Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Keineg, Katell"

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio
 
(Ni ddangosir y 4 golygiad yn y canol gan ddefnyddiwr arall)
Llinell 1: Llinell 1:
 
__NOAUTOLINKS__
 
__NOAUTOLINKS__
Ganed Katell Keineg yn Llydaw yn 1965. Roedd ei thad, y Llydäwr Paol Keineg, yn fardd a dramodydd adnabyddus ac yn un o sylfaenwyr yr Union Démocratique Bretonne, Plaid Genedlaethol Llydaw. Roedd ei mam, Judith Pritchard, yn athrawes Gymraeg a ddaeth yn ddiweddarach yn ymgeisydd Plaid Cymru. Cafodd Katell ei chyflwyno’n ifanc i gerddoriaeth genedlaetholgar gwledydd megis Catalonia, yr Alban, Iwerddon, Gwlad y Basg, ynghyd â Chymru a Llydaw.
+
'''Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn [https://www.ylolfa.com/cynnyrch/9781784616250/cydymaith-i-gerddoriaeth-cymru''Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru''], cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.'''
  
Yn wyth oed, symudodd Katell a’i brawd hŷn i Gwm Rhymni pan wahanodd ei rhieni, gyda’i thad yn ymgartrefu yn yr Unol Daleithiau. Roedd y Beatles yn ddylanwad cynnar – ysgrifennodd Katell ei chân gyntaf yn un ar ddeg oed ar ôl gwrando ar ‘Eleanor Rigby’ – ynghyd â recordiau a yrrai ei thad ati, yn eu plith Cisco Houston, Woody Guthrie ac Amália Rodrigues. Yn ddiweddarach cyfrai gantorion fel y canwr ''Qawwali'' o Bacistan, Nusrat Fateh Ali Khan, neu gantorion gwerin o Ddwrain Ewrop fel dylanwadau.
+
(g. 1965)
Daeth Keineg i amlygrwydd cynnar fel y gantores yn y gyfres deledu Tan Tro Nesa (S4C, 1985), stori am grŵp pop ffuglennol o ardal y cymoedd. Rhyddhawyd nifer o ganeuon oddi ar y gyfres ar record o’r un enw (Hebog, 1985), gan gynnwys tair cân gan Katell (‘Un Ffordd’, ‘Y Dyn Arall’, ac ‘Ystrad Nova’), dwy ohonynt ar y cyd â’r gitarydd a’r cynhyrchydd Brian Breeze.
 
  
Ar ôl graddio yn y gyfraith o’r London School of Economics, daeth Katell yn ôl i Gymru am gyfnod cyn symud i Ddulyn yn 1990. Derbyniodd wahoddiad i ganu yn Sin-é, clwb yn ardal y Lower East Side yn Efrog Newydd. Symudodd i fyw yn y ddinas honno a bu’n perfformio’n rheolaidd mewn clybiau yno yn ystod y 1990au cynnar. Cafodd ei pherfformiadau (roedd ei set o ganeuon mewn nifer o ieithoedd gwahanol, megis Saesneg, Sbaeneg, Ffrangeg, Cymraeg a Llydaweg) adolygiadau ffafriol mewn papurau newydd gan gynnwys y ''Los Angeles Times''. Yn fuan wedyn rhyddhaodd sengl o’r enw ‘Hestia’ ar label SOL (1993). Yr un flwyddyn roedd ei llais i’w glywed ar albwm Iggy Pop ''American Caesar'' (Virgin, 1993), ar y gân ‘Mixin’ the Colours’.
+
Cantores, gitarydd a chyfansoddwraig ym maes canu poblogaidd, ganed Katell Keineg yn Llydaw. Roedd ei thad, y Llydäwr Paol Keineg, yn fardd a dramodydd adnabyddus ac yn un o sylfaenwyr yr Union Démocratique Bretonne, Plaid Genedlaethol Llydaw. Roedd ei mam, Judith Pritchard, yn athrawes Gymraeg a ddaeth yn ddiweddarach yn ymgeisydd Plaid Cymru. Cafodd Katell ei chyflwyno’n ifanc i gerddoriaeth genedlaetholgar gwledydd megis Catalonia, yr Alban, Iwerddon, Gwlad y Basg, ynghyd â Chymru a Llydaw.
 +
 
