Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Iolo Morganwg"

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio
 
(Ni ddangosir y 4 golygiad yn y canol gan 3 defnyddiwr arall)
Llinell 8: Llinell 8:
 
Etifeddodd Edward Williams ddau draddodiad llenyddol: mae hyn yn bwysig wrth ystyried natur ei gyfraniad i ddiwylliannau Cymru a Lloegr yn ystod y cyfnod Rhamantaidd. Saer maen oedd ei dad, Edward William, a oedd hefyd yn ymddiddori mewn barddoniaeth Gymraeg. Dilynodd Iolo grefft ei dad, a gwelir olion ei ddiddordeb mewn naddu llythrennau yn yr wyddor ‘farddol’, ‘Coelbren y Beirdd’, a ddyfeisiodd yn y 1790au. Yn yr un modd, gwelir dylanwad cryf ei fam (a fagwyd mewn <nowiki>teulu</nowiki> llawer uwch ei statws) yn ei frwdfrydedd am lên Saesneg. Mae ei waith yn frith o ddyfyniadau gan feirdd megis James Thomson, William Shenstone a Shakespeare (a alwodd ‘the Bard of Bards’). Dysgodd reolau a hanes y canu caeth gan feirdd Blaenau Morgannwg megis Lewis Hopkin a Siôn Bradford. Bu’r geiriadurwr John Walters, Llandochau, yn gymydog iddo, a datblygodd diddordeb cynnar hefyd yng ngeirfa'r iaith Gymraeg, gan gasglu hen eiriau o lawysgrifau ac idiomau llafar yn ogystal â bathu geiriau newydd.  
 
Etifeddodd Edward Williams ddau draddodiad llenyddol: mae hyn yn bwysig wrth ystyried natur ei gyfraniad i ddiwylliannau Cymru a Lloegr yn ystod y cyfnod Rhamantaidd. Saer maen oedd ei dad, Edward William, a oedd hefyd yn ymddiddori mewn barddoniaeth Gymraeg. Dilynodd Iolo grefft ei dad, a gwelir olion ei ddiddordeb mewn naddu llythrennau yn yr wyddor ‘farddol’, ‘Coelbren y Beirdd’, a ddyfeisiodd yn y 1790au. Yn yr un modd, gwelir dylanwad cryf ei fam (a fagwyd mewn <nowiki>teulu</nowiki> llawer uwch ei statws) yn ei frwdfrydedd am lên Saesneg. Mae ei waith yn frith o ddyfyniadau gan feirdd megis James Thomson, William Shenstone a Shakespeare (a alwodd ‘the Bard of Bards’). Dysgodd reolau a hanes y canu caeth gan feirdd Blaenau Morgannwg megis Lewis Hopkin a Siôn Bradford. Bu’r geiriadurwr John Walters, Llandochau, yn gymydog iddo, a datblygodd diddordeb cynnar hefyd yng ngeirfa'r iaith Gymraeg, gan gasglu hen eiriau o lawysgrifau ac idiomau llafar yn ogystal â bathu geiriau newydd.  
  
