Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Calennig, Canu"
CadiW (Sgwrs | cyfraniadau) |
CadiW (Sgwrs | cyfraniadau) |
||
(Ni ddangosir y golygiad yn y canol gan yr un defnyddiwr) | |||
Llinell 2: | Llinell 2: | ||
'''Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn [https://www.ylolfa.com/cynnyrch/9781784616250/cydymaith-i-gerddoriaeth-cymru''Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru''], cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.''' | '''Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn [https://www.ylolfa.com/cynnyrch/9781784616250/cydymaith-i-gerddoriaeth-cymru''Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru''], cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.''' | ||
− | Ffurf ar [[ganu gwasael]] yw canu Calennig, ac efallai mai ei ddiben gwreiddiol oedd dymuno bendith a ffrwythlondeb i drigolion y tŷ; mae hefyd ynghlwm wrth yr arfer o gyflwyno anrhegion y flwyddyn newydd, arfer sy’n ymestyn yn ôl i gyfnod y Rhufeiniaid. Yn y cyfnod diweddar, cysylltwyd yr arfer yn fwy gyda phlant na chydag oedolion. Arferid dechrau’n fore a pharhau tan ganol dydd, gan fynd o dŷ i dŷ o fewn y gymdogaeth. Ceir disgrifiad o orllewin Morgannwg yn 1819 sy’n sôn am gwmni o blant yn mynd o amgylch gydag afal yn llawn o ŷd, wedi ei addurno â gwyrddni (Owen 1974, 44). | + | Ffurf ar [[Gwasael, Canu | ganu gwasael]] yw canu Calennig, ac efallai mai ei ddiben gwreiddiol oedd dymuno bendith a ffrwythlondeb i drigolion y tŷ; mae hefyd ynghlwm wrth yr arfer o gyflwyno anrhegion y flwyddyn newydd, arfer sy’n ymestyn yn ôl i gyfnod y Rhufeiniaid. Yn y cyfnod diweddar, cysylltwyd yr arfer yn fwy gyda phlant na chydag oedolion. Arferid dechrau’n fore a pharhau tan ganol dydd, gan fynd o dŷ i dŷ o fewn y gymdogaeth. Ceir disgrifiad o orllewin Morgannwg yn 1819 sy’n sôn am gwmni o blant yn mynd o amgylch gydag afal yn llawn o ŷd, wedi ei addurno â gwyrddni (Owen 1974, 44). |
Byddai’r cantorion yn cario cwd o amgylch eu gyddfau i ddal y bwyd neu’r arian a gynigid iddynt, ac weithiau’n cario ffon i guro ar y drws i ddeffro’r teulu. Cenid penillion wrth y drws, a byddai trigolion y tŷ yn rhoi eu hanrhegion i’r plant. Ym Morgannwg ac yn Sir Benfro cofnodwyd fel y byddai’r cantorion yn cario dŵr ac yn ei daenellu ar drigolion y tŷ gyda sbrigyn o focs i ddod â bendith, arfer sydd efallai’n gysylltiedig â’r hen arfer eglwysig o daenellu dŵr sanctaidd. | Byddai’r cantorion yn cario cwd o amgylch eu gyddfau i ddal y bwyd neu’r arian a gynigid iddynt, ac weithiau’n cario ffon i guro ar y drws i ddeffro’r teulu. Cenid penillion wrth y drws, a byddai trigolion y tŷ yn rhoi eu hanrhegion i’r plant. Ym Morgannwg ac yn Sir Benfro cofnodwyd fel y byddai’r cantorion yn cario dŵr ac yn ei daenellu ar drigolion y tŷ gyda sbrigyn o focs i ddod â bendith, arfer sydd efallai’n gysylltiedig â’r hen arfer eglwysig o daenellu dŵr sanctaidd. | ||