 +
Yn wyth oed, symudodd Katell a’i brawd hŷn i Gwm Rhymni pan wahanodd ei rhieni, gyda’i thad yn ymgartrefu yn yr Unol Daleithiau. Roedd y Beatles yn ddylanwad cynnar – ysgrifennodd Katell ei chân gyntaf yn un ar ddeg oed ar ôl gwrando ar ‘Eleanor Rigby’ – ynghyd â recordiau a yrrai ei thad ati, yn eu plith Cisco Houston, Woody Guthrie ac Amália Rodrigues. Yn ddiweddarach cyfrifai gantorion fel y canwr ''Qawwali'' o Bacistan, Nusrat Fateh Ali Khan, neu gantorion gwerin o Ddwyrain Ewrop fel dylanwadau.
 +
 
 +
Daeth Keineg i amlygrwydd cynnar fel y gantores yn y gyfres deledu ''Tan Tro Nesa'' (S4C, 1985), stori am grŵp pop ffuglennol o ardal y cymoedd. Rhyddhawyd nifer o ganeuon oddi ar y gyfres ar record o’r un enw (''Hebog'', 1985), gan gynnwys tair cân gan Katell (‘Un Ffordd’, ‘Y Dyn Arall’, ac ‘Ystrad Nova’), dwy ohonynt ar y cyd â’r gitarydd a’r cynhyrchydd Brian Breeze.
 +
 
 +
Ar ôl graddio yn y gyfraith o’r London School of Economics, daeth Katell yn ôl i Gymru am gyfnod cyn symud i Ddulyn yn 1990. Derbyniodd wahoddiad i ganu yn Sin-é, clwb yn ardal y Lower East Side yn Efrog Newydd. Symudodd i fyw yn y ddinas honno a bu’n perfformio’n rheolaidd mewn clybiau yno yn ystod yr 1990au cynnar. Cafodd ei pherfformiadau (roedd ei set o ganeuon mewn nifer o ieithoedd gwahanol, megis Saesneg, Sbaeneg, Ffrangeg, Cymraeg a Llydaweg) adolygiadau ffafriol mewn papurau newydd gan gynnwys y ''Los Angeles Times''. Yn fuan wedyn rhyddhaodd sengl o’r enw ‘Hestia’ ar label SOL (1993). Yr un flwyddyn roedd ei llais i’w glywed ar albwm Iggy Pop ''American Caesar'' (Virgin, 1993), ar y gân ‘Mixin’ the Colours’.
  
 
Trwy ei chysylltiad ag Iggy Pop daeth Katell i sylw’r label recordiau Elektra. Clywid ei hadnoddau lleisiol unigryw ar ei halbwm cyntaf gyda’r label, ''O Seasons, O Castles'' (Elektra, 1994) – cwmpawd eang gyda’r gallu i liwio naratif, creu stori mewn cân a hoelio sylw’r gwrandäwr. Amlygwyd ar yr albwm hefyd ystod eang o ddylanwadau, gan gynnwys cantorion fel Joni Mitchell, PJ Harvey a Sinéad O’Connor, a’r arddull gerddorol yn symud yn esmwyth o roc i ganu gwlad, rhythmau Lladin-Americanaidd, llafarganu Gil Scott Heron yn y gân ‘Partisan’, ynghyd â’r emyn Cymraeg yn ‘O Iesu Mawr’. Yn ddiweddarach recordiodd y gantores Natalie Merchant drefniant o’r gân ‘The Gulf of Araby’ ar ei record hir ''Live in Concert'' (Elektra, 1999).
 
Trwy ei chysylltiad ag Iggy Pop daeth Katell i sylw’r label recordiau Elektra. Clywid ei hadnoddau lleisiol unigryw ar ei halbwm cyntaf gyda’r label, ''O Seasons, O Castles'' (Elektra, 1994) – cwmpawd eang gyda’r gallu i liwio naratif, creu stori mewn cân a hoelio sylw’r gwrandäwr. Amlygwyd ar yr albwm hefyd ystod eang o ddylanwadau, gan gynnwys cantorion fel Joni Mitchell, PJ Harvey a Sinéad O’Connor, a’r arddull gerddorol yn symud yn esmwyth o roc i ganu gwlad, rhythmau Lladin-Americanaidd, llafarganu Gil Scott Heron yn y gân ‘Partisan’, ynghyd â’r emyn Cymraeg yn ‘O Iesu Mawr’. Yn ddiweddarach recordiodd y gantores Natalie Merchant drefniant o’r gân ‘The Gulf of Araby’ ar ei record hir ''Live in Concert'' (Elektra, 1999).
  
