Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Triawd y Coleg"
CadiW (Sgwrs | cyfraniadau) |
CadiW (Sgwrs | cyfraniadau) |
||
(Ni ddangosir y 2 olygiad yn y canol gan yr un defnyddiwr) | |||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
− | + | __NOAUTOLINKS__ | |
'''Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn [https://www.ylolfa.com/cynnyrch/9781784616250/cydymaith-i-gerddoriaeth-cymru''Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru''], cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.''' | '''Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn [https://www.ylolfa.com/cynnyrch/9781784616250/cydymaith-i-gerddoriaeth-cymru''Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru''], cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.''' | ||
− | Gwnaeth Triawd y Coleg gyfraniad allweddol i ddatblygiad [[cerddoriaeth boblogaidd]] yn yr iaith Gymraeg. | + | Gwnaeth Triawd y Coleg gyfraniad allweddol i ddatblygiad [[Poblogaidd, Cerddoriaeth | cerddoriaeth boblogaidd]] yn yr iaith Gymraeg. |
− | Yn 1942 daeth [[Meredydd Evans]], a oedd ar y pryd yn fyfyriwr yng Ngholeg [[Prifysgol]] Gogledd Cymru, i sylw Sam Jones, cynhyrchydd y BBC ym Mangor. Yn sgil hynny cafodd ef a myfyrwyr eraill o Fangor y cyfle i berfformio alawon o bob math ar y radio. Ar y pryd roedd Meredydd Evans, ynghyd â Robin Williams ac Islwyn Ffowc Elis, yn cynnal nosweithiau llawen o dan yr enw ‘Parti Bangor’. | + | Yn 1942 daeth [[Evans, Meredydd (1919-2015) | Meredydd Evans]], a oedd ar y pryd yn fyfyriwr yng Ngholeg [[Prifysgolion a Cherddoriaeth yng Nghymru | Prifysgol]] Gogledd Cymru, i sylw Sam Jones, cynhyrchydd y BBC ym Mangor. Yn sgil hynny cafodd ef a myfyrwyr eraill o Fangor y cyfle i berfformio alawon o bob math ar y radio. Ar y pryd roedd Meredydd Evans, ynghyd â Robin Williams ac Islwyn Ffowc Elis, yn cynnal nosweithiau llawen o dan yr enw ‘Parti Bangor’. |
− | Roedd Sam Jones wedi bod yn ymwybodol o’r angen am raglenni radio [[adloniant]] ysgafn yn Gymraeg ar sail reolaidd ers canol yr 1930au. Roedd ''Y Cymro'' hefyd wedi cyhoeddi | + | Roedd Sam Jones wedi bod yn ymwybodol o’r angen am raglenni radio [[adloniant]] ysgafn yn Gymraeg ar sail reolaidd ers canol yr 1930au. Roedd ''Y Cymro'' hefyd wedi cyhoeddi colofn olygyddol herfeiddiol i’r un perwyl yn 1945. Y flwyddyn honno clywodd Sam Jones y triawd yn rhoi perfformiad, gyda nifer o fyfyrwyr eraill, mewn noson lawen ym Mangor. Cafodd y rhaglen radio fisol ''Noson Lawen'' ei chomisiynu o ganlyniad, a darlledwyd y rhaglen gyntaf ar 25 Rhagfyr 1945. Trawyd Islwyn Ffowc Elis gan waeledd cyn y perfformiad a chamodd myfyriwr arall, Cledwyn Jones, i’r adwy yn ei le. Ef fu’r trydydd aelod ar ôl hynny, ac o dan yr enw Triawd y Coleg aethant ati i gyfansoddi cerddoriaeth boblogaidd newydd sbon ar gyfer pob rhaglen, gan efelychu arddull ‘crwneriaid’ ''(crooners)'' Americanaidd poblogaidd y cyfnod. |
