Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Stereophonics"
CadiW (Sgwrs | cyfraniadau) |
CadiW (Sgwrs | cyfraniadau) |
||
(Ni ddangosir y 4 golygiad yn y canol gan yr un defnyddiwr) | |||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
+ | __NOAUTOLINKS__ | ||
'''Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn [https://www.ylolfa.com/cynnyrch/9781784616250/cydymaith-i-gerddoriaeth-cymru''Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru''], cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.''' | '''Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn [https://www.ylolfa.com/cynnyrch/9781784616250/cydymaith-i-gerddoriaeth-cymru''Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru''], cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.''' | ||
− | [[Grŵp roc]] o Gwm Cynon a ffurfiwyd yn 1992 yw’r Stereophonics. Cychwynnodd y band yn wreiddiol yn 1986, a hynny o dan yr enw Zephyr, gan Kelly Jones (llais/gitâr) a Stuart Cable (drymiau), a oedd yn byw yn yr un stryd yng Nghwmaman. Ar ôl cyfnod yn canu o dan yr enw Tragic Love Company, daeth yr enw Stereophonics wedi iddynt gael eu harwyddo gan label Richard Branson, V2, gyda Richard Jones (bas) ac Adam Zindani (gitâr) yn cwblhau’r pedwarawd gwreiddiol. | + | [[Poblogaidd, Cerddoriaeth | Grŵp roc]] o Gwm Cynon a ffurfiwyd yn 1992 yw’r Stereophonics. Cychwynnodd y band yn wreiddiol yn 1986, a hynny o dan yr enw Zephyr, gan Kelly Jones (llais/gitâr) a Stuart Cable (drymiau), a oedd yn byw yn yr un stryd yng Nghwmaman. Ar ôl cyfnod yn canu o dan yr enw Tragic Love Company, daeth yr enw Stereophonics wedi iddynt gael eu harwyddo gan label Richard Branson, V2, gyda Richard Jones (bas) ac Adam Zindani (gitâr) yn cwblhau’r pedwarawd gwreiddiol. [[Delwedd: Stereophonics_gig_O2.jpeg|thumb|<small> Y Stereophonics yn perfformio yn yr O2 Arena, Llundain.</small>]] |
− | Yn 1996 rhyddhawyd eu sengl gyntaf, ''Looks Like Chaplin/More Life In A Tramp’s Vest'', a gwelwyd y grŵp yn cael ei gymharu gan y wasg â’r [[Manic Street Preachers]]. Ar ôl hynny daeth albwm cyntaf llwyddiannus, ''Word Gets Around'' (1997), a aeth i rif 6 yn y siartiau Prydeinig, a thaith fyd-eang. Cafodd eu hail albwm, ''Performance and Cocktails'' (1999), dderbyniad brwd hefyd, a daeth 50,000 i wrando arnynt yn | + | Yn 1996 rhyddhawyd eu sengl gyntaf, ''Looks Like Chaplin/More Life In A Tramp’s Vest'', a gwelwyd y grŵp yn cael ei gymharu gan y wasg â’r [[Manic Street Preachers]]. Ar ôl hynny daeth albwm cyntaf llwyddiannus, ''Word Gets Around'' (1997), a aeth i rif 6 yn y siartiau Prydeinig, a thaith fyd-eang. Cafodd eu hail albwm, ''Performance and Cocktails'' (1999), dderbyniad brwd hefyd, a daeth 50,000 i wrando arnynt yn perfformio yn Stadiwm y Morfa, Abertawe, yn ddiweddarach yn ystod y flwyddyn honno. Llwyddodd y band i gythruddo rhai o gefnogwyr tîm rygbi Lloegr trwy berfformio’r gân ddychanol ‘As Long as We Beat The English’. Rhyddhawyd y perfformiad ar ffurf DVD yn 2000. |
