Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Dadadeiladu"
(Ni ddangosir y 2 olygiad yn y canol gan 2 ddefnyddiwr arall) | |||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
− | + | Dull ymarferol o ymdrin â thestun yw dadadeiladu, un sy’n ymwrthod â’r syniad bod modd ‘gwneud synnwyr’ o destun trwy ei esbonio, a thrwy hynny wneud iawn am unrhyw amwysedd neu unrhyw ‘ddiffyg’ arall a all fod ynddo. Yn ôl dadadeiladwyr, y cwbl a gyflawnir gan feirniadaeth lenyddol draddodiadol yw creu [[testun]] arall y gellir ei osod ochr yn ochr â’r gwreiddiol. Yn lle ceisio distyllu ‘neges’ o’r [[testun]], neu egluro bwriad yr awdur, mae beirniaid dadadeiladol yn cofleidio amwysedd ac yn gwrthod y syniad ‘logoganolaidd’ bod y fath beth â ‘gwirionedd’ i gael y tu ôl i destun. Yr hyn y mae'n rhaid i’r beirniad ei wneud yn hytrach yw cynhyrchu’r [[testun]], trwy ei ddadadeiladu, gan nad oes yna wirionedd y tu ôl i’r [[testun]] y mae’n rhaid ei atgynhyrchu. Y dadadeiladu sy’n cynhyrchu’r [[testun]]; rôl y darllenydd, felly, yw creu testun, nid ceisio cyrraedd rhyw wirionedd sydd y tu ôl iddo. Does yna ddim byd y tu allan iddo: ‘Il n’y a pas de hors texte’, chwedl Derrida. Mae i hyn oblygiadau arbennig i astudiaethau llenyddol. | |
− | Dull ymarferol o ymdrin â thestun yw dadadeiladu, un sy’n ymwrthod â’r syniad bod modd ‘gwneud synnwyr’ o destun trwy ei esbonio, a thrwy hynny wneud iawn am unrhyw amwysedd neu unrhyw ‘ddiffyg’ arall a all fod ynddo. Yn ôl dadadeiladwyr, y cwbl a gyflawnir gan feirniadaeth lenyddol draddodiadol yw creu [[testun]] arall y gellir ei osod ochr yn ochr â’r gwreiddiol. Yn lle ceisio distyllu ‘neges’ o’r [[testun]], neu egluro bwriad yr awdur, mae beirniaid dadadeiladol yn cofleidio amwysedd ac yn gwrthod y syniad ‘logoganolaidd’ bod y fath beth â ‘gwirionedd’ i gael y tu ôl i destun. Yr hyn y mae'n rhaid i’r beirniad ei wneud yn hytrach yw cynhyrchu’r testun, trwy ei ddadadeiladu, gan nad oes yna wirionedd y tu ôl i’r testun y mae’n rhaid ei atgynhyrchu. Y dadadeiladu sy’n cynhyrchu’r testun; rôl y darllenydd, felly, yw creu testun, nid ceisio cyrraedd rhyw wirionedd sydd y tu ôl iddo. Does yna ddim byd y tu allan iddo: ‘Il n’y a pas de hors texte’, chwedl Derrida. Mae i hyn oblygiadau arbennig i astudiaethau llenyddol. | ||
