Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Corfan"

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio
 
(Ni ddangosir y golygiad yn y canol gan ddefnyddiwr arall)
Llinell 1: Llinell 1:
 
__NOAUTOLINKS__
 
__NOAUTOLINKS__
Bar neu droed mydryddol yw corfan, sef y modd yr acennir gwahanol gyfuniadau o sillafau. Un o’r corfannau mwyaf cyffredin mewn barddoniaeth yw’r corfan talgrwn, a geir yn aml mewn mesurau pumban, sonedau, er enghraifft. Cyfuniad o ddwy sillaf yw’r math hwn o gorfan, gyda’r sillaf gyntaf yn ddiacen a’r ail sillaf yn acennog, er enghraifft, ''dyheu'', ''ymhell'', ''gerllaw'', ''fan draw''. Math arall o gorfan yw corfan crych disgynedig lle ceir clymiad o dair sillaf, gyda’r sillaf gyntaf yn acennog a’r ail a’r drydedd sillaf yn ddiacen, er enghraifft, ''caniatáu'', ''ymarhous'', ''bwrw glaw'', ''ara’ deg''. Dwy sillaf acennog yn dilyn ei gilydd yw corfan cytbwys, y gair cyntaf yn soned enwog R. Williams Parry, ‘Y Llwynog’, er enghraifft:
+
Bar neu droed mydryddol yw corfan, sef y modd yr acennir gwahanol gyfuniadau o sillafau. Un o’r corfannau mwyaf cyffredin mewn barddoniaeth yw’r corfan talgrwn, a geir yn aml mewn mesurau pumban, sonedau, er enghraifft. Cyfuniad o ddwy sillaf yw’r math hwn o gorfan, gyda’r sillaf gyntaf yn ddiacen a’r ail sillaf yn acennog, er enghraifft, ''dyheu'', ''ymhell'', ''gerllaw'', ''fan draw''. Math arall o gorfan yw corfan crych disgynedig lle ceir clymiad o dair sillaf, gyda’r sillaf gyntaf yn acennog a’r ail a’r drydedd sillaf yn ddiacen, er enghraifft,  
 +
 
 +
:''Dwy''lo yn ''deb''yg i'r ''rhain''
 +
 
 +
:''Cwsg'' fy an''wyl''yd di-''nam'',
 +
:''Tec''ach na'r ''rhos''yn wyt ''ti'';
 +
:''Hun''a ym ''myn''wes dy ''fam'',
 +
:''Tar''ian dy ''fyw''yd yw ''hi''.  
 +
 
 +
Dwy sillaf acennog yn dilyn ei gilydd yw corfan cytbwys, y gair cyntaf yn soned enwog R. Williams Parry, ‘Y Llwynog’, er enghraifft:
  
 
:Ganllath o gopa’r mynydd, pan oedd clych
 
:Ganllath o gopa’r mynydd, pan oedd clych
Llinell 19: Llinell 28:
 
{{CC BY-SA}}
 
{{CC BY-SA}}
 
[[Categori:Beirniadaeth a Theori]]
 
[[Categori:Beirniadaeth a Theori]]
 +
[[Categori:Cerdd Dafod]]

Y diwygiad cyfredol, am 13:37, 13 Medi 2018

Bar neu droed mydryddol yw corfan, sef y modd yr acennir gwahanol gyfuniadau o sillafau. Un o’r corfannau mwyaf cyffredin mewn barddoniaeth yw’r corfan talgrwn, a geir yn aml mewn mesurau pumban, sonedau, er enghraifft. Cyfuniad o ddwy sillaf yw’r math hwn o gorfan, gyda’r sillaf gyntaf yn ddiacen a’r ail sillaf yn acennog, er enghraifft, dyheu, ymhell, gerllaw, fan draw. Math arall o gorfan yw corfan crych disgynedig lle ceir clymiad o dair sillaf, gyda’r sillaf gyntaf yn acennog a’r ail a’r drydedd sillaf yn ddiacen, er enghraifft,

Dwylo yn debyg i'r rhain
Cwsg fy anwylyd di-nam,
Tecach na'r rhosyn wyt ti;
Huna ym mynwes dy fam,
Tarian dy fywyd yw hi.

Dwy sillaf acennog yn dilyn ei gilydd yw corfan cytbwys, y gair cyntaf yn soned enwog R. Williams Parry, ‘Y Llwynog’, er enghraifft:

Ganllath o gopa’r mynydd, pan oedd clych
´´ – ´ – ´– ´– ´

Y gwrthwyneb i gorfan crych disgynedig yw corfan crych dyrchafedig, lle ceir geiriau neu glymiad o dair sillaf, gyda’r ddwy sillaf gyntaf yn ddiacen, a’r drydedd sillaf yn acennog, er enghraifft.

[Nid oes] gennym hawl ar y sêr
[Nid oes] gennym hawl ar ddim byd
Mae'r plant bach o Lerpwl sy'n Arfon
Mae'r ddaear fel pe bai'n ailadrodd

Y corfan talgrwn o chwith yw corfan rhywiog, hynny yw, mewn clymiad o ddwy sillaf, y mae’r sillaf gyntaf yn acennog a’r ail linell yn ddiacen, caru, rhedeg, lleuad, darfod, er enghraifft.

Alan Llwyd


Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.