− | Diogelwyd nifer o enghreifftiau o ganeuon Calennig: o Sir Benfro y daw un o’r hynaf ohonynt, ‘Deffrowch ben teulu’, sydd ar fesur cywydd deuair fyrion ([[Kinney]] 2011, 84). Gosodwyd geiriau penillion Calennig ar donau poblogaidd o ffynonellau eraill: er enghraifft, cenir y geiriau adnabyddus, ‘Blwyddyn newydd dda i chi / Ac i bawb sydd yn y tŷ’ i addasiad o gytgan cân ''gospel'' o Ogledd America, ‘The bright for-evermore’. Cenid llawer o’r un penillion mewn gwahanol ardaloedd o Gymru: maent yn cynnwys elfennau o ofyn am fwyd neu arian ac o ddymuno llwyddiant, er enghraifft: | + | Diogelwyd nifer o enghreifftiau o ganeuon Calennig: o Sir Benfro y daw un o’r hynaf ohonynt, ‘Deffrowch ben teulu’, sydd ar fesur cywydd deuair fyrion ([[Kinney, Phyllis (g.1922) | Kinney]] 2011, 84). Gosodwyd geiriau penillion Calennig ar donau poblogaidd o ffynonellau eraill: er enghraifft, cenir y geiriau adnabyddus, ‘Blwyddyn newydd dda i chi / Ac i bawb sydd yn y tŷ’ i addasiad o gytgan cân ''gospel'' o Ogledd America, ‘The bright for-evermore’. Cenid llawer o’r un penillion mewn gwahanol ardaloedd o Gymru: maent yn cynnwys elfennau o ofyn am fwyd neu arian ac o ddymuno llwyddiant, er enghraifft: |
:Mi godais heddiw’n fore | :Mi godais heddiw’n fore | ||
Llinell 24: | Llinell 24: | ||
:(Ifans 1983, 94) | :(Ifans 1983, 94) | ||
+ | |||
'''Rhidian Griffiths''' | '''Rhidian Griffiths''' |
Y diwygiad cyfredol, am 08:30, 2 Mehefin 2021
Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.
Ffurf ar ganu gwasael yw canu Calennig, ac efallai mai ei ddiben gwreiddiol oedd dymuno bendith a ffrwythlondeb i drigolion y tŷ; mae hefyd ynghlwm wrth yr arfer o gyflwyno anrhegion y flwyddyn newydd, arfer sy’n ymestyn yn ôl i gyfnod y Rhufeiniaid. Yn y cyfnod diweddar, cysylltwyd yr arfer yn fwy gyda phlant na chydag oedolion. Arferid dechrau’n fore a pharhau tan ganol dydd, gan fynd o dŷ i dŷ o fewn y gymdogaeth. Ceir disgrifiad o orllewin Morgannwg yn 1819 sy’n sôn am gwmni o blant yn mynd o amgylch gydag afal yn llawn o ŷd, wedi ei addurno â gwyrddni (Owen 1974, 44).
Byddai’r cantorion yn cario cwd o amgylch eu gyddfau i ddal y bwyd neu’r arian a gynigid iddynt, ac weithiau’n cario ffon i guro ar y drws i ddeffro’r teulu. Cenid penillion wrth y drws, a byddai trigolion y tŷ yn rhoi eu hanrhegion i’r plant. Ym Morgannwg ac yn Sir Benfro cofnodwyd fel y byddai’r cantorion yn cario dŵr ac yn ei daenellu ar drigolion y tŷ gyda sbrigyn o focs i ddod â bendith, arfer sydd efallai’n gysylltiedig â’r hen arfer eglwysig o daenellu dŵr sanctaidd.
Diogelwyd nifer o enghreifftiau o ganeuon Calennig: o Sir Benfro y daw un o’r hynaf ohonynt, ‘Deffrowch ben teulu’, sydd ar fesur cywydd deuair fyrion ( Kinney 2011, 84). Gosodwyd geiriau penillion Calennig ar donau poblogaidd o ffynonellau eraill: er enghraifft, cenir y geiriau adnabyddus, ‘Blwyddyn newydd dda i chi / Ac i bawb sydd yn y tŷ’ i addasiad o gytgan cân gospel o Ogledd America, ‘The bright for-evermore’. Cenid llawer o’r un penillion mewn gwahanol ardaloedd o Gymru: maent yn cynnwys elfennau o ofyn am fwyd neu arian ac o ddymuno llwyddiant, er enghraifft:
- Mi godais heddiw’n fore
- I gerdded at eich tai
- I ymofyn ambell chwechyn –
- Mi gymeraf beth yn llai.
- Gobeithio y ca’i fynd adre
- Yn llawen er fy lles,
- A’m cod yn llawn o arian
- A llawer iawn o bres.
- A diolch fydd i chwi
- Am ddim a gefais i
- A bendith fyddo arnoch
- A phob peth yn eich tŷ.
- (Ifans 1983, 94)
Rhidian Griffiths
Llyfryddiaeth
- Trefor M. Owen, Welsh Folk Customs (Caerdydd, 1974)
- Rhiannon Ifans, Sêrs a Rybana (Llandysul, 1983)
- Phyllis Kinney, Welsh Traditional Music (Caerdydd, 2011)
- Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.