Erbyn y 1770au roedd Iolo yn ysgrifennu cerddi yn Saesneg ac yn ymddiddori mewn hynafiaethau Cymreig a Phrydeinig. Cysylltodd â chymdeithas y Gwyneddigion a dechrau gohebu gydag Owen Jones (Owain Myfyr). Trwy’r cysylltiad hwn cafodd y cyfle i ddarllen llawysgrifau cerddi <nowiki>Dafydd</nowiki> ap Gwilym yn yr Ysgol Gymraeg yn Llundain. Bu’n brofiad gwefreiddiol iddo: dechreuodd efelychu [[arddull]] a geirfa <nowiki>Dafydd</nowiki>, ac ymdrwytho yn llên yr oesoedd canol. Erbyn 1789, pan gyhoeddodd y Gwyneddigion Barddoniaeth <nowiki>Dafydd</nowiki> Ab Gwilym, roedd gan Iolo ddwsin o gywyddau ‘newydd’ iddynt, a llawer o wybodaeth am fywyd y bardd – y cyfan yn cryfhau cysylltiadau <nowiki>Dafydd</nowiki> ap Gwilym â Morgannwg. Dyma’r ffugiadau cyntaf i ymddangos mewn print, a daeth sawl cyfle arall, dros y degawdau, wrth iddo weithio gydag Owain Myfyr a William Owen Pughe ar gasgliadau pwysig y ''Myvyrian Archaiology of Wales'' (1801-1807). Yn ogystal â cherddi, crëodd Iolo destunau yn ymwneud â hanes a chyfraith y cyfnod cynnar yng Nghymru, yn aml iawn dan ffurf draddodiadol y ‘Trioedd’. Roedd y [[Trioedd]] hefyd yn ffordd hwylus o gyfleu syniadaeth ei system ‘Barddas’, a honnai fod doethineb oes y derwyddon wedi ei throsglwyddo ar draws y canrifoedd mewn ‘aphorisms of morality in very concise, strong and luminous language’ (NLW 13108B, 3). Ym Morgannwg, yn ôl Iolo, yr oedd y traddodiad ‘dilys’ o Farddas wedi goroesi; nid yw’n syndod, efallai, i ddysgu ei fod yn honni iddo ddarfod yng ngogledd Cymru.  
+
Erbyn y 1770au roedd Iolo yn ysgrifennu cerddi yn Saesneg ac yn ymddiddori mewn hynafiaethau Cymreig a Phrydeinig. Cysylltodd â chymdeithas y Gwyneddigion a dechrau gohebu gydag Owen Jones (Owain Myfyr). Trwy’r cysylltiad hwn cafodd y cyfle i ddarllen llawysgrifau cerddi <nowiki>Dafydd</nowiki> ap Gwilym yn yr Ysgol Gymraeg yn Llundain. Bu’n brofiad gwefreiddiol iddo: dechreuodd efelychu [[arddull]] a geirfa <nowiki>Dafydd</nowiki>, ac ymdrwytho yn llên yr oesoedd canol. Erbyn 1789, pan gyhoeddodd y Gwyneddigion ''Barddoniaeth <nowiki>Dafydd</nowiki> Ab Gwilym'', roedd gan Iolo ddwsin o gywyddau ‘newydd’ iddynt, a llawer o wybodaeth am fywyd y bardd – y cyfan yn cryfhau cysylltiadau <nowiki>Dafydd</nowiki> ap Gwilym â Morgannwg. Dyma’r ffugiadau cyntaf i ymddangos mewn print, a daeth sawl cyfle arall, dros y degawdau, wrth iddo weithio gydag Owain Myfyr a William Owen Pughe ar gasgliadau pwysig y ''Myvyrian Archaiology of Wales'' (1801-1807). Yn ogystal â cherddi, crëodd Iolo destunau yn ymwneud â hanes a chyfraith y cyfnod cynnar yng Nghymru, yn aml iawn dan ffurf draddodiadol y ‘Trioedd’. Roedd y [[Trioedd]] hefyd yn ffordd hwylus o gyfleu syniadaeth ei system ‘Barddas’, a honnai fod doethineb oes y derwyddon wedi ei throsglwyddo ar draws y canrifoedd mewn ‘aphorisms of morality in very concise, strong and luminous language’ (NLW 13108B, 3). Ym Morgannwg, yn ôl Iolo, yr oedd y traddodiad ‘dilys’ o Farddas wedi goroesi; nid yw’n syndod, efallai, i ddysgu ei fod yn honni iddo ddarfod yng ngogledd Cymru.  
  
