Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Gohebydd2"

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio
(Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Saesneg: ''Correspondent'', ynghyd â ''reporter, stringer, foreign correspondent'' Mae gohebydd neu ‘riportar’ yn casglu gwybodaeth er mwyn ei...')
 
(Wedi gwacáu'r dudalen yn llwyr)
 
(Ni ddangosir y 4 golygiad yn y canol gan yr un defnyddiwr)
Llinell 1: Llinell 1:
−
Saesneg: ''Correspondent'', ynghyd â ''reporter, stringer, foreign correspondent''
 
  
−
 
−
Mae [[gohebydd]] neu ‘riportar’ yn casglu gwybodaeth er mwyn ei adrodd fel newyddion.
 
−
 
−
Yn nyddiau’r papurau newydd cynnar, yr argraffydd ei hun oedd yn casglu pytiau a gohebiaeth, ond erbyn y 1830au cyflogwyd gohebwyr i wneud y gwaith hwn.
 
−
 
−
Roedd y gohebwyr (''correspondents'') cynnar yn ysgrifennu darnau hir a manwl (a oedd weithiau’n hunandybus) am fasnach, busnes a gwleidyddiaeth. Gwaith y ''riportars'' oedd gweithredu fel stenograffyddion yn casglu storïau o ddiddordeb oddi wrth y sefydliadau lleol, megis y llysoedd a’r heddlu.
 
−
 
−
Ym marn Barnhurst a Nerone (2001), wrth i’r amser fynd yn ei flaen, enillodd gohebwyr (''reporters'') fwy o fri, braint a llais awdurdodol, ac aeth y gwahaniaeth rhwng y ddau yn llai. Serch hynny, mae gohebydd (''reporter'') yn parhau i gael ei adnabod fel y sawl sydd â’r gallu i adrodd y ffeithiau yn gywir heb eu dehongli neu fynegi barn amdanynt.
 
−
 
−
Erbyn heddiw, mae’r term ‘''correspondent''’ yn cael ei ddefnyddio i wahaniaethu rhwng newyddiadurwr arbenigol sy’n gyfrifol am ysgrifennu neu adrodd ar bwnc penodol (e.e. iechyd neu ardal ddaearyddol fel De Affrica), a gohebydd neu newyddiadurwr cyffredinol.
 
−
Gall gohebwyr hefyd weithredu’n nes at adref, fel gohebwyr lleol, neu ar ''patch'' lle maen nhw’n cynhyrchu adroddiadau ar newyddion lleol yr ardal benodol honno’n rheolaidd.
 
−
 
−
Mae rhai newyddiadurwyr yn gweithio fel gohebwyr rhan amser, neu fel ‘''stringer''’, nad ydynt yn aelodau o staff y sefydliad newyddion. Cânt eu talu yn ôl hyd y darn ysgrifenedig neu ddarllediad.
 
−
 
−
Fel arfer, gohebwyr lleol ydyn nhw sydd yn cynyddu eu hincwm trwy werthu storïau i sefydliadau newyddion eraill. Cyflogir y rhain yn aml er mwyn adrodd ar ddigwyddiadau sy’n gysylltiedig â lleoliad daearyddol penodol. Mae eu gwerth i’r cyflogwyr yn deillio o’r ffaith eu bod wedi’u trwytho yn iaith, diwylliant a daearyddiaeth yr ardal. Yn ogystal, mewn oes o gyni pan fo hi’n anodd cyfiawnhau cyflogi gohebydd tramor parhaol, mae’r newyddiadurwr llawrydd yn ddefnyddiol iawn i sefydliadau newyddion pan fo’n rhaid ymateb ar frys i ddigwyddiadau o argyfwng, megis rhyfeloedd, terfysgaeth neu drychinebau naturiol.
 
−
 
−
 
−
[[Llyfryddiaeth]]
 
−
 
−
Barnhurst, K. G. a Nerone, J. 2001. ''The Form of News: A History''. New York: Guilford
 
−
 
−
 
−
{{CC BY-SA}}
 
−
 
−
[[Categori:Newyddiaduraeth]]
 

Y diwygiad cyfredol, am 13:55, 20 Mehefin 2018