Jacques Derrida (1930-2004) oedd yn bennaf gyfrifol am y chwyldro hwn, ynghyd ag eraill a ysgrifennai yn Ffrangeg : Roland Barthes (1915-1980), Michel Foucault (1926-1984), Jacques Lacan (1901-1981), Julia Kristeva (1941-). Roedd aelodau o ‘Ysgol Yale’, sef grwp o ysgolheigion ym Mhrifysgol Yale a ddylanwadwyd gan athroniaeth Derrida hefyd yn allweddol: Paul de Man (1919-1983), Barbara Johnson (1947-2009), J. Hillis Miller (1928-) a Geoffrey Hartman (1929-2016). | Jacques Derrida (1930-2004) oedd yn bennaf gyfrifol am y chwyldro hwn, ynghyd ag eraill a ysgrifennai yn Ffrangeg : Roland Barthes (1915-1980), Michel Foucault (1926-1984), Jacques Lacan (1901-1981), Julia Kristeva (1941-). Roedd aelodau o ‘Ysgol Yale’, sef grwp o ysgolheigion ym Mhrifysgol Yale a ddylanwadwyd gan athroniaeth Derrida hefyd yn allweddol: Paul de Man (1919-1983), Barbara Johnson (1947-2009), J. Hillis Miller (1928-) a Geoffrey Hartman (1929-2016). | ||
Llinell 9: | Llinell 8: | ||
Un o’r enghreifftiau cyntaf o ddarlleniad dadadeiladol o destun Cymraeg oedd gwaith Johan Schimanski ar [[nofel]] Robin Llywelyn ''Seren Wen ar Gefndir Gwyn'' yn ''Tu Chwith''. Ac mae Simon Brooks ei hun yn awdur nifer o erthyglau sy’n arddangos nodweddion arddull y dadadeiladwyr. Er enghraifft gwelir chwarae ar eiriau yn rhan annatod o’r gwaith yn ei drafodaeth o ''Un Nos Ola Leuad'' gan Caradog Pritchard, a cheir ganddo chwarae ar eiriau fel : ‘di-ffin-io’ a ‘dad-eni’, a chwarae gyda’r gofod gwyn ar y dudalen, a’r defnydd o osodiad ‘''sous rature''’, sef geiriau sydd wedi’u dileu, ac eto’n dal i fod yn y golwg, h.y. gosodiad sy’n bresennol ac yn absennol ar yr un pryd. Brooks hefyd a awgrymodd y term ‘dadbwytho’ fel term amgen yn y Gymraeg, gyda’r cyfiawnhad canlynol: ‘Mae’n well gennyf i’r gair “dadbwytho” na “dadadeiladaeth” i gyfleu’r syniad o ''deconstruction'' gan fod trosiadau beirniadol fel “gweu”, “pwytho” ac “edau” wedi meddiannu lle mor ganolog yng ngeirfa yr adain dde lenyddol.’ [[Parodi]] o’r dull hwn o feirniadu a geir gan R.M. (Bobi) Jones, mewn trafodaeth o ''Te yn y Grug'' gan Kate Roberts. Ond mae eraill yn y traddodiad Cymraeg yn arddel y ‘dull o feirniadu sy’n seiliedig ar y syniad fod iaith yn llithrigfa ddi-ben-draw nad yw byth yn datgelu ystyr bendant a diamwys’ (John Rowlands), ac yn ei argymell i eraill; dywedodd John Rowlands bod angen dadadeiladwyr yng Nghymru i ‘[d]ynnu’r llechi a’r brics a’r mortar ymaith, a gweld y trawstiau, codi preniau’r llawr, a mynd at y sylfeini’. | Un o’r enghreifftiau cyntaf o ddarlleniad dadadeiladol o destun Cymraeg oedd gwaith Johan Schimanski ar [[nofel]] Robin Llywelyn ''Seren Wen ar Gefndir Gwyn'' yn ''Tu Chwith''. Ac mae Simon Brooks ei hun yn awdur nifer o erthyglau sy’n arddangos nodweddion arddull y dadadeiladwyr. Er enghraifft gwelir chwarae ar eiriau yn rhan annatod o’r gwaith yn ei drafodaeth o ''Un Nos Ola Leuad'' gan Caradog Pritchard, a cheir ganddo chwarae ar eiriau fel : ‘di-ffin-io’ a ‘dad-eni’, a chwarae gyda’r gofod gwyn ar y dudalen, a’r defnydd o osodiad ‘''sous rature''’, sef geiriau sydd