Ond nid er mwyn bychanu ‘Deudneudwyr’ y gogledd yn unig y crewyd y byd rhyfeddol hwn. Yn ôl Cathryn Charnell-White, ‘Ymgais ymwybodol yw Barddas a'i helfennau […] i brofi i'r byd Seisnig dylanwadol mai cenedl soffistigedig a syber oedd y Cymry’. Gwelir olion meddwl Ioloaidd, a dyfyniadau o’r [[Trioedd]], yng ngwaith awduron Seisnig yr oes, gan gynnwys William Wordsworth, Robert Southey, William Blake a Samuel Taylor Coleridge. Ymddiddorodd sawl un yn seremoni yr Orsedd, a gynhaliwyd am y tro cyntaf ‘yn wyneb haul a llygaid goleuni’ ar Fryn y Briallu yn Llundain ym 1792. Dyna gyfnod hynod gynhyrchiol ym mywyd Iolo, pan fu’n byw yn y ddinas am ryw dair blynedd ac yn paratoi at gyhoeddi ei ''Poems, Lyric and Pastoral'' (1794). Llafurus iawn fu’r broses o gyhoeddi trwy danysgrifiadau, ac roedd profiadau Iolo yn Llundain wedi achosi iselder difrifol (‘London ruins everyone’, ysgrifennodd at ei wraig Peggy, gan gyfaddef ei fod yn ystyried ei ladd ei hun). Ac eto mae rhyw egni ffyrnig yn perthyn i’r blynyddoedd hyn: rhoddodd ei brofiadau fin ar ei wleidyddiaeth radicalaidd, a cheir ymhlith y troednodiadau i’w gerddi ymosodiadau tanbaid yn erbyn ‘kingcraft, priestcraft’ a llywodraeth William Pitt. Roedd hi’n adeg o ryfel yn erbyn Ffrainc, ac ystyriai Iolo ei hun yn ‘Jacobin’. Cefnogai syniadau Tom Paine a Thomas Spence, ac roedd yn symud mewn cylchoedd oedd yn cynnwys ffigurau megis William Godwin a John Thelwall. Daeth hefyd i adnabod rhai o’r Undodwyr mwyaf dylanwadol, gan gynnwys y [[teulu]] Aiken/Barbauld a’r cyhoeddwr Joseph Johnson. Wedi iddo ddychwelyd o Lundain, roedd Iolo ymhlith sylfaenwyr Undodiaeth yng Nghymru, ac ysgrifennodd a chyhoeddodd gannoedd o emynau ar gyfer yr achos.       
+
Ond nid er mwyn bychanu ‘Deudneudwyr’ y gogledd yn unig y crewyd y byd rhyfeddol hwn. Yn ôl Cathryn Charnell-White, ‘Ymgais ymwybodol yw Barddas a'i helfennau […] i brofi i'r byd Seisnig dylanwadol mai cenedl soffistigedig a syber oedd y Cymry’. Gwelir olion meddwl Ioloaidd, a dyfyniadau o’r [[Trioedd]], yng ngwaith awduron Seisnig yr oes, gan gynnwys William Wordsworth, Robert Southey, William Blake a Samuel Taylor Coleridge. Ymddiddorodd sawl un yn seremoni yr Orsedd, a gynhaliwyd am y tro cyntaf ‘yn wyneb haul a llygaid goleuni’ ar Fryn y Briallu yn Llundain ym 1792. Dyna gyfnod hynod gynhyrchiol ym mywyd Iolo, pan fu’n byw yn y ddinas am ryw dair blynedd ac yn paratoi at gyhoeddi ei ''Poems, Lyric and Pastoral'' (1794). Llafurus iawn fu’r broses o gyhoeddi trwy danysgrifiadau, ac roedd profiadau Iolo yn Llundain wedi achosi iselder difrifol (‘London ruins everyone’, ysgrifennodd at ei wraig Peggy, gan gyfaddef ei fod yn ystyried ei ladd ei hun). Ac eto mae rhyw egni ffyrnig yn perthyn i’r blynyddoedd hyn: rhoddodd ei brofiadau fin ar ei wleidyddiaeth radicalaidd, a cheir ymhlith y troednodiadau i’w gerddi ymosodiadau tanbaid yn erbyn ‘kingcraft, priestcraft’ a llywodraeth William Pitt. Roedd hi’n adeg o ryfel yn erbyn Ffrainc, ac ystyriai Iolo ei hun yn ‘Jacobin’. Cefnogai syniadau Tom Paine a Thomas Spence, ac roedd yn symud mewn cylchoedd oedd yn cynnwys ffigurau megis William Godwin a John Thelwall. Daeth hefyd i adnabod rhai o’r Undodwyr mwyaf dylanwadol, gan gynnwys y <nowiki>teulu</nowiki> Aiken/Barbauld a’r cyhoeddwr Joseph Johnson. Wedi iddo ddychwelyd o Lundain, roedd Iolo ymhlith sylfaenwyr Undodiaeth yng Nghymru, ac ysgrifennodd a chyhoeddodd gannoedd o emynau ar gyfer yr achos.       
 
    
 
    
 
Yn y 1800au, yn ôl yn Nhrefflemin, datblygodd Iolo ei syniadau barddol a’u lledaenu trwy eisteddfodau lleol y Cymreigyddion, gyda chymorth ei fab Taliesin, a ddaeth yn athro ysgol ym Merthyr Tudful. Trwy Taliesin dylanwadodd Iolo ar ôl ei farwolaeth ar gylch yr Arglwyddes Llanofer (Gwenynen Gwent) ac ar yr hanesydd Thomas Price (Carnhuanawc). Cadwyd cyfrolau niferus o lawysgrifau Iolo yn Nhŷ Llanofer ei hun, a chyhoeddwyd detholiad ohonynt gan John Williams (Ab Ithel) dan y teitl ''Barddas: A collection of original documents, illustrative of the theology, wisdom, and usages of the bardo-druidic system of the isle of Britain''. (1862, 1874). Rhoddodd y cyfrolau hyn hwb pellach i syniadaeth farddol Iolo, er gwaethaf ymdrechion llym yr hanesydd Thomas Stephens ar hyd y ganrif i ddadadeiladu ei sylfeini rhamantaidd.   
 