− | Erbyn 2000, felly, roedd Stereophonics yn un o’r grwpiau Cymreig mwyaf llwyddiannus yn y diwydiant. Er na ryddhawyd albwm ganddynt yn ystod y flwyddyn honno, cyrhaeddodd eu fersiwn o gân Randy Newman, ‘Mama Told Me Not to Come’, a hynny ar y cyd â’r canwr [[Tom Jones]], rif 4 yn y siartiau ym mis Mawrth. Dros y blynyddoedd nesaf tyfodd eu poblogrwydd yn sgil sawl albwm cryf a pherfformiadau cofiadwy. Er mwyn hyrwyddo eu halbwm ''Just Enough Education to Perform'' (V2, 2001) trefnodd y grŵp ddau berfformiad mewn un penwythnos (ym mharc Donington a Stadiwm y Mileniwm) gan lwyddo i werthu dros 200,000 o docynnau. Roedd yr albwm yn cynnwys y gân boblogaidd ‘Have a Nice Day’. Daeth rhagor o lwyddiant wrth i’r sengl ‘Dakota’, o’r albwm ''Language. Sex. Violence. Other?'' (V2, 2005), gyrraedd rhif 1 yn y siartiau. Dyma oes aur y band (er i Stuart Cable ymadael) ac yn 2008 rhyddhawyd albwm o’u caneuon gorau, sef ''Decade in the Sun'' (V2, 2008). Er i gyfnod distawach ddilyn, aeth yr albwm ''Keep the Village Alive'' (Stylus, 2015), y cyntaf gyda Jamie Morrison fel drymiwr, i rif 1 yn y siartiau Prydeinig. | + | Erbyn 2000, felly, roedd Stereophonics yn un o’r grwpiau Cymreig mwyaf llwyddiannus yn y diwydiant. Er na ryddhawyd albwm ganddynt yn ystod y flwyddyn honno, cyrhaeddodd eu fersiwn o gân Randy Newman, ‘Mama Told Me Not to Come’, a hynny ar y cyd â’r canwr [[Jones, Tom (g.1940) | Tom Jones]], rif 4 yn y siartiau ym mis Mawrth. Dros y blynyddoedd nesaf tyfodd eu poblogrwydd yn sgil sawl albwm cryf a pherfformiadau cofiadwy. Er mwyn hyrwyddo eu halbwm ''Just Enough Education to Perform'' (V2, 2001) trefnodd y grŵp ddau berfformiad mewn un penwythnos (ym mharc Donington a Stadiwm y Mileniwm) gan lwyddo i werthu dros 200,000 o docynnau. Roedd yr albwm yn cynnwys y gân boblogaidd ‘Have a Nice Day’. Daeth rhagor o lwyddiant wrth i’r sengl ‘Dakota’, o’r albwm ''Language. Sex. Violence. Other?'' (V2, 2005), gyrraedd rhif 1 yn y siartiau. Dyma oes aur y band (er i Stuart Cable ymadael) ac yn 2008 rhyddhawyd albwm o’u caneuon gorau, sef ''Decade in the Sun'' (V2, 2008). Er i gyfnod distawach ddilyn, aeth yr albwm ''Keep the Village Alive'' (Stylus, 2015), y cyntaf gyda Jamie Morrison fel drymiwr, i rif 1 yn y siartiau Prydeinig. |
− | Disgrifir ''genre''’r grŵp fel ‘roc amgen’ neu ‘roc | + | Disgrifir ''genre''’r grŵp fel ‘roc amgen’ neu ‘roc ''indie’'' a nodweddir eu sain gan lais cryg Kelly Jones. Fe’i cymharwyd ef â chantorion fel Rod Stewart ac amlygiad penodol o hynny yw’r sengl ‘Handbags and Gladrags’ (2001) a recordiwyd yn flaenorol gan Stewart yn 1969. Ar wahân i ‘Dakota’, dyma’r unig sengl arall gan y grŵp a dderbyniodd statws ‘aur’ o ganlyniad i’w llwyddiant masnachol. |
− | ''indie’'' a nodweddir eu sain gan lais cryg Kelly Jones. Fe’i cymharwyd ef â chantorion fel Rod Stewart ac amlygiad penodol o hynny yw’r sengl ‘Handbags and Gladrags’ (2001) a recordiwyd yn flaenorol gan Stewart yn 1969. Ar wahân i ‘Dakota’, dyma’r unig sengl arall gan y grŵp a dderbyniodd statws ‘aur’ o ganlyniad i’w llwyddiant masnachol. | ||
'''Gethin Griffiths''' | '''Gethin Griffiths''' |
Y diwygiad cyfredol, am 12:02, 26 Medi 2021
Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.