wedi’u dileu, ac eto’n dal i fod yn y golwg, h.y. gosodiad sy’n bresennol ac yn absennol ar yr un pryd. Brooks hefyd a awgrymodd y term ‘dadbwytho’ fel term amgen yn y Gymraeg, gyda’r cyfiawnhad canlynol: ‘Mae’n well gennyf i’r gair “dadbwytho” na “dadadeiladaeth” i gyfleu’r syniad o ''deconstruction'' gan fod trosiadau beirniadol fel “gweu”, “pwytho” ac “edau” wedi meddiannu lle mor ganolog yng ngeirfa yr adain dde lenyddol.’ [[Parodi]] o’r dull hwn o feirniadu a geir gan R.M. (Bobi) Jones, mewn trafodaeth o ''Te yn y Grug'' gan Kate Roberts. Ond mae eraill yn y traddodiad Cymraeg yn arddel y ‘dull o feirniadu sy’n seiliedig ar y syniad fod iaith yn llithrigfa ddi-ben-draw nad yw byth yn datgelu ystyr bendant a diamwys’ (John Rowlands), ac yn ei argymell i eraill; dywedodd John Rowlands bod angen dadadeiladwyr yng Nghymru i ‘[d]ynnu’r llechi a’r brics a’r mortar ymaith, a gweld y trawstiau, codi preniau’r llawr, a mynd at y sylfeini’. | ||
− | (Gweler hefyd ôl- | + | (Gweler hefyd [[ôl-strwythuraeth]].) |
'''Heather Williams''' | '''Heather Williams''' | ||
− | |||
==Llyfryddiaeth== | ==Llyfryddiaeth== | ||
Llinell 50: | Llinell 48: | ||
Rhys, R. (1993), ‘Dadadeiladaeth Ddieflig?’, ''Barn'' 365, 44. | Rhys, R. (1993), ‘Dadadeiladaeth Ddieflig?’, ''Barn'' 365, 44. | ||
− | Schimanski, J. (1993), ‘Seren Wen ar Gefndir Gwyn [:] Genre a chenedl’, ''Tu Chwith'', 39-42. | + | Schimanski, J. (1993), ‘Seren Wen ar Gefndir Gwyn [:] Genre a chenedl’, ''Tu Chwith'',1, 39-42. |
− | |||
{{CC BY-SA}} | {{CC BY-SA}} | ||
[[Categori:Beirniadaeth a Theori]] | [[Categori:Beirniadaeth a Theori]] |
Y diwygiad cyfredol, am 10:21, 7 Chwefror 2018
Dull ymarferol o ymdrin â thestun yw dadadeiladu, un sy’n ymwrthod â’r syniad bod modd ‘gwneud synnwyr’ o destun trwy ei esbonio, a thrwy hynny wneud iawn am unrhyw amwysedd neu unrhyw ‘ddiffyg’ arall a all fod ynddo. Yn ôl dadadeiladwyr, y cwbl a gyflawnir gan feirniadaeth lenyddol draddodiadol yw creu testun arall y gellir ei osod ochr yn ochr â’r gwreiddiol. Yn lle ceisio distyllu ‘neges’ o’r testun, neu egluro bwriad yr awdur, mae beirniaid dadadeiladol yn cofleidio amwysedd ac yn gwrthod y syniad ‘logoganolaidd’ bod y fath beth â ‘gwirionedd’ i gael y tu ôl i destun. Yr hyn y mae'n rhaid i’r beirniad ei wneud yn hytrach yw cynhyrchu’r testun, trwy ei ddadadeiladu, gan nad oes yna wirionedd y tu ôl i’r testun y mae’n rhaid ei atgynhyrchu. Y dadadeiladu sy’n cynhyrchu’r testun; rôl y darllenydd, felly, yw creu testun, nid ceisio cyrraedd rhyw wirionedd sydd y tu ôl iddo. Does yna ddim byd y tu allan iddo: ‘Il n’y a pas de hors texte’, chwedl Derrida. Mae i hyn oblygiadau arbennig i astudiaethau llenyddol.
