu yn ei aml ystyron i ‘cerdd’, gan gyfateb o ran yr hen ystyr eang, a’r ystyr modern mwy cyfyng. Fel yr eglura Osborn Bergin, ‘dán “craft”, which originally was applied to the craft of poetry rather than to a poem, is also later used commonly to denote a poem.’ ‘Union’ neu ‘uniongyrchol’ yw ystyr ‘díreach’ wedyn, a chyfieithir y term yn ei gyfanrwydd gan John Stoddart i ‘barddas union’. Enw ar y gyfundrefn, felly, yw dán díreach, yn debyg i’n ‘cerdd dafod’ ninnau. Efallai mai’r term cyffredinol ‘canu caeth’ a rydd yr argraff orau o’r term Gwyddeleg.
Fel y gynghanedd a’i mesurau, cyfundrefn sydd yn ddibynnol ar gyfrif sillafau, yn hytrach na churiadau, yw dán díreach. Dyma rai o brif egwyddorion a gofynion y system, yn ôl Gerard Murphy: cyfuniad o odl, cyseinedd, cytseinedd, cywasgu, ac acennu. Rhaid defnyddio ffordd benodol hefyd o ddirwyn cerdd i ben: rhaid wrth fath ar gyrch lle caiff agoriad y gerdd ei ailadrodd, neu o leiaf ei adleisio, er mwyn rhoi undod a chyflawnder i’r gerdd.
Un mesur penodol o fewn y gyfundrefn hon yw’r deibide (neu’r deibhidhe). Mae’r mesur hwn yn aml wedi cael cryn sylw gan feirniaid Cymraeg wrth iddynt ei gymharu â’r Cywydd Deuair Hirion, oherwydd ei fod yn cael ei lunio mewn cwpledi o linellau seithsill sydd yn diweddu’n acennog a diacen am yn ail.
Fel yn y Gymraeg, yr oedd enwau amrywiol ar y sawl a gyflawnai swyddogaeth bardd o fewn y gyfundrefn hon yn y canol oesoedd. Mae’n debyg mai fili, neu’r gweledydd, oedd flaenaf yn y dyddiau cynnar, a gellid cymharu ei swyddogaeth â’r ‘cyfarwydd’ Cymraeg, nid yn unig o ran ehangder ei ddyletswyddau ond hefyd o ran amwysedd yr hyn sy’n hysbys i ninnau bellach amdanynt. Ymhen amser daeth y termau fili a bard i gael eu defnyddio’n gyfnewidiol heb fawr wahaniaeth rhyngddynt.
Dibynnai’r system ar ysgolion barddol yn Iwerddon ac yn ardaloedd Gaeleg yr Alban hyd oddeutu’r 17g. Roedd cyfnod hyfforddiant llawn yn para oddeutu chwe neu saith mlynedd. Y radd uchaf ymysg beirdd yr ysgolion hyn, yn cyfateb yn fras i’n pencerdd ninnau, ydoedd yr ollam. Proffesiwn teuluol ydoedd bod yn bard, i raddau mwy helaeth, fe ymddengys, nag yng Nghymru. Serch hynny yr oedd yr hyfforddiant yr âi’r beirdd drwyddo, a’r math o ganu dan nawdd y disgwylid iddynt ei gynhyrchu, yn dra thebyg i’r gyfundrefn farddol ganoloesol yng Nghymru hefyd. Oherwydd hynny, gellid dadlau bod cryn dipyn o gorff y cerddi a oroesodd yn dioddef o’r un gwendidau ag a geir yn llawer o gynnyrch y canu caeth yn y canol oesoedd: gall fod yn fformiwlaig, wedi’i gyfyngu i ddosbarth penodol o feirdd, gwrthrychau a chyd-destunau economaidd; tuedda tuag at y ceidwadol ac mae’n hwyrfrydig i ddatblygu neu arloesi.
Yn debyg hefyd i’r olwg draddodiadol o’r canu caeth yng Nghymru, daeth bywiogrwydd y dán díreach i ben i bob pwrpas yn ystod yr 17g. Wedi dweud hynny, ceir rhai enghreifftiau disglair o ymarferwyr cyfoes, megis y bardd-newyddiadurwr o’r Alban, Niall O’Gallagher, a gyhoeddodd gyfrol o gerddi ar fesurau’r dán díreach yn 2016.
Llŷr Gwyn Lewis
Llyfryddiaeth
Bergin, O. (1970), Irish Bardic Poetry (Dublin: Dublin Institute for Advanced Studies).
Murphy, G. (1956), Early Irish Lyrics: Eighth to Twelfth Century (Oxford: Oxford University Press).
Murphy, G. (1961), Early Irish Metrics (Dublin: Royal Irish Academy).
O’Gallagher, N. (2016), Suain nan Trì Latha (Clàr: Inbhir Nis).
Stoddart, J. (1987), Awen y Gael: Blodeugerdd o Farddoniaeth Aeleg o’r bymthegfed ganrif hyd at drothwy’r Rhyfel Byd Cyntaf (Llandybïe: Barddas).
Williams, J. E. C. (1958), Traddodiad Llenyddol Iwerddon (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru).
- Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.