Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Bassey, Shirley (g.1937)"
CadiW (Sgwrs | cyfraniadau) |
CadiW (Sgwrs | cyfraniadau) |
||
(Ni ddangosir y golygiad yn y canol gan yr un defnyddiwr) | |||
Llinell 4: | Llinell 4: | ||
Gyda’i llais contralto grymus a phresenoldeb llwyfan arbennig, roedd Bassey yn un o gantoresau pop mwyaf llwyddiannus yr 20g. | Gyda’i llais contralto grymus a phresenoldeb llwyfan arbennig, roedd Bassey yn un o gantoresau pop mwyaf llwyddiannus yr 20g. | ||
− | Fe’i ganed yn ardal Bute, Caerdydd. Roedd ei thad, Henry Bassey, yn wreiddiol o Nigeria, tra hanai ei mam, Eliza Jane Start, o Newcastle. Er iddi ddangos addewid lleisiol yn ifanc, ni chafodd fawr o anogaeth a gadawodd yr ysgol yn 14 mlwydd oed. Tra’r oedd yn ei harddegau parhaodd i ganu mewn clybiau. Fodd bynnag, yn 1955 aeth i ganu i’r West End yn Llundain. Daeth i amlygrwydd cenedlaethol yn ystod yr 1950au hwyr a’r 1960au cynnar gyda’i pherfformiadau o faledi pop melodramatig o sioeau cerdd neu ffilmiau poblogaidd, megis ‘As long as he needs me’ (Lionel Bart, ''Oliver!)'' neu ‘Climb ev’ry mountain’ (Rodgers & Hammerstein, ''The Sound of Music)''. Yn 1958 aeth dehongliad Bassey o ‘As I Love You’ i rif 1 yn siartiau Prydain – hi oedd y gantores gyntaf o Gymru i lwyddo yn y modd hwn. | + | Fe’i ganed yn ardal Bute, Caerdydd. Roedd ei thad, Henry Bassey, yn wreiddiol o Nigeria, tra hanai ei mam, Eliza Jane Start, o Newcastle. Er iddi ddangos addewid lleisiol yn ifanc, ni chafodd fawr o anogaeth a gadawodd yr ysgol yn 14 mlwydd oed. Tra’r oedd yn ei harddegau parhaodd i ganu mewn clybiau. Fodd bynnag, yn 1955 aeth i ganu i’r West End yn Llundain. Daeth i amlygrwydd cenedlaethol yn ystod yr 1950au hwyr a’r 1960au cynnar gyda’i pherfformiadau o faledi pop melodramatig o sioeau cerdd neu ffilmiau poblogaidd, megis ‘As long as he needs me’ (Lionel Bart, ''Oliver!)'' neu ‘Climb ev’ry mountain’ (Rodgers & Hammerstein, ''The Sound of Music)''. Yn 1958 aeth dehongliad Bassey o ‘As I Love You’ i rif 1 yn siartiau Prydain – hi oedd y gantores gyntaf o Gymru i lwyddo yn y modd hwn. [[Delwedd:Shirley Bassey, 1971.jpeg|thumb|<small>Shirley Bassey, 1971.</small>]] |
Parhaodd ei phoblogrwydd yn yr 1960au, gyda’i dehongliad pwerus o’r gân ‘Big Spender’ o’r sioe gerdd ''Sweet Charity'' gan Cy Coleman (1966) yn gwneud argraff arbennig. Daeth llais Bassey hefyd yn gyfarwydd ar draws sinemâu’r wlad pan y’i dewiswyd i berfformio’r gân deitl mewn tair o’r ffilmiau yng nghyfres James Bond, gan gynnwys ''Goldfinger'' (1964; geiriau gan L. Bricusse ac A. Newley), ''Diamonds Are Forever'' (1972; geiriau gan D. Black) a ''Moonraker'' (1979; geiriau gan H. David). Bu’r 1970au yn un o’i chyfnodau mwyaf llewyrchus. Rhwng 1970 ac 1979 aeth 18 o’i recordiau hir i’r siartiau Prydeinig gan gynnwys ''Something'' (United Artists, 1970) a arhosodd yn y siartiau am gyfnod o bum mis. | Parhaodd ei phoblogrwydd yn yr 1960au, gyda’i dehongliad pwerus o’r gân ‘Big Spender’ o’r sioe gerdd ''Sweet Charity'' gan Cy Coleman (1966) yn gwneud argraff arbennig. Daeth llais Bassey hefyd yn gyfarwydd ar draws sinemâu’r wlad pan y’i dewiswyd i berfformio’r gân deitl mewn tair o’r ffilmiau yng nghyfres James Bond, gan gynnwys ''Goldfinger'' (1964; geiriau gan L. Bricusse ac A. Newley), ''Diamonds Are Forever'' (1972; geiriau gan D. Black) a ''Moonraker'' (1979; geiriau gan H. David). Bu’r 1970au yn un o’i chyfnodau mwyaf llewyrchus. Rhwng 1970 ac 1979 aeth 18 o’i recordiau hir i’r siartiau Prydeinig gan gynnwys ''Something'' (United Artists, 1970) a arhosodd yn y siartiau am gyfnod o bum mis. | ||