− | Nid oedd arddull canu’r Triawd yn bodloni pawb, a thybiai rhai y byddai dull mor ‘Seisnig’ o ganu’n debyg o gael effaith drychinebus ar ddiwylliant Cymraeg. Cyhoeddwyd mwy nag un golofn feirniadol yn ''Y Cymro'' a gwynai fod arddull y Triawd yn ‘adlewyrchiad eiddil o grwnio fwlgar America’. Yn wir, cawsant gerydd wyneb yn wyneb wrth recordio yn y BBC gan neb llai nag [[W. S. Gwynn Williams]] a [[Grace Williams]]. | + | Nid oedd arddull canu’r Triawd yn bodloni pawb, a thybiai rhai y byddai dull mor ‘Seisnig’ o ganu’n debyg o gael effaith drychinebus ar ddiwylliant Cymraeg. Cyhoeddwyd mwy nag un golofn feirniadol yn ''Y Cymro'' a gwynai fod arddull y Triawd yn ‘adlewyrchiad eiddil o grwnio fwlgar America’. Yn wir, cawsant gerydd wyneb yn wyneb wrth recordio yn y BBC gan neb llai nag [[Williams, W. S. Gwynn (Gwynn o'r Llan; 1896-1978) | W. S. Gwynn Williams]] a [[Williams, Grace (1906-77) | Grace Williams]]. |
Fodd bynnag, roedd ''Noson Lawen'' yn rhaglen hynod o boblogaidd a llwyddiannus. Cofnododd ''Y Cymro'' hanes am dafarnwr yn Ne Cymru a anfonodd lythyr ffurfiol at y BBC i gwyno ei fod yn colli busnes yn ystod amserau darlledu’r rhaglen. Yn ôl hanesydd swyddogol y BBC yng Nghymru, John Davies, bu i fwy na hanner y Cymry Cymraeg wrando ar y rhaglen ar un achlysur, sef oddeutu 250,000. Roedd Triawd y Coleg yn hollbwysig yn y llwyddiant hwn. Yn groes i’w rhagflaenwyr cyfansoddai’r tri eu caneuon eu hunain, a chyn iddynt ddod i’r amlwg roeddynt eisoes wedi bod yn arbrofi gyda chyflwyno cerddoriaeth boblogaidd Eingl-Americanaidd yn Gymraeg. Bathwyd y llysenw ‘y Bangor Bing’ ar gyfer Meredydd Evans, ar ôl y canwr Americanaidd poblogaidd Bing Crosby, a daeth caneuon ysgafn megis ‘Triawd y Buarth’ yn eithriadol o boblogaidd yng Nghymru. | Fodd bynnag, roedd ''Noson Lawen'' yn rhaglen hynod o boblogaidd a llwyddiannus. Cofnododd ''Y Cymro'' hanes am dafarnwr yn Ne Cymru a anfonodd lythyr ffurfiol at y BBC i gwyno ei fod yn colli busnes yn ystod amserau darlledu’r rhaglen. Yn ôl hanesydd swyddogol y BBC yng Nghymru, John Davies, bu i fwy na hanner y Cymry Cymraeg wrando ar y rhaglen ar un achlysur, sef oddeutu 250,000. Roedd Triawd y Coleg yn hollbwysig yn y llwyddiant hwn. Yn groes i’w rhagflaenwyr cyfansoddai’r tri eu caneuon eu hunain, a chyn iddynt ddod i’r amlwg roeddynt eisoes wedi bod yn arbrofi gyda chyflwyno cerddoriaeth boblogaidd Eingl-Americanaidd yn Gymraeg. Bathwyd y llysenw ‘y Bangor Bing’ ar gyfer Meredydd Evans, ar ôl y canwr Americanaidd poblogaidd Bing Crosby, a daeth caneuon ysgafn megis ‘Triawd y Buarth’ yn eithriadol o boblogaidd yng Nghymru. |
Y diwygiad cyfredol, am 15:01, 8 Awst 2021
Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.
Gwnaeth Triawd y Coleg gyfraniad allweddol i ddatblygiad cerddoriaeth boblogaidd yn yr iaith Gymraeg.
Yn 1942 daeth Meredydd Evans, a oedd ar y pryd yn fyfyriwr yng Ngholeg Prifysgol Gogledd Cymru, i sylw Sam Jones, cynhyrchydd y BBC ym Mangor. Yn sgil hynny cafodd ef a myfyrwyr eraill o Fangor y cyfle i berfformio alawon o bob math ar y radio. Ar y pryd roedd Meredydd Evans, ynghyd â Robin Williams ac Islwyn Ffowc Elis, yn cynnal nosweithiau llawen o dan yr enw ‘Parti Bangor’.