Yn y 1800au, yn ôl yn Nhrefflemin, datblygodd Iolo ei syniadau barddol a’u lledaenu trwy eisteddfodau lleol y Cymreigyddion, gyda chymorth ei fab Taliesin, a ddaeth yn athro ysgol ym Merthyr Tudful. Trwy Taliesin dylanwadodd Iolo ar ôl ei farwolaeth ar gylch yr Arglwyddes Llanofer (Gwenynen Gwent) ac ar yr hanesydd Thomas Price (Carnhuanawc). Cadwyd cyfrolau niferus o lawysgrifau Iolo yn Nhŷ Llanofer ei hun, a chyhoeddwyd detholiad ohonynt gan John Williams (Ab Ithel) dan y teitl ''Barddas: A collection of original documents, illustrative of the theology, wisdom, and usages of the bardo-druidic system of the isle of Britain''. (1862, 1874). Rhoddodd y cyfrolau hyn hwb pellach i syniadaeth farddol Iolo, er gwaethaf ymdrechion llym yr hanesydd Thomas Stephens ar hyd y ganrif i ddadadeiladu ei sylfeini rhamantaidd.   
  
Gwelir felly bod syniadau Iolo Morganwg wedi dylanwadu’n gryf ar sawl agwedd o fywyd diwylliannol Cymru. Yn bennaf, cyflwynodd draddodiad llenyddol newydd i’r genedl, gan osod testunau dilys yr oesoedd canol mewn fframwaith hynafol dychmygol. [[Testun]] balchder oedd hynafiaeth a phurdeb y traddodiad hwn am y rhan fwyaf o’r 19g. yn ogystal â chysur i rai yn ystod adeg Brad y Llyfrau Gleision, pan ddibrisiwyd yr iaith a’r diwylliant yn eithafol. Ond, fel yr amlinellwyd eisoes, cymysg a chymleth fu hanes yr etifeddiaeth ‘farddol’ wedyn.  
+
Gwelir felly bod syniadau Iolo Morganwg wedi dylanwadu’n gryf ar sawl agwedd o fywyd diwylliannol Cymru. Yn bennaf, cyflwynodd draddodiad llenyddol newydd i’r genedl, gan osod testunau dilys yr oesoedd canol mewn fframwaith hynafol dychmygol. <nowiki>Testun</nowiki> balchder oedd hynafiaeth a phurdeb y traddodiad hwn am y rhan fwyaf o’r 19g. yn ogystal â chysur i rai yn ystod adeg Brad y Llyfrau Gleision, pan ddibrisiwyd yr iaith a’r diwylliant yn eithafol. Ond, fel yr amlinellwyd eisoes, cymysg a chymleth fu hanes yr etifeddiaeth ‘farddol’ wedyn.  
  
Ryw ganrif ar ôl marwolaeth Iolo Morganwg, cyhoeddodd G. J. Williams ei astudiaeth fanwl o gerddi’r ‘Ychwanegiad’ i gyfrol [[Dafydd]] ap Gwilym. Yn wahanol i Syr John Rhys, nid yw’n beirniadu Iolo am ‘lygredu’ llên Cymru. Mae’n rhyfeddu yn hytrach at feddwl cyfoethog a chymhleth y bardd ‘aflonydd’ o Drefflemin, gan gydnabod ei ddawn lenyddol, ei egni, a’r dylanwad cryf a gafodd ei bersonoliaeth a’i syniadau ar draws Cymru ac ymhell y tu hwnt. Nid yw’n syndod, efallai, i’r hanesydd Prys Morgan sôn am Iolo fel rhyw fath o ‘one-man Romanticism’. Gwelir natur amlochrog ei waith yn y cyfrolau a ddeilliodd o brosiect ymchwil Canolfan Uwchefrydiau Cymraeg a Cheltaidd Prifysgol Cymru, 'Iolo Morganwg a’r Traddodiad Rhamantaidd yng Nghymru'. Cyhoeddwyd [[nofel]] yn ei lais yn 2017 hefyd. Nid yw’r drafodaeth fywiog am y ffigur allweddol hwn yn agos at ei dihysbyddu eto.     
+
Ryw ganrif ar ôl marwolaeth Iolo Morganwg, cyhoeddodd G. J. Williams ei astudiaeth fanwl o gerddi’r ‘Ychwanegiad’ i gyfrol <nowiki>Dafydd</nowiki> ap Gwilym. Yn wahanol i Syr John Rhys, nid yw’n beirniadu Iolo am ‘lygredu’ llên Cymru. Mae’n rhyfeddu yn hytrach at feddwl cyfoethog a chymhleth y bardd ‘aflonydd’ o Drefflemin, gan gydnabod ei ddawn lenyddol, ei egni, a’r dylanwad cryf a gafodd ei bersonoliaeth a’i syniadau ar draws Cymru ac ymhell y tu hwnt. Nid yw’n syndod, efallai, i’r hanesydd Prys Morgan sôn am Iolo fel rhyw fath o ‘one-man Romanticism’. Gwelir natur amlochrog ei waith yn y cyfrolau a ddeilliodd o brosiect ymchwil Canolfan Uwchefrydiau Cymraeg a Cheltaidd Prifysgol Cymru, 'Iolo Morganwg a’r Traddodiad Rhamantaidd yng Nghymru'. Cyhoeddwyd [[nofel]] yn ei lais yn 2017 hefyd. Nid yw’r drafodaeth fywiog am y ffigur allweddol hwn yn agos at ei dihysbyddu eto.     
  