Grŵp roc o Gwm Cynon a ffurfiwyd yn 1992 yw’r Stereophonics. Cychwynnodd y band yn wreiddiol yn 1986, a hynny o dan yr enw Zephyr, gan Kelly Jones (llais/gitâr) a Stuart Cable (drymiau), a oedd yn byw yn yr un stryd yng Nghwmaman. Ar ôl cyfnod yn canu o dan yr enw Tragic Love Company, daeth yr enw Stereophonics wedi iddynt gael eu harwyddo gan label Richard Branson, V2, gyda Richard Jones (bas) ac Adam Zindani (gitâr) yn cwblhau’r pedwarawd gwreiddiol.Yn 1996 rhyddhawyd eu sengl gyntaf, Looks Like Chaplin/More Life In A Tramp’s Vest, a gwelwyd y grŵp yn cael ei gymharu gan y wasg â’r Manic Street Preachers. Ar ôl hynny daeth albwm cyntaf llwyddiannus, Word Gets Around (1997), a aeth i rif 6 yn y siartiau Prydeinig, a thaith fyd-eang. Cafodd eu hail albwm, Performance and Cocktails (1999), dderbyniad brwd hefyd, a daeth 50,000 i wrando arnynt yn perfformio yn Stadiwm y Morfa, Abertawe, yn ddiweddarach yn ystod y flwyddyn honno. Llwyddodd y band i gythruddo rhai o gefnogwyr tîm rygbi Lloegr trwy berfformio’r gân ddychanol ‘As Long as We Beat The English’. Rhyddhawyd y perfformiad ar ffurf DVD yn 2000.
Erbyn 2000, felly, roedd Stereophonics yn un o’r grwpiau Cymreig mwyaf llwyddiannus yn y diwydiant. Er na ryddhawyd albwm ganddynt yn ystod y flwyddyn honno, cyrhaeddodd eu fersiwn o gân Randy Newman, ‘Mama Told Me Not to Come’, a hynny ar y cyd â’r canwr Tom Jones, rif 4 yn y siartiau ym mis Mawrth. Dros y blynyddoedd nesaf tyfodd eu poblogrwydd yn sgil sawl albwm cryf a pherfformiadau cofiadwy. Er mwyn hyrwyddo eu halbwm Just Enough Education to Perform (V2, 2001) trefnodd y grŵp ddau berfformiad mewn un penwythnos (ym mharc Donington a Stadiwm y Mileniwm) gan lwyddo i werthu dros 200,000 o docynnau. Roedd yr albwm yn cynnwys y gân boblogaidd ‘Have a Nice Day’. Daeth rhagor o lwyddiant wrth i’r sengl ‘Dakota’, o’r albwm Language. Sex. Violence. Other? (V2, 2005), gyrraedd rhif 1 yn y siartiau. Dyma oes aur y band (er i Stuart Cable ymadael) ac yn 2008 rhyddhawyd albwm o’u caneuon gorau, sef Decade in the Sun (V2, 2008). Er i gyfnod distawach ddilyn, aeth yr albwm Keep the Village Alive (Stylus, 2015), y cyntaf gyda Jamie Morrison fel drymiwr, i rif 1 yn y siartiau Prydeinig.
Disgrifir genre’r grŵp fel ‘roc amgen’ neu ‘roc indie’ a nodweddir eu sain gan lais cryg Kelly Jones. Fe’i cymharwyd ef â chantorion fel Rod Stewart ac amlygiad penodol o hynny yw’r sengl ‘Handbags and Gladrags’ (2001) a recordiwyd yn flaenorol gan Stewart yn 1969. Ar wahân i ‘Dakota’, dyma’r unig sengl arall gan y grŵp a dderbyniodd statws ‘aur’ o ganlyniad i’w llwyddiant masnachol.
Gethin Griffiths
Disgyddiaeth
- Word Gets Around (V2 VVR1000432 1997)
- Performance and Cocktails (V2 VVR1004492, 1999)
- Just Enough Education to Perform (V2 VVR1015842, 2001)
- You Gotta Go There to Come Back (V2 VVR1021902, 2003)
- Language. Sex. Violence. Other? (V2 VVR1031052, 2005)
- Pull the Pin (V2 VVR1048562, 2007)
- Keep Calm and Carry On (Mercury 00602527197753, 2009)
- Graffiti on the Train (Stylus STYLUSCD3, 2013)
- Keep the Village Alive (Stylus STYLUSCD8, 2015)
- Scream Above The Sounds (Parlophone 0190295767990, 2017
- Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.