Roedd Sam Jones wedi bod yn ymwybodol o’r angen am raglenni radio adloniant ysgafn yn Gymraeg ar sail reolaidd ers canol yr 1930au. Roedd Y Cymro hefyd wedi cyhoeddi colofn olygyddol herfeiddiol i’r un perwyl yn 1945. Y flwyddyn honno clywodd Sam Jones y triawd yn rhoi perfformiad, gyda nifer o fyfyrwyr eraill, mewn noson lawen ym Mangor. Cafodd y rhaglen radio fisol Noson Lawen ei chomisiynu o ganlyniad, a darlledwyd y rhaglen gyntaf ar 25 Rhagfyr 1945. Trawyd Islwyn Ffowc Elis gan waeledd cyn y perfformiad a chamodd myfyriwr arall, Cledwyn Jones, i’r adwy yn ei le. Ef fu’r trydydd aelod ar ôl hynny, ac o dan yr enw Triawd y Coleg aethant ati i gyfansoddi cerddoriaeth boblogaidd newydd sbon ar gyfer pob rhaglen, gan efelychu arddull ‘crwneriaid’ (crooners) Americanaidd poblogaidd y cyfnod.
Nid oedd arddull canu’r Triawd yn bodloni pawb, a thybiai rhai y byddai dull mor ‘Seisnig’ o ganu’n debyg o gael effaith drychinebus ar ddiwylliant Cymraeg. Cyhoeddwyd mwy nag un golofn feirniadol yn Y Cymro a gwynai fod arddull y Triawd yn ‘adlewyrchiad eiddil o grwnio fwlgar America’. Yn wir, cawsant gerydd wyneb yn wyneb wrth recordio yn y BBC gan neb llai nag W. S. Gwynn Williams a Grace Williams.
Fodd bynnag, roedd Noson Lawen yn rhaglen hynod o boblogaidd a llwyddiannus. Cofnododd Y Cymro hanes am dafarnwr yn Ne Cymru a anfonodd lythyr ffurfiol at y BBC i gwyno ei fod yn colli busnes yn ystod amserau darlledu’r rhaglen. Yn ôl hanesydd swyddogol y BBC yng Nghymru, John Davies, bu i fwy na hanner y Cymry Cymraeg wrando ar y rhaglen ar un achlysur, sef oddeutu 250,000. Roedd Triawd y Coleg yn hollbwysig yn y llwyddiant hwn. Yn groes i’w rhagflaenwyr cyfansoddai’r tri eu caneuon eu hunain, a chyn iddynt ddod i’r amlwg roeddynt eisoes wedi bod yn arbrofi gyda chyflwyno cerddoriaeth boblogaidd Eingl-Americanaidd yn Gymraeg. Bathwyd y llysenw ‘y Bangor Bing’ ar gyfer Meredydd Evans, ar ôl y canwr Americanaidd poblogaidd Bing Crosby, a daeth caneuon ysgafn megis ‘Triawd y Buarth’ yn eithriadol o boblogaidd yng Nghymru.
Darlledwyd Noson Lawen am y tro olaf yn 1951, ac erbyn hynny roedd aelodau’r Triawd wedi symud ymlaen at amrywiol yrfaoedd gan ddod ag oes y grŵp i ben. Ond yn ddiweddarach cafodd y Triawd ei recordio ar sawl achlysur gan Welsh Teldisc. Rhyddhawyd EP o ganeuon a sengl yn 1963, EP arall yn 1965 a record hir gyda Sain yn 1973. Cafodd casgliad o’r ‘goreuon’ ei ryddhau gan Sain yn 2009. Er bod arddull y Triawd wedi dyddio erbyn ymddangosiad y byd pop Cymraeg yn yr 1960au, roeddynt yn rhagflaenwyr arloesol a agorodd y ffordd ar gyfer artistiaid y degawd hwnnw. Yn sgil eu parodrwydd i greu fersiynau brodorol Cymreig o gerddoriaeth boblogaidd eu hoes, a hynny mewn harmonïau gloyw, mae camp ac etifeddiaeth y Triawd i’w hedmygu.
Craig Owen Jones
Disgyddiaeth
- Goreuon Triawd y Coleg/Best of Triawd y Coleg (Sain SCD2568, 2009)
- Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.