Dilynwyd ''O Seasons O Castles'' gan record orau Katell yn nhyb nifer, ''Jet'' (Elektra, 1997), gyda’r cylchgrawn ''Esquire'' yn ei disgrifio fel campwaith anghydnabyddedig y degawd. Mae cân olaf y record, ‘There You Go’, yn glasur, ac yn ymgorffori un o themâu amlycaf caneuon Katell, sef cerddoriaeth fel modd i gario rhywun y tu hwnt i’w unigrwydd. Fodd bynnag, ni chafodd Jet ei marchnata’n effeithiol gan Elektra, a oedd erbyn canol y 1990au yn rhoi mwy o bwyslais ar ryddhau recordiau rap a hip hop nag ar hyrwyddo artistiaid ‘amgen’ fel y buont yn gwneud gynt.
+
Dilynwyd ''O Seasons O Castles'' gan record orau Katell yn nhyb nifer, ''Jet'' (Elektra, 1997), gyda’r cylchgrawn Esquire yn ei disgrifio fel campwaith anghydnabyddedig y degawd. Mae cân olaf y record, ‘There You Go’, yn glasur, ac yn ymgorffori un o themâu amlycaf caneuon Katell, sef cerddoriaeth fel modd i gario rhywun y tu hwnt i’w unigrwydd. Fodd bynnag, ni chafodd Jet ei marchnata’n effeithiol gan Elektra, a oedd erbyn canol yr 1990au yn rhoi mwy o bwyslais ar ryddhau recordiau rap a hip hop nag ar hyrwyddo artistiaid ‘amgen’ fel y buont yn gwneud gynt.
  
Erbyn 2002 roedd Katell wedi symud at label o Brooklyn ar gyfer ei EP ''What’s the only thing worse than the End of Time?'' (Field Recording, 2002). Dilynwyd y record honno gan ei thrydydd albwm, ''High July'' (Megaphone, 2004). Perthynai sain fwy rocaidd i ''High July'', gyda rhai caneuon yn symud i gyfeiriad roc blaengar band fel Radiohead. Yn 2009 rhyddhaodd Katell EP ar ei label ei hun a oedd yn cynnwys trefniant o un o ganeuon y Super Furry Animals, ‘Y Gwynab Iau’ – cân sydd, fel nifer o’i chaneuon cynharach, yn ymdrin â cholled a thorcalon – ac yna flwyddyn yn ddiweddarach ymddangosodd ei phedwerydd albwm, ''At The Mermaid Parade'' (Honest Jon’s, 2010). Gyda’r pwyslais yn fwy ar sain roc-gwerin, a chaneuon a oedd yn plethu alaw a geiriau yn syml ond yn gywrain (fel ‘Thirteen’), cafodd y record ei dewis yn ‘CD yr wythnos’ gan y ''Sunday Times''.
+
Erbyn 2002 roedd Katell wedi symud at label o Brooklyn ar gyfer ei EP ''What’s the only thing worse than the End of Time?'' (Field Recording, 2002). Dilynwyd y record honno gan ei thrydydd albwm, ''High July'' (Megaphone, 2004). Perthynai sain fwy rocaidd i ''High July'', gyda rhai caneuon yn symud i gyfeiriad roc blaengar band fel Radiohead. Yn 2009 rhyddhaodd Katell EP ar ei label ei hun a oedd yn cynnwys trefniant o un o ganeuon y Super Furry Animals, ‘Y Gwynab Iau’ – cân sydd, fel nifer o’i chaneuon cynharach, yn ymdrin â cholled a thorcalon – ac yna flwyddyn yn ddiweddarach ymddangosodd ei phedwerydd albwm, ''At The Mermaid Parade'' (Honest Jon’s, 2010). Gyda’r pwyslais yn fwy ar sain roc-gwerin, a chaneuon a oedd yn plethu alaw a geiriau yn syml ond yn gywrain (fel ‘Thirteen’), cafodd y record ei dewis yn ‘CD yr wythnos’ gan y Sunday Times.
  