 
'''Mary-Ann Constantine'''
 
'''Mary-Ann Constantine'''
Llinell 22: Llinell 22:
 
==Llyfryddiaeth==
 
==Llyfryddiaeth==
  
Constantine, M.-A. (2007), ''The Truth Against the World: Iolo Morganwg and Romantic Forgery'' ([[Caerdydd]]: Gwasg Prifysgol Cymru).
+
Constantine, M.-A. (2007), ''The Truth Against the World: Iolo Morganwg and Romantic Forgery'' (<nowiki>Caerdydd</nowiki>: Gwasg Prifysgol Cymru).
  
Charnell-White, C. (2007), ''Bardic Circles: National, Regional and Personal Idendity in the Bardic Vision of Iolo Morganwg'' ([[Caerdydd]]: Gwasg Prifysgol Cymru).
+
Charnell-White, C. (2007), ''Bardic Circles: National, Regional and Personal Idendity in the Bardic Vision of Iolo Morganwg'' (<nowiki>Caerdydd</nowiki>: Gwasg Prifysgol Cymru).
  
Davies, D. W.  (2002), ''Presences that Disturb: Models of Romantic Identity in the Literature and Culture of the 1790s'' ([[Caerdydd]]: Gwasg Prifysgol Cymru).  
+
Davies, D. W.  (2002), ''Presences that Disturb: Models of Romantic Identity in the Literature and Culture of the 1790s'' (<nowiki>Caerdydd</nowiki>: Gwasg Prifysgol Cymru).  
  
Jenkins, G.H. (gol.) (2005), ''A Rattleskull Genius: The Many Faces of Iolo Morganwg'' ([[Caerdydd]]: Gwasg Prifysgol Cymru).
+
Jenkins, G.H. (gol.) (2005), ''A Rattleskull Genius: The Many Faces of Iolo Morganwg'' (<nowiki>Caerdydd</nowiki>: Gwasg Prifysgol Cymru).
  
Jenkins, G. H.,  Jones, Ff. a Jones, D. (goln) (2007),'' The Correspondence of Iolo Morganwg'', 3 cyf. ([[Caerdydd]]: Gwasg Prifysgol Cymru).
+
Jenkins, G. H.,  Jones, Ff. a Jones, D. (goln) (2007),'' The Correspondence of Iolo Morganwg'', 3 cyf. (<nowiki>Caerdydd</nowiki>: Gwasg Prifysgol Cymru).
  
Jenkins, G.H. (2012), ''Bard of Liberty: The Political Radicalism of Iolo Morganwg'' (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru).
+
Jenkins, G.H. (2012), ''Bard of Liberty: The Political Radicalism of Iolo Morganwg'' (<nowiki>Caerdydd</nowiki>: Gwasg Prifysgol Cymru).
  
Jones, Ff. (2010),'' ‘The Bard is a Very Singular Character’: Iolo Morganwg, Marginalia and Print Culture'' (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru).
+
Jones, Ff. (2010),'' ‘The Bard is a Very Singular Character’: Iolo Morganwg, Marginalia and Print Culture'' (<nowiki>Caerdydd</nowiki>: Gwasg Prifysgol Cymru).
  
Löffler, M. (2007), ''The Literary and Historical Legacy of Iolo Morganwg, 1826-1926'' (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru).
+
Löffler, M. (2007), ''The Literary and Historical Legacy of Iolo Morganwg, 1826-1926'' (<nowiki>Caerdydd</nowiki>: Gwasg Prifysgol Cymru).
  
 
Thomas, G. (2017), ''Myfi, Iolo'' (Y Lolfa).
 
Thomas, G. (2017), ''Myfi, Iolo'' (Y Lolfa).
Llinell 44: Llinell 44:
 
Williams, G. J. (1926) ''Iolo Morganwg a Chywyddau'r Ychwanegiad ''(Llundain: Cymdeithas yr Eisteddfod Genedlaethol).
 
Williams, G. J. (1926) ''Iolo Morganwg a Chywyddau'r Ychwanegiad ''(Llundain: Cymdeithas yr Eisteddfod Genedlaethol).
  
