Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Evans, David (1943-2013)"
CadiW (Sgwrs | cyfraniadau) (Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda ''''Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn [https://www.ylolfa.com/cynnyrch/9781784616250/cydymaith-i-gerddoriaeth-cymru''Cydymaith i Gerddori...') |
CadiW (Sgwrs | cyfraniadau) |
||
(Ni ddangosir y 2 olygiad yn y canol gan yr un defnyddiwr) | |||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
+ | __NOAUTOLINKS__ | ||
'''Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn [https://www.ylolfa.com/cynnyrch/9781784616250/cydymaith-i-gerddoriaeth-cymru''Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru''], cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.''' | '''Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn [https://www.ylolfa.com/cynnyrch/9781784616250/cydymaith-i-gerddoriaeth-cymru''Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru''], cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.''' | ||
− | Darlithydd a [[cherddoregydd]] a fu ar wahanol adegau mewn gyrfa academaidd hir ac amrywiol yn dysgu ym mhob un o adrannau cerdd [[Prifysgol]] Cymru: | + | Darlithydd a [[Hanesyddiaeth, Ysgolheictod a Cherddoreg | cherddoregydd]] a fu ar wahanol adegau mewn gyrfa academaidd hir ac amrywiol yn dysgu ym mhob un o adrannau cerdd [[Prifysgolion a Cherddoriaeth yng Nghymru | Prifysgol]] Cymru: Caerdydd, Aberystwyth a Bangor. |
− | Ganed David Richmond Arnold Evans yn Llanelli ar 21 Chwefror 1943. Datblygodd ddiddordeb mewn cerddoriaeth pan yn ifanc, gan ddysgu’r Corn Ffrengig. Bu’n aelod o Gerddorfa Ieuenctid Cymru ar ddiwedd yr 1950au pan oedd cerddorion ifanc megis [[John Cale]] a [[Karl Jenkins]] hefyd yn aelodau. Aeth ymlaen i astudio cerddoriaeth yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Caerdydd, yn ystod y cyfnod pan oedd [[Alun Hoddinott]] yn bennaeth, cyn cychwyn ar yrfa academaidd a barhaodd am dros 40 mlynedd. | + | Ganed David Richmond Arnold Evans yn Llanelli ar 21 Chwefror 1943. Datblygodd ddiddordeb mewn cerddoriaeth pan yn ifanc, gan ddysgu’r Corn Ffrengig. Bu’n aelod o Gerddorfa Ieuenctid Cymru ar ddiwedd yr 1950au pan oedd cerddorion ifanc megis [[Cale, John (g.1942) | John Cale]] a [[Jenkins, Karl (g.1944) | Karl Jenkins]] hefyd yn aelodau. Aeth ymlaen i astudio cerddoriaeth yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Caerdydd, yn ystod y cyfnod pan oedd [[Hoddinott, Alun (1929-2008) | Alun Hoddinott]] yn bennaeth, cyn cychwyn ar yrfa academaidd a barhaodd am dros 40 mlynedd. |
− | Fel ysgolhaig, roedd ei ddiddordebau yn ymestyn o gerddoriaeth y dadeni hwyr fel [[Thomas Tomkins]] (1572–1656) ac Adrian Batten (c. | + | Fel ysgolhaig, roedd ei ddiddordebau yn ymestyn o gerddoriaeth y dadeni hwyr fel [[Tomkins, Thomas (1572-1656) | Thomas Tomkins]] (1572–1656) ac Adrian Batten (''c''.1591–''c''.1637), at gerddoriaeth y 19g., yn arbennig Felix Mendelssohn (1809–47). Roedd yn awdurdod ar lawysgrifau a rhanlyfrau o gerddoriaeth o’r 17g. a gofnodwyd yng Nghastell y Waun. Daeth yn ddarlithydd (ac yn ddiweddarach yn uwch-ddarlithydd) yng Ngholeg Prifysgol Cymru Bangor yn 1990, a bu yno hyd at ei ymddeoliad yn 2009. Roedd cerddoriaeth ymarferol yn hynod bwysig iddo ac roedd yn [[Arweinydd, Arweinyddion | arweinydd corawl]] medrus. Esgorodd ei waith ar gerddoriaeth Castell y Waun ar recordiad yn 2009 gan gantorion y Brabant Ensemble o dan arweinyddiaeth Stephen Rice. |
'''Chris Collins a Graeme Cotterill''' | '''Chris Collins a Graeme Cotterill''' | ||
Llinell 11: | Llinell 12: | ||
==Disgyddiaeth== | ==Disgyddiaeth== | ||
− | + | *''Music from the Chirk Castle Part-Books'' (Hyperion CDA67695, 2009) | |
{{CC BY-SA Cydymaith}} | {{CC BY-SA Cydymaith}} | ||
+ | [[Categori:Cerddoriaeth]] |
Y diwygiad cyfredol, am 22:35, 1 Mehefin 2021
Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.
Darlithydd a cherddoregydd a fu ar wahanol adegau mewn gyrfa academaidd hir ac amrywiol yn dysgu ym mhob un o adrannau cerdd Prifysgol Cymru: Caerdydd, Aberystwyth a Bangor.
Ganed David Richmond Arnold Evans yn Llanelli ar 21 Chwefror 1943. Datblygodd ddiddordeb mewn cerddoriaeth pan yn ifanc, gan ddysgu’r Corn Ffrengig. Bu’n aelod o Gerddorfa Ieuenctid Cymru ar ddiwedd yr 1950au pan oedd cerddorion ifanc megis John Cale a Karl Jenkins hefyd yn aelodau. Aeth ymlaen i astudio cerddoriaeth yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Caerdydd, yn ystod y cyfnod pan oedd Alun Hoddinott yn bennaeth, cyn cychwyn ar yrfa academaidd a barhaodd am dros 40 mlynedd.
Fel ysgolhaig, roedd ei ddiddordebau yn ymestyn o gerddoriaeth y dadeni hwyr fel Thomas Tomkins (1572–1656) ac Adrian Batten (c.1591–c.1637), at gerddoriaeth y 19g., yn arbennig Felix Mendelssohn (1809–47). Roedd yn awdurdod ar lawysgrifau a rhanlyfrau o gerddoriaeth o’r 17g. a gofnodwyd yng Nghastell y Waun. Daeth yn ddarlithydd (ac yn ddiweddarach yn uwch-ddarlithydd) yng Ngholeg Prifysgol Cymru Bangor yn 1990, a bu yno hyd at ei ymddeoliad yn 2009. Roedd cerddoriaeth ymarferol yn hynod bwysig iddo ac roedd yn arweinydd corawl medrus. Esgorodd ei waith ar gerddoriaeth Castell y Waun ar recordiad yn 2009 gan gantorion y Brabant Ensemble o dan arweinyddiaeth Stephen Rice.
Chris Collins a Graeme Cotterill
Disgyddiaeth
- Music from the Chirk Castle Part-Books (Hyperion CDA67695, 2009)
- Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.