Ni wnaeth Katell elwa o ffenomen Cool Cymru yn ystod y 1990au, ac ni ddaeth llwyddiant i’w rhan yn yr un modd â rhai o artistiaid Cymreig eraill y cyfnod. Fodd bynnag, gellir clywed ei dylanwad ar nifer o gantoresau/gitaryddion Cymreig a’i dilynodd, o Gwyneth Glyn i Cate Le Bon, a bu’n ymgorffori emynau Cymraeg yn ei ''repertoire'' o ganeuon pop ymhell cyn i Cerys Matthews droi atynt ar ei halbwm ''Hullabaloo'' (Rainbow City Records, 2013). Dywedodd Nancy Jeffries, un a weithiodd gyda Katell pan oedd yn recordio ar label Elektra, amdani: ‘She projects this combination of strength and fragility. It’s really quite spellbinding: there she is, climbing these heights, and you have this fear she won't get there, but she always does’ (gw. Frey 2006).
+
Ni wnaeth Katell elwa o ffenomen Cŵl Cymru yn ystod yr 1990au, ac ni ddaeth llwyddiant i’w rhan yn yr un modd â rhai o artistiaid Cymreig eraill y cyfnod. Fodd bynnag, gellir clywed ei dylanwad ar nifer o gantoresau/gitaryddion Cymreig a’i dilynodd, o Gwyneth Glyn i Cate Le Bon, a bu’n ymgorffori emynau Cymraeg yn ei repertoire o ganeuon pop ymhell cyn i Cerys Matthews droi atynt ar ei halbwm ''Hullabaloo'' (Rainbow City Records, 2013). Dywedodd Nancy Jeffries, un a weithiodd gyda Katell pan oedd yn recordio ar label Elektra, amdani: ‘She projects this combination of strength and fragility. It’s really quite spellbinding: there she is, climbing these heights, and you have this fear she won’t get there, but she always does’ (gw. Frey 2006).
  
 
'''Pwyll ap Siôn'''
 
'''Pwyll ap Siôn'''
Llinell 39: Llinell 44:
  
 
{{CC BY-SA Cydymaith}}
 
{{CC BY-SA Cydymaith}}
[[Categori:Cerddoriaeth]]
 

Y diwygiad cyfredol, am 10:39, 26 Mawrth 2021

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

(g. 1965)

Cantores, gitarydd a chyfansoddwraig ym maes canu poblogaidd, ganed Katell Keineg yn Llydaw. Roedd ei thad, y Llydäwr Paol Keineg, yn fardd a dramodydd adnabyddus ac yn un o sylfaenwyr yr Union Démocratique Bretonne, Plaid Genedlaethol Llydaw. Roedd ei mam, Judith Pritchard, yn athrawes Gymraeg a ddaeth yn ddiweddarach yn ymgeisydd Plaid Cymru. Cafodd Katell ei chyflwyno’n ifanc i gerddoriaeth genedlaetholgar gwledydd megis Catalonia, yr Alban, Iwerddon, Gwlad y Basg, ynghyd â Chymru a Llydaw.

Yn wyth oed, symudodd Katell a’i brawd hŷn i Gwm Rhymni pan wahanodd ei rhieni, gyda’i thad yn ymgartrefu yn yr Unol Daleithiau. Roedd y Beatles yn ddylanwad cynnar – ysgrifennodd Katell ei chân gyntaf yn un ar ddeg oed ar ôl gwrando ar ‘Eleanor Rigby’ – ynghyd â recordiau a yrrai ei thad ati, yn eu plith Cisco Houston, Woody Guthrie ac Amália Rodrigues. Yn ddiweddarach cyfrifai gantorion fel y canwr Qawwali o Bacistan, Nusrat Fateh Ali Khan, neu gantorion gwerin o Ddwyrain Ewrop fel dylanwadau.

Daeth Keineg i amlygrwydd cynnar fel y gantores yn y gyfres deledu Tan Tro Nesa (S4C, 1985), stori am grŵp pop ffuglennol o ardal y cymoedd. Rhyddhawyd nifer o ganeuon oddi ar y gyfres ar record o’r un enw (Hebog, 1985), gan gynnwys tair cân gan Katell (‘Un Ffordd’, ‘Y Dyn Arall’, ac ‘Ystrad Nova’), dwy ohonynt ar y cyd â’r gitarydd a’r cynhyrchydd Brian Breeze.

Ar ôl graddio yn y gyfraith o’r London School of Economics, daeth Katell yn ôl i Gymru am gyfnod cyn symud i Ddulyn yn 1990. Derbyniodd wahoddiad i ganu yn Sin-é, clwb yn ardal y Lower East Side yn Efrog Newydd. Symudodd i fyw yn y ddinas honno a bu’n perfformio’n rheolaidd mewn clybiau yno yn ystod yr 1990au cynnar. Cafodd ei pherfformiadau (roedd ei set o ganeuon mewn nifer o ieithoedd gwahanol, megis Saesneg, Sbaeneg, Ffrangeg, Cymraeg a Llydaweg) adolygiadau ffafriol mewn papurau newydd gan gynnwys y Los Angeles Times. Yn fuan wedyn rhyddhaodd sengl o’r enw ‘Hestia’ ar label SOL (1993). Yr un flwyddyn roedd ei llais i’w glywed ar albwm Iggy Pop American Caesar (Virgin, 1993), ar y gân ‘Mixin’ the Colours’.

