Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Bowen, Kenneth (g.1933)"
CadiW (Sgwrs | cyfraniadau) |
CadiW (Sgwrs | cyfraniadau) |
||
Llinell 2: | Llinell 2: | ||
'''Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn [https://www.ylolfa.com/cynnyrch/9781784616250/cydymaith-i-gerddoriaeth-cymru''Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru''], cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.''' | '''Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn [https://www.ylolfa.com/cynnyrch/9781784616250/cydymaith-i-gerddoriaeth-cymru''Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru''], cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.''' | ||
− | Ganed Kenneth Bowen yn Llanelli ac fe’i haddysgwyd yng Ngholeg y Brifysgol, Aberystwyth, a Choleg Sant Ioan, Caergrawnt, lle’r oedd yn aelod o gôr enwog y capel dan arweiniad [[Guest, George (1924–2002) | George Guest]]. Yn ystod yr 1960au cynnar enillodd lawer o wobrau pwysig, gan gynnwys gwobr Cystadleuaeth Ryngwladol Munich a Gwobr y Frenhines. [[Delwedd:Y tenor Kenneth Bowen. | + | Ganed Kenneth Bowen yn Llanelli ac fe’i haddysgwyd yng Ngholeg y Brifysgol, Aberystwyth, a Choleg Sant Ioan, Caergrawnt, lle’r oedd yn aelod o gôr enwog y capel dan arweiniad [[Guest, George (1924–2002) | George Guest]]. Yn ystod yr 1960au cynnar enillodd lawer o wobrau pwysig, gan gynnwys gwobr Cystadleuaeth Ryngwladol Munich a Gwobr y Frenhines. [[Delwedd:Y tenor Kenneth Bowen.png|thumb|<small>Y tenor Kenneth Bowen.</small>]] |
Cafodd yrfa ryngwladol ddisglair ac yn ôl ym Mhrydain perfformiodd ym mhob un o’r [[Gwyliau Cerddoriaeth | gwyliau]] cerddorol blaenllaw a chyda’r prif gwmnïau opera, gan gynnwys yr Opera Frenhinol yn Covent Garden, Cwmni Opera Cenedlaethol Cymru, Cwmni Opera Cenedlaethol Lloegr ac Opera Deithiol Glyndebourne. Canodd lawer gwaith yng Ngŵyl y Tri Chôr a’r Proms ac oherwydd ei ddeallusrwydd cerddorol fe’i gwahoddwyd yn aml i berfformio mewn gweithiau cyfoes. Bu’n bennaeth astudiaethau llais yn yr Academi Gerdd Frenhinol am nifer o flynyddoedd, ac o 1983 hyd 2008 ef oedd Arweinydd Corâl Cymry Llundain. Bu’n gadeirydd y Gymdeithas Athrawon Canu (1991–2) a daeth llawer o anrhydeddau iddo, gan gynnwys gradd doethur mewn cerddoriaeth er anrhydedd gan Brifysgol Cymru. | Cafodd yrfa ryngwladol ddisglair ac yn ôl ym Mhrydain perfformiodd ym mhob un o’r [[Gwyliau Cerddoriaeth | gwyliau]] cerddorol blaenllaw a chyda’r prif gwmnïau opera, gan gynnwys yr Opera Frenhinol yn Covent Garden, Cwmni Opera Cenedlaethol Cymru, Cwmni Opera Cenedlaethol Lloegr ac Opera Deithiol Glyndebourne. Canodd lawer gwaith yng Ngŵyl y Tri Chôr a’r Proms ac oherwydd ei ddeallusrwydd cerddorol fe’i gwahoddwyd yn aml i berfformio mewn gweithiau cyfoes. Bu’n bennaeth astudiaethau llais yn yr Academi Gerdd Frenhinol am nifer o flynyddoedd, ac o 1983 hyd 2008 ef oedd Arweinydd Corâl Cymry Llundain. Bu’n gadeirydd y Gymdeithas Athrawon Canu (1991–2) a daeth llawer o anrhydeddau iddo, gan gynnwys gradd doethur mewn cerddoriaeth er anrhydedd gan Brifysgol Cymru. |
Y diwygiad cyfredol, am 14:01, 11 Medi 2021
Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.
Ganed Kenneth Bowen yn Llanelli ac fe’i haddysgwyd yng Ngholeg y Brifysgol, Aberystwyth, a Choleg Sant Ioan, Caergrawnt, lle’r oedd yn aelod o gôr enwog y capel dan arweiniad George Guest. Yn ystod yr 1960au cynnar enillodd lawer o wobrau pwysig, gan gynnwys gwobr Cystadleuaeth Ryngwladol Munich a Gwobr y Frenhines.Cafodd yrfa ryngwladol ddisglair ac yn ôl ym Mhrydain perfformiodd ym mhob un o’r gwyliau cerddorol blaenllaw a chyda’r prif gwmnïau opera, gan gynnwys yr Opera Frenhinol yn Covent Garden, Cwmni Opera Cenedlaethol Cymru, Cwmni Opera Cenedlaethol Lloegr ac Opera Deithiol Glyndebourne. Canodd lawer gwaith yng Ngŵyl y Tri Chôr a’r Proms ac oherwydd ei ddeallusrwydd cerddorol fe’i gwahoddwyd yn aml i berfformio mewn gweithiau cyfoes. Bu’n bennaeth astudiaethau llais yn yr Academi Gerdd Frenhinol am nifer o flynyddoedd, ac o 1983 hyd 2008 ef oedd Arweinydd Corâl Cymry Llundain. Bu’n gadeirydd y Gymdeithas Athrawon Canu (1991–2) a daeth llawer o anrhydeddau iddo, gan gynnwys gradd doethur mewn cerddoriaeth er anrhydedd gan Brifysgol Cymru.
Bu llais swynol Kenneth Bowen yn ysbrydoliaeth i genedlaethau o denoriaid ifanc ac mae llawer o gyfansoddwyr cyfoes yn ddyledus iddo am ei ofal proffesiynol wrth baratoi gweithiau newydd, yn eu plith Dilys Elwyn-Edwards a ddyfalbarhaodd i berffeithio ei chân enwog ‘Mae hiraeth yn y môr’, i raddau helaeth oherwydd y modd y’i hysbrydolwyd gan gywreinrwydd artistig a llais Kenneth Bowen.
Richard Elfyn Jones
Disgyddiaeth
- Mae Hiraeth yn y Môr (Sain SCD2570, 2008)
- Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.