Jacques Derrida (1930-2004) oedd yn bennaf gyfrifol am y chwyldro hwn, ynghyd ag eraill a ysgrifennai yn Ffrangeg : Roland Barthes (1915-1980), Michel Foucault (1926-1984), Jacques Lacan (1901-1981), Julia Kristeva (1941-). Roedd aelodau o ‘Ysgol Yale’, sef grwp o ysgolheigion ym Mhrifysgol Yale a ddylanwadwyd gan athroniaeth Derrida hefyd yn allweddol: Paul de Man (1919-1983), Barbara Johnson (1947-2009), J. Hillis Miller (1928-) a Geoffrey Hartman (1929-2016).
Mae arddull beirniaid dadadeiladol yn gymhleth, oherwydd iddynt hwy nid ffenestr dryloyw ar ‘y gwirionedd’ sydd y tu hwnt i’r testun yw iaith o gwbl. Maent yn trin iaith yn hunanymwybodol, yn union fel y gwna bardd, gan ddefnyddio geiriau mwys, cyfeiriadaeth, bathiadau, a chwarae’n gocosaidd ar eiriau. Yng ngeiriau Jane Aaron, maent ‘mor ymwybodol o lithrigrwydd geiriau nes eu bod yn chwarae â hwynt yn ddi-baid’. Arddull dadadeiladwyr fel Derrida a Lacan sy’n gyfrifol am y cyhuddiad cyffredin eu bod yn astrus, ond mae’r cymhlethdod hwn yn allweddol, gyda’r ddadl yn deillio o’r chwarae. Gair R.M. (Bobi) Jones am y chwarae nodweddiadol ar eiriau oedd ‘direidus’. Yn y Gymraeg, sylwyd ar y ffordd y mae arddull beirniadaeth John Rowlands yn tynnu ar ei ddawn fel awdur creadigol.
Ymateb negyddol ar y cyfan fu i’r syniadau newydd yng Nghymru, a gwelir hyn yn niffiniad R. M. (Bobi) Jones o ddadadeiladu: ‘Datod, tynnu i lawr – dyna gymhelliad canolog dadadeiladu. […] Roedd yna elfen fachgennaidd o ddireidi mewn llawer o’u gwaith a’u nod hyfryd oedd tanseilio unrhyw honiad o ystyr benodol neu drefn a allai feiddio bod mewn testun.’ Bu adwaith rhyngwladol yn erbyn dadadeiladaeth, gyda rhai yn condemnio ffocws ar y testun ei hun (ar draul yr hyn sydd y tu allan i’r testun) fel gweithred anwleidyddol. Dadleuodd Jane Aaron, serch hynny, fel hyn: ‘Nid gêm ieithyddol yw dadadeiladaeth yn y bôn ond ymgais wleidyddol (yn yr ystyr eang) i ddadansoddi a diddymu grym adweithiol – grym sydd yn dibynnu ar driciau rhethregol er mwyn cynnal ei afael ar ymwybyddiaeth dorfol.’ A dangosodd Simon Brooks fod yna gysylltiad rhwng dadadeiladaeth ac amddiffyn Cymreictod rhag Prydeindod.