Williams, G. J. (1956)'' Iolo Morganwg'' (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru).
+
Williams, G. J. (1956)'' Iolo Morganwg'' (<nowiki>Caerdydd</nowiki>: Gwasg Prifysgol Cymru).
 
 
 
 
  
 
{{CC BY-SA}}
 
{{CC BY-SA}}
 
[[Categori:Beirniadaeth a Theori]]
 
[[Categori:Beirniadaeth a Theori]]

Y diwygiad cyfredol, am 08:27, 20 Awst 2018

Adwaenir 'Iolo Morganwg' (Edward Williams, 1747-1826) am ei gyfraniadau dylanwadol at ddeffroad diwylliannol Cymru ar ddiwedd y 18g. Dylanwad rhyfeddol o gymhleth oedd hwn, a effeithiodd ar sawl maes yn ystod y ddwy ganrif ganlynol. Os gwelir ôl ei syniadau yn bennaf ym meysydd iaith, llên a hanes, ac yn enwedig yn nhwf cenedlaetholdeb, gadawodd yn ogystal etifeddiaeth wleidyddol a chrefyddol sydd bellach yn llai adnabyddus. Cyfrannodd rywfaint hefyd at ddatblygu pynciau megis amaethyddiaeth, archaeoleg a llên gwerin, ac mae ambell i enghraifft o’i waith fel saer maen i’w ddarganfod hyd heddiw ym mro Morgannwg.

Nid ehangder ac amrywiaeth ei ddiddordebau sy’n ei gwneud yn anodd pwyso a mesur dylanwad Iolo Morganwg ar ddiwylliant Cymru, wrth gwrs, ond natur ei gyfraniad. Os oedd Cymry’r 19g. wedi derbyn ei weledigaeth farddol yn frwd (gydag ambell i sgeptig, fel Thomas Stephens), roedd ymateb ysgolheigion i ddarganfyddiadau G. J. Williams ar ddechrau’r 20g. yn ffyrnig. Sut y gallai rhywun a ystyrid yn ‘saer y genedl’ fod yn ffugiwr, neu (yng ngeiriau Syr John Rhŷs, yn y rhagymadrodd i waith Williams) yn ‘dwyllwr’ ac yn ‘ddyn cas, llawn casineb’? Ac os oedd seiliau sigledig i hanes a llenyddiaeth Cymru—os oedd testunau a defodau ffug wedi eu plethu i ganol y dystiolaeth ddilys—sut oedd mynd ati i ddadadeiladu yr hen naratifau, a chreu rhai newydd a dibynadwy?

Cafodd dysgu am ffugiadau Iolo Morganwg yr un effaith yng Nghymru, bron, ag y cafodd darganfyddiadau tebyg am ‘ddyfeisio hanes’ ar draws Prydain ac Ewrop yn ystod y cyfnod Rhamantaidd. Gwelir yr un math o ddadlau ffyrnig yn sgil cyhoeddi cerddi ‘Ossian’ yn yr Alban, y Barzaz-Breiz yn Llydaw, neu’r Kalevala yn y Ffindir. Er bod hanes pob diwylliant yn sicr yn unigryw, buddiol yw gosod gweledigaeth Iolo yng nghyd-destun ehangach y cyfnod er mwyn gweld yr un ysfa i greu etifeddiaeth i’r genedl trwy ddefnyddio ac ailddychmygu ffynonellau hynafol.

Etifeddodd Edward Williams ddau draddodiad llenyddol: mae hyn yn bwysig wrth ystyried natur ei gyfraniad i ddiwylliannau Cymru a Lloegr yn ystod y cyfnod Rhamantaidd. Saer maen oedd ei dad, Edward William, a oedd hefyd yn ymddiddori mewn barddoniaeth Gymraeg. Dilynodd Iolo grefft ei dad, a gwelir olion ei ddiddordeb mewn naddu llythrennau yn yr wyddor ‘farddol’, ‘Coelbren y Beirdd’, a ddyfeisiodd yn y 1790au. Yn yr un modd, gwelir dylanwad cryf ei fam (a fagwyd mewn teulu llawer uwch ei statws) yn ei frwdfrydedd am lên Saesneg. Mae ei waith yn frith o ddyfyniadau gan feirdd megis James Thomson, William Shenstone a Shakespeare (a alwodd ‘the Bard of Bards’). Dysgodd reolau a hanes y canu caeth gan feirdd Blaenau Morgannwg megis Lewis Hopkin a Siôn Bradford. Bu’r geiriadurwr John Walters, Llandochau, yn gymydog iddo, a datblygodd diddordeb cynnar hefyd yng ngeirfa'r iaith Gymraeg, gan gasglu hen eiriau o lawysgrifau ac idiomau llafar yn ogystal â bathu geiriau newydd.