Trwy ei chysylltiad ag Iggy Pop daeth Katell i sylw’r label recordiau Elektra. Clywid ei hadnoddau lleisiol unigryw ar ei halbwm cyntaf gyda’r label, O Seasons, O Castles (Elektra, 1994) – cwmpawd eang gyda’r gallu i liwio naratif, creu stori mewn cân a hoelio sylw’r gwrandäwr. Amlygwyd ar yr albwm hefyd ystod eang o ddylanwadau, gan gynnwys cantorion fel Joni Mitchell, PJ Harvey a Sinéad O’Connor, a’r arddull gerddorol yn symud yn esmwyth o roc i ganu gwlad, rhythmau Lladin-Americanaidd, llafarganu Gil Scott Heron yn y gân ‘Partisan’, ynghyd â’r emyn Cymraeg yn ‘O Iesu Mawr’. Yn ddiweddarach recordiodd y gantores Natalie Merchant drefniant o’r gân ‘The Gulf of Araby’ ar ei record hir Live in Concert (Elektra, 1999).

Dilynwyd O Seasons O Castles gan record orau Katell yn nhyb nifer, Jet (Elektra, 1997), gyda’r cylchgrawn Esquire yn ei disgrifio fel campwaith anghydnabyddedig y degawd. Mae cân olaf y record, ‘There You Go’, yn glasur, ac yn ymgorffori un o themâu amlycaf caneuon Katell, sef cerddoriaeth fel modd i gario rhywun y tu hwnt i’w unigrwydd. Fodd bynnag, ni chafodd Jet ei marchnata’n effeithiol gan Elektra, a oedd erbyn canol yr 1990au yn rhoi mwy o bwyslais ar ryddhau recordiau rap a hip hop nag ar hyrwyddo artistiaid ‘amgen’ fel y buont yn gwneud gynt.

Erbyn 2002 roedd Katell wedi symud at label o Brooklyn ar gyfer ei EP What’s the only thing worse than the End of Time? (Field Recording, 2002). Dilynwyd y record honno gan ei thrydydd albwm, High July (Megaphone, 2004). Perthynai sain fwy rocaidd i High July, gyda rhai caneuon yn symud i gyfeiriad roc blaengar band fel Radiohead. Yn 2009 rhyddhaodd Katell EP ar ei label ei hun a oedd yn cynnwys trefniant o un o ganeuon y Super Furry Animals, ‘Y Gwynab Iau’ – cân sydd, fel nifer o’i chaneuon cynharach, yn ymdrin â cholled a thorcalon – ac yna flwyddyn yn ddiweddarach ymddangosodd ei phedwerydd albwm, At The Mermaid Parade (Honest Jon’s, 2010). Gyda’r pwyslais yn fwy ar sain roc-gwerin, a chaneuon a oedd yn plethu alaw a geiriau yn syml ond yn gywrain (fel ‘Thirteen’), cafodd y record ei dewis yn ‘CD yr wythnos’ gan y Sunday Times.

Ni wnaeth Katell elwa o ffenomen Cŵl Cymru yn ystod yr 1990au, ac ni ddaeth llwyddiant i’w rhan yn yr un modd â rhai o artistiaid Cymreig eraill y cyfnod. Fodd bynnag, gellir clywed ei dylanwad ar nifer o gantoresau/gitaryddion Cymreig a’i dilynodd, o Gwyneth Glyn i Cate Le Bon, a bu’n ymgorffori emynau Cymraeg yn ei repertoire o ganeuon pop ymhell cyn i Cerys Matthews droi atynt ar ei halbwm Hullabaloo (Rainbow City Records, 2013). Dywedodd Nancy Jeffries, un a weithiodd gyda Katell pan oedd yn recordio ar label Elektra, amdani: ‘She projects this combination of strength and fragility. It’s really quite spellbinding: there she is, climbing these heights, and you have this fear she won’t get there, but she always does’ (gw. Frey 2006).

Pwyll ap Siôn

Llyfryddiaeth

Darcy Frey, ‘Her Lonely Voice’, New York Times, 2 Gorffennaf 2006.

Disgyddiaeth

[gyda Tan Tro Nesa] Tan Tro Nesa (Recordiau Hebog HER001, 1985)

‘Hestia’ [sengl] (SOL 245-7, 1993)

O Seasons, O Castles (Elektra 61657-2, 1994)

Jet (Elektra 62052-2, 1997)

What’s the only thing worse than the End of Time? [EP] (Field Recording FLD155, 2002)

High July (Megaphone MEGA06, 2004)

‘Y Gwynab Iau’/ ‘Trouble’ [EP] (Soul Tizzy STZ009, 2009)

At The Mermaid Parade (Honest Jon’s HJRCD46, 2010)



Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.