Un o’r enghreifftiau cyntaf o ddarlleniad dadadeiladol o destun Cymraeg oedd gwaith Johan Schimanski ar nofel Robin Llywelyn Seren Wen ar Gefndir Gwyn yn Tu Chwith. Ac mae Simon Brooks ei hun yn awdur nifer o erthyglau sy’n arddangos nodweddion arddull y dadadeiladwyr. Er enghraifft gwelir chwarae ar eiriau yn rhan annatod o’r gwaith yn ei drafodaeth o Un Nos Ola Leuad gan Caradog Pritchard, a cheir ganddo chwarae ar eiriau fel : ‘di-ffin-io’ a ‘dad-eni’, a chwarae gyda’r gofod gwyn ar y dudalen, a’r defnydd o osodiad ‘sous rature’, sef geiriau sydd wedi’u dileu, ac eto’n dal i fod yn y golwg, h.y. gosodiad sy’n bresennol ac yn absennol ar yr un pryd. Brooks hefyd a awgrymodd y term ‘dadbwytho’ fel term amgen yn y Gymraeg, gyda’r cyfiawnhad canlynol: ‘Mae’n well gennyf i’r gair “dadbwytho” na “dadadeiladaeth” i gyfleu’r syniad o deconstruction gan fod trosiadau beirniadol fel “gweu”, “pwytho” ac “edau” wedi meddiannu lle mor ganolog yng ngeirfa yr adain dde lenyddol.’ Parodi o’r dull hwn o feirniadu a geir gan R.M. (Bobi) Jones, mewn trafodaeth o Te yn y Grug gan Kate Roberts. Ond mae eraill yn y traddodiad Cymraeg yn arddel y ‘dull o feirniadu sy’n seiliedig ar y syniad fod iaith yn llithrigfa ddi-ben-draw nad yw byth yn datgelu ystyr bendant a diamwys’ (John Rowlands), ac yn ei argymell i eraill; dywedodd John Rowlands bod angen dadadeiladwyr yng Nghymru i ‘[d]ynnu’r llechi a’r brics a’r mortar ymaith, a gweld y trawstiau, codi preniau’r llawr, a mynd at y sylfeini’. (Gweler hefyd ôl-strwythuraeth.)
Heather Williams
Llyfryddiaeth
Aaron, J. (1992), ‘Darllen yn groes i’r drefn’, yn Rowlands, J. (gol.), Sglefrio ar Eiriau (Llandysul: Gomer), 63-83.
Aaron, J. (1994), ‘Dadadeiladaeth a gwleidyddiaeth’, Tu Chwith, 2, 18-26
Abrams, M. H. (1977), ‘The deconstructive angel’, Critical Inquiry, 3, ar gael yn Modern Criticism and Theory: A Reader, gol. David Lodge (Llundain: Longman, 1988), tt. 265-76.
Brooks, S. (1993), ‘La mort de Bethesda’, Tu Chwith 1, 14-28.
Brooks, S. (1994), ‘Wythfed bennod Saith Pechod Marwol’, Tu Chwith 2, 81-88.
Brooks, S. (1994), ‘Ple’r Pla a throednodiadau eraill’, Taliesin 85 (1994), 38-67
Brooks (2006), Yr Hil: ydy canu caeth diweddar yn hiliol?', yn Llenyddiaeth Mewn Theori, gol. Owen Thomas gol. Owen Thomas (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru), 1-38.
Culler, J. (1983), On Deconstruction: Theory and Criticism after Structuralism (London: Routledge).
de Man, P. (1971), Blindness and Insight: Essays in the Rhetoric of Contemporary Criticism (Efrog Newydd: Gwasg Prifysgol Rhydychen).
Jefferson, A. (1982), ‘Structuralism and poststructuralism’, yn Modern Literary Theory: A Comparative Introduction, gol. Ann Jefferson a David Robey (Llundain: Batsford), 92-121.
Jones, R. M. (1990), ‘Wrth angor (12): Dadadeiladu neu Dimotheïg’, Barddas 162, 17-21
Hillis Miller, J. (1977), ‘The critic as host’, Critical Inquiry, 3, ar gael yn Modern Criticism and Theory: A Reader, gol. David Lodge (Llundain: Longman, 1988), tt. 278-85.
Norris, C. (1987), Deconstruction: Theory and Practice (Llundain: Fontana).
Rowlands, J. (1989), Cnoi Cil ar Lenyddiaeth (Llandysul: Gwasg Gomer).
Rowlands, J. (1990), 'Beirniadu’n groes i’r graen’, Taliesin, 71 (1990), 57-65
Rowlands, J. (1996), ‘Chwarae â chwedlau: cip ar y nofel Gymraeg ôl-fodernaidd’, Y Traethodydd, CLI, rhif 636, 5-24.
Rhys, R. (1993), ‘Dadadeiladaeth Ddieflig?’, Barn 365, 44.
Schimanski, J. (1993), ‘Seren Wen ar Gefndir Gwyn [:] Genre a chenedl’, Tu Chwith,1, 39-42.
- Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.