Erbyn y 1770au roedd Iolo yn ysgrifennu cerddi yn Saesneg ac yn ymddiddori mewn hynafiaethau Cymreig a Phrydeinig. Cysylltodd â chymdeithas y Gwyneddigion a dechrau gohebu gydag Owen Jones (Owain Myfyr). Trwy’r cysylltiad hwn cafodd y cyfle i ddarllen llawysgrifau cerddi Dafydd ap Gwilym yn yr Ysgol Gymraeg yn Llundain. Bu’n brofiad gwefreiddiol iddo: dechreuodd efelychu arddull a geirfa Dafydd, ac ymdrwytho yn llên yr oesoedd canol. Erbyn 1789, pan gyhoeddodd y Gwyneddigion Barddoniaeth Dafydd Ab Gwilym, roedd gan Iolo ddwsin o gywyddau ‘newydd’ iddynt, a llawer o wybodaeth am fywyd y bardd – y cyfan yn cryfhau cysylltiadau Dafydd ap Gwilym â Morgannwg. Dyma’r ffugiadau cyntaf i ymddangos mewn print, a daeth sawl cyfle arall, dros y degawdau, wrth iddo weithio gydag Owain Myfyr a William Owen Pughe ar gasgliadau pwysig y Myvyrian Archaiology of Wales (1801-1807). Yn ogystal â cherddi, crëodd Iolo destunau yn ymwneud â hanes a chyfraith y cyfnod cynnar yng Nghymru, yn aml iawn dan ffurf draddodiadol y ‘Trioedd’. Roedd y Trioedd hefyd yn ffordd hwylus o gyfleu syniadaeth ei system ‘Barddas’, a honnai fod doethineb oes y derwyddon wedi ei throsglwyddo ar draws y canrifoedd mewn ‘aphorisms of morality in very concise, strong and luminous language’ (NLW 13108B, 3). Ym Morgannwg, yn ôl Iolo, yr oedd y traddodiad ‘dilys’ o Farddas wedi goroesi; nid yw’n syndod, efallai, i ddysgu ei fod yn honni iddo ddarfod yng ngogledd Cymru.

Ond nid er mwyn bychanu ‘Deudneudwyr’ y gogledd yn unig y crewyd y byd rhyfeddol hwn. Yn ôl Cathryn Charnell-White, ‘Ymgais ymwybodol yw Barddas a'i helfennau […] i brofi i'r byd Seisnig dylanwadol mai cenedl soffistigedig a syber oedd y Cymry’. Gwelir olion meddwl Ioloaidd, a dyfyniadau o’r Trioedd, yng ngwaith awduron Seisnig yr oes, gan gynnwys William Wordsworth, Robert Southey, William Blake a Samuel Taylor Coleridge. Ymddiddorodd sawl un yn seremoni yr Orsedd, a gynhaliwyd am y tro cyntaf ‘yn wyneb haul a llygaid goleuni’ ar Fryn y Briallu yn Llundain ym 1792. Dyna gyfnod hynod gynhyrchiol ym mywyd Iolo, pan fu’n byw yn y ddinas am ryw dair blynedd ac yn paratoi at gyhoeddi ei Poems, Lyric and Pastoral (1794). Llafurus iawn fu’r broses o gyhoeddi trwy danysgrifiadau, ac roedd profiadau Iolo yn Llundain wedi achosi iselder difrifol (‘London ruins everyone’, ysgrifennodd at ei wraig Peggy, gan gyfaddef ei fod yn ystyried ei ladd ei hun). Ac eto mae rhyw egni ffyrnig yn perthyn i’r blynyddoedd hyn: rhoddodd ei brofiadau fin ar ei wleidyddiaeth radicalaidd, a cheir ymhlith y troednodiadau i’w gerddi ymosodiadau tanbaid yn erbyn ‘kingcraft, priestcraft’ a llywodraeth William Pitt. Roedd hi’n adeg o ryfel yn erbyn Ffrainc, ac ystyriai Iolo ei hun yn ‘Jacobin’. Cefnogai syniadau Tom Paine a Thomas Spence, ac roedd yn symud mewn cylchoedd oedd yn cynnwys ffigurau megis William Godwin a John Thelwall. Daeth hefyd i adnabod rhai o’r Undodwyr mwyaf dylanwadol, gan gynnwys y teulu Aiken/Barbauld a’r cyhoeddwr Joseph Johnson. Wedi iddo ddychwelyd o Lundain, roedd Iolo ymhlith sylfaenwyr Undodiaeth yng Nghymru, ac ysgrifennodd a chyhoeddodd gannoedd o emynau ar gyfer yr achos.