− | Roedd nifer fawr o recordiau mwyaf poblogaidd Bassey wedi eu trefnu a’u harwain gan Johnny Franz a Norman Newell, ond roedd ei dawn leisiol yn ei galluogi i symud i gyfeiriadau [[jazz]] hefyd, megis yr albwm ''Let’s Face The Music'' (EMI, 1962) gyda’r [[arweinydd]] ''Big Band'' Americanaidd Nelson Riddle. Bu’n cydweithio gydag artistiaid eraill ar rai prosiectau digon anarferol, megis y band Yello ar y sengl ‘The Rhythm Divine’ (Mercury, 1989) a’r Propellerheads ar ‘History Repeating’ (Wall of Sound, 1997). Perfformiodd fersiwn o’r gân ‘World in Union’ ar y cyd â [[Bryn Terfel]] yn seremoni agoriadol cystadleuaeth Cwpan Rygbi’r Byd 1999 yn Stadiwm y Mileniwm, Caerdydd, gan wisgo gŵn a oedd wedi ei gynllunio o’r ddraig goch. Aeth y sengl i’r siartiau Prydeinig, gyda’r albwm ''Land of My Fathers'' yn cyrraedd rhif 1. Fodd bynnag, daeth ymddangosiadau cyhoeddus Bassey yn llai rheolaidd yn ystod degawd cyntaf yr 21g. Bu’n ffigwr dylanwadol iawn ym myd [[canu poblogaidd]], gyda’i hedmygwyr yn cynnwys Marc Almond o’r grŵp electronaidd Soft Cell, Neil Tennant o’r Pet Shop Boys a’r [[Manic Street Preachers]]. Cydnabuwyd ei chyfraniadau i’r byd pop ym Mhrydain pan dderbyniodd CBE yn 1993 a’r DBE yn 2000. | + | Roedd nifer fawr o recordiau mwyaf poblogaidd Bassey wedi eu trefnu a’u harwain gan Johnny Franz a Norman Newell, ond roedd ei dawn leisiol yn ei galluogi i symud i gyfeiriadau [[jazz]] hefyd, megis yr albwm ''Let’s Face The Music'' (EMI, 1962) gyda’r [[Arweinydd, Arweinyddion | arweinydd]] ''Big Band'' Americanaidd Nelson Riddle. Bu’n cydweithio gydag artistiaid eraill ar rai prosiectau digon anarferol, megis y band Yello ar y sengl ‘The Rhythm Divine’ (Mercury, 1989) a’r Propellerheads ar ‘History Repeating’ (Wall of Sound, 1997). Perfformiodd fersiwn o’r gân ‘World in Union’ ar y cyd â [[Terfel, Bryn (g.1965) | Bryn Terfel]] yn seremoni agoriadol cystadleuaeth Cwpan Rygbi’r Byd 1999 yn Stadiwm y Mileniwm, Caerdydd, gan wisgo gŵn a oedd wedi ei gynllunio o’r ddraig goch. Aeth y sengl i’r siartiau Prydeinig, gyda’r albwm ''Land of My Fathers'' yn cyrraedd rhif 1. Fodd bynnag, daeth ymddangosiadau cyhoeddus Bassey yn llai rheolaidd yn ystod degawd cyntaf yr 21g. Bu’n ffigwr dylanwadol iawn ym myd [[Poblogaidd, Cerddoriaeth | canu poblogaidd]], gyda’i hedmygwyr yn cynnwys Marc Almond o’r grŵp electronaidd Soft Cell, Neil Tennant o’r Pet Shop Boys a’r [[Manic Street Preachers]]. Cydnabuwyd ei chyfraniadau i’r byd pop ym Mhrydain pan dderbyniodd CBE yn 1993 a’r DBE yn 2000. |
'''Pwyll ap Siôn''' | '''Pwyll ap Siôn''' |
Y diwygiad cyfredol, am 16:26, 11 Medi 2021
Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.
Gyda’i llais contralto grymus a phresenoldeb llwyfan arbennig, roedd Bassey yn un o gantoresau pop mwyaf llwyddiannus yr 20g.