Yn y 1800au, yn ôl yn Nhrefflemin, datblygodd Iolo ei syniadau barddol a’u lledaenu trwy eisteddfodau lleol y Cymreigyddion, gyda chymorth ei fab Taliesin, a ddaeth yn athro ysgol ym Merthyr Tudful. Trwy Taliesin dylanwadodd Iolo ar ôl ei farwolaeth ar gylch yr Arglwyddes Llanofer (Gwenynen Gwent) ac ar yr hanesydd Thomas Price (Carnhuanawc). Cadwyd cyfrolau niferus o lawysgrifau Iolo yn Nhŷ Llanofer ei hun, a chyhoeddwyd detholiad ohonynt gan John Williams (Ab Ithel) dan y teitl Barddas: A collection of original documents, illustrative of the theology, wisdom, and usages of the bardo-druidic system of the isle of Britain. (1862, 1874). Rhoddodd y cyfrolau hyn hwb pellach i syniadaeth farddol Iolo, er gwaethaf ymdrechion llym yr hanesydd Thomas Stephens ar hyd y ganrif i ddadadeiladu ei sylfeini rhamantaidd.

Gwelir felly bod syniadau Iolo Morganwg wedi dylanwadu’n gryf ar sawl agwedd o fywyd diwylliannol Cymru. Yn bennaf, cyflwynodd draddodiad llenyddol newydd i’r genedl, gan osod testunau dilys yr oesoedd canol mewn fframwaith hynafol dychmygol. Testun balchder oedd hynafiaeth a phurdeb y traddodiad hwn am y rhan fwyaf o’r 19g. yn ogystal â chysur i rai yn ystod adeg Brad y Llyfrau Gleision, pan ddibrisiwyd yr iaith a’r diwylliant yn eithafol. Ond, fel yr amlinellwyd eisoes, cymysg a chymleth fu hanes yr etifeddiaeth ‘farddol’ wedyn.

Ryw ganrif ar ôl marwolaeth Iolo Morganwg, cyhoeddodd G. J. Williams ei astudiaeth fanwl o gerddi’r ‘Ychwanegiad’ i gyfrol Dafydd ap Gwilym. Yn wahanol i Syr John Rhys, nid yw’n beirniadu Iolo am ‘lygredu’ llên Cymru. Mae’n rhyfeddu yn hytrach at feddwl cyfoethog a chymhleth y bardd ‘aflonydd’ o Drefflemin, gan gydnabod ei ddawn lenyddol, ei egni, a’r dylanwad cryf a gafodd ei bersonoliaeth a’i syniadau ar draws Cymru ac ymhell y tu hwnt. Nid yw’n syndod, efallai, i’r hanesydd Prys Morgan sôn am Iolo fel rhyw fath o ‘one-man Romanticism’. Gwelir natur amlochrog ei waith yn y cyfrolau a ddeilliodd o brosiect ymchwil Canolfan Uwchefrydiau Cymraeg a Cheltaidd Prifysgol Cymru, 'Iolo Morganwg a’r Traddodiad Rhamantaidd yng Nghymru'. Cyhoeddwyd nofel yn ei lais yn 2017 hefyd. Nid yw’r drafodaeth fywiog am y ffigur allweddol hwn yn agos at ei dihysbyddu eto.

Mary-Ann Constantine

Llyfryddiaeth

Constantine, M.-A. (2007), The Truth Against the World: Iolo Morganwg and Romantic Forgery (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru).

Charnell-White, C. (2007), Bardic Circles: National, Regional and Personal Idendity in the Bardic Vision of Iolo Morganwg (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru).

Davies, D. W. (2002), Presences that Disturb: Models of Romantic Identity in the Literature and Culture of the 1790s (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru).

Jenkins, G.H. (gol.) (2005), A Rattleskull Genius: The Many Faces of Iolo Morganwg (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru).

Jenkins, G. H., Jones, Ff. a Jones, D. (goln) (2007), The Correspondence of Iolo Morganwg, 3 cyf. (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru).

Jenkins, G.H. (2012), Bard of Liberty: The Political Radicalism of Iolo Morganwg (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru).

Jones, Ff. (2010), ‘The Bard is a Very Singular Character’: Iolo Morganwg, Marginalia and Print Culture (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru).

Löffler, M. (2007), The Literary and Historical Legacy of Iolo Morganwg, 1826-1926 (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru).

Thomas, G. (2017), Myfi, Iolo (Y Lolfa).

Waring, E. (1850) Recollections and Anecdotes of Edward Williams, the bard of Glamorgan, or, Iolo Morganwg (Llundain).

Williams, G. J. (1926) Iolo Morganwg a Chywyddau'r Ychwanegiad (Llundain: Cymdeithas yr Eisteddfod Genedlaethol).

Williams, G. J. (1956) Iolo Morganwg (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru).


Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.