Fe’i ganed yn ardal Bute, Caerdydd. Roedd ei thad, Henry Bassey, yn wreiddiol o Nigeria, tra hanai ei mam, Eliza Jane Start, o Newcastle. Er iddi ddangos addewid lleisiol yn ifanc, ni chafodd fawr o anogaeth a gadawodd yr ysgol yn 14 mlwydd oed. Tra’r oedd yn ei harddegau parhaodd i ganu mewn clybiau. Fodd bynnag, yn 1955 aeth i ganu i’r West End yn Llundain. Daeth i amlygrwydd cenedlaethol yn ystod yr 1950au hwyr a’r 1960au cynnar gyda’i pherfformiadau o faledi pop melodramatig o sioeau cerdd neu ffilmiau poblogaidd, megis ‘As long as he needs me’ (Lionel Bart, Oliver!) neu ‘Climb ev’ry mountain’ (Rodgers & Hammerstein, The Sound of Music). Yn 1958 aeth dehongliad Bassey o ‘As I Love You’ i rif 1 yn siartiau Prydain – hi oedd y gantores gyntaf o Gymru i lwyddo yn y modd hwn.Parhaodd ei phoblogrwydd yn yr 1960au, gyda’i dehongliad pwerus o’r gân ‘Big Spender’ o’r sioe gerdd Sweet Charity gan Cy Coleman (1966) yn gwneud argraff arbennig. Daeth llais Bassey hefyd yn gyfarwydd ar draws sinemâu’r wlad pan y’i dewiswyd i berfformio’r gân deitl mewn tair o’r ffilmiau yng nghyfres James Bond, gan gynnwys Goldfinger (1964; geiriau gan L. Bricusse ac A. Newley), Diamonds Are Forever (1972; geiriau gan D. Black) a Moonraker (1979; geiriau gan H. David). Bu’r 1970au yn un o’i chyfnodau mwyaf llewyrchus. Rhwng 1970 ac 1979 aeth 18 o’i recordiau hir i’r siartiau Prydeinig gan gynnwys Something (United Artists, 1970) a arhosodd yn y siartiau am gyfnod o bum mis.
Roedd nifer fawr o recordiau mwyaf poblogaidd Bassey wedi eu trefnu a’u harwain gan Johnny Franz a Norman Newell, ond roedd ei dawn leisiol yn ei galluogi i symud i gyfeiriadau jazz hefyd, megis yr albwm Let’s Face The Music (EMI, 1962) gyda’r arweinydd Big Band Americanaidd Nelson Riddle. Bu’n cydweithio gydag artistiaid eraill ar rai prosiectau digon anarferol, megis y band Yello ar y sengl ‘The Rhythm Divine’ (Mercury, 1989) a’r Propellerheads ar ‘History Repeating’ (Wall of Sound, 1997). Perfformiodd fersiwn o’r gân ‘World in Union’ ar y cyd â Bryn Terfel yn seremoni agoriadol cystadleuaeth Cwpan Rygbi’r Byd 1999 yn Stadiwm y Mileniwm, Caerdydd, gan wisgo gŵn a oedd wedi ei gynllunio o’r ddraig goch. Aeth y sengl i’r siartiau Prydeinig, gyda’r albwm Land of My Fathers yn cyrraedd rhif 1. Fodd bynnag, daeth ymddangosiadau cyhoeddus Bassey yn llai rheolaidd yn ystod degawd cyntaf yr 21g. Bu’n ffigwr dylanwadol iawn ym myd canu poblogaidd, gyda’i hedmygwyr yn cynnwys Marc Almond o’r grŵp electronaidd Soft Cell, Neil Tennant o’r Pet Shop Boys a’r Manic Street Preachers. Cydnabuwyd ei chyfraniadau i’r byd pop ym Mhrydain pan dderbyniodd CBE yn 1993 a’r DBE yn 2000.
Pwyll ap Siôn
Disgyddiaeth
Detholiad o gasgliadau rhwng 1965–1988:
- The Golden Sound Of Shirley Bassey (MGM Records SE4301, 1965)
- The Spectacular Shirley Bassey (Philips PHS 600-168, 1965)
- Born To Sing The Blues (Wing Records WL-1160, 1967)
- Golden Hits Of Shirley Bassey (Columbia SCX-6294, 1968)
- The Fabulous Shirley Bassey (Music For Pleasure MFP-1398, 1970)
- The Best Of Bassey (Fontana 859051FZY, 1970)
- The Shirley Bassey Collection (United Artists Records UAD60013, 1972)
- The Magic Of Shirley Bassey (Sounds Superb SPR-90024, 1973)
- The Shirley Bassey Collection Vol. II (United Artists Records UAD60111, 1975)
- The Shirley Bassey Singles Album (United Artists Records UAS29728, 1975)
- The Second Album Of The Very Best Of Shirley Bassey (EMI SCX6584, 1975)
- 20 Golden Film Hits (EMI NTS112, 1977)
- 25th Anniversary Album (United Artists Records SBTV60147/48, 1978)
- 21 Hit Singles (EMI EMTC105, 1979)
- Diamonds: The Best Of Shirley Bassey (EMI CDP7-90469- 2, 1988)
- Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.